Datblygu a chynnal perthnasoedd gwaith cynhyrchiol â rhanddeiliaid

URN: SKASS10
Sectorau Busnes (Suites): Rheolaeth Amaethyddol,Rheolaeth & Arweiniad,Marchnata (2013,Technoleg Anifeiliaid,Rheolaeth Lleoliadaol Diwyllisnnol a Threftadaeth
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 01 Maw 2015

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â datblygu a chynnal perthnasoedd gwaith cynhyrchiol â rhanddeiliaid. Mae'r rhain yn cynnwys cydweithwyr o fewn eich sefydliad eich hun, pobl y mae eich sefydliad eich hun yn gweithio gyda hwy o fewn sefydliadau eraill a rhanddeiliaid allanol eraill.


Mae'r safon hon yn berthnasol i reolwyr ac arweinwyr sy'n gweithio gyda rhanddeiliaid mewnol ac allanol.


Mae gan y safon hon gysylltiadau agos gyda holl safonau ym maes allweddol DD Adeiladu a chynnal perthnasoedd a hefyd ym maes CFAM&LAA3 Datblygu a chynnal eich rhwydweithiau proffesiynol.​


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

Rhaid eich bod chi'n gallu:**

*
*
1. Adnabod rhanddeiliaid allanol a natur eu diddordeb mewn gweithgareddau a pherfformiad eich sefydliad.

2. Sefydlu perthnasoedd gwaith gyda'r rhanddeiliaid perthnasol, boed mewnol neu allanol.

3. Adnabod a pharchu rolau, cyfrifoldebau, diddordebau a phryderon rhanddeiliaid a gofynion eu rheolwyr, yn enwedig mewn sefyllfaoedd rheoli matrics.

4. Ceisio creu amgylchedd sy'n hybu ffydd a chyd barch, yn enwedig lle nad oes gennych awdurdod, neu awdurdod rhanedig, dros eich cydweithwyr

5. Ceisio deall sefyllfaoedd anodd a phroblemau o safbwynt y rhanddeiliaid a chynnig cyngor, lle bo angen, i symud pethau ymlaen

6. Rhoi'r wybodaeth briodol i rhanddeiliaid i'w galluogi i berfformio'n effeithiol

7. Ymgynghori â rhanddeiliaid mewn perthynas â phenderfyniadau a gweithgareddau allweddol ac ystyried eu barnau, yn cynnwys eu blaenoriaethau, disgwyliadau a'u hagweddau tuag at risgiau posibl

8. Cyflawni cytundebau a wnaed gyda rhanddeiliaid a'u hysbysu

9. Hysbysu rhanddeiliaid yn ddi-oed os oes unrhyw anawsterau neu os fydd hi'n amhosib cyflawni cytundebau

10. Adnabod a datrys gwrthdaro buddiannau ac anghydfod gyda rhanddeiliaid mewn ffyrdd sy'n isafu ar niwed i waith a gweithgareddau neu i'r rhanddeiliaid perthnasol

11. Monitro ac adolygu effeithiolrwydd perthnasoedd gwaith â rhanddeiliaid er mwyn nodi meysydd i'w gwella

12. Ceisio a rhoi adborth er mwyn gwella eich perfformiad chi a pherfformiad y rhanddeiliaid

13. Monitro datblygiadau ehangach er mwyn adnabod problemau y gall fod o ddiddordeb neu achosi pryderon i randdeiliaid yn y dyfodol ac er mwyn canfod rhanddeiliaid newydd​


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Gwybodaeth a dealltwriaeth gyffredinol**

*
*
1. Manteision datblygu perthnasoedd gwaith cynhyrchiol â rhanddeiliaid

2. Gwahanol fathau o randdeiliaid ac egwyddorion allweddol sy'n sail i'r cysyniad o 'randdeiliad'

3. Sut i adnabod rhanddeiliaid eich sefydliad, yn cynnwys gwybodaeth gefndirol a natur eu diddordeb yn eich sefydliad

4. Egwyddorion cyfathrebu'n effeithiol a sut i'w gweithredu er mwyn cyfathrebu'n effeithiol â rhanddeiliaid

5. Pam ei bod hi'n bwysig adnabod a pharchu rolau, cyfrifoldebau, diddordebau a phryderon rhanddeiliaid

6. Pwysigrwydd creu amgylchedd sy'n hybu ffydd a chyd barch lle nad oes gennych awdurdod, neu awdurdod rhanedig, dros eich cydweithwyr

7. Pwysigrwydd deall sefyllfaoedd anodd a phroblemau o safbwynt eraill a chynnig cyngor, lle bo angen, i symud pethau ymlaen

8. Sut i adnabod a bodloni anghenion gwybodaeth y rhanddeiliaid

9. Pa wybodaeth sy'n addas i'w rhoi i randdeiliaid a'r ffactorau sydd angen eu hystyried

10. Sut i ymgynghori â rhanddeiliaid mewn perthynas â phenderfyniadau a gweithgareddau allweddol

11. Pwysigrwydd ystyried barnau rhanddeiliaid a chael eich gweld yn ei wneud, yn enwedig mewn perthynas â'u blaenoriaethau, disgwyliadau a'u hagweddau tuag at risgiau posibl

12. Pam ei bod yn bwysig cyfathrebu â rhanddeiliaid ynglŷn â chyflawni cytundebau neu unrhyw broblemau sy'n effeithio ar neu'n atal cyflawniad

13. Sut i adnabod gwrthdaro buddiannau gyda rhanddeiliaid a'r technegau i'w defnyddio i reoli neu i gael gwared arnynt

14. Sut i adnabod anghydfod gyda rhanddeiliaid a'r technegau i'w ddatrys

15. Y niwed a achosir i unigolion a sefydliadau gan wrthdrawiadau buddiannau ac anghydfod gyda rhanddeiliaid

16. Sut i adnabod ac ystyried materion gwleidyddol wrth ddelio â rhanddeiliaid

17. Sut i reoli disgwyliadau rhanddeiliaid

18. Sut i fonitro ac adolygu effeithiolrwydd perthnasoedd gwaith â rhanddeiliaid

19. Sut i gael adborth o randdeiliaid a gwneud defnydd effeithiol ohono

20. Sut i roi adborth i randdeiliaid gyda'r bwriad o wella eu perfformiad

21. Pwysigrwydd monitro datblygiadau ehangach mewn perthynas â rhanddeiliaid a sut i wneud hynny mewn ffordd effeithiol

Gwybodaeth a dealltwriaeth sy'n benodol i'r diwydiant/sector**

*
*
22. Tueddiadau a datblygiadau yn eich diwydiant neu sector sy'n gyfredol neu'n dod i'r amlwg

23. Deddfwriaeth sy'n benodol i'r sector, rheoliadau, canllawiau a chodau ymarfer

24. Safonau ymddygiad a pherfformiad yn eich diwydiant neu sector

25. Diwylliant eich diwydiant neu sector

Gwybodaeth a dealltwriaeth sy'n benodol i'r cyd-destun**

*
*
26. Gweledigaeth, gwerthoedd, cynlluniau, strwythur a diwylliant eich sefydliad

27. Rhanddeiliaid perthnasol, eu rolau a'u cyfrifoldebau

28. Rhanddeiliaid a adnabuwyd, eu cefndir a'u diddordebau mewn gweithgareddau a pherfformiad y sefydliad

29. Cytundebau â rhanddeiliaid

30. Anghenion gwybodaeth y rhanddeiliaid

31. Dulliau ymgynghori â rhanddeiliaid ar benderfyniadau a gweithgareddau allweddol

32. Prosesau'ch sefydliad ar gyfer cynllunio a gwneud penderfyniadau

33. Dulliau cyfathrebu â rhanddeiliaid

34. Pŵer, dylanwad a gwleidyddiaeth o fewn eich sefydliad

35. Y safonau ymddygiad a pherfformiad y disgwylir yn eich sefydliad

36. Dulliau sy'n weithredol ar gyfer monitro ac adolygu effeithiolrwydd perthnasoedd gwaith â rhanddeiliaid.


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau

Wrth berfformio i'r safon hon, rydych yn debygol o ymddwyn fel y ganlyn:

1. Adnabod pa ddulliau cyfathrebu sy'n well gan bobl

2. Defnyddio cyfryngau ac arddulliau cyfathrebu sy'n briodol ar gyfer pobl a sefyllfaoedd gwahanol

3. Cyflwyno gwybodaeth mewn ffordd glir, gryno a chywir ac mewn ffyrdd sy'n hyrwyddo dealltwriaeth

4. Rhoi gwybod i bobl am gynlluniau a datblygiadau yn ddi-oed

5. Dangos parch at farn a gweithredoedd eraill

6. Cydymffurfio ag a sicrhau bod eraill yn cydymffurfio â gofynion cyfreithiol, rheoliadau diwydiannol, polisïau sefydliadol a chodau proffesiynol

7. Ceisio deall anghenion a chymhellion pobl

8. Creu ymdeimlad o ddiben cyffredin

9. Gweithio tuag at sefyllfaoedd lle mae pawb ar eu hennill

10. Ystyried y wleidyddiaeth fewnol ac allanol sy'n effeithio ar faes gwaith eich hun

11. Cadarnhau'r disgwyliadau sydd gennych chi ac eraill o berthnasoedd

12. Ymddygiad delfrydol sy'n dangos, ac ysbrydoli eraill i ddangos, parch ac awydd i helpu a chydweithio

13. Cadw at eich addewidion i eraill

14. Adnabod unrhyw achos o wrthdaro, cydnabod teimladau a barnau bob parti, ac ailgyfeirio eu hegni tuag at nod gyffredin

15. Ystyried effaith eich ymddygiad chi ar eraill

16. Adnabod anghenion a diddordebau rhanddeiliaid a rheoli'r rhain yn effeithiol​


Sgiliau

Wrth berfformio i'r safon hon, rydych yn debygol o ddangos y sgiliau canlynol:

1. Cydbwyso anghenion a diddordebau sy'n mynd yn groes i'w gilydd

2. Cyfathrebu

3. Ymgynghori

4. Dangos empathi

5. Rheoli gwybodaeth

6. Cynnwys eraill

7. Arweiniad

8. Rheoli gwrthdaro

9. Monitro

10. Rhwydweithio

11. Casglu adborth

12. Cyflwyno gwybodaeth

13. Blaenoriaethu

14. Datrys problemau

15. Rhoi adborth

16. Adolygu

17. Gwerthfawrogi a chefnogi eraill


Geirfa

 



Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2015

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills CFA

URN gwreiddiol

CFAM&LDD2

Galwedigaethau Perthnasol

Cyfarwyddwr, Rheoli busnes, Rheolwyr ac Uwch Swyddogion, Galwedigaethau gwasanaeth cwsmeriaid, Celfyddydau, Y Cyfryngau a Chyhoeddi, Llyfrgellwyr a Gweithwyr Proffesiynol Perthnasol, Crefftau, Celfyddydau creadigol a dylunio, Rheolwyr Ansawdd a Gofal Cwsmeriaid, Galwedigaethau marchnata, Rheolwr Gweithrediadau; , Ffermwr, Cyfarwyddwr; , Rheolwr Fferm, Rheolwr Uned

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Rheolaeth ac arweiniad; cynnal; perthynas gwaith cynhyrchiol; Marchnata; lleoliad;