Gwerthuso ac adolygu rhaglenni hyfforddi chwaraeon

URN: SKASPC4
Sectorau Busnes (Suites): Hyfforddi Chwaraeon
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 30 Maw 2021

Trosolwg

​Mae'r safon yma'n ymwneud â chi'n monitro ac adolygu rhaglenni hyfforddi chwaraeon. Byddwch yn gwneud gwerthusiad o'r rhaglen hyfforddi chwaeaeon ac yn gwerthuso eich perfformiad eich hun a pherfformiad eraill er mwyn cefnogi cyflawni yn y dyfodol.

Prif ddeilliant a safon yma yw:
1. gwerthuso rhaglenni hyfforddi chwaraeon

Rhaid i hyfforddwyr hefyd gymryd i ystyriaeth ganllawiau gan y Cyrff Llywodraethu Chwaraeon a'u profiad blaenorol hwy eu hunain pan yn monitro, adolygu a gwerthuso rhaglenni.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

​1. monitro ac adolygu’r rhaglen hyfforddi chwaraeon gan ddefnyddio’r dulliau a nodwyd yn ystod cynllunio’r rhaglen hyfforddi chwaraeon

2. Dadansoddi’r dystiolaeth o’r broses fonitro ac adolygu ac addasu’r amcanion perfformio
3. cynnwys eraill yn y broses fonitro ac adolygu
4. gofyn am adborth gan eraill pan yn gwerthuso rhaglen hyfforddi chwaraeon
5. cwblhau gwerthusiad manwl o raglen hyfforddi chwaraeon
6. trafod canlyniadau’r gwerthusiad gyda’r sawl sy’n cymryd rhan ac eraill
7. gofyn am gyngor arbenigol gan eraill er mwyn cefnogi datblygiad a lles a sawl sy’n cymryd rhan
8. cydgasglu argymhellion ar gyfer gwelliant a chwblhau adroddiad ar y canfyddiadau
9. rhoi ar waith argymhellion ar gyfer gwelliannau i raglenni hyfforddi chwaraeon presennol ac yn y dyfodol
10. gwerthuso eich perfformiad eich hun a pherfformiad eraill
11. nodi cyfleoedd i ddatblygu a fydd yn cefnogi rhaglenni hyfforddi chwaraeon presennol ac yn y dyfodol


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

​1. y ddeddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau cyfredol sy'n berthnasol i'ch ymarfer gwaith ac y mae'n rhaid i chi gydymffurfio â hwy

2. sut i gwblhau gwerthusiad o raglenni hyfforddi chwaraeon

  1. pwysigrwydd monitro ac adolygu'r dulliau a gafodd eu dewis pan yn cynllunio'r rhaglen hyfforddi chwaraeon

  2. sut mae dadansoddiad o'r dystiolaeth o'r broses fonitro ac adolygu yn darparu gwybodaeth ar gyfer canlyniadau'r gwerthusiad

5. pwysigrwydd cynnwys eraill yn y broses werthuso

  1. sut i reoli cyfraniadau gan eraill

  2. sut i sicrhau bod y canlyniadau o'r gwerthusiad yn cael eu cyfleu yn effeithiol i'r sawl sy'n cymryd rhan ac i eraill

  3. sut i fesur ansawdd y profiad hyfforddi a datblygiad y sawl sy'n cymryd rhan

  4. dulliau o gydgasglu a chofnodi argymhellion ar gyfer gwelliant

  5. sut i gwblhau adroddiad ar y canfyddiadau o'r gwerthusiad

11. pwysigrwydd gweithredu'r argymhellion ar gyfer gwelliant o fewn rhaglenni hyfforddi chwaraeon yn y presennol a'r dyfodol

  1. pwysigrwydd cymryd amcanion eich sefydliad i ystyriaeth pan yn gwerthuso eich perfformiad eich hun a pherfformiad eraill

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad

Dulliau

  1. arsylwi
  2. holi
  3. defnyddio technoleg i gofnodi a dadansoddi perfformiad
  4. dulliau o gasglu gwybodaeth ac ystadegau i'w dadansoddi 
** ** **Tystiolaeth** 1. holiaduron 2. arsylwadau 3. dadansoddi perfformiad 4. ystadegau 5. profion ffisiolegol 6. profion seicolegol

Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill

​Mae’r safon yma yn cysylltu gyda SKASPC2 a SKASPC3


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Maw 2024

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SkillsActive

URN gwreiddiol

SKASC4

Galwedigaethau Perthnasol

Cyfarwyddwr, Hyfforddwr

Cod SOC

3442

Geiriau Allweddol

gwerthuso; datblygiad; adolygu; chwaraeon; hyfforddi; rhaglenni; sesiynau