Rhedeg y lleoliad gwaith chwarae

URN: SKAPW71
Sectorau Busnes (Suites): Gwaith Chwarae
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 01 Chwef 2016

Trosolwg

​Mae a wnelo’r safon hon â rheoli’r lleoliad gwaith chwarae ac â’r prosesau sydd ynghlwm â sicrhau fod man chwarae yn lle iach a diogel i chwarae ynddo.

Prif ddeilliannau’r safon hon ydy:

  1. rheoli’r lleoliad gwaith chwarae
  2. rheoli a chynnal a chadw’r  adnoddau sy’n rhan o’r lleoliad gwaith chwarae
  3. goruchwylio’r gwaith o ofalu am iechyd a diogelwch yn y lleoliad gwaith chwarae

Mae’r safon hon ar gyfer gweithwyr chwarae sy’n gweithio’n uniongyrchol gyda phlant a phobl ifanc mewn lleoliad gwaith chwarae ac sy’n gyfrifol yn bennaf am roi cyfleoedd i blant chwarae fel maen nhw’n dewis ac yn dymuno ei wneud. Mae’r safon ar gyfer staff sydd â pheth cyfrifoldeb dros y lleoliad gwaith chwarae ac eraill, ac sy’n gwneud cyfraniad allweddol i gefnogi chwarae.

*Mae’r safon hon yn ategu’r Egwyddorion Gwaith Chwarae. Mae angen i weithwyr chwarae fod yn gyfarwydd â’r rhain, a lle bo’n bosib, eu defnyddio wrth eu gwaith ac wrth adlewyrchu.  *


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

Rheoli’r lleoliad gwaith chwarae

  1. cynnig darpariaeth chwarae yn unol â pholisïau a gweithdrefnau eich sefydliad
  2. arwain eraill i sefydlu a chynnal a chadw’r lleoliad gwaith chwarae mewn modd sy’n cwrdd ag anghenion chwarae’r plant a’r bobl ifanc
  3. bod yn gyfrifol am reoli risg drwy:
          3.1 cefnogi staff wrth iddyn nhw gynnal asesiadau risg-manteision
          3.2 goruchwylio’r gwaith o gofnodi a chwblhau asesiadau risg-manteision
          3.3. gwirio fod y chwarae’n cael ei arsylwi yn y lleoliad gwaith chwarae
  4. gwirio fod staff yn adlewyrchu ac yn arsylwi er mwyn gwella eu gwaith chwarae
  5. hyrwyddo cynhwysiant ac amrywiaeth yn eich sefydliad
  6. adnabod y pethau sy’n rhwystro pobl rhag cymryd rhan a gweithio gydag eraill i’w goresgyn neu eu lleihau
  7. hyrwyddo’r lleoliad gwaith chwarae i blant, pobl ifanc, rhieni a gofalwyr a allai ei chael hi’n anodd cymryd rhan
  8. cadw cofnodion yn unol â pholisïau a gweithdrefnau eich sefydliad
  9. darparu gwybodaeth i bobl ac asiantaethau awdurdodedig yn unol â pholisïau a gweithdrefnau eich sefydliad
  10. rheoli pwy sy’n cael dod i’r lleoliad gwaith chwarae yn unol â pholisïau a gweithdrefnau eich sefydliad
  11. cyfyngu ar bwy sy’n medru gweld gwybodaeth yn unol â’r cytundebau cyfrinachedd a’r hyn sy’n ofynnol gan y gyfraith a’ch sefydliad
  12. cefnogi plant a phobl ifanc i newid ac addasu’r man chwarae

Rheoli a chynnal yr adnoddau yn y lleoliad gwaith chwarae

  1. darparu adnoddau y mae modd i bob plentyn a pherson ifanc eu defnyddio
  2. sicrhau fod staff yn gwirio’r safle yn unol â pholisïau a gweithdrefnau eich sefydliad
  3. sicrhau fod staff yn gwirio fod y mannau dan do ac awyr agored yn ddiogel cyn, yn ystod ac ar ôl y gweithgareddau.
  4. trefnu, gwirio ac adrodd yn ôl fod gwaith cynnal yn cael ei gwblhau fel bo angen
  5. addasu’r lleoliad gwaith chwarae yn rheolaidd i gwrdd ag anghenion yr holl blant a phobl ifanc

Goruchwylio’r gwaith o ofalu am iechyd a diogelwch yn y lleoliad gwaith chwarae

  1. bod yn gyfrifol am iechyd a diogelwch plant a phobl ifanc yn unol â pholisïau a gweithdrefnau cyfreithiol a sefydliadol
  2. cadw cofnodion ynglŷn â’r gofynion iechyd a diogelwch sy’n berthnasol i’ch lleoliad gwaith chwarae yn unol â pholisïau a gweithdrefnau cyfreithiol a sefydliadol
  3. sicrhau bod manylion gan bob plentyn, person ifanc ac oedolyn sy’n defnyddio’r lleoliad ynghylch y gweithdrefnau iechyd a diogelwch
  4. sicrhau fod pobl eraill yn dilyn y gweithdrefnau iechyd a diogelwch
  5. goruchwylio plant a phobl ifanc, gan ystyried lefel y risg ynghyd ag anghenion, dymuniadau a lefel eu datblygiad
  6. annog plant a phobl ifanc i reoli risg drostyn nhw eu hunain ac i fod yn ymwybodol o’u diogelwch nhw eu hun ac o ddiogelwch pobl eraill
  7. adolygu a diwygio gweithdrefnau iechyd a diogelwch eich sefydliad
  8. rhoi gweithdrefnau ar waith i ymdrin â damweiniau, anafiadau, salwch ac achosion eraill o argyfwng

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Rheoli’r lleoliad gwaith chwarae          

  1. yr Egwyddorion Gwaith Chwarae sy’n rhan o fframwaith proffesiynol a moesegol gwaith chwarae a sut mae modd cymhwyso pob un o’r egwyddorion i’ch gwaith chi
  2. sut i gynnig darpariaeth chwarae yn unol â pholisïau a gweithdrefnau cyfreithiol a sefydliadol
  3. sut i gefnogi eraill i sefydlu a chynnal y lleoliad gwaith chwarae i
    gwrdd ag anghenion chwarae plant a phobl ifanc
  4. eich cyfrifoldebau o ran rheoli risg
  5. y gwahaniaeth rhwng asesiadau risg ffurfiol ac asesiadau risg-
    manteision dynamig
  6. ffyrdd o gefnogi staff i gynnal ac adlewyrchu ar asesiadau risg-
    manteision dynamig
  7. damcaniaethau a modelau o asesiadau risg sy’n berthnasol i’r lleoliad gwaith chwarae a’r plant, y bobl ifanc ac eraill sy’n ei ddefnyddio, boed hynny o dan do, yn yr awyr agored neu yn ymweliad
  8. sut i fonitro’r gwaith o gwblhau asesiadau risg-manteision
  9. pwysigrwydd sicrhau bod rhywun yn arsylwi’r chwarae yn y lleoliad gwaith chwarae
  10. pwysigrwydd sicrhau eich bod yn adlewyrchu ar y gwaith arsylwi er mwyn gwella’r gwaith chwarae
  11. modelau ac arferion da presennol sy’n ymwneud â chynhwysiant
  12. y modelau cymdeithasol a meddygol o anabledd a’r gwahaniaethau rhyngddyn nhw
  13. sut i adnabod a goresgyn yr elfennau hynny sy’n rhwystro pobl rhag cymryd rhan yn y lleoliad gwaith chwarae
  14. sut i hyrwyddo’r lleoliad gwaith chwarae i blant, pobl ifanc, rhieni a gofalwyr sydd o bosib yn ei chael hi’n anodd cymryd rhan
  15. beth ydy darpariaeth chwarae gynhwysol a beth yw gwerth y math yma o ddarpariaeth o’i chymharu â darpariaeth chwarae ‘ar wahân’, ‘neilltuol,’ a / neu ‘integredig.’
  16. sut i gadw cofnodion yn unol â pholisïau a gweithdrefnau eich
    sefydliad
  17. pholisïau a gweithdrefnau eich sefydliad o ran darparu gwybodaeth i bobl ac asiantaethau awdurdodedig
  18. y mathau o wybodaeth y gellir bod angen eu trosglwyddo i bobl awdurdodedig yn y sefydliad
  19. pam ei bod hi’n bwysig cadw cofnodion yn gyflawn, yn eglur ac yn gyfoes
  20. pwysigrwydd storio cofnodion yn gyfrinachol yn unol â pholisïau a gweithdrefnau cyfreithiol a sefydliadol
  21. ffyrdd o gefnogi plant a phobl ifanc i addasu a newid y man chwarae
  22. y mathau o gefnogaeth y gellir fod ei hangen ar blant a phobl ifanc i wneud y defnydd gorau o’r lleoliad gwaith chwarae
  23. ffyrdd o feithrin diwylliant lle mae modd i’r staff, y plant a’r bobl ifanc fod yn rhan o greu mannau chwarae newydd, cyfoethocach yn y lleoliad gwaith chwarae

Rheoli a chynnal a chadw adnoddau’r lleoliad gwaith chwarae

  1. ffyrdd o wneud yn siŵr fod adnoddau ar gael y gall pob plentyn a pherson ifanc eu defnyddio
  2. ffyrdd o sicrhau fod y lleoliad gwaith chwarae yn hygyrch a
    chynhwysol
  3. cynnal gwiriadau diogelwch y tu mewn a thu allan, cyn, yn ystod ac ar ôl y gweithgareddau
  4. polisïau a gweithdrefnau’ch sefydliad o ran gwirio’r safle
  5. polisïau a gweithdrefnau’ch sefydliad o ran monitro a chynnal offer
  6. pwysigrwydd sicrhau fod y lleoliad gwaith chwarae yn cefnogi lles pob plentyn a pherson ifanc
  7. sut i sicrhau fod staff yn creu mannau chwarae gyda’r plant
  8. yr angen i sicrhau y gallwch chi gynnig y cyfleoedd chwarae y
    gofynnir amdanyn nhw

Goruchwylio’r gwaith o ofalu am iechyd a diogelwch yn y lleoliad gwaith chwarae

  1. sut i ysgwyddo cyfrifoldeb a monitro’r polisïau a’r gweithdrefnau statudol, rheoleiddiol a sefydliadol sy’n ymwneud â sicrhau iechyd a diogelwch, plant, pobl ifanc ac eraill yn eich lleoliad gwaith chwarae
  2. cytundebau cyfrinachedd gyda rhieni a gofalwyr
  3. pwysigrwydd fod pob plentyn, person ifanc ac oedolyn sy’n defnyddio’r lleoliad gwaith chwarae yn gwybod am y
    gweithdrefnau iechyd a diogelwch
  4. anghenion, dymuniadau a lefel datblygiad plant a phobl ifanc a
    goblygiadau’r rhain ar drefniadau iechyd a diogelwch, gallu plant a
    phobl ifanc i reoli risg drostyn nhw eu hunain a bod yn ymwybodol
    o’u diogelwch nhw eu hunain a diogelwch pobl eraill
  5. sut i roi gweithdrefnau ar waith ar gyfer damweiniau, anafiadau,
    salwch ac achosion eraill o argyfwng, yn unol â pholisïau a
    gweithdrefnau cyfreithiol a sefydliadol
  6. y polisïau a’r gweithdrefnau cyfreithiol a sefydliadol o ran storio a dosbarthu meddyginiaethau
  7. y polisïau a’r gweithdrefnau cyfreithiol a sefydliadol o ran codi a chario a’r peryglon sy’n gysylltiedig â gwneud hynny
  8. cynnwys blwch cymorth cyntaf
  9. arferion hylendid da i osgoi’r risg o draws heintio
  10. arwyddion a symptomau afiechydon ac alergeddau sy’n gyffredin ymhlith plant a pholisïau a gweithdrefnau eich sefydliad o ran sut i ymateb
  11. polisïau a gweithdrefnau argyfwng eich sefydliad

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad

Eraill
1. staff
2. ymwelwyr
3. rhieni a / neu ofalwyr

Rhwystrau rhag cymryd rhan
1. agwedd
2. yr amgylchedd
3. y sefydliad

Gwybodaeth (lleiafswm o 4 allan o 6)
1. cefndir
2. anghenion dietegol
3. alergeddau
4. gofynion gofal personol
5. trefniadau cyrraedd a gadael
6. cofnodion y sefydliad

Gwirio diogelwch (PC15)
1. cyfleusterau ac offer
2. tai bach a’r mannau ymolchi
3. sut mae’r plant a’r bobl ifanc yn symud ac yn chwarae

Achosion o argyfwng
1. tân
2. plant ar goll
3. gadael y safle


Gwybodaeth Cwmpas

Eraill
1. staff
2. ymwelwyr
3. rhieni a gofalwyr

Rhwystrau rhag cymryd rhan
1. agwedd
2. yr amgylchedd
3. y sefydliad

Gwybodaeth
1. cefndir
2. anghenion dietegol
3. alergeddau
4. gofynion gofal personol
5. trefniadau cyrraedd a gadael
6. cofnodion y sefydliad

Gwirio diogelwch
1. cyfleusterau ac offer
2. tai bach a’r mannau ymolchi
3. sut mae’r plant a’r bobl ifanc yn symud ac yn chwarae

Arferion hylendid da
1. systemau priodol i gael gwared ar wahanol fathau o wastraff
2. trin hylifau corfforol
3. afiechydon heintus a rhai sy’n trosglwyddo yn y gwaed

Achosion o argyfwng
1. tân
2. plant ar goll
3. gadael y safle


Gwerthoedd

​Mae'r Gweithwyr Chwarae oedd yn rhan o ysgrifennu'r safon hon, law yn llaw â SkillsActive, wedi cytuno i fabwysiadu'r canlynol fel y gwerthoedd fydd yn berthnasol i bawb sy'n gweithio yn y sector gwaith chwarae.

Egwyddorion Gwaith Chwarae

Mae'r Egwyddorion hyn yn sefydlu fframwaith proffesiynol a moesegol ar gyfer gwaith chwarae ac mae angen felly  eu hystyried yn eu cyfanrwydd.  Maen nhw'n disgrifio’r hyn sy'n unigryw am chwarae a gwaith chwarae, ac yn rhoi sylw i weithio gyda phlant a phobl ifanc o safbwynt gwaith chwarae. Mae'r safonau yn seiliedig ar y gydnabyddiaeth y bydd modd i blant a phobl ifanc ddatblygu'n well os cawn nhw'r dewis ehangaf posib o gyfleoedd chware a mannau i chwarae ynddyn nhw.

  1. Mae angen i bob plentyn a pherson ifanc chwarae. Mae chwarae yn rhywbeth greddfol a chynhenid. Mae chwarae yn anghenraid biolegol, seicolegol a chymdeithasol, ac mae'n hanfodol i les a datblygiad pobl a chymunedau.

  2. Mae chwarae yn broses wirfoddol, bersonol ac yn cael ei wneud er ei fwyn ei hun.  Hynny ydy, mae plant a phobl ifanc yn penderfynu ac yn siapio beth a pham maen nhw'n chwarae, drwy ddilyn eu cyneddfau, eu syniadau a'u diddordebau eu hunain, yn eu ffordd eu hunain ac am eu rhesymau eu hunain.

  3. Prif amcan a hanfod gwaith chwarae ydy cefnogi a hwyluso'r broses o chwarae. Dylai hyn ddylanwadu ar ddatblygiad polisïau, strategaethau, hyfforddiant ac addysg yn ymwneud â chwarae.

  4. Y broses chwarae sydd bwysicaf i weithwyr chwarae, ac maen nhw’n eiriol dros chwarae wrth ymwneud â sefyllfaoedd sy'n edrych ar bethau drwy lygaid oedolion.

  5. Swyddogaeth y gweithiwr chwarae ydy cefnogi pob plentyn a pherson ifanc i greu man lle mae modd iddyn nhw chwarae.

  6. Mae ymateb gweithwyr chwarae i'r ffordd mae plant a phobl ifanc yn chwarae yn seiliedig ar ddealltwriaeth gadarn a chyfoes o'r broses chwarae, ac o adlewyrchu ar eu profiadau eu hunain.

  7. Mae gweithwyr chwarae yn adnabod yr effaith maen nhw’n ei chael ar y lle chwarae a hefyd yr effaith mae chwarae'r plant a'r bobl ifanc yn ei gael ar y gweithiwr chwarae.

  8. Mae gweithwyr chwarae yn dewis ymyrryd mewn ffordd sy'n caniatáu i blant a phobl ifanc ehangu eu chwarae.  Pob tro mae gweithiwr chwarae yn ymyrryd, rhaid iddo gydbwyso'r perygl o wneud hynny gyda'r fantais i les a datblygiad y plant.

Caiff yr Egwyddorion Gwaith Chwarae eu dal mewn ymddiriedaeth gan y Grŵp Craffu ar gyfer Proffesiwn Gwaith Chwarae y Deyrnas Gyfunol. Bu’r Grŵp Craffu yn gweithredu fel canolwr di-duedd ac yn goruchwylio'r broses ymgynghori lle cafodd y safonau eu llunio.


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Darpariaeth chwarae gynhwysol
Darpariaeth sydd ar gael ac yn hwylus i bawb, ac sy’n gwneud ymdrech i gael gwared ar rwystrau, fel bod modd i bob plentyn a pherson ifanc gymryd rhan

Anghenion chwarae
Yr hyn sydd ei angen ar bob plentyn a pherson ifanc er mwyn gallu
chwarae, ond na allan nhw o hyd eu cael am amryw o resymau, er
enghraifft, diffyg mynegid, oedolion gor-amddifynnol, diffyg mannau awyr agored ac ati

Darpariaeth chwarae
Mannau wedi  eu creu gan oedolion lle mae modd i blant a phobl ifanc chwarae

Man chwarae
Man chwarae sy’n cael ei ffurfio gan blant a phobl ifanc. Mae modd iddo fod yn faterol, yn ymwneud â theimladau neu emosiynau, fod yn barhaol, dros dro neu yn ymwneud â’r byd seibr

Lleoliad gwaith chwarae
Rhywle lle mae cyfle i blant a phobl ifanc chwarae a lle mae gweithwyr chwarae yn gweithio

Darpariaeth chwarae neilltuedig
Neilltuo plant a phobl ifanc anabl, yn seiliedig ar farn gweithiwr proffesiynol ynghylch nam neu ‘wahaniaeth’.  Mae gan weithwyr
proffesiynol nad ydyn nhw’n anabl reolaeth lwyr

Darpariaeth chwarae ar wahân
Grwpiau o blant a phobl ifanc anabl sy’n dewis cyfarfod a datblygu eu hagenda eu hunain, yn debyg i grwpiau lleiafrifol eraill

Staff
Y bobl rydych chi’n gweithio gyda nhw, y bobl rydych chi’n gyfrifol amdanyn nhw, gweithwyr cyflog neu wirfoddol, myfyrwyr neu o dan hyfforddiant


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Maw 2021

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SkillsActive

URN gwreiddiol

Newydd

Galwedigaethau Perthnasol

Iechyd, Gofal a Gwasanaethau Cyhoeddus, Lles a Datblygiad Plentyn, Gweithwyr Proffesiynol y meysydd hyn a phobl mewn swyddi technolegol, Gweithwyr Chwaraeon a Ffitrwydd

Cod SOC


Geiriau Allweddol

gwaith chwarae, chwarae yn ôl dewis a dymuniad; lleoliad gwaith chwarae; plant a phobl ifanc