Cyfrannu at weinyddu gwaith chwarae

URN: SKAPW59
Sectorau Busnes (Suites): Gwaith Chwarae
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 01 Chwef 2016

Trosolwg

​Mae a wnelo’r safon hon â gwneud tasgau gweinyddol cyffredinol yn y lleoliad gwaith chwarae ac mae’n ymwneud â chyllid, gwybodaeth a chadw cofnodion.

Prif ddeilliannau’r safon hon ydy:

  1. prosesu trafodion ariannol
  2. darparu a chasglu gwybodaeth sy’n berthnasol i’r lleoliad gwaith chwarae
  3. cadw cofnodion

Mae’r safon hon ar gyfer gweithwyr chwarae sy’n gweithio’n uniongyrchol gyda phlant a phobl ifanc mewn lleoliad gwaith chwarae ac sy’n gyfrifol yn bennaf am roi cyfleoedd i blant chwarae fel maen nhw’n dewis ac yn dymuno ei wneud. Mae’r safon ar gyfer staff nad ydyn nhw’n llwyr gyfrifol am y lleoliad gwaith chwarae ond sy’n gwneud cyfraniad allweddol i gefnogi chwarae.

*Mae’r safon hon yn ategu’r Egwyddorion Gwaith Chwarae. Mae angen i weithwyr chwarae fod yn gyfarwydd â’r rhain, a lle bo’n bosib, eu defnyddio wrth eu gwaith ac wrth adlewyrchu. *


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

Prosesu trafodion ariannol

  1. cofnodi manylion y trafodion
  2. cyfrifo’n fanwl-gywir
  3. rhoi a derbyn derbynebion
  4. cadw arian, sieciau, cofnodion a derbynebion yn ddiogel
  5. cyfeirio unrhyw faterion cyllidol at yr unigolyn priodol yn ddi-oed
  6. dilyn gweithdrefnau ariannol eich sefydliad

Darparu a chasglu gwybodaeth sy’n berthnasol i’r lleoliad gwaith  chwarae

  1. ymateb i gwestiynau ynghylch y trefniadau i blant a phobl ifanc sy’n dod i’r lleoliad gwaith chwarae
  2. casglu’r wybodaeth angenrheidiol ynghylch y plant, y bobl ifanc a’u teuluoedd
  3. cofnodi’r wybodaeth hon yn unol â gofynion cyfreithiol ac â pholisïau a gweithdrefnau’ch mudiad
  4. trosglwyddo’r wybodaeth i’r gweithiwr sy’n gyfrifol amdano yn unol â gweithdrefnau’ch mudiad

Cadw cofnodion

  1. cadw’r cofnodion yn unol â’r hyn sy’n ddisgwyliedig o ran cyfrinachedd, gofynion cyfreithiol a pholisïau a gweithdrefnau’ch mudiad
  2. cyfyngu ar bwy sy’n medru gweld y cofnodion yn unol â’r hyn sy’n ddisgwyliedig o ran cyfrinachedd, gofynion cyfreithiol a pholisïau a gweithdrefnau’ch mudiad
  3. darparu gwybodaeth i bobl awdurdodedig ar gais

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Prosesu trafodion ariannol

  1. yr Egwyddorion Gwaith Chwarae sy’n rhan o fframwaith proffesiynol a moesegol gwaith chwarae a sut mae modd cymhwyso pob un o’r egwyddorion i’ch gwaith chi
  2. pam ei bod hi’n bwysig prosesu trafodion yn unol â pholisïau a
    gweithdrefnau’ch mudiad a beth allai ddigwydd os nad ydych chi’n
    gwneud hyn
  3. sut i gofnodi trafodion ariannol yn unol â gofynion cyfreithiol ac â pholisïau a gweithdrefnau’ch mudiad
  4. pam ei bod hi’n bwysig rhoi a chadw derbynebion
  5. pam ei bod hi’n bwysig cadw arian, sieciau, cofnodion a derbynebion yn ddiogel
  6. pa weithiwr ddylech chi gyfeirio materion ariannol atyn nhw
  7. materion sy’n debygol o godi gyda chyllid a thrafodion ariannol

Darparu a chasglu gwybodaeth sy’n berthnasol i’r lleoliad gwaith chwarae

  1. yr ymholiadau posib all godi a sut orau i ymdrin â nhw
  2. ymholiadau y gellir fod angen eu cyfeirio at rywun arall, ac at bwy
  3. yr wybodaeth sydd angen ei chasglu am blant a’u teuluoedd, a pham
  4. pam ei bod hi’n bwysig cofnodi gwybodaeth yn unol a gofynion cyfreithiol ac â pholisïau a gweithdrefnau’ch mudiad

Cadw cofnodion

  1. eich cyfrifoldeb o ran deddfwriaeth yn ymwneud â gwarchod data
  2. pam ei bod hi’n bwysig cadw gwybodaeth yn ddiogel ond mewn modd mae dod o hyd iddyn nhw’n gyflym
  3. pwysigrwydd cyfrinachedd a rhannu gwybodaeth yn unol â gofynion cyfreithiol ac â pholisïau a gweithdrefnau’ch mudiad

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad

Cofnodion (lleiafswm o 5 allan o 8)
1. plant a’u teuluoedd, gan gynnwys trefniadau cyrraedd a gadael
2. gofynion meddygol plant a phobl ifanc penodol
3. cofrestr presenoldeb
4. damweiniau a /neu ddigwyddiadau
5. tripiau ac ymweliadau
6. ffurflenni cofrestru
7. manylion cyswllt mewn argyfwng
8. gweinyddu sesiwn chwarae

Trefniadau (isafswm o 5 allan o 9)
1. ystod oedran
2. amserau agor
3. costau
4. argaeledd
5. lle
6. cynhwysiant
7. bwyd a diod
8. trafnidiaeth
9. cyrraedd a / neu gyfyngiadau ynglŷn â gadael


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd

​Mae'r Gweithwyr Chwarae oedd yn rhan o ysgrifennu'r safon hon, law yn llaw â SkillsActive, wedi cytuno i fabwysiadu'r canlynol fel y gwerthoedd fydd yn berthnasol i bawb sy'n gweithio yn y sector gwaith chwarae.

Egwyddorion Gwaith Chwarae

Mae'r Egwyddorion hyn yn sefydlu fframwaith proffesiynol a moesegol ar gyfer gwaith chwarae ac mae angen felly  eu hystyried yn eu cyfanrwydd.  Maen nhw'n disgrifio’r hyn sy'n unigryw am chwarae a gwaith chwarae, ac yn rhoi sylw i weithio gyda phlant a phobl ifanc o safbwynt gwaith chwarae. Mae'r safonau yn seiliedig ar y gydnabyddiaeth y bydd modd i blant a phobl ifanc ddatblygu'n well os cawn nhw'r dewis ehangaf posib o gyfleoedd chware a mannau i chwarae ynddyn nhw.

  1. Mae angen i bob plentyn a pherson ifanc chwarae. Mae chwarae yn rhywbeth greddfol a chynhenid. Mae chwarae yn anghenraid biolegol, seicolegol a chymdeithasol, ac mae'n hanfodol i les a datblygiad pobl a chymunedau.

  2. Mae chwarae yn broses wirfoddol, bersonol ac yn cael ei wneud er ei fwyn ei hun.  Hynny ydy, mae plant a phobl ifanc yn penderfynu ac yn siapio beth a pham maen nhw'n chwarae, drwy ddilyn eu cyneddfau, eu syniadau a'u diddordebau eu hunain, yn eu ffordd eu hunain ac am eu rhesymau eu hunain.

  3. Prif amcan a hanfod gwaith chwarae ydy cefnogi a hwyluso'r broses o chwarae. Dylai hyn ddylanwadu ar ddatblygiad polisïau, strategaethau, hyfforddiant ac addysg yn ymwneud â chwarae.

  4. Y broses chwarae sydd bwysicaf i weithwyr chwarae, ac maen nhw’n eiriol dros chwarae wrth ymwneud â sefyllfaoedd sy'n edrych ar bethau drwy lygaid oedolion.

  5. Swyddogaeth y gweithiwr chwarae ydy cefnogi pob plentyn a pherson ifanc i greu man lle mae modd iddyn nhw chwarae.

  6. Mae ymateb gweithwyr chwarae i'r ffordd mae plant a phobl ifanc yn chwarae yn seiliedig ar ddealltwriaeth gadarn a chyfoes o'r broses chwarae, ac o adlewyrchu ar eu profiadau eu hunain.

  7. Mae gweithwyr chwarae yn adnabod yr effaith maen nhw’n ei chael ar y lle chwarae ac hefyd yr effaith mae chwarae'r plant a'r bobl ifanc yn ei gael ar y gweithiwr chwarae.

  8. Mae gweithwyr chwarae yn dewis ymyrryd mewn ffordd sy'n caniatáu i blant a phobl ifanc ehangu eu chwarae.  Pob tro mae gweithiwr chwarae yn ymyrryd, rhaid iddo gydbwyso'r perygl o wneud hynny gyda'r fantais i les a datblygiad y plant.

Caiff yr Egwyddorion Gwaith Chwarae eu dal mewn ymddiriedaeth gan y Grŵp Craffu ar gyfer Proffesiwn Gwaith Chwarae y Deyrnas Gyfunol. Bu’r Grŵp Craffu yn gweithredu fel canolwr di-duedd ac yn goruchwylio'r broses ymgynghori lle cafodd y safonau eu llunio.


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Man chwarae

Man chwarae sy'n cael ei ffurfio gan blant a phobl ifanc. Mae modd iddo fod yn gorfforol, yn ymwneud â theimladau neu emosiynau, fod yn barhaol, dros dro neu yn ymwneud â'r byd seibr.

Lleoliad gwaith chwarae

Rhywle lle mae cyfle i blant a phobl ifanc chwarae a lle mae gweithwyr chwarae yn gweithio.


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Maw 2021

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SkillsActive

URN gwreiddiol

SKAPW31

Galwedigaethau Perthnasol

Iechyd, Gofal a Gwasanaethau Cyhoeddus, Lles a Datblygiad Plentyn, Gweithwyr Proffesiynol y meysydd hyn a phobl mewn swyddi technolegol, Gweithwyr Chwaraeon a Ffitrwydd

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Cyfrannu; gweinyddu; gwaith chwarae