Paratoi ar gyfer digwyddiadau i wylwyr

URN: SKASS1
Sectorau Busnes (Suites): Diogel wch Gwylwyr
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 31 Maw 2019

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â pharatoi eich hun fel stiward a gwirio'r lleoliad neu ganolfan cyn digwyddiad.

Prif ddeilliannau'r safon hon ydy:

  1.  Paratoi ar gyfer gweithgareddau stiwardio

  2.  Adnabod ac ymateb i beryglon

Mae'r safon hon ar gyfer stiwardiaid a staff tebyg eraill sy'n cydweithio'n uniongyrchol gyda gwylwyr a grwpiau cleient eraill er mwyn gofalu am eu diogelwch a'u lles mewn digwyddiadau a mannau poblog.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

**** **Paratoi ar gyfer gweithgareddau stiwardio** 1.  cydymffurfio â'r gofynion cyfreithiol a chyfundrefnol er mwyn cyflawni'ch dyletswydd  2.  cydymffurfio â'r gweithdrefnau cofrestru a mynychu'r sesiwn gyfarwyddo cyn y digwyddiad  3.  cofnodi'r holl wybodaeth yn y sesiwn gyfarwyddo cyn y digwyddiad er mwyn cyflawni'ch dyletswydd   **Adnabod ac ymateb i beryglon** 4. cydymffurfio gyda gweithdrefnau'r lleoliad i wirio'r offer a chyfleusterau   5.  gofalu eich bod yn ymgyfarwyddo gyda'ch man penodedig a gwirio am unrhyw **fygythiadau a pheryglon** dichonol  6.  ymateb i'r **bygythiadau a pheryglon** gan gydymffurfio gyda'r gweithdrefnau y cytunwyd arnyn nhw 7.  rhoi gwybod am y sefyllfa a sut aethoch chi i'r afael â hi i'ch goruchwyliwr 

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:


Paratoi ar gyfer gweithgareddau stiwardio

  1.  y gofynion cyfreithiol, cyfundrefnol a gofynion y lleoliad yn ymdrin â'r math o ddigwyddiad

  2.  y dull y mae disgwyl ichi gyflawni'ch dyletswydd

  3.  gweithdrefnau cofrestru'r digwyddiad a lleoliad

  4.  lle i gasglu trwyddedau, cardiau adnabod ac unrhyw adnoddau gofynnol eraill

  5.  pwysigrwydd mynychu'r sesiwn gyfarwyddo cyn y digwyddiad

  6.  yr wybodaeth y dylech chi ei chofnodi

Adnabod ac ymateb i beryglon

  1. y gweithdrefnau cyfreithiol a chyfundrefnol ar gyfer:

  2. gwirio offer a chyfleusterau

  3. adnabod bygythiadau a pheryglon
  4. cywiro sefyllfaoedd a rhoi gwybod am fygythiadau a pheryglon

  5.  y meini prawf ar gyfer asesu bygythiadau a pheryglon

9.  lefelau cyfredol a'r mathau o fygythiadau terfysgol sy'n berthnasol i fannau poblog


Cwmpas/ystod

GWYBODAETH YCHWANEGOL


Cydraddoldeb ac Amrywioldeb

Mae disgwyl y bydd gan fudiadau weithdrefnau a chanllawiau i'w staff stiwardio gydymffurfio gyda nhw ac a fydd yn bodloni'r gofynion canlynol o leiaf:

  • gwahanol anghenion corfforol
  • gwahanol anghenion diwylliannol
  • anghenion ieithyddol
  • credoau

Diogelwch, Amddiffyn a Gwasanaeth

Mae disgwyl caiff yr holl wasanaethau mewn digwyddiadau gyda gwylwyr ac mewn mannau poblog eu cyflawni yn unol â'r mesurau isod:

Mesurau diogelwch: unrhyw fesur a gaiff eu dylunio a'u rhoi ar waith gyda'r prif nod o ddiogelu iechyd a lles yr holl grwpiau cleient sy'n mynychu, neu'n cymryd rhan mewn digwyddiadau.

Mesurau amddiffyn: unrhyw fesur a gaiff eu dylunio a'u rhoi ar waith gyda'r prif nod o atal, lleihau'r risg a/neu ymateb i unrhyw weithgareddau troseddol neu anghyfreithlon neu aflonyddwch yn gysylltiedig â'r digwyddiadau.

Mesurau gwasanaeth: unrhyw fesur a gaiff eu dylunio a'u rhoi ar waith gyda'r prif nod  o ofalu bod yr holl grwpiau cleient yn teimlo'n gyfforddus, wedi'u gwerthfawrogi a bod croeso iddyn nhw pan maen nhw'n mynychu digwyddiadau.


Cwmpas Perfformiad


Bygythiadau a pheryglon (Ymdrin ag 1 a 2 o leiaf)

  1. diogelwch  

  2. amddiffyn 

  3. glanweithdra 

  4. amgylcheddol

  5. offer diffygiol

  6. strwythurol


Gwybodaeth Cwmpas


*Adnoddau *

1.  nodiadau cyfarwyddo

  1.  Offer diogelwch

  2.  Offer amddiffyn

  3.  Nwyddau ysgrifennu 

* *

Gwybodaeth

  1.  bygythiadau a pheryglon dichonol

  2.  gweithdrefnau stiwardio

  3.  rheolau'r lleoliad

  4.  offer

  5.  arwyddion a hysbysiadau

  6.  amseriadau cyn y digwyddiad

  7. gweithdrefnau rheoli digwyddiadau, geiriau cod perthnasol a mannau ymgynnull

  8. trefniadau cyn y digwyddiad

* *

Bygythiadau a pheryglon

  1.  diogelwch

  2.  amddiffyn

  3.  glanweithdra 

  4.  amgylcheddol

  5.  offer diffygiol

  6.  strwythurol


Gwerthoedd


Ymddygiadau

Mae'r ymddygiadau canlynol wrth wraidd cyflenwi gwasanaethau yn y sector diogelwch i wylwyr. Mae'r ymddygiadau yn sicrhau bod y mudiad a'r unigolyn yn creu argraff dda ar y cleientiaid.

Mae'n rhaid ichi ddangos eich bod yn cyflawni'r canlynol yn gyson:

  1. Adnabod yr angen i fod yn hyblyg er mwyn dwyn i ystyriaeth amgylchiadau newidiol
  2. Cymryd cyfrifoldeb personol dros weithredu rhai pethau
  3. Dangos gonestrwydd, tegwch a chysondeb wrth wneud penderfyniadau
  4. Cytuno'n eglur ar beth a ddisgwylir gan bobl eraill a'u hystyried nhw'n gyfrifol am herio ymddygiad cymdeithasol er enghraifft.
  5. Ceisio deall disgwyliadau pobl ac unrhyw anghenion ychwanegol a medru bodloni'r rhain
  6. Cymryd cyfrifoldeb dros ddiogelwch personol
  7. Cymryd balchder mewn cynnig gwasanaeth o safon
  8. Ymdrechu i fod yn wyliadwrus rhag bygythiadau a pheryglon posib
  9. Annog a chefnogi eraill i fanteisio i'r eithaf ar eu galluoedd.
  10. Eirioli dros ddiogelwch a lles fel blaenoriaeth
  11. Cymryd balchder yn eich edrychiad a chydymffurfio gydag unrhyw godau gwisg gan y mudiad neu leoliad
  12. Cydymffurfio gyda chod ymddygiad y lleoliad
  13. Dangos eich gallu i gynnal cyfrinachedd
  14. Dangos ymwybyddiaeth o faterion diogelu
  15. Dangos dealltwriaeth o ofynion cyfreithiol sylfaenol yn ymwneud ag amrywioldeb a diogelwch

Sgiliau

Dyma restr o'r prif sgiliau a nodweddion cyffredinol sydd eu hangen er mwyn gofalu am ddiogelwch gwylwyr

  1. Gwrando a gweithredu
  2. Cyfathrebu geiriol ac aneiriol effeithiol
  3. Dylanwadu ar ac argyhoeddi eraill
  4. Diplomyddiaeth
  5. Empathi
  6. Gallu i ddilyn cyfarwyddiadau
  7. Arwain drwy esiampl
  8. Gwydnwch
  9. Rheoli ymddygiad heriol
  10. Mentora cydweithwyr
  11. Ysgogi eraill
  12. Trafod a chyfaddawdu
  13. Derbyn a chynnig adborth
  14. Gwerthfawrogi a chefnogi eraill

Geirfa


Safonau a gweithdrefnau wedi'u cytuno

Gweithdrefnau wedi'u cymeradwyo eisoes sy'n gofnod o weithrediadau'r lleoliad o ddydd i ddydd. Gall fod yn weithdrefnau gweithredu arferol, gweithdrefnau mewn argyfwng a chynlluniau wrth gefn. Mae hyn yn ymwneud â gofynion y lleoliad ynghyd â gofynion cyfundrefnol.


Dolenni I NOS Eraill

 SKASS2, SKASS3, SKASS4, SKASS5


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Maw 2024

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SkillsActive

URN gwreiddiol

SKASS1

Galwedigaethau Perthnasol

Stiward

Cod SOC

9275

Geiriau Allweddol

stiward, gwylwyr, digwyddiadau, lleoliad