Trefnu ac arolygu teithio

URN: SKAOP15
Sectorau Busnes (Suites): Rhaglenni Awyr Agored
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 28 Chwef 2014

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud â threfnu a goruchwylio teithio i blant, pobl ifanc ac oedolion.  Gall y teithio hyn for 'ar liwt yr unigolyn', e.e. cerdded neu ar feic, mewn cerbyd sy'n eiddo i'r unigolyn neu gerbyd wedi ei logi, neu ar drafnidiaeth gyhoeddus.

Mae'r safon hon yn cynnwys dau ddeilliant, sef

  1. gwneud trefniadau teithio

  2. goruchwylio teithio

Mae'r safon hon ar gyfer pobl sy'n trefnu teithio sy'n ymwneud â phlant a phobl ifanc ac sy'n cynnwys oedolion.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

Gwneud trefniadau teithio

* *

  1. cynllunio trefniadau teithio sy'n cyfarfod ag anghenion y daith ac anghenion y cyfranogwyr

  2. cynllunio trefniadau teithio sy'n cydbwyso effeithlonrwydd, cost-effeithiolrwydd, cyfforddusrwydd a gofal am yr amgylchedd

  3. cynllunio ar gyfer hapddigwyddiadau oddi mewn i'ch cynlluniau teithio

  4. cynllunio trefniadau teithio sy'n ddiogel ac sy'n rhoi ystyriaeth i'r amodau yn ystod y daith

  5. rhoi gwybodaeth gywir a chyfredol am y trefniadau teithio i'r cyfranogwyr, cydweithwyr a phobl eraill

  6. sicrhau bod y cyfranogwyr, cydweithwyr a'r bobl eraill yn gwbl barod ar gyfer y daith

  7. dilyn holl reoliadau a gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer y daith

Arolygu teithio

  1. cymryd camau i sicrhau bod y cyfranogwyr, cydweithwyr a'r bobl eraill yn gadael ac yn cyrraedd mewn pryd

  2. cynnal a chadw diogelwch y cyfranogwyr, cydweithwyr a'r bobl eraill yn ystod y daith

  3. sicrhau bod cyfarpar, eiddo ac unrhyw ddogfennau teithio yn ddiogel ac yn saff yn ystod y daith

  4. arolygu trin cyfarpar ac eiddo er mwyn osgoi niwed a difrod

  5. sicrhau bod cerbydau ac atodion sydd dan eich rheolaeth a gweithrediad y cerbydau hyn yn cydymffurfio â rheoliadau a gweithdrefnau'r sefydliad

  6. delio gydag unrhyw anawsterau yn ystod y daith mewn ffordd sy'n cynnal ac yn cadw diogelwch, diogeled, cyfforddusrwydd y cyfranogwr, cydweithwyr a phobl eraill

  7. cadw'r cofnodion teithio angenrheidiol


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Gwneud trefniadau teithio

* *

  1. sut i gynllunio trefniadau teithio sy'n cyfarfod â gofynion y daith a gofynion y cyfranogwyr

  2. adnoddau a threfniadau ychwanegol all fod eu hangen ar gyfer pobl anabl

  3. sut i gynllunio trefniadau teithio sy'n cydbwyso effeithlonrwydd, cost-effeithiolrwydd, cyfforddusrwydd a gofal am yr amgylchedd

  4. pa fath hapddigwyddiadau all ddigwydd a pha gynlluniau i'w gwneud er mwyn rhoi ystyriaeth i'r rhain

  5. sut i gynllunio trefniadau teithio sy'n ddiogel ac sy'n rhoi ystyriaeth i'r amodau yn ystod y daith

  6. pwysigrwydd rhoi gwybodaeth gywir a chyfredol am y trefniadau teithio mewn da bryd i'r cyfranogwyr, cydweithwyr a phobl eraill: beth all fynd o'i le os na wneir hyn

  7. sut i roi gwybodaeth gywir a chyfredol am y trefniadau teithio i'r cyfranogwyr, cydweithwyr a phobl eraill

  8. y paratoadau y byddai'n rhaid i'r cyfranogwyr, cydweithwyr a phobl eraill fel ei gilydd wneud ar gyfer y dewis o deithiau

  9. sut i sicrhau bod y cyfranogwyr, cydweithwyr a'r bobl eraill yn gwbl barod ar gyfer y daith

  10. y gofynion trefniadaethol a chyfreithiol sy'n rheoli trefnu teithio ar gyfer cyfranogwyr

Arolygu teithio

  1. pa gamau i'w cymryd i sicrhau bod cyfranogwyr yn gadael ac yn cyrraedd mewn pryd

  2. pwysigrwydd sicrhau diogelwch a lles cyfranogwyr yn ystod y daith a sut i wneud hynny

  3. dulliau o annog ymddygiad positif a delio gydag ymddygiad annerbyniol

  4. sut i sicrhau bod cyfarpar, eiddo ac unrhyw ddogfennau teithio yn ddiogel ac yn saff yn ystod y daith

  5. sut i arolygu trin a thrafod cyfarpar ac eiddo er mwyn osgoi niwed a difrod

  6. sut i sicrhau bod cerbydau ac atodion sydd dan eich rheolaeth yn cydymffurfio â rheoliadau a gweithdrefnau'r sefydliad

  7. y mathau o anawsterau all godi yn ystod y daith a sut i ddelio â'r rhain mewn ffordd sy'n cynnal ac yn cadw diogelwch, diogeledd, cyfforddusrwydd y cyfranogwyr

  8. pa gofnodion sydd angen eu cadw a phwysigrwydd gwneud hyn


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad

1. Cyfranogwyr

1.1 oedolion

1.2 plant a phobl ifanc

1.3 grwpiau nad yw eu haelodau'n adnabod ei gilydd

1.4 cyfranogwyr sydd ag anghenion penodol mewn perthynas â'r gweithgaredd

1.5 unigolion

1.6 grwpiau

2. Cydweithwyr

2.1 staff ar lefel uwch

2.2 gweithio ar yr un lefel

2.3 y rhai hynny sy'n gweithio mewn swyddogaethau atodol


*

3. *Pobl eraill

3.1 cleientiaid

3.2 rhieni

3.3 oedolion eraill fel arweinwyr partïon


*

4. Trefniadau teithio

4.1 dull teithio

4.2 llwybr teithio

4.3 amserau gadael a chyrraedd

4.4 camau'r daith

4.5 bwyd a diod

4.6 cyfforddusrwydd a hylendid

4.7 llety dros nos

4.8 goruchwyliaeth a chefnogaeth

4.9 cludo cyfarpar ac eiddo

4.10 gofynion diogelwch

5. Siwrneiau

5.1 ar eich liwt eich hun

5.2 mewn cerbyd sefydliad/ar log

5.3 cludiant cyhoeddus

*
 *

6. Anawsterau

6.1 ymddygiad yn achosi niwed corfforol

6.2 ymddygiad yn achosi niwed emosiynol

6.3 ymddygiad yn achosi difrod


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau

​Rhestrir isod y prif sgiliau a'r priodoleddau generig sy'n gymwys i'r dasg o gyflwyno Rhaglenni Awyr Agored.

  1. Empathi

  2. Gwrando'n weithredol

  3. Hyfforddi

  4. Cyfathrebu

  5. Ymgynghori

  6. Dylanwadu a pherswadio

  7. Dirprwyo

  8. Diplomyddiaeth

  9. Galluogi

  10. Hwyluso

  11. Dilyn

  12. Arwain drwy esiampl

  13. Rheoli ymddygiad heriol

  14. Mentora

  15. Ysgogi

  16. Trafod a chyfaddawdu

  17. Sicrhau adborth

  18. Cynllunio a gwerthuso

  19. Darparu adborth

  20. Pennu amcanion

  21. Gwerthfawrogi a chefnogi eraill


Geirfa

Plant a phobl ifanc

Plant a phobl ifanc sydd heb fod yn anabl a'r rhai sydd yn anabl yn yr ystod oedran 4 – 16 oed (er mewn rhai achosion mae hyn hyd at 18 oed), yn ferched a bechgyn fel ei gilydd, o bob diwylliant a chefndir.


*

Hapddigwyddiadau

Darpariaeth a wnaed ar gyfer digwyddiadau all ddigwydd: y tywydd, damwain ac achos brys a newidiadau anorfod.  Gall hefyd gynnwys cynllunio ar gyfer materion ymddygiadol neu les gyda chyfranogion neu staff eraill.

Cyfranogwyr Anabl

Cyfranogwyr ag amhariadau sy'n wynebu rhwystrau wrth geisio cael mynediad i gyfleusterau prif ffrwd.  Mae hyn yn cynnwys pobl sydd ag amhariadau corfforol a synhwyraidd, anawsterau dysgu a chyfathrebu, cyflyrau meddygol, anghenion heriol a chymhleth all fod yn rhai parhaol neu dros dro.

Ar liwt yr unigolyn

Cerdded neu ar feic neu ganŵ


Dolenni I NOS Eraill

​Mae'r safon hon yn cyplysu â SKOP2, SKAOP3 a SKAOP13


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

29 Ebr 2018

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SkillsActive

URN gwreiddiol

SKAB228

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt a Galwedigaethau Technegol, Hamdden; teithio a thwristiaeth, Chwaraeon; hamdden ac adloniant, Galwedigaethau Chwaraeon a Ffitrwydd

Cod SOC


Geiriau Allweddol

trefniadaeth; goruchwyliaeth; teithio; siwrneiau; trefniadau; hapddigwyddiad; cyfranogwyr