Datblygu eich sgiliau technegol i gyflawni rhagoriaeth yn eich chwaraeon

URN: SKASE1
Sectorau Busnes (Suites): Cyflawni Rhagoriaeth mewn Perfformiad Chwaraeon (Gan gynnwys Newid Mehefin 2007)
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 31 Gorff 2019

Trosolwg

Mae'r strategaeth hon yn ymwneud â sgiliau technegol a'u pwysigrwydd er mwyn cyflawni rhagoriaeth yn eich chwaraeon. Byddwch yn gweithio gyda hyfforddwyr profiadol a hyfedr a/neu staff eraill; fodd bynnag, bydd gennych rôl bwysig hefyd er mwyn gwella eich perfformiad technegol.

Dyma brif ddeilliannau'r safon hon:

  1. Dewis rhaglen ddatblygu a chytuno arni er mwyn gwella eich sgiliau technegol.

  2. Rhoi rhaglen ddatblygu ar waith er mwyn gwella eich sgiliau technegol.

  3. Defnyddio eich sgiliau technegol a'u gwerthuso.

Mae'r safon hon ar gyfer athletwyr sydd â'r potensial gwirioneddol i gyflawni rhagoriaeth yn eu chwaraeon ac sydd am berfformio ar y lefel uchaf.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

Dewis rhaglen ddatblygu a chytuno arni er mwyn gwella eich sgiliau technegol.

  1. gweithio gyda'ch hyfforddwyr a/neu staff eraill er mwyn:

1.1 cytuno ar y sgiliau technegol ar gyfer rhagoriaeth yn eich rôl/rolau

1.2 dadansoddi lefel eich sgiliau technegol a'ch potensial i gyflawni rhagoriaeth

1.3 dewis nodau sy'n cyd-fynd â blaenoriaethau eich perfformiad technegol

1.4 cynllunio rhaglen ddatblygu a chytuno arni er mwyn cyflawni eich nodau technegol

  1. cytuno ar eich prif flaenoriaethu gyda'ch hyfforddwyr a/neu staff eraill er mwyn cyflawni rhagoriaeth technegol yn eich rôl/rolau

Rhoi rhaglen ddatblygu ar waith er mwyn gwella eich sgiliau technegol.

  1. cymryd rhan yn y rhaglen datblygiad technegol a gynllunnir

  2. dadansoddi sut ydych yn cymryd rhan yn y rhaglen datblygiad technegol

  3. cyfrannu at asesiadau parhaus o'ch cynnydd

  4. rhoi adborth i'ch hyfforddwyr a/neu staff eraill ar y rhaglen datblygiad technegol

  5. gwneud addasiadau i'ch rhaglen er mwyn eich helpu i gyflawni eich nodau technegol

Defnyddio eich sgiliau technegol a'u gwerthuso

  1. trafod gyda'ch hyfforddwyr a/neu staff eraill sut gallwch ymarfer y sgiliau technegol angenrheidiol a chytuno ar sut i wneud hyn cyn, yn ystod ac ar ôl cystadlu

  2. defnyddio eich gallu technegol i gymryd rhan mewn ymarferion cyn-cystadlu

  3. rhoi adborth i'ch hyfforddwyr a/neu staff eraill ar effeithiolrwydd ymarferion sgiliau technegol cyn-cystadlu a gwneud awgrymiadau er mwyn gwella

  4. integreiddio eich sgiliau technegol â'ch sgiliau tactegol, corfforol a seicolegol bob amser, yn enwedig mewn sefyllfa gystadleuol

  5. gweithio gyda'ch hyfforddwyr a/neu staff eraill er mwyn gwerthuso eich perfformiad technegol a'ch nodau technegol


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Dewis rhaglen ddatblygu a chytuno arni er mwyn gwella eich sgiliau technegol.

  1. ffynonellau gwybodaeth am ofynion technegol eich rôl yn eich chwaraeon a sut i wneud y defnydd gorau ohonynt

  2. y sgiliau technegol sydd eu hangen i gyflawni rhagoriaeth yn eich rôl yn eich chwaraeon

  3. ffyrdd effeithiol o weithio gyda'ch hyfforddwyr a/staff eraill ar wella eich sgiliau technegol

  4. y mathau o asesiadau a ddefnyddir i ddadansoddi sgiliau technegol yn eich chwaraeon a sut i gymryd rhan ynddynt

  5. pwysigrwydd rhoi eich barn a'ch safbwyntiau eich hun wrth asesu eich sgiliau technegol

  6. y mathau o flaenoriaethau technegol y gallai athletwyr yn eich rôl orfod canolbwyntio arnynt i ragori

Rhoi rhaglen ddatblygu ar waith er mwyn gwella eich sgiliau technegol.

  1. pam mae'n rhaid i chi bennu nodau technegol, eu deall, a chytuno arnynt er mwyn rhagori yn eich chwaraeon

  2. y mathau o nodau technegol y gallai fod angen i athletwyr ar eich lefel eu pennu

  3. prif gydrannau eich rhaglen datblygiad technegol ar eich lefel yn eich chwaraeon a sut maent yn gallu helpu i gyrraedd eich nodau

  4. y mathau o wybodaeth y gallwch eu rhoi i hyfforddwyr a/neu staff eraill i'w helpu i ddatblygu eich rhaglen datblygu sgiliau technegol yn unol â'ch anghenion

  5. pwysigrwydd cadw at eich rhaglen datblygiad technegol a sut i wneud hynny

  6. sut i gyfrannu'n gadarnhaol at bob elfen o'r rhaglen datblygiad technegol

  7. pwysigrwydd rhoi adborth gonest i'ch hyfforddwyr a/neu staff eraill ynghylch pa mor dda mae eich rhaglen datblygiad technegol yn bodloni eich anghenion

  8. beth i'w gynnwys yn eich adborth yn ystod eich rhaglen datblygiad technegol

  9. ffyrdd o addasu eich rhaglen datblygu sgiliau technegol i fodloni eich anghenion

Defnyddio eich sgiliau technegol a'u gwerthuso

  1. sut i wneud y defnydd mwyaf o'ch sgiliau technegol bob amser, yn enwedig mewn sefyllfa gystadleuol

  2. y mathau o ymarferion technegol cyn-cystadlu sy'n gallu eich helpu i baratoi ar gyfer cystadleuaeth a sut i'w defnyddio

  3. ffyrdd eraill o helpu eich hyfforddwyr a/neu staff i wella eich ymarferion technegol cyn-cystadlu

  4. pwysigrwydd gwneud gwerthusiadau manwl a gwrthrychol o'ch perfformiad technegol bob amser, yn enwedig mewn sefyllfa gystadleuol

  5. dulliau gwerthuso perfformiad technegol bob amser, yn enwedig mewn sefyllfa gystadleuol

  6. ffyrdd o gyfrannu at werthusiadau o'ch perfformiad technegol

  7. sut i ddefnyddio gwerthusiadau i wella eich sgiliau technegol ymhellach


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Mai 2024

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SkillsActive

URN gwreiddiol

SKAES9

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt a Galwedigaethau Technegol, Hamdden; teithio a thwristiaeth, Chwaraeon; hamdden ac adloniant, Galwedigaethau Chwaraeon a Ffitrwydd

Cod SOC

3442

Geiriau Allweddol

Datblygu; technegol; sgiliau; cyflawni; rhagoriaeth; chwaraeon