Cyfrannu at iechyd, diogelwch a lles plant a phobl ifanc yn y lleoliad gwaith chwarae

URN: SKAPW53
Sectorau Busnes (Suites): Gwaith Chwarae
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 01 Chwef 2016

Trosolwg

​Mae a wnelo’r safon hon â hawl plant a phobl ifanc i chwarae mewn lleoliadau gwaith chwarae lle na fydd niwed corfforol nac emosiynol yn digwydd iddyn nhw, yn unol â pholisïau a gweithdrefnau cyfreithiol a sefydliadol. Mae’n bosib i argyfwng neu ddamwain ddigwydd, ac fe ddylech chi wybod sut i ymateb i’r rhain yn effeithiol. Fel gweithiwr chwarae fe ddylech chi helpu i ddiogelu lles y plant a’r bobl ifanc sy’n defnyddio’r lleoliad gwaith chwarae.

Prif ddeilliannau’r safon hon ydy:


  1. sicrhau fod plant, pobl ifanc ac eraill yn iach a diogel
  2. cefnogi lles plant a phobl ifanc

Mae’r safon hon ar gyfer gweithwyr chwarae sy’n gweithio’n uniongyrchol gyda phlant a phobl ifanc mewn lleoliad gwaith chwarae ac sy’n gyfrifol yn bennaf am roi cyfleoedd i blant chwarae fel maen nhw’n dewis ac yn dymuno ei wneud. Argymhellir y dylai staff fod wedi derbyn lefel briodol o hyfforddiant diogelu plant a bod yn gyfarwydd gyda pholisïau a gweithdrefnau eu mudiad o ran ymdrin â sefyllfaoedd lle amheuir fod camdriniaeth yn digwydd, a sut i ddatgelu hynny.

Mae’r safon ar gyfer staff nad ydyn nhw’n llwyr gyfrifol am y lleoliad gwaith chwarae ond sy’n gwneud cyfraniad allweddol i gefnogi chwarae.

*Mae’r safon hon yn ategu’r Egwyddorion Gwaith Chwarae. Mae angen i weithwyr chwarae fod yn gyfarwydd â’r rhain, a lle bo’n bosib, eu defnyddio wrth eu gwaith ac wrth adlewyrchu.   *


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

Sicrhau bod plant, pobl ifanc ac eraill yn iach a diogel

  1. adnabod unrhyw beryglon
  2. liniaru’r peryglon neu ofyn cyngor gan bobl eraill pan rydych chi’n ansicr sut i ymdrin â pherygl
  3. gwirio fod y tŷ bach a’r mannau ymolchi yn lân a bod y cyfarpar priodol ar gael, yn unol â pholisïau a gweithdrefnau’r sefydliad
  4. cael gwared â gwastraff, yn unol â pholisïau a gweithdrefnau’r sefydliad
  5. cefnogi dewisiadau plant a phobl ifanc pan maen nhw’n gyfrifol am eu hiechyd a’u diogelwch eu hunain, yn unol â pholisïau a gweithdrefnau’r sefydliad
  6. rheoli, defnyddio, cael gwared ar neu storio pob deunydd peryglus yn unol â gofynion rheoleiddiol a chyfreithiol
  7. dilyn polisïau a gweithdrefnau’r sefydliad o ran lles a diogelwch plant a phobl ifanc wrth iddyn nhw gyrraedd a gadael
  8. cadw cofnodion iechyd a diogelwch yn unol â pholisïau a gweithdrefnau’r sefydliad
  9. adnabod ac ymateb i achosion o argyfwng yn unol â pholisïau a gweithdrefnau’r sefydliad ac swyddogaeth a’ch cyfrifoldebau
  10. galluogi plant a phobl ifanc i adnabod peryglon a rhoi gwybod i eraill

Cefnogi Iechyd a lles plant a phobl ifanc

  1. cyfrannu at gwrdd ag anghenion plant a phobl ifanc fel modd o gefnogi eu lles
  2. cefnogi bwyta’n iach yn eich lleoliad gwaith chwarae yn unol a chanllawiau’r llywodraeth
  3. gofalu fod dŵr yfed ar gael i blant a phobl ifanc
  4. gweithio gyda phlant, pobl ifanc ac eraill i adnabod unrhyw ofynion diwylliannol neu ofal penodol
  5. annog plant a phobl ifanc i ofalu amdanyn nhw eu hunain, yn unol â’u dymuniadau, anghenion a camau datblygiad.
  6. ymateb i sefyllfaoedd heriol yn unol â pholisïau a gweithdrefnau’r sefydliad
  7. sicrhau fod unrhyw wybodaeth benodol ynghylch anghenion plant a phobl ifanc yn cael eu rhannu ag *eraill *

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Sicrhau bod plant, pobl ifanc ac eraill yn iach a diogel

  1. yr Egwyddorion Gwaith Chwarae sy’n rhan o fframwaith proffesiynol a moesegol gwaith chwarae a sut mae modd cymhwyso pob un o’r egwyddorion at eich gwaith chi
  2. y mathau o beryglon all godi mewn agweddau o’r lleoliad gwaith chwarae
  3. pryd i lliniaru’r pryderon neu i dderbyn cyngor gan eraill os oes ansicrwydd ynghylch sut i ymdrin a pherygl
  4. sut a phryd i leihau’r peryglon sy’n gysylltiedig â’r peryglon hyn, ar y cyd ag eraill, ond gan gadw elfen o her
  5. polisïau a gweithdrefnau’ch sefyfliad a sut i’w dilyn, un unol a’ch
    swyddogaeth a’ch cyfrifoldebau
  6. y gofynion cyfreithiol a rheoleiddiol sydd ohonyn nhw o ran iechyd a diogelwch, a sut y dylai rhain gysylltu â pholisïau a gweithdrefnau’ch sefydliad
  7. y mathau o ddeunydd peryglus a sut i ymdrin â nhw yn unol â
    gofynion cyfreithiol a rheolaethol
  8. sut i alluogi plant a phobl ifanc i adnabod peryglon a pha mor bwysig ydy hi iddyn nhw hysbysu rhywun amdanyn nhw
  9. arwyddion o anafiadau, salwch ac alergeddau allai effeithio ar blant a phobl ifanc a sut mae eu hadnabod pan maen nhw’n digwydd
  10. y mathau o argyfwng all godi mewn lleoliad gwaith chwarae a sut i ymateb
  11. swyddogaeth y person cymorth cyntaf yn eich sefydliad a sut i  
    gysylltu â nhw

Cefnogi lles plant a phobl ifanc

  1. y ffactorau i’w hystyried wrth gyfrannu at anghenion plant a phobl ifanc i gefnogi eu lles
  2. sut i gefnogi bwyta’n iach yn eich lleoliad gwaith chwarae yn unol â chanllawiau’r llywodraeth
  3. sut i wneud yn siŵr fod dŵr yfed ar gael i blant a phobl ifanc a pham bod hyn yn bwysig
  4. pam ei bod hi’n bwysig gweithio gyda phlant, pobl ifanc ac eraill i adnabod unrhyw anghenion diwylliannol neu ofal penodol
  5. pam ei bod hi’n bwysig i annog plant a phobl ifanc i ofalu amdanyn nhw eu hunain
  6. sut i ystyried dewisiadau, anghenion a datblygiad y plentyn neu’r person ifanc
  7. sut i gefnogi plant a phobl ifanc i ddatblygu hyder a hunan-hyder a pham bod gwneud hynny’n bwysig
  8. beth all fod yn sefyllfa heriol
  9. pwysigrwydd ymateb i sefyllfaoedd heriol yn unol â pholisïau a gweithdrefnau’ch sefydliad
  10. sut i gefnogi gwybodaeth am anghenion plant a phobl ifanc a gwybod gyda phwy i rannu hynny

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad

Peryglon
1. corfforol
2. emosiynol
3. ymddygiad
4. amgylcheddol

Eraill
1. rhieni a / neu ofalwyr
2. staff
3. gweithwyr proffesiynol eraill

Anghenion
1. diwylliannol
2. gofal personol
3. meddygol
4. corfforol
5. emosiynol

Gwybodaeth
1. cefndir
2. anghenion dietegol
3. alergeddau
4. gofynion gofal personol
5. trefniadau cyrraedd a gadael
6. cofnodion y sefydliad


Gwybodaeth Cwmpas

Peryglon
1. corfforol
2. emosiynol
3. ymddygiad
4. amgylcheddol                

Agweddau o’r lleoliad gwaith chwarae
1. y gofod chwarae
2. ymddygiad
3. ymddygiad wrth chwarae
4. offer
5. defnyddiau
6. adnoddau

Eraill
1. rhieni a / neu ofalwyr
2. staff
3. gweithwyr proffesiynol eraill

Anghenion
1. diwylliannol
2. gofal personol
3. meddygol
4. corfforol
5. emosiynol

Gwybodaeth
1. cefndir
2. anghenion dietegol
3. alergeddau
4. gofynion gofal personol
5. trefniadau cyrraedd a gadael
6. cofnodion y sefydliad


Gwerthoedd

​Mae'r Gweithwyr Chwarae oedd yn rhan o ysgrifennu'r safon hon, law yn llaw â SkillsActive, wedi cytuno i fabwysiadu'r canlynol fel y gwerthoedd fydd yn berthnasol i bawb sy'n gweithio yn y sector gwaith chwarae.

Egwyddorion Gwaith Chwarae

Mae'r Egwyddorion hyn yn sefydlu fframwaith proffesiynol a moesegol ar gyfer gwaith chwarae ac mae angen felly  eu hystyried yn eu cyfanrwydd.  Maen nhw'n disgrifio’r hyn sy'n unigryw am chwarae a gwaith chwarae, ac yn rhoi sylw i weithio gyda phlant a phobl ifanc o safbwynt gwaith chwarae. Mae'r safonau yn seiliedig ar y gydnabyddiaeth y bydd modd i blant a phobl ifanc ddatblygu'n well os cawn nhw'r dewis ehangaf posib o gyfleoedd chware a mannau i chwarae ynddyn nhw.

  1. Mae angen i bob plentyn a pherson ifanc chwarae. Mae chwarae yn rhywbeth greddfol a chynhenid. Mae chwarae yn anghenraid biolegol, seicolegol a chymdeithasol, ac mae'n hanfodol i les a datblygiad pobl a chymunedau.

  2. Mae chwarae yn broses wirfoddol, bersonol ac yn cael ei wneud er ei fwyn ei hun.  Hynny ydy, mae plant a phobl ifanc yn penderfynu ac yn siapio beth a pham maen nhw'n chwarae, drwy ddilyn eu cyneddfau, eu syniadau a'u diddordebau eu hunain, yn eu ffordd eu hunain ac am eu rhesymau eu hunain.

  3. Prif amcan a hanfod gwaith chwarae ydy cefnogi a hwyluso'r broses o chwarae. Dylai hyn ddylanwadu ar ddatblygiad polisïau, strategaethau, hyfforddiant ac addysg yn ymwneud â chwarae.

  4. Y broses chwarae sydd bwysicaf i weithwyr chwarae, ac maen nhw’n eiriol dros chwarae wrth ymwneud â sefyllfaoedd sy'n edrych ar bethau drwy lygaid oedolion.

  5. Swyddogaeth y gweithiwr chwarae ydy cefnogi pob plentyn a pherson ifanc i greu man lle mae modd iddyn nhw chwarae.

  6. Mae ymateb gweithwyr chwarae i'r ffordd mae plant a phobl ifanc yn chwarae yn seiliedig ar ddealltwriaeth gadarn a chyfoes o'r broses chwarae, ac o adlewyrchu ar eu profiadau eu hunain.

  7. Mae gweithwyr chwarae yn adnabod yr effaith maen nhw’n ei chael ar y lle chwarae ac hefyd yr effaith mae chwarae'r plant a'r bobl ifanc yn ei gael ar y gweithiwr chwarae.

  8. Mae gweithwyr chwarae yn dewis ymyrryd mewn ffordd sy'n caniatáu i blant a phobl ifanc ehangu eu chwarae.  Pob tro mae gweithiwr chwarae yn ymyrryd, rhaid iddo gydbwyso'r perygl o wneud hynny gyda'r fantais i les a datblygiad y plant.

Caiff yr Egwyddorion Gwaith Chwarae eu dal mewn ymddiriedaeth gan y Grŵp Craffu ar gyfer Proffesiwn Gwaith Chwarae y Deyrnas Gyfunol. Bu’r Grŵp Craffu yn gweithredu fel canolwr di-duedd ac yn goruchwylio'r broses ymgynghori lle cafodd y safonau eu llunio.


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Sefyllfaoedd Heriol
Sefyllfaoedd nad ydy’r gweithiwr chwarae o reidrwydd yn teimlo’n gyffyrddus â nhw. Fe allan nhw gynnwys enghreifftiau fel gwrthdaro neu ymddygiad heriol gan riant neu ofalwr; plentyn ymosodol, defnyddio neu ddiffyg defnyddio’r tŷ bach neu ymddygiad rhywiol.

Deunyddiau peryglus
Fe allai’r rhain gynnwys eitemau fel carthion, nodwyddau, offer atal cenhedlu, gwydr, defnydd fflamadwy neu lanhau, hylif corfforol, meddyginiaethau neu eitemau wedi torri.

Dulliau Ymyrraeth
Gwahanol ddulliau mae modd i’r gweithiwr chwarae eu ddefnyddio yn y lleoliad gwaith chwarae. Gall y rhain amrywio o ddim ymyrraeth o gwbl i fathau penodol o ymyrraeth, ac fe allan nhw gynnwys: aros i gael gwahoddiad i chwarae; galluogi i’r plant chwarae heb ymyrraeth; galluogi i blant a phobl ifanc archwilio’u gwerthoedd eu hunain; gadael i’r plant a’r bobl ifanc wella eu perfformiad eu hunain,  gadael i’r plant a’r bobl ifanc benderfynu ar gynnwys a diben y chwarae; gadael i’r plant a’r bobl ifanc benderfynu pam eu bod yn chwarae; gadael i’r plant a’r bobl ifanc benderfynu beth sy’n ymddygiad priodol; a dim ond trefnu pan fod ar y plant a’r bobl ifanc eisiau i chi wneud hynny

Ffrâm chwarae
Ffin materol neu ffigyrol i gadw’r chwarae’n gyfan

Man chwarae
Man chwarae sy’n cael ei ffurfio gan blant a phobl ifanc. Mae modd iddo fod yn gorfforol, yn ymwneud â theimladau neu emosiynau, fod yn barhaol, dros dro neu yn ymwneud â’r byd seibr.

Lleoliad gwaith chwarae
Rhywle lle mae cyfle i blant a phobl ifanc chwarae a lle mae gweithwyr chwarae yn gweithio.

Staff
Y bobl rydych chi’n gweithio gyda nhw, y bobl rydych chi’n gyfrifol amdanyn nhw, gweithwyr cyflog neu wirfoddol, myfyrwyr neu o dan hyfforddiant.


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Maw 2021

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SkillsActive

URN gwreiddiol

SKAPW35

Galwedigaethau Perthnasol

Iechyd, Gofal a Gwasanaethau Cyhoeddus, Lles a Datblygiad Plentyn, Gweithwyr Proffesiynol y meysydd hyn a phobl mewn swyddi technolegol, Gweithwyr Chwaraeon a Ffitrwydd

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Cyfrannu, iechyd a diogelwch; lles; plant a phobl ifanc; chwarae