Ymgymryd â gwaith chwarae mewn mannau sy’n darparu gwasanaethau arbenigol

URN: SKAPW90
Sectorau Busnes (Suites): Gwaith Chwarae
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 01 Chwef 2016

Trosolwg

​Mae a wnelo’r safon hon â gweithio gyda phlant, pobl ifanc ac oedolion mewn mannau sy’n darparu gwasanaethau arbenigol, fel llochesau menywod, prosiectau i’r digartref neu ganolfannau cadw. Mae’n ymwneud â nodi anghenion emosiynol plant a phobl ifanc a datblygu lleoedd chwarae a fydd yn diwallu’r anghenion hyn a rhoi cymorth i blant a phobl ifanc yn ystod chwarae. Gall hefyd gynnwys gweithio gyda rhieni a/neu ofalwyr i ddeall pwysigrwydd a gwerth chwarae ym mywydau eu plant a’u perthynas gyda nhw.
*
*

*
*

Prif ddeilliannau’r safon hon ydy:

  1. creu lleoedd chwarae lle gellir rhoi cymorth emosiynol i blant a phobl ifanc
  2. gweithio gydag eraill mewn mannau sy’n darparu gwasanaethau arbenigol i adnabod a chefnogi anghenion plant a phobl ifanc

Mae’r safon hon ar gyfer gweithwyr chwarae sy’n gweithio’n uniongyrchol gyda phlant a phobl ifanc mewn mannau sy’n darparu gwasanaethau arbenigol ac sy’n gyfrifol yn bennaf am roi cyfleoedd i blant chwarae fel maen nhw’n dewis ac yn dymuno ei wneud.

*Mae’r safon hon yn ategu’r Egwyddorion Gwaith Chwarae. Mae angen i weithwyr chwarae fod yn gyfarwydd â’r rhain, a lle bo’n bosib, eu defnyddio wrth eu gwaith ac wrth fyfyrio ar eu gwaith. *


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

Creu lleoedd chwarae lle gellir rhoi cymorth emosiynol i blant a phobl ifanc

  1. darparu cymorth i blant a phobl ifanc er mwyn iddynt setlo yn y lleoliad chwarae
  2. creu lleoedd chwarae a rhoi adnoddau iddynt er mwyn eu gwneud yn hwyliog ac yn berthnasol i ddiddordebau ac emosiynau plant a phobl ifanc
  3. gweithredu mewn dull ymarferol a hwyliog sy’n sensitif i giwiau chwarae plant a phobl ifanc
  4. cofnodi arsylwadau o blant a phobl ifanc yn chwarae
  5. darparu cymorth i blant a phobl ifanc unigol wrth iddynt brofi teimladau ac ymddygiad sy’n anodd iddynt
  6. dangos eich bod yn gwrando ac yn ymateb i blant a phobl ifanc

Gweithio gydag eraill yn mannau sy’n darparu gwasanaethau arbenigol i adnabod a chefnogi anghenion plant a phobl ifanc

  1. gweithredu fel eiriolwr hawliau plant a phobl ifanc i chwarae fel maen nhw’n dewis ac yn dymuno ei wneud
  2. annog eraill yn y mannau sy’n darparu gwasanaethau arbenigol i sylwi ar chwarae a’i werthfawrogi
  3. annog rhieni a/neu ofalwyr i gymryd amser i ymateb i’w plant mewn ffordd chwaraeus
  4. rhoi cymorth i rieni a/neu ofalwyr i adeiladu rhwydweithiau a pherthynas gyda theuluoedd eraill yn y mannau sy’n darparu gwasanaethau arbenigol
  5. hybu ymdeimlad o gymuned sy’n rhoi lle canolog i blant a phobl ifanc
  6. hybu gwaith chwarae ymhlith rhieni a/neu ofalwyr drwy gynllunio a chyflenwi dewis eang o weithgareddau chwarae i’r teulu
  7. myfyrio ar eich gwaith eich hun a chyfoedion yn rheolaidd

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Creu lleoedd chwarae lle gellir rhoi cymorth emosiynol i blant a phobl ifanc

  1. yr Egwyddorion Gwaith Chwarae sy’n rhan o fframwaith proffesiynol a moesegol gwaith chwarae a sut mae modd cymhwyso pob un o’r egwyddorion i’ch gwaith chi.
  2. sut i greu amgylchedd cynnes, croesawgar sy’n annog plant a phobl ifanc i deimlo eu bod yn rhydd i chwarae, mewn *mannau sy’n darparu gwasanaethau arbenigol  *
  3. polisïau a gweithdrefnau sy’n berthnasol i rôl gweithiwr chwarae
    mewn *mannau sy’n darparu gwasanaethau arbenigol  *
  4. materion allweddol sy’n ymwneud â chyswllt gyda phlant a phobl ifanc
  5. pwysigrwydd deall a pharchu amrywiaeth diwylliannol a theuluol
  6. sut i gael ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o gam-drin domestig, digartrefedd a dadleoli
  7. effaith cam-drin domestig, digartrefedd a dadleoli
  8. pwysigrwydd cael adnoddau o ansawdd uchel sy’n ystyriol o blant a phobl ifanc sy’n cael eu hamddifadu o brofiadau chwarae
  9. y teimladau tebygol sydd gan blant, pobl ifanc a’u teuluoedd pan fyddant yn cyrraedd  
  10. y polisïau, gweithdrefnau a logisteg sydd ar waith i helpu plant a phobl ifanc ymgartrefu ac ymgyfarwyddo
  11. effaith bosib cam-drin domestig, digartrefedd ac adleoliad ar ddatblygiad cyffredinol plant a phobl ifanc
  12. sut all profiadau plant a phobl ifanc o gam-drin domestig, digartrefedd ac adleoli ddod i’r amlwg yn eu chwarae
  13. effaith cam-drin domestig ar y berthynas rhwng y rhiant a’r plentyn
  14. y berthynas rhwng cam-drin domestig mewn perthynas â cham-drin emosiynol
  15. y gwahaniaethau posib rhwng y rhywiau ac effaith eich rhywedd personol ar arferion gwaith a dealltwriaeth o blant a phobl ifanc
  16. egwyddorion gwaith chwarae therapiwtig
  17. defnyddio’r man chwarae fel amgylchedd therapiwtig

Gweithio gydag eraill mewn mannau sy’n darparu gwasanaethau arbenigol i adnabod a chefnogi anghenion plant a phobl ifanc

  1. y polisïau, gweithdrefnau a logisteg ‘ymgartrefu’ ar gyfer yr oedolyn
  2. yr angen i adfer ymlyniad rhwng rhieni a/neu ofalwyr a phlant a phobl ifanc
  3. sut i annog rhieni a/neu ofalwyr i ymwneud â chwarae eu plant
  4. pwysigrwydd annog rhieni a/neu ofalwyr i adeiladu rhwydweithiau a pherthynas gyda theuluoedd eraill a strategaethau i’w hwyluso

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad

Plant a phobl ifanc
1. unigolion
2. grwpiau

                *
*

Eraill
1. rhieni a/neu ofalwyr
2. cydweithwyr
3. ymwelwyr

Mannau sy’n darparu gwasanaethau arbenigol
(o leiaf 1 allan o 3)
1. llochesau menywod
2. canolfannau cadw
3. prosiectau digartref


Gwybodaeth Cwmpas

Mannau sy’n darparu gwasanaethau arbenigol
1. llochesau menywod
2. canolfannau cadw
3. prosiectau digartref

Teimladau
1. trawmateiddio
2. ymwahanu
3. colled
4. gorbryder
5. euogrwydd
6. ofn
7. arwahanrwydd
8. digalondid


Gwerthoedd

​Mae'r Gweithwyr Chwarae oedd yn rhan o ysgrifennu'r safon hon, law yn llaw â SkillsActive, wedi cytuno i fabwysiadu'r canlynol fel y gwerthoedd fydd yn berthnasol i bawb sy'n gweithio yn y sector gwaith chwarae.

Egwyddorion Gwaith Chwarae

Mae'r Egwyddorion hyn yn sefydlu fframwaith proffesiynol a moesegol ar gyfer gwaith chwarae ac mae angen felly eu hystyried yn eu cyfanrwydd.  Maen nhw'n disgrifio’r hyn sy'n unigryw am chwarae a gwaith chwarae, ac yn rhoi sylw i weithio gyda phlant a phobl ifanc o safbwynt gwaith chwarae. Mae'r safonau yn seiliedig ar y gydnabyddiaeth y bydd modd i blant a phobl ifanc ddatblygu'n well os cawn nhw'r dewis ehangaf posib o gyfleoedd chware a mannau i chwarae ynddyn nhw.

  1. Mae angen i bob plentyn a pherson ifanc chwarae. Mae chwarae yn rhywbeth greddfol a chynhenid. Mae chwarae yn anghenraid biolegol, seicolegol a chymdeithasol, ac mae'n hanfodol i les a datblygiad pobl a chymunedau.

  2. Mae chwarae yn broses wirfoddol, bersonol ac yn cael ei wneud er ei fwyn ei hun.  Hynny ydy, mae plant a phobl ifanc yn penderfynu ac yn siapio beth a pham maen nhw'n chwarae, drwy ddilyn eu cyneddfau, eu syniadau a'u diddordebau eu hunain, yn eu ffordd eu hunain ac am eu rhesymau eu hunain.

  3. Prif amcan a hanfod gwaith chwarae ydy cefnogi a hwyluso'r broses o chwarae. Dylai hyn ddylanwadu ar ddatblygiad polisïau, strategaethau, hyfforddiant ac addysg yn ymwneud â chwarae.

  4. Y broses chwarae sydd bwysicaf i weithwyr chwarae, ac maen nhw’n eiriol dros chwarae wrth ymwneud â sefyllfaoedd sy'n edrych ar bethau drwy lygaid oedolion.

  5. Swyddogaeth y gweithiwr chwarae ydy cefnogi pob plentyn a pherson ifanc i greu man lle mae modd iddyn nhw chwarae.

  6. Mae ymateb gweithwyr chwarae i'r ffordd mae plant a phobl ifanc yn chwarae yn seiliedig ar ddealltwriaeth gadarn a chyfoes o'r broses chwarae, ac o adlewyrchu ar eu profiadau eu hunain.

  7. Mae gweithwyr chwarae yn adnabod yr effaith maen nhw’n ei chael ar y man chwarae a hefyd yr effaith mae chwarae'r plant a'r bobl ifanc yn ei gael ar y gweithiwr chwarae.

  8. Mae gweithwyr chwarae yn dewis ymyrryd mewn ffordd sy'n caniatáu i blant a phobl ifanc ehangu eu chwarae.  Pob tro mae gweithiwr chwarae yn ymyrryd, rhaid iddo gydbwyso'r perygl o wneud hynny gyda'r fantais i les a datblygiad y plant.

Caiff yr Egwyddorion Gwaith Chwarae eu dal mewn ymddiriedaeth gan y Grŵp Craffu ar gyfer Proffesiwn Gwaith Chwarae y Deyrnas Gyfunol. Bu’r Grŵp Craffu yn gweithredu fel canolwr di-duedd ac yn goruchwylio'r broses ymgynghori lle cafodd y safonau eu llunio.


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Ciwiau Chwarae
Mynegiant wyneb, iaith neu iaith y corff sy’n cyfleu dymuniad y plentyn neu’r unigolyn ifanc i chwarae neu sy’n gwahodd eraill i chwarae

Man chwarae
Man chwarae sy’n cael ei ffurfio gan blant a phobl ifanc. Mae modd iddo fod yn gorfforol, yn ymwneud â theimladau neu emosiynau, fod yn barhaol, dros dro neu yn ymwneud â’r byd seibr.

Lleoliad gwaith chwarae
Rhywle lle mae cyfle i blant a phobl ifanc chwarae a lle mae gweithwyr chwarae yn gweithio.

Staff
Y bobl rydych chi’n gweithio gyda nhw, y bobl rydych chi’n gyfrifol amdanyn nhw, gweithwyr cyflog neu wirfoddol, myfyrwyr neu o dan hyfforddiant.


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Maw 2021

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SkillsActive

URN gwreiddiol

SKAPW44

Galwedigaethau Perthnasol

Iechyd, Gofal a Gwasanaethau Cyhoeddus, Lles a Datblygiad Plentyn, Gweithwyr Proffesiynol y meysydd hyn a phobl mewn swyddi technolegol, Gweithwyr Chwaraeon a Ffitrwydd

Cod SOC


Geiriau Allweddol

gwaith chwarae; mannau sy’n darparu gwasanaethau arbenigol