Hybu cadwraeth amgylcheddol

URN: SKAOP4
Sectorau Busnes (Suites): Rhaglenni Awyr Agored,Rheoli Hamdden
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 28 Chwef 2014

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud â chynorthwyo i sefydlu codau ymarfer gogyfer â sut y caiff safleoedd eu defnyddio, gan sicrhau bod y codau hyn yn cael eu deall, ac addysgu cyfranogwyr yn egwyddorion cadwraeth amgylcheddol.

Mae'r safon hon yn ymwneud â:

  1. cyfrannu at a rhoi mewn grym godau ymarfer gogyfer â defnyddio'r amgylchedd

Mae'r safon hon ar gyfer staff datblygu chwaraeon a staff profiadol sy'n gweithio yn yr awyr agored ac sy'n gallu gweithio heb unrhyw oruchwyliaeth uniongyrchol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

Cyfrannu at a rhoi ar waith godau ymarfer ar gyfer defnyddio'r amgylchedd


*

  1. cyfrannu at y codau ymarfer yn seiliedig ar arfer a chyfarwyddyd cyfredol

  2. monitro bod yr holl weithgareddau sydd dan eu rheolaeth yn cydymffurfio â'r côd ymarfer a'r cytundebau

  3. gwerthuso effaith y gweithgareddau ar y safleoedd a ddefnyddir gennych

  4. cymryd cyfleoedd i wella'r amgylchedd naturiol mewn ffordd sy'n gydnaws â'r safle

  5. adrodd am effaith y gweithgareddau ar y safleoedd hyn wrth y cydweithiwr cyfrifol

  6. sicrhau bod y cyfranogwyr yn ymwybodol o'r codau ymarfer a'r cytundebau cyfredol ar gyfer y safle y byddant yn ei ddefnyddio

  7. sicrhau bod y cyfranogwyr yn ymwybodol o'r effaith posib ar y safle

  8. sicrhau bod y cyfranogwyr yn ymwybodol o sut y gellir cadw'r effaith ar y safle i'r lleiafswm

  9. tynnu sylw'r cyfranogwyr at fannau bregus y safle a dangos sut y dylid trin y mannau hyn

  10. rhoi i'r cyfranogwyr enghreifftiau trosglwyddadwy o arferion a chanllawiau ar sut i drin safleoedd eraill mewn ffyrdd tebyg


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Cyfrannu at a rhoi ar waith godau ymarfer ar gyfer defnyddio'r amgylched


*

  1. pwysigrwydd gwarchodaeth amgylcheddol a sut y gall codau gyfrannu at hyn

  2. sut i roi ar waith godau cyfredol a sut i gyfrannu at eu datblygu oddi mewn i'w maes cyfrifoldeb

  3. pwysigrwydd bod pob aelod staff sy'n gyfrifol am ymgeisydd yn sicrhau ei fod/bod yn deall y codau ymarfer a'r cytundebau

  4. sut i reoli a monitro gweithgareddau er mwyn sicrhau eu bod yn cydymffurfio â'r codau ymarfer

  5. sut i fonitro a gwerthuso effaith gweithgareddau ar safleoedd

  6. sut y gellir gwella'r amgylchedd naturiol mewn ffordd sy'n gydnaws â'r safle

  7. y gweithdrefnau riportio y dylid eu dilyn wrth weithredu codau ymarfer

  8. pwysigrwydd bod y cyfranogwyr yn deall y codau ymarfer a'r cytundebau ynghylch defnyddio safleoedd

  9. sut i wirio a chadarnhau dealltwriaeth y cyfranogwyr o'r effaith bosib i'r safle a mesurau y gellir eu cymryd i leihau effeithiau amgylcheddol

  10. mannau bregus ar y safle a sut i sicrhau bod cyfranogwyr yn gwybod am y rhain

  11. pwysigrwydd darparu model trosglwyddadwy yn nhermau arferion a chanllawiau amgylcheddol a sut i wneud hynny


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad

1. Arferion a chanllawiau

1.1 cenedlaethol

1.2 lleol

1.3 trefniadaethol


*

2. Effaith

2.1 difrod

2.2 llygredd

2.3 aflonyddwch

3. Cydweithiwr sy'n gyfrifol

3.1 rheolwr llinell

3.2 uwch-gydweithiwr

3.3 oedolyn arall

4. Cyfranogwyr

4.1 oedolion

4.2 plant a phobl ifanc

4.3 grwpiau nad yw eu haelodau yn adnabod ei gilydd

4.4 cyfranogwyr sydd ag anghenion arbennig mewn perthynas â'r gweithgaredd

4.5 unigolion

4.6 grwpiau


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau

Rhestrir isod y prif sgiliau a'r priodoleddau generig sy'n gymwys i'r dasg o gyflwyno Rhaglenni Awyr Agored.

  1. Empathi

  2. Gwrando'n weithredol

  3. Hyfforddi

  4. Cyfathrebu

  5. Ymgynghori

  6. Dylanwadu a pherswadio

  7. Dirprwyo

  8. Diplomyddiaeth

  9. Galluogi

  10. Hwyluso

  11. Dilyn

  12. Arwain drwy esiampl

  13. Rheoli ymddygiad heriol

  14. Mentora

  15. Ysgogi

  16. Trafod a chyfaddawdu

  17. Sicrhau adborth

  18. Cynllunio a gwerthuso

  19. Darparu adborth

  20. Pennu amcanion

  21. Gwerthfawrogi a chefnogi eraill


Geirfa

Arferion a chanllawiau

Arferion da cyfredol sydd wedi eu hen sefydlu mewn perthynas â gweithgareddau, eu cyflwyno a'u heffaith ar yr amgylchedd, gan gydnabod bod rhaid i bob datblygiad ddod o dan reoliadau a gweithdrefnau cyffredinol y sefydliad.

Safleoedd

Lleoliadau gweithgaredd, mannau gweithgaredd, ar neu heb fod yn y ganolfan a'r ardaloedd oddi amgylch e.e. clogwyni, lleoliadau canŵio.

Model trosglwyddadwy

Cyfleoedd i drosglwyddo'r dysgu i gyd-destunau yn y dyfodol sy'n gysylltiedig â chynaladwyedd amgylcheddol


*

Mannau bregus

Mannau sy'n gofyn am anghenion a gofynion penodol ychwanegol


Dolenni I NOS Eraill

​Mae'r safon hon yn cyplysu â SKAOP1, SKAOP2, SKAOP3, SKAOP5 a SKAOP22


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

29 Ebr 2018

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SkillsActive

URN gwreiddiol

SKAC215

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt a Galwedigaethau Technegol, Hamdden; teithio a thwristiaeth, Chwaraeon; hamdden ac adloniant, Galwedigaethau Chwaraeon a Ffitrwydd

Cod SOC


Geiriau Allweddol

cadwraeth; amgylchedd; côd ymarfer; effaith; gweithgareddau; rhoi ar waith; addysgu; monitro