Monitro a datrys problemau gwasanaeth i gwsmeriaid

URN: SKASS13 (CFACSC5)
Sectorau Busnes (Suites): Gamblo,Gweinyddu Argraffu
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 01 Ion 2013

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn rhan o Thema Ymdrin â Phroblemau Gwasanaeth i Gwsmeriaid. Mae'r thema hon yn ymwneud â'r ymddygiad, prosesau a dulliau mwyaf effeithiol wrth ymdrin â phroblemau gwasanaeth i gwsmeriaid. Cofiwch fod cwsmeriaid yn cynnwys unrhyw un sy'n derbyn gwasanaeth oddi wrthoch. Efallai eu bod tu allan i'ch sefydliad neu gallent fod yn gwsmeriaid mewnol.


Mae'ch swydd yn cynnwys darparu a threfnu gwasanaeth ardderchog i gwsmeriaid. Waeth pa mor dda yw'r gwasanaeth a ddarparwyd, bydd rhai o'ch cwsmeriaid yn cael problemau a byddwch yn adnabod a datrys problemau eraill cyn i'ch cwsmeriaid dod i wybod amdanynt hyd yn oed. Mae'r safon hon yn ymwneud â rhan eich swydd sy'n ymwneud â datrys problemau gwasanaeth i gwsmeriaid brys. Mae'n ymwneud hefyd â newid systemau i osgoi profi'r un problemau tro ar ôl tro.


Cofiwch fod rhai cwsmeriaid yn beirniadu ansawdd eich gwasanaeth i gwsmeriaid yn ôl y ffordd rydych yn datrys problemau gwasanaeth i gwsmeriaid. Gallwch roi argraff dda i gwsmeriaid ac adeiladu ffyddlondeb cwsmer gan ddatrys y problemau hynny mewn ffordd effeithlon ac effeithiol. Gall wynebu problem gwasanaeth i gwsmeriaid gynnig cyfle i roi argraff dda i gwsmer mewn modd na fyddai wedi bod yn bosibl pe bai popeth wedi mynd yn esmwyth.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

Datrys problemau gwasanaeth i gwsmeriaid brys**

*
*
1. ymateb yn bositif i broblemau gwasanaeth i gwsmeriaid gan ddilyn gweithdrefnau sefydliadol

2. datrys problem gwasanaeth i gwsmeriaid pan fod gennych ddigon o awdurdod i wneud hynny

3. gweithio ag eraill i ddatrys problemau gwasanaeth i gwsmeriaid

4. hysbysu'r cwsmeriaid o'r camau y cymerir

5. gwirio gyda chwsmeriaid eu bod yn hapus gyda'r camau y cymerir

6. datrys problemau gyda gweithdrefnau a systemau gwasanaeth a all effeithio ar gwsmeriaid cyn eu bod yn ymwybodol ohonynt

7. hysbysu rheolwyr a chydweithwyr o'r camau a chymerwyd i ddatrys problemau penodol

Adnabod problemau gwasanaeth i gwsmeriaid sy'n codi tro ar ôl tro a'r opsiynau ar gael i'w datrys**

*
*
8. adnabod problemau gwasanaeth i gwsmeriaid sy'n codi tro ar ôl tro

9. adnabod yr opsiynau sydd ar gael i ddelio â phroblem gwasanaeth i gwsmeriaid sy'n codi tro ar ôl tro ac ystyried manteision ac anfanteision pob opsiwn

10. gweithio ag eraill i ddewis yr opsiwn gorau ar gyfer datrys problem gwasanaeth i gwsmeriaid sy'n codi tro ar ôl tro, cydbwyso disgwyliadau cwsmeriaid ag anghenion eich sefydliad

Cymryd camau i atal problemau gwasanaeth i gwsmeriaid rhag codi tro ar ôl tro**

*
*
11. sicrhau cymeradwyaeth gan rywun sydd â digon o awdurdod i newid canllawiau sefydliadol er mwyn lleihau'r risg o'r broblem yn ailadrodd

12. gweithredu'r datrysiad y cytunoch arno

13. hysbysu'ch cwsmer mewn ffordd bositif a chlir o'r camau y cymerir i ddatrys unrhyw broblemau gwasanaeth

14. monitro'r newidiadau a weithredoch a'u haddasu os yn briodol


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

1. systemau a gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer delio â phroblemau gwasanaeth i gwsmeriaid

2. systemau a gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer adnabod problemau gwasanaeth i gwsmeriaid sy'n codi tro ar ôl tro

3. sut mae datrys problemau gwasanaeth i gwsmeriaid yn llwyddiannus yn cyfrannu at ffyddlondeb cwsmer gyda'r cwsmer allanol ac yn arwain at well perthnasoedd gwaith â phartneriaid gwasanaeth neu gwsmeriaid mewnol

4. sut i gysuro a chyd-drafod â chwsmeriaid wrth i'w problemau cael eu datrys

5. y cyfleodd a photensial ar gyfer monitro a datrys problemau gwasanaeth i gwsmeriaid a chyflwynir gan gasglu a rhannu gwybodaeth o bell megis trwy gyfryngau cymdeithasol


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Ion 2016

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Sklills CFA

URN gwreiddiol

CFACSC5

Galwedigaethau Perthnasol

Rheolwr, Galwedigaethau Gwasanaeth Personol, Is-reolwr, Arolygwr adran, rheolwr pwll,, Arolygwr

Cod SOC


Geiriau Allweddol

monitro problemau; datrys problemau; gwasanaeth i gwsmeriaid; ffyddlondeb cwsmer; rhoi argraff dda; gwasanaeth i gwsmeriaid; cyfathrebu; datrys problemau; ymddygiad; gweithio ag eraill; gweithio mewn tîm; rhoi gwybodaeth; derbyn gwasanaethau gwybodaeth;