Cyfrannu at redeg lleoliad gwaith chwarae

URN: SKAPW67
Sectorau Busnes (Suites): Gwaith Chwarae
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 01 Chwef 2016

Trosolwg

​Mae a wnelo’r safon hon â chyfrannu at redeg lleoliad gwaith chwarae a’r gwaith cynnal a chadw sydd ynghlwm â darparu lle iach a diogel i chwarae.

Prif ddeilliannau’r safon hon ydy:

  1. cyfrannu at ddatblygu’r lleoliad gwaith chwarae
  2. cyfrannu at gynnal a chadw y lleoliad gwaith chwarae
  3. cyfrannu at sicrhau fod y lleoliad gwaith chwarae yn lle iach a diogel

Mae’r safon hon ar gyfer gweithwyr chwarae sy’n gweithio’n uniongyrchol gyda phlant a phobl ifanc mewn lleoliad gwaith chwarae ac sy’n gyfrifol yn bennaf am roi cyfleoedd i blant chwarae fel maen nhw’n dewis ac yn dymuno ei wneud. Mae’r safon ar gyfer staff nad ydyn nhw’n llwyr gyfrifol am y lleoliad gwaith chwarae ond sy’n gwneud cyfraniad allweddol i gefnogi chwarae.
Mae’r safon ar gyfer staff sy’n rhannol gyfrifol am y lleoliad gwaith ac eraill, ac sy’n gwneud cyfraniad allweddol i gefnogi chwarae.

*Mae’r safon hon yn ategu’r Egwyddorion Gwaith Chwarae. Mae angen i weithwyr chwarae fod yn gyfarwydd â’r rhain, a lle bo’n bosib, eu defnyddio wrth eu gwaith ac wrth adlewyrchu. *


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

Cyfrannu at ddatblygu’r lleoliad gwaith chwarae

  1. cynnig darpariaeth chwarae yn unol â pholisïau a gweithdrefnau cyfreithiol a sefydliadol
  2. cefnogi eraill i sefydlu a chynnal y lleoliad gwaith chwarae i gwrdd ag anghenion chwarae’r plant a’r bobl ifanc
  3. bod yn gyfrifol am reoli risg
  4. cofnodi a ffeilio asesiadau risg-manteision
  5. helpu i gadw cofnodion yn unol â pholisïau a gweithdrefnau eich sefydliad
  6. darparu lleoliad gwaith chwarae sy’n adlewyrchu ac yn hyrwyddo amrywiaeth ac sy’n cynnwys pawb
  7. darparu gwybodaeth i bobl ac asiantaethau awdurdodedig yn unol â pholisïau a gweithdrefnau eich sefydliad
  8. cefnogi plant a phobl ifanc i addasu a newid y man chwarae
  9. helpu i greu diwylliant lle mae staff, plant a phobl ifanc yn cyfrannu at y broses o greu mannau chwarae newydd a chyfoethog fel rhan o’r lleoliad gwaith chwarae.   

Cyfrannu at gynnal a chadw y lleoliad gwaith chwarae

  1. darparu adnoddau y gall pob plentyn a pherson ifanc eu defnyddio
  2. gwirio fod y lleoliad gwaith chwarae yn hygyrch a bod modd i bawb ei ddefnyddio
  3. gwirio’r safle gyda staff yn unol â pholisïau a gweithdrefnau eich sefydliad
  4. trefnu, gwirio a chofnodi fod y gwaith cynnal a chadw yn digwydd fel bo angen
  5. monitro a chynnal yr offer a’r lleoliad gwaith chwarae yn unol â pholisïau a gweithdrefnau eich sefydliad.
  6. darparu lleoliad gwaith chwarae sy’n cefnogi lles pob plentyn a pherson ifanc

*Cyfrannu at sicrhau fod y lleoliad gwaith chwarae yn lle iach a diogel
*


*16. helpu i sicrhau fod plant a phobl ifanc yn iach a diogel
17. gweithio gydag *
eraill
i gadw at weithdrefnau iechyd a diogelwch, gan roi help a chefnogaeth iddyn nhw pan fo angen
18. helpu i gadw cofnodion ynglŷn ag anghenion iechyd a diogelwch eich lleoliad gwaith chwarae yn unol â pholisïau a gweithdrefnau cyfreithiol a sefydliadol
19. darparu gwybodaeth ynghylch y gweithdrefnau iechyd a diogelwch i’r holl blant, pobl ifanc ac oedolion sy’n defnyddio’r lleoliad gwaith chwarae
20. goruchwylio’r plant a’r bobl ifanc, gan ystyried maint y risg, anghenion y plentyn neu’r person ifanc, eu dymuniadau a lefel eu datblygiad
21. helpu plant a phobl ifanc i reoli risg drostyn nhw eu hunain ac i fod yn ymwybodol o’u diogelwch nhw eu hun ynghyd â diogelwch eraill
22. helpu i adolygu gweithdrefnau iechyd a diogelwch eich sefydliad fel bo angen
23. rhoi gweithdrefnau ar waith ar gyfer damweiniau, anafiadau, salwch neu achosion eraill o argyfwng
24. helpu eraill gyda’u gweithdrefnau mynediad yn unol â pholisïau a gweithdrefnau cyfreithiol a sefydliadol
25. cyfrannu at bolisïau a gweithdrefnau cyfrinachedd eich sefydliad o ran pwy sydd â hawl i weld gwybodaeth


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

*​Cyfrannu at ddatblygu’r lleoliad gwaith chwarae       *     

  1. yr Egwyddorion Gwaith Chwarae sy’n rhan o fframwaith proffesiynol a moesegol gwaith chwarae a sut mae modd cymhwyso pob un o’r egwyddorion i’ch gwaith chi
  2. sut i gefnogi eraill i sefydlu a chynnal y lleoliad gwaith chwarae i
    gwrdd ag anghenion chwarae plant a phobl ifanc
  3. cyfrifoldebau rheoli risg
  4. y gwahaniaethau rhwng asesiadau risg ffurfiol ac asesiadau risg-manteision dynamig
  5. sut i wneud, cofnodi ac adlewyrchu ar asesiadau risg-manteision
    dynamig
  6. damcaniaethau a modelau rheoli risg ar gyfer y lleoliad gwaith
    chwarae
  7. pwysigrwydd arsylwi’r chwarae yn y lleoliad gwaith chwarae
  8. pwysigrwydd sicrhau eich bod yn adlewyrchu ar eich arsylwi er mwyn gwella’ch gwaith chwarae
  9. sut i gadw cofnodion yn unol â pholisïau a gweithdrefnau’ch sefydliad a phwysigrwydd sicrhau eu bod yn gyflawn, yn ddealladwy ac yn gyfredol
  10. pwysigrwydd amrywiaeth a chynnwys pawb yn y lleoliad gwaith chwarae
  11. y modelau a’r arferion da presennol sy’n ymwneud â chynhwysiant
  12. y modelau cymdeithasol a meddygol o anabledd a’r gwahaniaethau rhyngddyn nhw
  13. ffyrdd o adnabod a goresgyn y pethau hynny sy’n rhwystro pobl rhag cymryd rhan yn y lleoliad gwaith chwarae
  14. sut i gefnogi amrywiaeth a chynhwysiant drwy eich geiriau,
    gweithredoedd ac ymddygiad yn y lleoliad gwaith chwarae
  15. sut i hyrwyddo’r lleoliad gwaith chwarae i blant, pobl ifanc, rhieni a gofalwyr sydd o bosib yn wynebu rhwystrau rhag cymryd rhan
  16. y mathau o gefnogaeth fydd o bosib ei hangen ar blant a phobl ifanc er mwyn gwneud y defnydd gorau o’r lleoliad gwaith chwarae
  17. polisïau a gweithdrefnau’ch sefydliad  o ran darparu
    gwybodaeth i bobl ac asiantaethau awdurdodedig a’r math o
    wybodaeth y gellir fod angen ei darparu
  18. pwysigrwydd cadw cofnodion yn gyfrinachol yn unol â pholisïau a gweithdrefnau cyfreithiol a sefydliadol a’r math o wybodaeth y gellir bod angen ei darparu
  19. ffyrdd o gefnogi plant a phobl ifanc i addasu a newid y lleolid gwaith chwarae
  20. ffyrdd o feithrin diwylliant ymhlith y staff, y plant a’r bobl ifanc i gael pawb yn rhan o’r broses o greu mannau chwarae newydd,
    cyfoethocach fel rhan o’r lleoliad gwaith chwarae

Cyfrannu at gynnal a chadw y lleoliad gwaith chwarae

21.ffyrdd o wneud yn siŵr fod yna adnoddau y mae modd i bob plentyn a pherson ifanc eu defnyddio
22. ffyrdd o sicrhau fod y lleoliad gwaith chwarae yn hwylus ac yn addas i bawb
23. polisïau a gweithdrefnau’ch sefydliad o ran gwirio’r safle
24. sut i wneud yn siŵr fod gwaith cynnal a chadw yn cael ei
gwblhau yn unol â gweithdrefnau cyfreithiol a sefydliadol
25. polisïau a gweithdrefnau’ch sefydliad o ran gwirio a chynnal a chadw offer
26. pwysigrwydd sicrhau fod yna ddiwylliant o newid ac amrywiaeth yn y lleoliad gwaith chwarae ac o fewn y tîm i gwrdd ag anghenion pob plentyn a pherson ifanc
27. pwysigrwydd sicrhau fod y lleoliad gwaith chwarae yn cefnogi lles pob plentyn a pherson ifanc
28. sut i ymwneud gyda phlant a phobl ifanc i greu mannau chwarae
29. yr angen i sicrhau bod modd darparu’r cyfleoedd chwarae y gofynnir amdanyn nhw *
*

*
*

*
*

*
*

Cyfrannu at sicrhau fod y lleoliad gwaith chwarae yn lle iach a diogel

*
*

*30. eich cyfrifoldeb o ran iechyd a diogelwch plant a phobl ifanc
31. y polisïau a’r gweithdrefnau statudol, rheolaethol a sefydliadol ar gyfer diogelwch plant, pobl ifanc ac *
eraill
yn eich lleoliad gwaith
chwarae
32. cytundebau cyfrinachedd gyda rhieni a gofalwyr
33. pam ei bod hi’n bwysig fod pawb sy’n defnyddio’r lleoliad gwaith chwarae – yn blant, bobl ifanc a staff – yn cael gwybodaeth ynglŷn â gweithdrefnau iechyd a diogelwch
34. camau datblygu plant a phobl ifanc a goblygiadau hyn ar drefniadau iechyd a diogelwch
35. pam ei bod hi’n bwysig fod plant a phobl ifanc yn rheoli risg drostyn nhw eu hunain yn unol â’u hanghenion, dymuniadau a lefel eu datblygiad, a’u bod yn ymwybodol o’u diogelwch eu hunain a
diogelwch pobl eraill
36. ffyrdd o adolygu a diwygio polisïau a gweithdrefnau iechyd a
diogelwch eich sefydliad
37. y trefniadau o ran damweiniau, anafiadau, salwch ac achosion eraill o argyfwng, a sut i weithredu’r rhain
38. gweithdrefnau cyfreithiol a sefydliadol o ran cadw a rhoi
meddyginiaethau
39. polisïau a gweithdrefnau sefydliadol a chyfreithiol yn ymwneud â chodi a chario a’r peryglon sy’n gysylltiedig â hynny
40. cynnwys blwch cymorth cyntaf
41. arwyddion a symptomau afiechydon ac alergeddau sy’n gyffredin ymysg plant, a pholisïau a gweithdrefnau eich sefydliad o
ran ymateb i’r rhain
42. gwirio diogelwch - tu mewn a thu allan – cyn, yn ystod ac ar ôl
gweithgareddau gwaith
43. arferion hylendid da, i osgoi’r perygl o drosglwyddo haint


Cwmpas/ystod



Cwmpas Perfformiad

Eraill
1. staff
2. ymwelwyr
3. rhieni a / neu ofalwyr

Gwybodaeth (o leiaf 4 allan o 6)
1. cefndir
2. anghenion dietegol
3. alergeddau
4. gofynion gofal personol
5. trefniadau cyrraedd a gadael
6. cofnodion y sefydliad



Gwybodaeth Cwmpas

Eraill
1. staff
2. ymwelwyr
3. rhieni a / neu ofalwyr

Rhwystrau rhag cymryd rhan
1. agweddau
2. y lleoliad
3. sefydliadol
*
*

*
*

Gwybodaeth
1. cefndir
2. anghenion dietegol
3. alergeddau
4. gofynion gofal personol
5. trefniadau cyrraedd a gadael
6. cofnodion y sefydliad

*
*

*
*

Achosion o argyfwng
1. tân
2. plant ar goll
3. gorfod gadael y lleoliad
*
*

*
*

*
*

Gwirio diogelwch
1. cyfleusterau ac offer
2. y tai bach a’r mannau ymolchi
3. sut mae plant a phobl ifanc yn symud a beth maen nhw’n ei
chwarae

Arferion hylendid da
1. systemau priodol i gael gwared ar wahanol fathau o wastraff
2. trin bwyd
3. trin hylifau corfforol
4. afiechydon heintus ac afiechydon mae modd eu trosglwyddo
drwy’r gwaed


Gwerthoedd

​Mae'r Gweithwyr Chwarae oedd yn rhan o ysgrifennu'r safon hon, law yn llaw â SkillsActive, wedi cytuno i fabwysiadu'r canlynol fel y gwerthoedd fydd yn berthnasol i bawb sy'n gweithio yn y sector gwaith chwarae.

Egwyddorion Gwaith Chwarae

Mae'r Egwyddorion hyn yn sefydlu fframwaith proffesiynol a moesegol ar gyfer gwaith chwarae ac mae angen felly  eu hystyried yn eu cyfanrwydd.  Maen nhw'n disgrifio’r hyn sy'n unigryw am chwarae a gwaith chwarae, ac yn rhoi sylw i weithio gyda phlant a phobl ifanc o safbwynt gwaith chwarae. Mae'r safonau yn seiliedig ar y gydnabyddiaeth y bydd modd i blant a phobl ifanc ddatblygu'n well os cawn nhw'r dewis ehangaf posib o gyfleoedd chware a mannau i chwarae ynddyn nhw.

  1. Mae angen i bob plentyn a pherson ifanc chwarae. Mae chwarae yn rhywbeth greddfol a chynhenid. Mae chwarae yn anghenraid biolegol, seicolegol a chymdeithasol, ac mae'n hanfodol i les a datblygiad pobl a chymunedau.

  2. Mae chwarae yn broses wirfoddol, bersonol ac yn cael ei wneud er ei fwyn ei hun.  Hynny ydy, mae plant a phobl ifanc yn penderfynu ac yn siapio beth a pham maen nhw'n chwarae, drwy ddilyn eu cyneddfau, eu syniadau a'u diddordebau eu hunain, yn eu ffordd eu hunain ac am eu rhesymau eu hunain.

  3. Prif amcan a hanfod gwaith chwarae ydy cefnogi a hwyluso'r broses o chwarae. Dylai hyn ddylanwadu ar ddatblygiad polisïau, strategaethau, hyfforddiant ac addysg yn ymwneud â chwarae.

  4. Y broses chwarae sydd bwysicaf i weithwyr chwarae, ac maen nhw’n eiriol dros chwarae wrth ymwneud â sefyllfaoedd sy'n edrych ar bethau drwy lygaid oedolion.

  5. Swyddogaeth y gweithiwr chwarae ydy cefnogi pob plentyn a pherson ifanc i greu man lle mae modd iddyn nhw chwarae.

  6. Mae ymateb gweithwyr chwarae i'r ffordd mae plant a phobl ifanc yn chwarae yn seiliedig ar ddealltwriaeth gadarn a chyfoes o'r broses chwarae, ac o adlewyrchu ar eu profiadau eu hunain.

  7. Mae gweithwyr chwarae yn adnabod yr effaith maen nhw’n ei chael ar y lle chwarae a hefyd yr effaith mae chwarae'r plant a'r bobl ifanc yn ei gael ar y gweithiwr chwarae.

  8. Mae gweithwyr chwarae yn dewis ymyrryd mewn ffordd sy'n caniatáu i blant a phobl ifanc ehangu eu chwarae.  Pob tro mae gweithiwr chwarae yn ymyrryd, rhaid iddo gydbwyso'r perygl o wneud hynny gyda'r fantais i les a datblygiad y plant.

Caiff yr Egwyddorion Gwaith Chwarae eu dal mewn ymddiriedaeth gan y Grŵp Craffu ar gyfer Proffesiwn Gwaith Chwarae y Deyrnas Gyfunol. Bu’r Grŵp Craffu yn gweithredu fel canolwr di-duedd ac yn goruchwylio'r broses ymgynghori lle cafodd y safonau eu llunio.


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Rhwystrau rhag cymryd rhan
Pethau sy’n rhwystro plant rhag chwarae, neu’n eu hannog i beidio â gwneud. Fe all y rhain gynnwys rhwystrau materol i blant a phobl ifanc, ond fe allan nhw hefyd gynnwys cylch ehangach o faterion fel rhagfarn, diffyg delweddau cadarnhaol, diffyg gweithgareddau ac anghenion sy’n rhan o ddiwylliant rhywun, rhwystrau ieithyddol a sawl ffactor arall sy’n effeithio ar wahanol gymunedau o bobl.

Anghenion chwarae
Beth sydd ei angen ar blant a phobl ifanc er mwyn iddyn nhw allu chware, ond na allan nhw eu cael o hyd am amryw o resymau; er enghraifft, diffyg mynediad, oedolion gor-amddiffynol, diffyg mannau awyr agored ac ati.

Darpariaeth chwarae
Mannau wedi eu creu gan oedolion ble mae modd i blant a phobl ifanc chwarae.

Man chwarae
Man chwarae sy’n cael ei ffurfio gan blant a phobl ifanc. Mae modd iddo fod yn faterol, yn ymwneud â theimladau neu emosiynau, fod yn barhaol, dros dro neu yn ymwneud â’r byd seibr.

Lleoliad gwaith chwarae
Rhywle lle mae cyfle i blant a phobl ifanc chwarae a lle mae gweithwyr chwarae yn gweithio.

Staff
Mae hyn yn cynnwys y bobl rydych chi’n gweithio gyda nhw, rydych chi’n gyfrifol amdanyn nhw, cyflogedig a neu wirfoddol, myfyrwyr neu dan hyfforddiant.


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Maw 2021

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SkillsActive

URN gwreiddiol

Newydd

Galwedigaethau Perthnasol

Iechyd, Gofal a Gwasanaethau Cyhoeddus, Lles a Datblygiad Plentyn, Gweithwyr Proffesiynol y meysydd hyn a phobl mewn swyddi technolegol, Gweithwyr Chwaraeon a Ffitrwydd

Cod SOC


Geiriau Allweddol

cyfrannu; lleoliad gwaith chwarae; cynnal a chadw; datblygu; iechyd a diogelwch