Cynorthwyo gyda glanhau, cynnal a chadw a gweithio cyfleusterau spa

URN: SKAS1
Sectorau Busnes (Suites): Gwasanaethau Ewinedd
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 30 Maw 2021

Trosolwg

Mae'r safon yma yn cydfodoli â, SKAHDBRBNST1 Gweithredu a chynnal arferion gwaith diogel, glanwaith ac effeithiol. Mae'r safon ar gyfer gweinydd spa sy'n cynorthwyo gyda glanhau, cynnal a chadw a gweithgareddau cyfleusterau spa o dan gyfarwyddyd a goruchwyliaeth uwch-aelod o'r staff. Dylai'r safon gael ei defnyddio ynghyd ag uwch-aelod o'r staff sy'n cyflawni SKAS3 - Monitro a darparu gwasanaethau spa gwlyb a/neu SKAS2 - Monitro a darparu gwasanaethau spa sych. Bydd dyletswyddau'n cynnwys glanhau ac atgyflenwi adnoddau er mwyn cynnal y glanweithdra a'r effeithlonrwydd gorau ar gyfer cyfleusterau spa a chynorthwyo gyda gweithgreddau spa.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

Cynnal dulliau diogel ac effeithiol o weithio pan yn glanhau ac atgyflenwi mewn cyfleusterau
1. cadw at eich eich cyfrifoldebau am iechyd a diogelwch yn unol â deddfwriaeth, rheoliadau, cyfarwyddiadau a chanllawiau i gynnwys:
1.1 dilyn cyfarwyddiadau gan uwch aelod o'r staff a cheisio cael cymorth pan fo angen

Monitro, glanhau a chynnal a chadw'r cyfleusterau spa

*
2. Glanhau a chynnal y defnydd effeithiol o'r *
cyfleusterau spa yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr a pholisïau a gweithdrefnau'r gwneuthurwr, i gynnwys:
2.1 defnyddio cynnyrch glanhau a chyfarpar amddiffyn personol yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr
2.2 monitro ac atgyflenwi adnoddau a stoc
2.3 cadw at gyfnodau ysbaid sydd wedi eu pennu
2.4 diweddaru cofnodion cynnal a chadw yn unol â pholisïau a gweithdrefnau cyfundrefnol
2.5 monitro amodau amgylcheddol

Gweithgreddau

*
*
3. edrych allan am les unigolion yn rheolaidd, i gynnwys:
3.1 os bydd yna ddigwyddiad niweidiol, gweithredu ar y weithdrefn ymateb i argyfwng yn unol â pholisïau a gweithdrefnau cyfundrefnol
3.2 os bydd yna ddigwyddiad niweidiol, rhoi gwybod i'r bobl berthnasol
3.3 cymryd camau priodol, yn unol  â pholisïau a gweithdrefnau cyfundrefnol  
4. diweddaru cofnodion gweithredol yr ydych chi'n gyfrifol amdanynt, yn unol â pholisïau a gweithdrefnau cyfundrefnol  
5. glanhau'r cyfleuster spa yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr a pholisïau a gweithdrefnau cyfundrefnol er mwyn ei baratoi ar gyfer defnydd pellach

*    *


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

​1. pwysigrwydd gwrando ar a chymryd cyfarwyddyd gan uwch- aelod o'r staff

  1. eich swyddogaeth a'ch cyfrifoldebau o ran glanhau a chynnal a chadw cyfleusterau spa a phwysigrwydd gweithio o fewn maes eich gallu

  2. pam mae'n rhaid i chi gydymffurfio ag arfer foesegol a gweithio o fewn gofynion deddfwriaethol

4. pwysigwrydd ymwneud â, a dogfennu datblygiad proffesiynol parhaus i gynnwys, polisïau, gweithdrefnau a chanllawiau arfer orau ynglŷn â gwybodaeth wedi eu diweddaru

  1. y gwrtharwyddion cymharol a llwyr sy'n ymwneud â gwasanaethau spa, i gynnwys:

5.1 heintiau cyffredin sy'n cael eu cludo drwy'r aer a'r dŵr a all effeithio ar amgylcheddau spa ac ar unigolion 

6. pwysigrwydd cyfeirio at gyfarwyddiadau’r gwneuthurwr a gofynion cyfundrefnol ar gyfer defnydd diogel a chynnal a chadw cyfarpar a chyfleusterau spa 

  1. y deunyddiau glanhau sy'n addas ar gyfer cyfleusterau spa a chyfarpar a phwysigrwydd eu defnyddio yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr

  2. yr amodau amgylcheddol angenrheidiol ar gyfer cyfleusterau spa a pham mae nhw'n bwysig

9. y tymereddau gweithredol a’r lefelau lleithder a argymhellir ar gyfer cyfleusterau spa gwlyb a sych

  1. y cyfarwyddiadau ysgrifenedig a'r peryglon cysylltiedig ar gyfer pob cyfleuster spa, i gynnwys:

10.1 cymorth cyntaf

10.2 pwysigrwydd eu harddangos yn glir

  1. sut i gynnal a chadw cyfleusterau spa a chyfarpar

12. pwysigrwydd cynnal lefelau stoc yn aml ac adrodd am stoc isel i uwch-aelod o'r staff mewn modd amserol, i gynnwys:

12.1 sut i gynnal cynaliadwyedd

13. hyd oes defnyddiol a argymhellir ar gyfer pob spa yn unol â chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr , i gynnwys:

13.1 y peryglon sy'n gysylltiedig â defnyddio mwy na'r hyn a argymhellir

  1. pwysigrwydd gwirio iechyd a lles unigolion yn ystod ac ar ôl y gwasanaeth spa 

  2. pwysigrwydd cynnal hydradiad ar gyfer staff ac unigolion o fewn mannau spa

yr adweithiau niweidiol a phwysigrwydd cymryd camau priodol yn unol â pholisïau a gweithdrefnau cyfundrefnol 

16. y gofynion deddfwriaethol a rheoleiddiol ynglŷn â chwblhau a storio cofnodion gwasanaeth y spa 
17. y deilliannau disgwyliedig o ddefnyddio pob cyfleuster spa
18. y cyfarwyddiadau a'r cyngor, cyn ac ar ôl y gwasanaeth spa


Cwmpas/ystod

Cyfleusterau Spa

  1. gwlyb
  2. sych
  3. profiadau a chyfleusterau lles
  4. man ymlacio
  5. man newid
  6. man gwasanaeth
  7. man triniaeth

Adweithiau Niweidiol

  1. teimlo'n wanllyd
  2. chwydlyd
  3. cosi ar y croen
  4. cur pen, pen tost
  5. alergeddau
  6. anaphylacsis
  7. ymateb o bryder


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Gwrtharwyddion llwyr

Mae gwrtharwydd llwyr yn gyflwr sy'n rhwystro'r gwasanaeth rhag cael ei gyflawni ac a all fod angen cael ei gyfeirio.

Adwaith niweidiol

Adwaith niweidiol yw adwaith 'annisgwyl' neu ganlyniad yn dilyn gwasanaeth e.e. llewygu

Cymorth Cyntaf

Gall cymorth cyntaf gyfeirio at gymwysterau cymorth cyntaf yn y gwaith neu ei gyffelyb neu ymwybyddiaeth o gymorth cyntaf iechyd meddyliol.

Man Ymlacio

Ystafell neu fan yn y spa sy'n rhoi amser i'r cleient ymlacio, gorffwyso ac oeri rhwng triniaethau mewn amgylchedd ddiogel. Mae'r fan yma yn gadael i gleientau yfed dŵr/hylifau er mwyn ailhydradu'r corff a darllen yn ddistaw. * *

Gwrthawrydd cymharol

Gwrtharwydd cymharol yw cyflwr sy'n gofyn am asesiad o addasrwydd ar gyfer y gwasanaeth a/neu os oes angen addasiadau.

Cyfleusterau a phrofiad lles

Gall cyfleusterau lles gynnwys mannau fel, man ymlacio, ystafelloedd newid, solariwm, campfeydd, dosbarthiadau ymarfer corff ac amgylcheddau triniaeth.


Dolenni I NOS Eraill

​SKAHDBRBNST1, SKAHDBRBNS1, SKAS2, SKAS3, SKABS1, SKABBR2, SKAB4, SKABS1, SKABS2, SKABS3, SKABS4, SKABS5, SKABS6, SKABS7, SKAHDBRBNS2, SKAHDBRBNS3, SKAHDBRBNST2, SKAHDBRBNST3


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Maw 2024

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SkillsActive

URN gwreiddiol

SKAS1

Galwedigaethau Perthnasol

Technegydd ewinedd

Cod SOC

6222

Geiriau Allweddol

Cynorthwy-ydd spa, cynorthwy-ydd campfa, glanhau a chynnal yr ardal spa, cyfleusterau spa