Cael y cyfleusterau a’r gwasanaethau sydd eu hangen ar gyfer darpariaeth chwarae

URN: SKAPW97
Sectorau Busnes (Suites): Gwaith Chwarae
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 01 Chwef 2016

Trosolwg

​Mae a wnelo’r safon hon â dewis a chael y cyfleusterau a’r gwasanaethau sydd arnoch eu hangen ar gyfer darpariaeth chwarae. Mae’n cynnwys nodi a chytuno ar feini prawf ar gyfer y math o gyfleusterau a gwasanaethau sydd arnoch eu hangen, gwerthuso amryw o gyfleusterau a gwasanaethau posib a llunio cytundebau gyda pherchnogion a /neu gyflenwyr.

Prif ddeilliannau’r safon hon ydy:

  1. nodi a gwerthuso cyfleusterau a gwasanaethau ar gyfer darpariaeth chwarae
  2. cyd-drafod y cyfleusterau a’r gwasanaethau ar gyfer darpariaeth chwarae

Mae’r safon hon ar gyfer unigolyn sy’n gweithio ym maes gwaith chwarae, ac sy’n rheoli amryw o safleoedd traws-sector; unigolyn sy’n gweithio mewn rôl sy’n cynnwys rheoli nifer o leoliadau gwaith chwarae sydd â’r nod pennaf o ddarparu cyfleoedd i blant a phobl ifanc  chwarae fel maen nhw’n dewis ac yn dymuno ei wneud. Byddant yn gyfrifol am redeg y lleoliadau gwaith chwarae hyn, ac yn gyfrifol am staff niferus a’u lles.

Mae’r safon hon yn ategu’r Egwyddorion Gwaith Chwarae. Mae angen i weithwyr chwarae fod yn gyfarwydd â’r rhain, a lle bo’n bosib, eu defnyddio wrth eu gwaith ac wrth fyfyrio.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

Nodi a gwerthuso cyfleusterau a gwasanaethau ar gyfer darpariaeth chwarae

  1. cytuno gydag eraill ar y meini prawf ar gyfer y math o gyfleusterau a gwasanaethau sydd arnoch eu hangen
  2. sefydlu bod y meini prawf hyn yn gyson â gofynion cyfreithiol, rheoleiddio a sefydliadol
  3. gwerthuso amryw o gyfleusterau a gwasanaethau posib gan ddefnyddio’r meini prawf a gytunwyd
  4. sicrhau bod cyfleusterau a gwasanaethau yn cefnogi’r rhaglen gynhwysiant
  5. casglu a chofnodi gwybodaeth am gyfleusterau a gwasanaethau a ddewiswyd ac ymgynghori gydag eraill

Cyd-drafod y cyfleusterau a’r gwasanaethau ar gyfer darpariaeth chwarae

*
*

*6. cynnal ymholiadau a chyd-drafod mewn ffordd sy’n datblygu ac yn cynnal perthynas waith
7. llunio cytundebau gyda pherchnogion a / neu gyflenwyr sy’n bodloni’r meini prawf a gytunwyd a dilyn gofynion eicn sefydliad
8. gofyn am gyngor a chymorth os bydd anhawster wrth dod i gytundeb
9. sefydlu disgwyliadau a chyfrifoldebau ar y cyd gyda’r perchnogion a/neu gyflenwyr
10. cadw cofnodion o’r cytundebau rydych wedi’u llunio a sicrhau eu bod ar gael i *
eraill
, yn unol â pholisïau a gweithdrefnau eich sefydliad


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

​Nodi a gwerthuso cyfleusterau a gwasanaethau ar gyfer darpariaeth chwarae

  1. yr Egwyddorion Gwaith Chwarae sy’n rhan o fframwaith proffesiynol a moesegol gwaith chwarae a sut mae modd cymhwyso pob un o’r  egwyddorion i’ch gwaith chi.
  2. agweddau o’r amgylchedd ffisegol sy’n hwyluso chwarae
  3. sut mae plant a phobl ifanc yn ymwneud â’r amgylchedd ffisegol a’r goblygiadau o ran chwarae a darpariaeth chwarae
  4. camau yn natblygiad plentyn a sut mae’r rhain yn effeithio ar y mathau o amgylchedd ffisegol sy’n addas i blant a phobl ifanc ar wahanol gamau datblygiad
  5. materion yn ymwneud â chynhwysiant sydd yn rhaid i chi eu hystyried wrth werthuso amgylcheddau ffisegol posib ar gyfer chwarae
  6. y gofynion cyfreithiol, rheoleiddio a sefydliadol sy’n gymwys i’ch cyfleusterau a gwasanaethau a pham eu bod yn bwysig
  7. pwysigrwydd cyd-drafod a chytuno ar feini prawf cyn dewis cyfleusterau a gwasanaethau posib
  8. y mathau o feini prawf y dylech eu hystyried wrth edrych ar gyfleusterau a gwasanaethau ar gyfer darpariaeth chwarae a sut i’w nodi a’u cyd-drafod
  9. sut i nodi cyfleusterau a gwasanaethau posib a’u perchnogion a chyflenwyr
  10. sut i werthuso cyfleusterau a gwasanaethau yn erbyn meini prawf a gytunwyd
  11. sut i benderfynu a yw’n bosib gwneud cyfleusterau a gwasanaethau yn addas ar gyfer darpariaeth chwarae mewn ffordd gost effeithiol
  12. y cofnodion y dylech eu cadw
  13. sut i ymgynghori a chyd-drafod gydag eraill

*Cyd-drafod y cyfleusterau a’r gwasanaethau ar gyfer darpariaeth chwarae
*


*14. sut i gynnal ymholiadau a thrafodaethau mewn ffordd a fydd yn cynnal perthynas waith dda a pham mae hyn yn bwysig
15. gofynion a gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer llunio cytundebau mewn perthynas â *
cyfleusterau a gwasanaethau

16. lle gallwch gael cyngor a chymorth os ydych yn cael anhawster i lunio cytundebau gyda pherchnogion a/neu gyflenwyr
17. pam y mae’n bwysig i sefydlu disgwyliadau a chyfrifoldebau ar y cyd gyda pherchnogion a /neu gyflenwyr
18. pam y mae’n bwysig i gadw gofnodion cywir o’r cytundebau a sut i wneud hyn


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad

Eraill (o leiaf 4 allan o 6)
1. plant a phobl ifanc
2. rhieni a/neu ofalwyr
3. grwpiau sy’n defnyddio’r cyfleusterau a’r gwasanaethau
4. staff
5. partneriaid allweddol                                                            

  1. darpar-ddefnyddwyr

Cyfleusterau a gwasanaethau (o leiaf 4 allan o 6)
1. tir ac adeiladau
2. offer chwarae ac adnoddau eraill
3. iechyd, diogelwch ac amddiffyn plant a phobl ifanc
4. galluogi cynhwysiant
5. tripiau i ffwrdd o’r safle
6. darparu bwyd a diod


Gwybodaeth Cwmpas

Amgylchedd ffisegol
1. elfennau naturiol ac wedi eu creu
2. darnau rhydd

Cyfleusterau a gwasanaethau
1. tir ac adeiladau
2. offer chwarae ac adnoddau eraill
3. iechyd, diogelwch ac amddiffyn plant a phobl ifanc
4. galluogi cynhwysiant
5. tripiau i ffwrdd o’r safle
6. darparu bwyd a diod

*              *
Eraill
1. plant a phobl ifanc
2. rhieni a/neu ofalwyr
3. grwpiau sy’n defnyddio’r cyfleusterau a’r gwasanaethau
4. staff
5. partneriaid allweddol                                                             

  1. darpar-ddefnyddwyr

Gwerthoedd

​Mae'r Gweithwyr Chwarae oedd yn rhan o ysgrifennu'r safon hon, law yn llaw â SkillsActive, wedi cytuno i fabwysiadu'r canlynol fel y gwerthoedd fydd yn berthnasol i bawb sy'n gweithio yn y sector gwaith chwarae.

Egwyddorion Gwaith Chwarae

Mae'r Egwyddorion hyn yn sefydlu fframwaith proffesiynol a moesegol ar gyfer gwaith chwarae ac mae angen felly  eu hystyried yn eu cyfanrwydd.  Maen nhw'n disgrifio’r hyn sy'n unigryw am chwarae a gwaith chwarae, ac yn rhoi sylw i weithio gyda phlant a phobl ifanc o safbwynt gwaith chwarae. Mae'r safonau yn seiliedig ar y gydnabyddiaeth y bydd modd i blant a phobl ifanc ddatblygu'n well os cawn nhw'r dewis ehangaf posib o gyfleoedd chware a mannau i chwarae ynddyn nhw.

  1. Mae angen i bob plentyn a pherson ifanc chwarae. Mae chwarae yn rhywbeth greddfol a chynhenid. Mae chwarae yn anghenraid biolegol, seicolegol a chymdeithasol, ac mae'n hanfodol i les a datblygiad pobl a chymunedau.

  2. Mae chwarae yn broses wirfoddol, bersonol ac yn cael ei wneud er ei fwyn ei hun.  Hynny ydy, mae plant a phobl ifanc yn penderfynu ac yn siapio beth a pham maen nhw'n chwarae, drwy ddilyn eu cyneddfau, eu syniadau a'u diddordebau eu hunain, yn eu ffordd eu hunain ac am eu rhesymau eu hunain.

  3. Prif amcan a hanfod gwaith chwarae ydy cefnogi a hwyluso'r broses o chwarae. Dylai hyn ddylanwadu ar ddatblygiad polisïau, strategaethau, hyfforddiant ac addysg yn ymwneud â chwarae.

  4. Y broses chwarae sydd bwysicaf i weithwyr chwarae, ac maen nhw’n eiriol dros chwarae wrth ymwneud â sefyllfaoedd sy'n edrych ar bethau drwy lygaid oedolion.

  5. Swyddogaeth y gweithiwr chwarae ydy cefnogi pob plentyn a pherson ifanc i greu man lle mae modd iddyn nhw chwarae.

  6. Mae ymateb gweithwyr chwarae i'r ffordd mae plant a phobl ifanc yn chwarae yn seiliedig ar ddealltwriaeth gadarn a chyfoes o'r broses chwarae, ac o adlewyrchu ar eu profiadau eu hunain.

  7. Mae gweithwyr chwarae yn adnabod yr effaith maen nhw’n ei chael ar y lle chwarae ac hefyd yr effaith mae chwarae'r plant a'r bobl ifanc yn ei gael ar y gweithiwr chwarae.

  8. Mae gweithwyr chwarae yn dewis ymyrryd mewn ffordd sy'n caniatáu i blant a phobl ifanc ehangu eu chwarae.  Pob tro mae gweithiwr chwarae yn ymyrryd, rhaid iddo gydbwyso'r perygl o wneud hynny gyda'r fantais i les a datblygiad y plant.

Caiff yr Egwyddorion Gwaith Chwarae eu dal mewn ymddiriedaeth gan y Grŵp Craffu ar gyfer Proffesiwn Gwaith Chwarae y Deyrnas Gyfunol. Bu’r Grŵp Craffu yn gweithredu fel canolwr di-duedd ac yn goruchwylio'r broses ymgynghori lle cafodd y safonau eu llunio.


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Darpariaeth chwarae
Lleoedd sy’n cael eu ffurfio gan oedolion lle gall plant a phobl ifanc chwarae

Man chwarae
Man chwarae sy’n cael ei ffurfio gan blant a phobl ifanc. Mae modd iddo fod yn gorfforol, yn ymwneud â theimladau neu emosiynau, fod yn barhaol, dros dro neu yn ymwneud â’r byd seiber.

Lleoliad gwaith chwarae
Rhywle lle mae cyfle i blant a phobl ifanc chwarae a lle mae gweithwyr chwarae yn gweithio.

Staff
Y bobl rydych chi’n gweithio gyda nhw, y bobl rydych chi’n gyfrifol amdanyn nhw, gweithwyr cyflog neu wirfoddol, myfyrwyr neu o dan hyfforddiant.


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Maw 2021

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SkillsActive

URN gwreiddiol

SKAPW97

Galwedigaethau Perthnasol

Iechyd, Gofal a Gwasanaethau Cyhoeddus, Lles a Datblygiad Plentyn, Gweithwyr Proffesiynol y meysydd hyn a phobl mewn swyddi technolegol, Gweithwyr Chwaraeon a Ffitrwydd

Cod SOC


Geiriau Allweddol

cyfleusterau; gwasanaethau; darpariaeth chwarae