Creu lleoliadau gwaith chwarae sy’n cefnogi plant i chwarae fel maen nhw’n dewis ac yn dymuno ei wneud

URN: SKAPW50
Sectorau Busnes (Suites): Gwaith Chwarae
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 01 Chwef 2016

Trosolwg

Mae a wnelo’r safon hon â gweithio gyda phlant a phobl ifanc i greu llefydd chwarae cynhwysol ac amrywiol sy’n fodd i’r plant a’r bobl ifanc chwarae fel y dymunon nhw. Dylai’r gwahanol fannau chwarae sy’n ffurfio pob lleoliad gwaith chwarae ysgogi’r plant a’r bobl ifanc, a darparu cyfleoedd chwarae sy’n cynnig risg, her, a datblygiad personol.

 

Prif ddeilliannau’r safon hon ydy:

 

1. cynllunio a pharatoi lleoliad gwaith chwarae cynhwysol

2. cefnogi pob plentyn a pherson ifanc i chwarae fel y dymunon nhw

 

Mae’r safon hon ar gyfer gweithwyr chwarae sy’n gweithio’n uniongyrchol gyda phlant a phobl ifanc mewn lleoliad gwaith chwarae ac sy’n gyfrifol yn bennaf am roi cyfleoedd i blant chwarae fel maen nhw’n dewis ac yn dymuno ei wneud. Mae’r safon ar gyfer staff nad ydyn nhw’n llwyr gyfrifol am y lleoliad gwaith chwarae ond sy’n gwneud cyfraniad allweddol i gefnogi chwarae.

 

 

Mae’r safon hon yn ategu’r Egwyddorion Gwaith Chwarae. Mae angen i weithwyr chwarae fod yn gyfarwydd â’r rhain, a lle bo’n bosib, eu defnyddio wrth eu gwaith ac wrth adlewyrchu.  


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

​Cynllunio a pharatoi lleoliad gwaith chwarae cynhwysol

  1. cynllunio lleoliad gwaith chwarae
  2. casglu a darparu deunyddiau ac adnoddau
  3. adlewyrchu ynglŷn â sut mae plant a phobl ifanc yn defnyddio'r lleoliad gwaith chwarae a'r deunyddiau a'r adnoddau sy'n rhan ohono.
  4. gweithio ochr yn ochr â phlant a phobl ifanc addasu'r lleoliad gwaith chwarae
  5. gwneud newidiadau i gwrdd ag anghenion chwarae'r plant a'r bobl ifanc a'u helpu i deimlo perchnogaeth o'r lleoliad gwaith chwarae
  6. ymateb i geisiadau plant a phobl ifanc ac i sut maen nhw'n mynegi eu hunain

Cefnogi pob plentyn a pherson ifanc i chwarae fel maen nhw'n dewis ac yn dymuno ei wneud

  1. adlewyrchu ar sut mae plant a phobl ifanc yn chwarae
  2. adlewyrchu ar arwyddion chwarae ac ymatebion i gefnogi'r chwarae'n well
  3. dewis ffordd o ymyrryd sy'n cefnogi'r ffordd mae'r plant a'r bobl ifanc yn chwarae
  4. cymryd rhan yn y chwarae dim ond pan mae'r plant a'r bobl ifanc yn estyn gwahoddiad i chi wneud hynny drwy eu harwyddion chwarae
  5. ymyrryd yn chwarae'r plant a'r bobl ifanc yn unol â'ch asesiad o'r cydbwysedd rhwng risg a manteision, datblygiad a lles y plentyn neu'r person ifanc
  6. trafod ac adlewyrchu gyda chydweithwyr ar chwarae ac ymarfer gwaith chwarae
  7. galluogi'r plant a'r bobl ifanc i derfynu'r chwarae mewn modd sy'n briodol iddyn nhw, lefel eu cymryd rhan a gofynion eich mudiad

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Cynllunio a pharatoi lleoliad gwaith chwarae cynhwysol

*
*

*1. yr Egwyddorion Gwaith Chwarae sy'n rhan o fframwaith proffesiynol a moesegol gwaith chwarae a sut mae modd cymhwyso pob un o'r egwyddorion i'ch gwaith chi
2. y mathau o *
fannau chwarae
sy'n ffurfio lleoliad gwaith chwarae
3. polisïau a gweithdrefnau'ch mudiad ar gyfer creu y lleoliad gwaith chwarae
4. pwysigrwydd cael amrywiaeth fawr o ddeunyddiau ac adnoddau sy'n newid yn barhaus
5. damcaniaeth y darnau rhydd a sut mae'n berthnasol i chwarae plant a phobl ifanc
6. ffyrdd o ganfod, casglu a darparu adnoddau a deunyddiau newydd
7. sut i weithio ochr yn ochr â phlant a phobl ifanc i addasu a datblygu'r lleoliad gwaith chwarae
8. y gwahaniaeth rhwng anghenion a dymuniadau chwarae plant a phobl ifanc
9. sut a phryd i addasu'r man chwarae sy'n rhan o'r lleoliad gwaith
chwarae fydd yn cwrdd â dymuniadau chwarae plant a phobl ifanc
10. sut i greu man chwarae o fewn y lleoliad gwaith chwarae sy'n annog ac yn gwerthfawrogi ceisiadau a hunanfynegiant plant a phobl ifanc
11. pwysigrwydd ystyried amrywiaeth a sut i gynnwys pawb wrth sefydlu lleoliad gwaith chwarae
12. y pethau sy'n rhwystro plant a phobl ifanc rhag cymryd rhan wrth greu lleoliad gwaith chwarae sy'n addas i bawb

Cefnogi pob plentyn a pherson ifanc i chwarae fel maen nhw'n dewis ac yn *dymuno ei wneud
*


*13. pam ddylai plant a phobl ifanc allu chwarae fel maen nhw'n dewis ac yn dymuno ei wneud
14. pwysigrwydd cydnabod ac eiriol dros hawl pob plentyn a pherson ifanc i chwarae cyd ag eraill, ond gan gadw elfen o her
15. sut i adlewyrchu, drwy arsylwi a gwrando, ynglŷn â sut mae plant a phobl ifanc yn defnyddio'r lleoliad gwaith chwarae a'r deunyddiau a'r adnoddau sy'n rhan ohono
16. wrth werthuso a darparu adnoddau ar gyfer lleoliad gwaith chwarae, defnyddio'r mathau o chwarae sy'n cael eu hadnabod yn gyffredinol gan y mae gwaith chwarae. y gofynion cyfreithiol a rheoleiddiol sydd
17. prif gamau'r cylch chwarae
18. arwyddion chwarae, yr ymateb a fframiau chwarae
19. y pethau i'w hystyried wrth greu lleoliad gwaith chwarae fydd yn cwrdd ag anghenion chwarae plant a phobl ifanc
20. beth sy'n ddarpariaeth chwarae cynhwysol a beth yw gwerth cymharol hynny o'i gymharu a darpariaeth chwarae 'unigol' 'ar wahân', neu 'integredig'
21. sut i gefnogi pob plentyn a pherson ifanc i archwilio'r *
man chwarae

22. sut i gefnogi chwarae mewn modd na'n yw'n tanseilio'r ffordd mae plant a phobl ifanc yn rheoli'r chwarae ac yn cymryd rhan ynddo
23. dulliau ymyrryd a sut mae modd iddyn nhw gefnogi chwarae plant a phobl ifanc
24. pryd i ymuno â'r chwarae
25. pryd i ymyrryd yn chwarae plant a phobl ifanc
26. sut i alluogi'r chwarae i ddod i ben mewn ffordd sy'n ystyriol o'r plant a'r bobl ifanc, lefel eu cymryd rhan a gofynion eich mudiad
27. y gweithdrefnau proffesiynol a sefydliadol mae angen i chi eu dilyn yn ystod ac ar ôl sesiwn chwarae


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad

Deunyddiau ac adnoddau
1. darnau rhydd
2. offer
3. cyfleusterau

Adlewyrchu
1. parhaus
2. anymwthiol
3. amlwg


Gwybodaeth Cwmpas

Man(nau) chwarae
1. corfforol
2. affeithio
3. parhaol
4. dros dro
5. seibr


Gwerthoedd

Mae'r Gweithwyr Chwarae oedd yn rhan o ysgrifennu'r safon hon, law yn llaw â SkillsActive, wedi cytuno i fabwysiadu'r canlynol fel y gwerthoedd fydd yn berthnasol i bawb sy'n gweithio yn y sector gwaith chwarae.

*
*

Egwyddorion Gwaith Chwarae


Mae'r Egwyddorion hyn yn sefydlu fframwaith proffesiynol a moesegol ar gyfer gwaith chwarae ac mae angen felly eu hystyried yn eu cyfanrwydd.
Maen nhw'n disgrifio’r hyn sy'n unigryw am chwarae a gwaith chwarae, ac yn rhoi sylw i weithio gyda phlant a phobl ifanc o safbwynt gwaith chwarae. Mae'r safonau yn seiliedig ar y gydnabyddiaeth y bydd modd i blant a phobl ifanc ddatblygu'n well os cawn nhw'r dewis ehangaf posib o gyfleoedd chware a mannau i chwarae ynddyn nhw.


1. Mae angen i bob plentyn a pherson ifanc chwarae. Mae chwarae yn rhywbeth greddfol a chynhenid. Mae chwarae yn anghenraid biolegol, seicolegol a chymdeithasol, ac mae'n hanfodol i les a datblygiad pobl a chymunedau.
2. Mae chwarae yn broses wirfoddol, bersonol ac yn cael ei wneud er ei fwyn ei hun. Hynny ydy, mae plant a phobl ifanc yn penderfynu ac yn siapio beth a pham maen nhw'n chwarae, drwy ddilyn eu cyneddfau, eu syniadau a'u diddordebau eu hunain, yn eu ffordd eu hunain ac am eu rhesymau eu hunain.
3. Prif amcan a hanfod gwaith chwarae ydy cefnogi a hwyluso'r broses o chwarae. Dylai hyn ddylanwadu ar ddatblygiad polisïau, strategaethau, hyfforddiant ac addysg yn ymwneud â chwarae.
4. Y broses chwarae sydd bwysicaf i weithwyr chwarae, ac maen nhw’n eiriol dros chwarae wrth ymwneud â sefyllfaoedd sy'n edrych ar bethau drwy lygaid oedolion.
5. Swyddogaeth y gweithiwr chwarae ydy cefnogi pob plentyn a pherson ifanc i greu man lle mae modd iddyn nhw chwarae.
6. Mae ymateb gweithwyr chwarae i'r ffordd mae plant a phobl ifanc yn chwarae yn seiliedig ar ddealltwriaeth gadarn a chyfoes o'r broses chwarae, ac o adlewyrchu ar eu profiadau eu hunain.
7. Mae gweithwyr chwarae yn adnabod yr effaith maen nhw’n ei chael ar y lle chwarae ac hefyd yr effaith mae chwarae'r plant a'r bobl ifanc yn ei gael ar y gweithiwr chwarae
8. Mae gweithwyr chwarae yn dewis ymyrryd mewn ffordd sy'n caniatáu i blant a phobl ifanc ehangu eu chwarae. Pob tro mae gweithiwr chwarae yn ymyrryd, rhaid iddo gydbwyso'r perygl o wneud hynny gyda'r fantais i les a datblygiad y plant.


Caiff yr Egwyddorion Gwaith Chwarae eu dal mewn ymddiriedaeth gan y Grŵp Craffu ar gyfer Proffesiwn Gwaith Chwarae y Deyrnas Gyfunol. Bu’r Grŵp Craffu yn gweithredu fel canolwr di-duedd ac yn goruchwylio'r broses ymgynghori lle cafodd y safonau eu llunio.


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Darpariaeth gynhwysol
Darpariaeth sy'n agored ac yn hwylus i bawb, lle ceisir cael gwared ar rwystrau fel bod modd i bob plentyn a pherson ifanc gymryd rhan.

Darpariaeth chwarae integredig
Cymysgu pobl oedd yn cael eu gwahanu gynt oherwydd nam. Mae plant abl yn tueddu i gymryd yr awenau o ran y prys, sut, lle a phwy.

Dulliau Ymyrraeth
Gwahanol ddulliau mae modd i'r gweithiwr chwarae eu ddefnyddio yn y lleoliad gwaith chwarae. Gall y rhain amrywio o ddim ymyrraeth o gwbl i fathau penodol o ymyrraeth, ac fe allan nhw gynnwys: aros i gael gwahoddiad i chwarae; galluogi i'r plant chwarae heb ymyrraeth; galluogi i blant a phobl ifanc archwilio'u gwerthoedd eu hunain; gadael i'r plant a'r bobl ifanc wella eu perfformiad eu hunain, gadael i'r plant a'r bobl ifanc
benderfynu ar gynnwys a diben y chwarae; gadael i'r plant a'r bobl ifanc benderfynu pam eu bod yn chwarae; gadael i'r plant a'r bobl ifanc benderfynu beth sy'n ymddygiad priodol; a dim ond trefnu pan fod ar y plant a'r bobl ifanc eisiau i chi wneud hynny

Darnau rhydd
Eitemau mae modd eu cludo o un lle i'r llall, eu cario, rhowlio, codi, eu pentyrru ar ben ei gilydd neu eu cyfuno i greu strwythurau neu brofiadau newydd.

Arsylwi
Diben arsylwi mewn lleoliad gwaith chwarae ydy arsylwi ymddygiad
chwarae plant a phobl ifanc ac ymateb oedolion i hynny er mwyn sicrhau fod y lleoliad chwarae yn parhau i ddarparu mannau chwarae effeithiol. Fe all yr arsylwi gynnwys mathau o chwarae, arwyddion chwarae a'r ymateb, ac ymyrraeth gweithwyr chwarae. Nid diben yr arsylwi ydy monitro datblygiad plant, cynllunio gweithgareddau na maes llafur; gellir cofnodi neu beidio â chofnodi'r arsylwi.

Perchnogaeth
Caiff plant a phobl ifanc eu hannog i berchnogi'r man chwarae maen nhw wedi ei greu drwy gael y rhyddid i fod, i ddefnyddio, i newid, ymdeimlad o reolaeth a llais.

Y broses chwarae
Mae llawer o ddadlau ynghylch beth ydy'r Broses Chwarae a bydd pobl yn dal i drafod hyn ac yn dod i'w casgliadau eu hunain. Fodd bynnag, er diben y rhestr hon o dermau, yn ei ffurf fwyaf elfennol, y broses chwarae ydy'r hyn mae plentyn yn mynd drwyddo, yn ei brofi a'i deimlo pan maen nhw'n chwarae.

Darpariaeth chwarae
Mannau wedi eu creu gan oedolion lle mae modd i blant a phobl ifanc chwarae

Man chwarae

*
*

*Lleoliad gwaith chwarae*
Rhywle lle mae cyfle i blant a phobl ifanc chwarae a lle mae gweithwyr chwarae yn gweithio.

Darpariaeth chwarae neilltuedig
Neilltuo pobl anabl, yn seiliedig ar farn gweithiwr proffesiynol o nam o ryw fath neu ddiffyg 'ffitio mewn'. Mae gan y gweithwyr proffesiynol abl reolaeth lwyr.

Darpariaeth chwarae ar wahân
Grwpiau o bobl anabl sy'n dewis cyfarfod a datblygu eu hagenda eu hunain, fel grwpiau lleiafrifol eraill.


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Maw 2021

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SkiillsActive

URN gwreiddiol

SKAPW34

Galwedigaethau Perthnasol

Iechyd, Gofal a Gwasanaethau Cyhoeddus, Lles a Datblygiad Plentyn, Gweithwyr Proffesiynol y meysydd hyn a phobl mewn swyddi technolegol, Gweithwyr Chwaraeon a Ffitrwydd

Cod SOC


Geiriau Allweddol

plant a phobl ifanc; creu; mannau chwarae; cefnogaeth; dewis