Hwyluso cyfleoedd addysgol yn yr awyr agored

URN: SKAOP7
Sectorau Busnes (Suites): Rhaglenni Awyr Agored
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 28 Chwef 2014

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â hwyluso profiadau addysgol yn yr awyr agored. Mae'r safon hon yn cwmpasu cychwyn, monitro, cefnogi ac arwain y cyfranogwr drwy'r profiad addysgol.  Bydd y safon hon hefyd yn helpu cyfranogwyr i adnabod sut y gallant drosglwyddo dysgu i agweddau eraill ar eu bywydau.

Mae'r safon hon yn cynnwys pum deilliant:

  1. cychwyn y profiad addysgol awyr agored

  2. monitro, cefnogi ac arwain y cyfranogwr drwy'r profiad addysgol

  3. rheoli lles corfforol ac emosiynol cyfranogwyr

  4. hwyluso dysgu drwy fyfyrio'n unigol ac ar y cyd ar brofiad

  5. helpu cyfranogwyr i adnabod sut y gallant drosglwyddo dysgu i agweddau eraill ar eu bywydau

Mae'r safon hon ar gyfer staff sydd â rhywfaint o brofiad o weithio yn yr awyr agored ac sy'n gallu gweithio heb oruchwyliaeth uniongyrchol.  Cyd-destunau nodweddiadol - gweithio gyda phlant a phobl ifanc i fodloni gofynion cleientiaid addysgol megis ysgolion a cholegau.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

Cychwyn y profiad addysgol awyr agored


*

  1. sicrhau bod y cyfarpar a'r dillad sydd eu hangen gan y cyfranogwyr

  2. creu a chynnal awyrgylch sydd yn ffafriol i ddysgu

  3. cyfleu eu rolau eu hunain i'r cyfranogwyr

  4. addasu eich ymddygiad eich hun i gyfarfod ag anghenion y cyfranogwyr a diben y profiad

  5. annog y cyfranogwyr i gymryd cyfrifoldeb am eu dysgu eu hunain

  6. cytuno ar reolau sylfaenol

Monitro, cefnogi ac arwain y cyfranogwr drwy'r profiad addysgol

  1. cydbwyso eich rolau eich hun er mwyn sicrhau'r deilliant gorau i'r cyfranogwyr

  2. annog cyfranogwyr i ymgymryd â chyfrifoldebau lle mae hyn yn ddiogel

  3. darparu adborth lle mae hyn yn cefnogi dysgu

  4. manteisio ar gyfleoedd pan fyddant yn codi i sicrhau'r dysgu gorau i'r cyfranogwyr

  5. sicrhau bod deilliannau'r profiad yn cael eu gwahaniaethu er mwyn cyfarfod ag anghenion unigolion ac anghenion y grŵp

  6. cyfathrebu gyda chyfranogwyr mewn modd sy'n cyfarfod â'u hanghenion, y sefyllfa a nodau'r profiad

Rheoli lles corfforol ac emosiynol cyfranogwyr

  1. dilyn gofynion a gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer y gweithgaredd

  2. rheoli risg er mwyn cadw'r gweithgaredd mor ddiogel â phosibl gan gymryd i ystyriaeth fanteision cymryd risg a gofynion iechyd a diogelwch

  3. monitro ar gyfer dechrau perygl corfforol ac emosiynol ac amodau anffafriol

  4. annog cyfranogwyr i gefnogi diogelwch yr unigolyn a'r grŵp

  5. annog ymddygiad positif ac ymdrin yn effeithiol ag ymddygiad annerbyniol

  6. ymyrryd er mwyn rhwystro neu gyfyngu ar niwed

  7. adnabod gwahanol derfynau corfforol ac emosiynol cyfranogwyr a'u cefnogi i gynnal urddas a hunan-barch

  8. cynnal ac amrywio rheolau sylfaenol yn unol â gofynion a gweithdrefnau'r sefydliad a gofynion cleientiaid

  9. ymateb i ddigwyddiad ac achosion brys yn unol â gofynion a gweithdrefnau'r sefydliad

  10. monitro gweithrediadau ac ymddygiadau'r rhai, heblaw am y cyfranogwyr, sy'n ymwneud â'r gweithgaredd

**

Hwyluso dysgu drwy fyfyrio'n unigol ac ar y cyd ar brofiad**


*

  1. sefydlu amgylchedd gwrando ar gyfer yr adolygiad e

  2. galluogi cyfranogwyr i fyfyrio ar eu profiadau a'u hamcanion

  3. galluogi cyfranogwyr i adnabod y broses o ddysgu unigol ac fel grŵp

  4. cysylltu dysgu bwriadol ac anfwriadol gydag amcanion yr unigolion a rhai'r grŵp

  5. egluro ac atgyfnerthu pwyntiau allweddol er mwyn canolbwyntio sylw'r cyfranogwyr ar ddysgu

Helpu cyfranogwyr i adnabod sut y gallant drosglwyddo dysgu i agweddau eraill ar eu bywydau

* *

  1. galluogi cyfranogwyr i weld perthnasedd eu dysgu ac i weld eu bod yn gallu trosglwyddo'r dysgu i feysydd penodol bywyd

  2. gwerthuso rhwystrau posibl i'r cyfranogwyr wrth drosglwyddo'r hyn a ddysgwyd ganddynt

  3. trafod strategaethau posibl i oresgyn y rhwystrau hyn

  4. rhannu gwybodaeth ac arweiniad gydag eraill ynghylch cyfleoedd i drosglwyddo dysgu a'r gefnogaeth y bydd ei hangen arnynt o bosib

  5. annog myfyrio ac adolygu parhaus


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Cychwyn y profiad addysgol awyr agored


*

  1. y cyfarpar a'r dillad sydd eu hangen

  2. sut i greu a chynnal awyrgylch sy'n ffafriol i ddysgu  

  3. dulliau o gyfathrebu

  4. technegau cymhelliant

  5. sut i annog y cyfranogwyr i gymryd cyfrifoldeb am eu dysgu eu hunain

  6. pam ei bod yn bwysig cytuno ar reolau sylfaenol

Monitro, cefnogi ac arwain y cyfranogwr drwy'r profiad addysgol

  1. sut i gydbwyso eich rolau chi i sicrhau'r deilliant gorau i'r cyfranogwyr

  2. manteision annog cyfranogwyr i ymgymryd â chyfrifoldebau lle mae hyn yn ddiogel 

  3. dulliau o roi adborth fydd yn cefnogi dysgu

  4. sut i fanteisio ar gyfleoedd pan fydd y rheiny'n codi er mwyn sicrhau'r dysgu gorau i'r cyfranogwyr

  5. cynllunio a datblygu deilliannau'r profiad mewn modd sy'n cyfarfod ag anghenion pawb

  6. offer a thechnegau cyfathrebu fydd yn hwyluso dysgu yn yr awyr agored

Rheoli lles corfforol ac emosiynol cyfranogwyr

  1. gofynion iechyd a diogelwch ar gyfer y gweithgaredd

  2. technegau rheoli risg fydd yn annog gweithgaredd cymryd risg iach a diogel

  3. pam ei bod yn bwysig monitro ar gyfer dechreuad perygl corfforol ac emosiynol ac amodau anffafriol

  4. pam ei bod yn bwysig annog cyfranogwyr i gymryd rhywfaint o gyfrifoldeb am ddiogelwch yr unigolyn a'r grŵp a sut i wneud hynny

  5. manteision annog ymddygiad positif ac o ymdrin yn effeithiol ag ymddygiad annerbyniol

  6. pryd i ymyrryd er mwyn rhwystro neu gyfyngu ar niwed

  7. ffactorau sydd yn effeithio ar wahanol derfynau corfforol ac emosiynol cyfranogwyr a sut i reoli'r rhain yn effeithiol

  8. pryd i gynnal ac amrywio rheolau sylfaenol yn unol â gofynion y sefydliad, gweithdrefnau a gofynion cleientiaid

  9. y broses o ran ymateb i ddigwyddiad ac achosion brys yn unol â gofynion iechyd a diogelwch

  10. y broses ar gyfer monitro gweithrediadau ac ymddygiadau'r rhai, heblaw am y cyfranogwyr, sy'n ymwneud â'r gweithgaredd

Hwyluso dysgu drwy fyfyrio'n unigol ac ar y cyd ar brofiad


*

  1. sut i greu amgylchedd gwrando effeithiol sy'n annog cyfranogwyr i fynegi eu safbwyntiau

  2. y cysyniad o arfer adfyfyriol

  3. y broses o ddysgu unigol a dysgu fel grŵp

  4. nodau ac amcanion y cyfranogwyr

  5. sut i gysylltu dysgu bwriadol ac anfwriadol gydag amcanion yr unigolyn a rhai'r grŵp

  6. sut i ddadansoddi profiadau'r cyfranogwyr a darparu crynodeb o'r dadansoddiad hwn

Helpu cyfranogwyr adnabod sut y gallant drosglwyddo dysgu i agweddau eraill ar eu bywydau


*

  1. y fethodoleg sy'n gysylltiedig â throsglwyddo dysgu i feysydd eraill bywyd

  2. sut i werthuso rhwystrau posibl sy'n gallu amharu ar drosglwyddo dysgu

  3. gwahanol fathau o gyfleoedd i drosglwyddo dysgu a'r mathau o gefnogaeth fydd eu hangen o bosib ar gyfranogwyr oddi wrth eraill

  4. y mathau o gyngor, cymorth a gwybodaeth ynghylch cyfleoedd dysgu ac anghenion cyfranogwyr

  5. sut i annog myfyrio ac adolygu parhaus

  6. technegau hyfforddi i gefnogi trosglwyddo dysgu


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad

1. Cyfranogwyr

1.1 oedolion

1.2 plant a phobl ifanc

1.3 grwpiau nad yw eu haelodau yn adnabod ei gilydd

1.4 pobl sydd ag anghenion arbennig mewn perthynas â'r rhaglen

1.5 unigolion

1.6 grwpiau


*

2. Rolau

2.1 arweinyddiaeth

2.2 hyfforddi a meithrin ymwybyddiaeth

2.3 monitro

2.4 cefnogi

2.5 arwain


*

3. Profiad

3.1 â ffocws cwricwlaidd a thrawsgwricwlaidd

3.2 â ffocws gweithgaredd/sgil

3.3 â ffocws amgylcheddol

3.4 â ffocws drwy brofiad/datblygiad

3.5 â ffocws dilyniant

4. Amodau anffafriol

4.1 tir anodd

4.2 amodau dŵr anodd

4.3 tywydd

*
 *

5. Ymddygiad positif

5.1 cyfathrebu

5.2 ymwneud

5.3 cydgefnogaeth

5.4 datrys problemau

5.5 brwdfrydu


*

6. Ymddygiad annerbyniol

6.1 ymddygiad sy'n achosi niwed corfforol

6.2 ymddygiad sy'n achosi niwed emosiynol

6.3 ymddygiad sy'n achosi difrod

7. Adborth

7.1 ffurfiol

7.2 anffurfiol

7.3 cadarnhaol

7.4 negyddol

7.5 awgrymiadau ar gyfer gwella


Gwybodaeth Cwmpas

1. Technegau cymhelliant

1.1 delweddaeth gadarnhaol

1.2 gweithgareddau adeiladu tîm

1.3 hyfforddiant

1.4 cyfathrebu uwch

1.5 targedau

1.6 gwobrau

1.7 cymhellion

2. Iechyd a Diogelwch

2.1 deddfwriaeth iechyd a diogelwch

2.2 gweithdrefnau a gofynion y sefydliad

2.3 egwyddorion dyletswydd gofal

2.4 diogelu

2.5 iechyd emosiynol a neu seicolegol

2.6 rheoliadau trwyddedu ar gyfer gweithgareddau/canolfannau

2.7 canllawiau gwneuthurwyr offer

2.8 gwybodaeth dechnegol, yn cynnwys fel bo'n briodol, canllawiau'r Corff Llywodraethu Cenedlaethol a sefydliadau cenedlaethol eraill sy'n berthnasol i weithgareddau

2.9 y mathau o hapddigwyddiadau sy'n debygol o ddigwydd, tywydd, damwain ac achosion brys, newidiadau anorfod a sut i gynllunio ar eu cyfer

2.10 gweithdrefnau brys safonol


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau

​Rhestrir isod y prif sgiliau a'r priodoleddau generig sy'n gymwys i'r dasg o gyflwyno Rhaglenni Awyr Agored.

  1. Empathi

  2. Gwrando'n weithredol

  3. Hyfforddi

  4. Cyfathrebu

  5. Ymgynghori

  6. Dylanwadu a pherswadio

  7. Dirprwyo

  8. Diplomyddiaeth

  9. Galluogi

  10. Hwyluso

  11. Dilyn

  12. Arwain drwy esiampl

  13. Rheoli ymddygiad heriol

  14. Mentora

  15. Ysgogi

  16. Trafod a chyfaddawdu

  17. Sicrhau adborth

  18. Cynllunio a gwerthuso

  19. Darparu adborth

  20. Pennu amcanion

  21. Gwerthfawrogi a chefnogi eraill


Geirfa

Amgylchedd dysgu ffafriol

Yn ymwneud â'r amgylchedd corfforol, yr amgylchedd gwybyddol, cyd-destun y gweithgaredd a'r berthynas a'r awyrgylch cadarnhaol sy'n cael eu creu gan yr hyfforddwr/arweinydd ymysg pawb sy'n cymryd rhan – angerdd, brwdfrydedd, ymrwymiad i gychwyn a chwblhau'r profiad.

Profiad

O fewn cyd-destun addysg yn yr awyr agored gall fod sawl math o nodau a deilliannau fel profiadau.  Gallai'r rhai hyn gynnwys deilliannau cwricwlaidd, trawsgwricwlaidd, dysgu i ddysgu, dysgu gydol oes yn ogystal â deilliannau personol a chymdeithasol allai gynnwys elfennau ysbrydol, moesol, diwylliannol, meddyliol a chorfforol. 

Rheolau sylfaenol

Yng nghyswllt ymddygiad cyfranogwyr sy'n blant neu bobl ifanc.  Yn aml bydd hyfforddwyr yn cynnig ac yn cael cytundeb oddi wrth gyfranogwyr ar agweddau syml ond pwysig ar ymddygiad megis "cyfranogwyr yn gwrando pan fydd yr hyfforddwr yn siarad a bydd yr hyfforddwr yn gwrando pan fydd cyfranogwr yn gofyn cwestiwn", neu "er mwyn eich diogelwch a'ch hwyl, mae'n rhaid ichi wneud beth mae'r hyfforddwr yn gofyn ichi ei wneud" a "rydyn ni i gyd yn cytuno i helpu a chefnogi a chadw llygad ar ein gilydd pa mor dda bynnag y byddwn ni'n gwneud ar y gweithgaredd". Nid helpu i osod rhai rheolau ymddygiadol defnyddiol yn unig a wna hyn, ond mae hefyd yn anfon neges gadarnhaol, gref, gysurlon yn aml i gyfranogwyr sydd weithiau'n nerfus bod ym mherson yr hyfforddwr a/neu'r arweinydd bresenoldeb rhywun cyfrifol fydd yn sicrhau bod popeth yn mynd yn dda.

* *

Rheoliadau a gweithdrefnau'r sefydliad

Yn nodweddiadol, bydd y dogfennau hyn yn gosod y safonau, gweithdrefnau a'r gofynion ar gyfer cyflwyno'r gweithgaredd.  Gallant gynnwys rhestri cyfarpar, amlinelliad o gynlluniau sesiwn, pwyntiau a gweithdrefnau diogelwch.  Gallant hefyd gyfeirio at gyrff llywodraethol Cenedlaethol (CLlC) penodol neu gyrff gweithgarwch cenedlaethol eraill perthnasol yn nhermau gwybodaeth a chanllawiau sy'n ymwneud â gweithgareddau.  Gall y dogfennau hefyd gyfeirio at lefelau staffio yn nhermau cymarebau, cymwysterau a'r hyfforddiant/asesiad yr ymgymerwyd ag e, a gall fod ynghlwm wrth CLlC, ymgynghorwyr technegol a nodweddion allanol neu fewnol eraill.

Anghenion a therfynau corfforol a seicolegol

Deall sut i gydbwyso cryfderau corfforol ac emosiynol unigolion â sialensiau cyffredinol a phenodol yr awyr agored a sut i adnabod a rheoli'r sialensiau a'r terfynau perthynol ar gyfer lles a llwyddiant yr unigolyn.

Staff sydd â rhywfaint o brofiad

Yn nodweddiadol rhywun sydd wedi gweithio yn y sector am o leiaf ddau neu dri thymor a neu ddwy neu dair blynedd.  Mae'n bosib y bydd e/hi wedi symud ymlaen o swydd iau a neu swydd gychwynnol i ymdrin erbyn hyn â gweithgareddau, lleoliadau a/neu gyfranogiadau mwy cymhleth, ond nid ar y lefelau eithaf/anoddaf a fyddai'n cael eu cwmpasu gan safonau eraill.


Dolenni I NOS Eraill

Mae’r safon hon yn cyplysu â SKAOP6


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

29 Ebr 2018

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SkillsActive

URN gwreiddiol

SKAD33

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt a Galwedigaethau Technegol, Hamdden; teithio a thwristiaeth, Chwaraeon; hamdden ac adloniant, Galwedigaethau Chwaraeon a Ffitrwydd

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Awyr agored; addysg; profiad; hwyluso; darparu; monitro; cefnogi; cyfranogwyr; rolau