Adnabod pryderon diogelu mewn perthynas â phlant a phobl ifanc yn y lleoliad gwaith chwarae

URN: SKAPW54
Sectorau Busnes (Suites): Gwaith Chwarae
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 01 Chwef 2016

Trosolwg

​Mae’r safon hon yn dynodi’r gofynion sy’n berthnasol i ddiogelu ac a ddylai fod yn rhan annatod o’ch holl waith gyda phlant a phobl ifanc. Mae’r safon yn rhoi sylw i’r angen i ddeall diogelwch a’r hyn sydd angen ei wneud mewn achosion o niwed neu gam-drin posib neu  wirioneddol

Mae a wnelo’r safon hefyd â’r angen i ddatblygu perthnasau sy’n hyrwyddo diogelu, hyrwyddo hawliau a chynhwysiant, gweithio mewn ffyrdd sy’n hyrwyddo lles a chenogi plant a phobl ifanc i gadw eu hunain yn ddiogel.

Prif ddeilliannau’r safon hon ydy:


  1. adnabod pryderon diogelwch
  2. cyfrannu at y gwaith o ddiogelu plant a phobl ifanc
  3. cefnogi plant a phobl ifanc i gadw eu hunain yn ddiogel

Mae’r safon hon ar gyfer gweithwyr chwarae sy’n gweithio’n uniongyrchol gyda phlant a phobl ifanc mewn lleoliad gwaith chwarae gyda’r prif fwriad o ddarparu cyfleoedd chwarae i blant a phobl ifanc y medran nhw eu dewis o’u gwirfodd a’u cymhelliad eu hunain. Argymhellir y dylai staff fod wedi derbyn lefel briodol o hyfforddiant diogelu plant a bod yn gyfarwydd gyda pholisïau a gweithdrefnau eu mudiad o ran ymdrin â sefyllfaoedd lle amheuir fod camdriniaeth yn digwydd, a sut i ddatgelu hynny.

*Mae’r safon hon yn ategol i’r ddogfen Egwyddorion Gwaith Chwarae. Mae angen i weithwyr chwarae fod yn gyfarwydd â’r rhain, a lle bo’n bosib, eu defnyddio wrth eu gwaith ac wrth adlewyrchu.   *


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

Adnabod pryderon diogelwch

  1. adnabod unrhyw arwyddion o bryderon diogelwch
  2. gwybod pwy ydy’r person dynodedig y buasech yn rhoi gwybod iddo am y p*ryderon diogelwch* yn unol â pholisïau a gweithdrefnau rheolaethol a rhai eich mudiad

Cyfrannu at ddiogelwch plant a phobl ifanc

  1. cadw golwg ar unrhyw newidiadau mawr yn iechyd emosiynol neu gorfforol, pryd a gwedd ac ymddygiad plant a phobl ifanc.
  2. dilyn y gweithdrefnau angenrheidiol o ran rhoi gwybod am unrhyw bryderon diogelwch ynglŷn â phlant a phobl ifanc ac unrhyw weithgarwch, ymddygiad neu sefyllfaoedd allai arwain at niwed neu gamdriniaeth
  3. defnyddio goruchwyliaeth a chefnogaeth i ystyried effaith niwed neu gamdriniaeth sy’n cael ei amau neu ei ddatgelu arnoch chi

Cefnogi plant a phobl ifanc i ddiogelu eu hunain

  1. hwyluso ymwybyddiaeth plant a phobl ifanc o ddiogelwch personol yn unol â’u dymuniadau, eu hanghenion a’u datblygiad
  2. hwyluso ymwybyddiaeth plant a phobl ifanc o’r peryglon sydd ynghlwm â chyfathrebu electronig yn unol â’u dymuniadau, eu hanghenion a’u datblygiad
  3. gweithio gyda phlant a phobl ifanc i’w helpu i ddeall bwlio a beth i’w wneud os mae’n digwydd, yn unol â’u dymuniadau, eu hanghenion a’u datblygiad
  4. cefnogi plant a phobl ifanc i ddeall pryd mae unrhyw blentyn, person ifanc neu oedolyn yn ymddwyn yn amhriodol tuag atyn nhw, yn unol â’u dymuniadau, eu hanghenion a’u datblygiad
  5. gweithio gyda plant a / neu bobl ifanc, pobl allweddol ac eraill i herio arferion allai arwain at niwed neu gamdriniaeth, yn unol â’u dymuniadau, eu hanghenion a’u datblygiad
  6. gweithio gyda phlant a / neu bobl ifanc ac eraill i gwyno neu leisio pryder,  yn unol â’u dymuniadau, eu hanghenion a’u datblygiad

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Adnabod anghenion diogelwch

  1. yr Egwyddorion Gwaith Chwarae sy’n rhan o fframwaith proffesiynol a moesegol gwaith chwarae a sut mae modd cymhwyso pob un o’r egwyddorion i’ch gwaith chi
  2. arwyddion o bryder ynghylch diogelwch plant a phobl ifanc
  3. sut i sylwi ar gyflwr corfforol ac ymddygiad plant a phobl ifanc mewn ffordd sy’n sensitif i’r unigolyn a’r sefyllfa
  4. sut i wahaniaethu rhwng arwyddion uniongyrchol a welsoch drosoch chi eich hun sy’n codi pryderon ynghylch diogelwch, a gwybodaeth a barnau eraill, a pham ei bod hi’n bwysig gwneud hyn mewn unrhyw adroddiad
  5. sut mae pryderon ynghylch diogelwch yn effeithio ar blant a phobl ifanc
  6. sut i ymateb pan fod plant a phobl ifanc yn datgelu rhywbeth sy’n codi pryderon ynghylch diogelwch
  7. pam ei bod hi’n bwysig ei gwneud hi’n glir i blant a / neu pobl ifanc fod yn rhaid dweud wrth rhywun arall os ydyn nhw yn datgelu rhywbeth sy’n codi pryderon am ddiogelwch
  8. yr angen i roi sicrwydd a chefnogaeth i blant a / neu bobl ifanc a sut i wneud hyn
  9. pam ei bod hi’n hanfodol cyfathrebu ar gyflymder y plentyn / person ifanc, ac i beidio â rhoi pwysan arnyn nhw na’u harwain i ddatgelu mwy nag y mae arnyn nhw eisiau ei wneud.
  10. pam ei bod hi’n bwysig bod yn ymwybodol o bryderon ynghylch diogelwch ac i leisio unrhyw bryderon o’r fath
  11. yr hyn sy’n angenrheidiol o dan deddfwriaeth yn ymwneud â gwarchod plant, diogelu a dyletswydd gofal a’r prosesau adrodd perthnasol
  12. y polisïau a’r gweithdrefnau rheolaethol a sefydliadol wrth adrodd ynghylch pryderon diogelwch a / neu wrth ddatgelu hynny
  13. sut i ysgrifennu adroddiad cryno, eglur a ffeithiol sy’n nodi tystiolaeth, yn unol ag amserlen y sefydliad, a sut mae cael cefnogaeth i wneud hyn
  14. trefniadau cwyno a phryd mae’r rhain yn berthnasol
  15. hawl yr unigolyn i godi a / neu ddatgelu pryderon ynghylch diogelwch mewn ffyrdd eraill
  16. pwysigrwydd deall pam y gall rhai plant a phobl ifanc fod yn fwy agored i gael eu cam-drin
  17. swyddogaeth y person dynodedig mewn perthynas a’r gweithdrefnau adrodd a sut i gysylltu â nhw
  18. swyddogaeth asiantaethau yn darparu cymorth a chefnogaeth
  19. cyfrinachedd mewn perthynas â rhannu gwybodaeth yn electronig, yn ysgrifenedig neu ar lafar
  20. ffyrdd o gadw golwg ar y mathau o weithgarwch, ymddygiad a sefyllfaoedd a all arwain at niwed neu gam-drin
  21. y mathau o newid mawr yn ymddygiad, pryd a gwedd, a iechyd corfforol neu emosiynol plant a / neu bobl ifanc
  22. y trefniadau ynghylch adrodd am bryderon ynghylch diogelwch plant a / neu bobl ifanc ac unrhyw weithgarwch, ymddygiad neu sefyllfa allai arwain at niwed neu gam-drin
  23. os oes niwed neu gam-drin yn cael ei ddatgelu neu ei amau, yna sut all hynny effeithio arnoch chi a phobl eraill a sut i gael goruchwyliaeth a chefnogaeth

Cefnogi plant a phobl ifanc i gadw eu hunain yn ddiogel

  1. sut i hyrwyddo ymwybyddiaeth y plant a / neu’r bobl ifanc o ddiogelwch personol yn unol â’u dymuniadau, eu hanghenion a’u datblygiad
  2. ffyrdd o hwyluso ymwybyddiaeth plant a phobl ifanc o’r peryglon sydd ynghlwm â chyfathrebu electronig yn unol â’u dymuniadau, eu hanghenion a’u datblygiad
  3. ffyrdd o weithio gyda phlant a phobl ifanc i’w helpu i ddeall bwlio a beth i’w wneud os mae’n digwydd, yn unol â’u dymuniadau, eu hanghenion a’u datblygiad
  4. sut i gefnogi plant a phobl ifanc i ddeall pryd mae unrhyw blentyn, person ifanc neu oedolyn yn ymddwyn yn amhriodol tuag atyn nhw, yn unol â’u dymuniadau, eu hanghenion a’u datblygiad
  5. ffyrdd o herio arferion allai arwain at niwed neu gamdriniaeth, yn unol â dymuniadau, a anghenion a datblygiad y plentyn a / neu’r person ifanc
  6. sut i gefnogi plant a / neu bobl ifanc ac eraill i gwyno neu leisio pryder,  yn unol â’u dymuniadau, eu hanghenion a’u datblygiad

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad

​Arwyddion
1. corfforol
2. ymddygiad

Pryderon diogelwch
1. corfforol
2. esgeulustod
3. emosiynol
4. rhywiol
5. bwlio

Cyfathrebu electronig
1. negesau
2. rhwydweithio cymdeithasol
3. gemau ar-lein
4. e-byst
5. ffonau symudol
6. y we


Gwybodaeth Cwmpas

Arwyddion
1. corfforol
2. ymddygiad

Pryderon diogelwch (KU2)
1. corfforol
2. esgeulustod
3. emosiynol
4. rhywiol
5. bwlio

Datgeliad
1. llawn
2. rhannol

Gweithdrefnau a pholisïau sefydliadol a rheolaethol
1. deddfwriaeth
2. codau ymddwyn
3. safonau
4. fframweithiau a chanllawiau yn berthnasol i’ch gwaith

Cyfathrebu electronig
1. negesau
2. rhwydweithio cymdeithasol
3. gemau ar-lein
4. e-byst
5. ffonau symudol
6. y we


Gwerthoedd

​Mae'r Gweithwyr Chwarae oedd yn rhan o ysgrifennu'r safon hon, law yn llaw â SkillsActive, wedi cytuno i fabwysiadu'r canlynol fel y gwerthoedd fydd yn berthnasol i bawb sy'n gweithio yn y sector gwaith chwarae.

Egwyddorion Gwaith Chwarae

Mae'r Egwyddorion hyn yn sefydlu fframwaith proffesiynol a moesegol ar gyfer gwaith chwarae ac yn hynny o beth fe ddylid eu hystyried yn eu cyfanrwydd.  Maen nhw'n disgrifio yr hyn sy'n unigryw am chwarae a gwaith chwarae, ac yn rhoi sylw i waith chwarae yng ngoleuni gweithio gyda phlant a phobl ifanc.  Mae'r safonau yn seiliedig ar yr adnabyddiaeth y bydd modd i blant a phobl ifanc ddatblygu'n well os cawn nhw'r dewis ehangaf posib o gyfleoedd chware a mannau i chwarae ynddyn nhw.

  1. Mae angen i bob plentyn a pherson ifanc chwarae. Mae chwarae yn rhywbeth greddfol a chynhenid. Mae chwarae yn anghenraid biolegol, seicolegol a chymdeithasol, ac mae'n hanfodol i les a datblygiad pobl a chymunedau.

  2. Mae chwarae yn broses wirfoddol, bersonol ac yn cael ei wneud er ei fwyn ei hun.  Hynny ydy, mae plant a phobl ifanc yn penderfynu ac yn siapio sut a pham maen nhw'n chwarae, drwy ddilyn eu cyneddfau, eu syniadau a'u diddordebau eu hunain, yn eu ffordd eu hunain ac am eu rhesymau eu hunain.

  3. Prif amcan a hanfod gwaith chwarae ydy cefnogi a hwyluso'r broses o chwarae. Dylai hyn ddylanwadu ar ddatblygiad polisïau, strategaethau, hyfforddiant ac addysg yn ymwneud â chwarae.

  4. Gyda gweithwyr chwarae, y broses chwarae sy'n cael blaenoriaeth ac mae gweithwyr chwarae yn gweithredu fel eiriolwyr chwarae wrth ymwneud ag agweddau sy'n edrych ar bethau drwy lygaid oedolion.

  5. Swyddogaeth y gweithiwr chwarae ydy cefnogi pob plentyn a pherson ifanc i greu man lle mae modd iddyn nhw chwarae.

  6. Mae ymateb gweithiwr chwarae i'r ffordd mae plant a phobl ifanc yn chwarae yn seiliedig ar ddealltwriaeth gadarn a chyfoes o'r broses chwarae, ac adlewyrchu ar ei brofiadau ei hun.

  7. Mae gweithwyr chwarae yn adnabod eu heffaith eu hunain ar y lle chwarae ac hefyd yr effaith mae chwarae'r plant a'r bobl ifanc yn ei gael ar y gweithiwr chwarae.

  8. Mae gweithwyr chwarae yn dewis ymyrryd mewn ffordd sy'n caniatáu i blant a phobl ifanc ehangu eu chwarae.  Pob tro mae gweithiwr chwarae yn ymyrryd, rhaid iddo gydbwyso'r perygl o wneud hynny gyda'r fantais i les a datblygiad y plant.

Caiff yr Egwyddorion Gwaith Chwarae eu dal mewn ymddiriedaeth ar gyfer Proffesiwn Gwaith Chwarae y Deyrnas Gyfunol gan y Grŵp Craffu. Roedd y grŵp hwn yn gweithredu fel canolwr onest oedd yn goruchwylio'r ymgynghoriadau lle cafodd y safonau eu llunio.


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Pobl allweddol
Fe all hyn gynnwys staff; rydych chi’n gweithio gyda nhw, yn gyfrifol amdanyn nhw, cyflogedig a / neu wirfoddol, neu fyfyrwyr a  / neu weithwyr dan hyfforddiant; gweithwyr proffesiynol eraill, gweithwyr cefnogi a staff asiantaethau

Man chwarae
Man chwarae sy’n cael ei ffurfio gan blant a phobl ifanc. Mae modd iddo fod yn gorfforol, yn ymwneud â theimladau neu emosiynau, fod yn barhaol, dros dro neu yn ymwneud â’r byd seibr.

Lleoliad gwaith chwarae
Rhywle lle mae cyfle i blant a phobl ifanc chwarae a lle mae gweithwyr chwarae yn gweithio.


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Maw 2021

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SkillsActive

URN gwreiddiol

SKAPW12

Galwedigaethau Perthnasol

Iechyd, Gofal a Gwasanaethau Cyhoeddus, Lles a Datblygiad Plentyn, Gweithwyr Proffesiynol y meysydd hyn a phobl mewn swyddi technolegol, Gweithwyr Chwaraeon a Ffitrwydd

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Pryderon ynghylch diogelwch; plant a phobl ifanc; lleoliad gwaith chwarae