Monitro a darparu gwasanaethau spa sych

URN: SKAS2
Sectorau Busnes (Suites): Gwasanaethau Ewinedd
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 30 Maw 2021

Trosolwg

​Mae'r safon yma yn cydfodoli â, Gweithredu, a chynnal arferion gwaith diogel, glanwaith ac effeithiol. Mae'r safon yma'n ymwneud â Monitro a darparu gwasanaethau spa sych. Mae cyflusterau spa sych yn cynnwys cawodydd, cawodydd crai, ystafell ager, therapi pwll thalasso, therapi hydro, therapi arnofiant, pwll plymio, tybiau poeth, profiadau baddoni a bar rhew/caban eira. Bydd gofyn i chi hefyd werthuso ac adfyfyrio ar ôl y gwasanaeth er mwyn ei wella. Bydd angen i ddefnyddwyr y safon yma sicrhau bod eu harferion yn adlewyrchu'r wybodaeth, polisïau, gweithdrefnau a'r canllawiau arferion gorau diweddaraf. Caiff defnyddwyr y safon yma eu cynghori i fod yn ymwybodol o, a chydymffurfio â, gofynion cymorth cyntaf, yn unol â deddfwriaeth a pholisïau a gweithdrefnau, i gynnwys ymateb cymorth cyntaf mewn argyfwng pe byddai yna ddigwyddiad niweidiol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

​1. cadw at eich cyfrifoldebau am iechyd a diogelwch yn unol â deddfwriaeth, rheoliadau, cyfarwyddebau a chanllawiau, i gynnwys:

1.1 paratoi a chynnal a chadw'r cyfleusterau spa sych yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr.

1.2 cyfarwyddo gweinyddion y spa ynghylch glanhau ac atgyflenwi adnoddau er mwyn sicrhau'r effeithlonrwydd gorau

2. gwneud ymgynghoriad cryno a chynhwysfawr gyda'r unigolyn er mwyn penderfynu addasrwydd ar gyfer y cyfleusterau spa sych 

  1. rhoi sesiwn gyflwyno i'r unigolyn ar gyfer defnyddio cyfleusterau'r spa sych i gynnwys:

3.1 y manteision, y defnydd y gellir ei wneud ohonynt a'r cyfyngiadau

4. cadarnhau a chytuno gyda'r unigolyn, eu bod wedi deall y gwasanaeth spa arfaethedig, i gynnwys:
4.1 canlyniadau disgwyliedig
4.2 gwrth-weithredoedd
4.3 adweithiau niweidiol a sut i ymateb iddynt
*4.4 ymdeimlad corfforol
5. sicrhau a chofnodi cydsyniad gwybodus gan yr unigolyn ar gyfer y gwasanaeth spa sych 
6. rhoi *
cyfarwyddiadau
a chyngor i'r unigolyn, cyn ac ar ôl y gwasanaeth spa sych
7. cyfarwyddo'r unigolyn i gymryd cawod, cyn defnyddio'r cyfleuster spa sych
8. cyfeirio'r unigolyn i'r spa sych i gynnwys:
8.1 dangos iddo/iddi'r cyfarwyddiadau a'r peryglon cysylltiedig
9. monitro iechyd a lles yr unigolyn drwy gydol y gwasanaeth spa sych
10. gweithredu'r camau cywir os bydd yna adwaith niweidiol
11. cwblhau cofnod gwasanaeth spa'r unigolyn yn unol â deddfwriaeth data
12. defnyddio ymarfer adfyfyriol i werthuso gwasanaeth y spa a chymryd camau priodol
13. dod â'r gwasanaeth spa i ben drwy gau'r cyfleuster spa i lawr a'i ddadheintio yn unol â'r protocol gwasanaeth spa sych


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

1. eich swyddogaeth a'ch cyfrifoldebau o ran monitro a darparu cyfleusterau spa sych a'r pwysigrwydd o weithio o fewn eich gallu

2. pam ei bod yn rhaid i chi gydymffurfio gydag arfer moesegol a gweithio o fewn gofynion deddfwriaethol, i gynnwys:

2.1 y cyfrifoldebau o dan reoliadau trwyddedu yr awdurdod lleol      3. pwysigrwydd ymwneud â, a dogfennu datblygiad proffesiynol parhaus, i gynnwys, polisïau gwybodaeth wedi eu diweddaru, gweithdrefnau a chanllawiau ar gyfer arfer orau

  1. yr anatomeg a'r ffisioleg sy'n berthnasol i'r safon yma

  2. y gwrtharwyddion cymharol a llwyr sy'n berthnasol i wasanaethau spa sych, i gynnwys:

5.1 y gofynion deddfwriaethol ac yswiriant ar gyfer cael diagnosis meddygol a chyfeirio

6. y mathau o, diben, defnyddioldeb a chyfyngiadau cyfleusterau spa sych mewn perthynas â:

6.1 gweithgareddau neu driniaethau diweddar a all gyfyngu ar y gwasanaeth

6.2 hanes meddygol diweddar a chyfredol

6.3 ffactorau perthnasol yn ymwneud â'r ffordd o fyw

6.4 meddyginiaethau a chyflyrau meddygol
6.5 cefndir diwylliannol a hanes

  1. yr adweithiau niweidiol sy'n gysylltiedig â gwasanaethau spa sych a sut i ymateb iddynt

  2. y cyfrifoldebau am iechyd a diogelwch yn unol â deddfwriaeth cyn, yn ystod ac ar ôl y gwasanaeth spa sych

  3. pwysigwrydd glanhau ac atgyflenwi adnoddau o fewn cyfleusterau spa sych, i gynnwys:

9.1 sut, pryd a pham y gellir dirprwyo dyletswyddau glanhau i weinyddion y spa

9.2 sicrhau cynaliadwyedd amgylcheddol ar gyfer defnyddio'r cynnyrch

10. sut i baratoi, cynnal a chadw a chau cyfleusterau spa sych yn unol â chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr a gofynion cyfundrefnol a deddfwriaethol i gynnwys:

10.1 dadheintio

10.2 profi cyfarpar

10.3 pennu tymereddau gweithredol wedi eu hargymhell

11. pwysigrwydd gwybod i bwy i adrodd am broblemau sydd y tu allan i rychwant eich arbenigedd chi

  1. pam ei bod yn bwysig i drafod a darganfod amcanion, pryderon, disgwyliadau, y canlyniadau a chytuno ar gynllun gwasanaeth y spa 

  2. y strwythurau tâl a dewisiadau o wasanaeth

14. y gofynion deddfwriaethol a digollediad ynglŷn â sicrhau cydsyniad gwybodus ar gyfer y gwasanaeth spa 

  1. pwysigrwydd cadw at y protocol gwasanaeth spa sych

  2. rhesymau pam y dylai'r unigolyn gael cawod, cyn y gwasanaeth spa sych

17. pam ei bod yn bwysig rhoi cyflwyniad i’r unigolyn, cyn defnyddio’r cyfleusterau spa sych 

  1. argymhellion ynglŷn â pha mor hir ddylai gwasanaethau spa sych barhau, yn unol â'r protocol gwasanaethau spa a chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr, i gynnwys:

18.1 peryglon disgwyliedig defnydd gormodol

  1. pwysigrwydd monitro iechyd a lles yr unigolyn yn ystod, ac ar ôl y gwasanaeth spa sych

20. y gofynion deddfwriaethol a rheoleiddiol ynglŷn â chwblhau a chadw cofnod gwasanaeth spa sych yr unigolyn 

  1. canlyniadau disgwyliedig y gwasanaethau spa sych

  2. diben ymarfer adfyfyriol a gwerthuso er mwyn gwella darpariaeth y gwasanaeth

  3. y cyfarwyddiadau a'r cyngor, cyn ac ar ôl y gwasanaeth spa sych


Cwmpas/ystod

Cyfleusterau spa sych

  1. sauna
  2. gwelyau wedi eu cynhesu
  3. therapi golau
  4. therapi isgoch
  5. profiadau a chyfleusterau lles

Protocol gwasaneth spa sych

  1. amgylchedd waith
  2. iechyd a diogelwch
  3. atal a rheoli haint
  4. cynllun gwasanaeth
  5. cydsyniad gwybodus

  6. canlyniadau profion

  7. cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr
  8. rheoli data
  9. archwilio ac atebolrwydd
  10. cyfarwyddiadau a chyngor
  11. cynaliadwyedd
  12. rheoli gwastraff
  13. ymarfer wedi ei seilio ar dystiolaeth
  14. ymarfer adfyfyriol

*
*

Adweithiau Niweidiol

  1. teimlad o bendro
  2. chwydlyd
  3. cosi ar y croen
  4. cur pen, pen tost
  5. alergeddau
  6. anaphylacsis
  7. ymateb o bryder
  8. dadhydradu gormodol


*
*

*
*

*
*

*
*

Cyfarwyddiadau

  1. hawliau cyfreithiol a chyfrifoldebau yr unigolyn a'r ymarferydd
  2. cyfawrwyddiadau a gofal cyn ac ar ôl y gwasanaeth
  3. cyfyngiadau a pheryglon cysylltiedig
  4. gwasanaethau y dyfodol

Anatomeg a Ffisioleg

  1. strwythur a swyddogaeth systemau'r corff a'u cyd-ddibyniaeth ar ei gilydd
  2. gwrtharwyddion cymharol a llwyr a phatholegau cysylltiedig
  3. effeithiau corfforol, seicolegol a ffisiolegol cyfleusterau spa sych 


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Gwrtharwyddion llwyr

Mae gwrtharwydd llwyr yn gyflwr sy'n rhwystro'r gwasanaeth rhag cael ei gyflawni ac a all fod angen cael ei gyfeirio.

Adwaith niweidiol

Adwaith niweidiol yw adwaith 'annisgwyl' neu ganlyniad yn dilyn gwasanaeth e.e. llewygu

Anatomeg a Ffisioleg

Y ffordd mae'r systemau sgerbydol, cyhyrol, cylchredol, lymffatig, resbiradol, ysgarthol, treuliol, endocrinaidd a nerfol yn rhyngweithio gyda'i gilydd a sut mae nhw'n effeithio ar yr unigolyn, y gwasanaeth a'r canlyniadau.

Gwrth Weithred

Gwrth weithred yw adwaith 'ddisgwyliedig endocrinaidd neu ganlyniad yn dilyn gwasanaeth e.e. erythema

Ymarfer wedi ei seilio ar dystiolaeth

Mae ymarfer wedi ei seilio ar dystiolaeth yn seiliedig ar y dystiolaeth orau gyfredol, ddilys a pherthnasol sydd ar gael.

Cymorth Cyntaf

Gall cymorth cyntaf gyfeirio at gymwysterau cymorth cyntaf yn y gwaith neu ei gyffelyb neu ymwybyddiaeth o gymorth cyntaf iechyd meddyliol.

Protocol

Protocol yw gweithdrefn safonol er mwyn sicrhau arfer orau a chydymffurfiad pan yn darparu gwasanaethau e.e. dilyn cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr

Gwrthawrydd cymharol

Gwrtharwydd cymharol yw cyflwr sy'n gofyn am asesiad o addasrwydd ar gyfer y gwasanaeth a/neu os oes angen addasiadau.

Cyfleusterau lles a phrofiad

Gall cyfleusterau lles gynnwys mannau fel, y man ymlacio, ystafelloedd newid,solariwm, campfeydd, dosbarthiadau ymarfer corff ac amgylcheddau triniaeth.


Dolenni I NOS Eraill

​SKAHDBRBNST1, SKAHDBRBNS1, SKAS1, SKAS3, SKABS1, SKABBR2, SKAB4, SKABS1, SKABS2, SKABS3, SKABS4, SKABS5, SKABS6, SKABS7, SKAHDBRBNS2, SKAHDBRBNS3, SKAHDBRBNST2, SKAHDBRBNST3


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Maw 2024

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SkillsActive

URN gwreiddiol

SKAST2

Galwedigaethau Perthnasol

Technegydd ewinedd

Cod SOC

6222

Geiriau Allweddol

arnofiant sych, gwely wedi ei gynhesu, sauna, golau, gwasanaethau isgoch, Gall cyfleusterau lles gynnwys mannau fel, man ymlacio, ystafelloedd newid, solariwm, campfeydd, dosbarthiadau ymarfer corff ac amgylcheddau triniaeth.