Rhoi arweiniad mewn chwaraeon a hamdden egnïol

URN: SKAOP14
Sectorau Busnes (Suites): Rhaglenni Awyr Agored
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 28 Chwef 2014

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud â rhoi arweiniad ac annog diwylliant cydweithrediadol oddi mewn i leoliad chwaraeon a hamdden egnïol.  Mae'n canolbwyntio ar yr angen am ddiwylliant sy'n annog, yn ysgogi ac yn cefnogi cydweithwyr a budd-ddeiliaid eraill i gyflawni'r weledigaeth a'r amcanion yn eich maes gwaith.  Gallai 'maes gwaith' yn y cyd-destun hwn fod yn sefydliad neu gallai fod yn fenter neu'n brosiect partneriaethol.

Mae'r safon hon ar gyfer rheolwyr llinell flaen a rheolwyr canol yn y sector chwaraeon a hamdden egnïol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. annog ymrwymiad i nodau ac amcanion cyfrannol oddi mewn i gyfyngiadau presennol

  2. rhannu strategaethau cytunedig gyda chydweithwyr ac eraill er mwyn sicrhau bod nodau ac amcanion cyfrannol yn cael eu cyflawni

  3. arwain yn eich maes cyfrifoldeb fel bod y nodau a'r amcanion cytunedig yn cael eu cyflawni gan oresgyn sialensiau, datblygu atebion a manteisio ar gyfleoedd ar yr un pryd

  4. annog a dathlu creadigrwydd, newyddbethau, amrywiaeth a chynhwysiad oddi mewn i'ch maes cyfrifoldeb

  5. defnyddio dulliau arwain sy'n dwyn perthynas â chyfranogwyr ac â sefyllfaoedd

  6. defnyddio amrywiaeth o ddulliau er mwyn cyfathrebu gyda chydweithwyr ac eraill

  7. rhoi cefnogaeth a chyngor i'ch cydweithwyr ac eraill yn eich maes cyfrifoldeb pan fydd angen hynny arnynt, yn enwedig yn ystod cyfnodau anodd o anawsterau a newid

  8. cyfrannu at ddiwylliant o welliant parhaus

  9. galluogi cydweithwyr i ddatblygu eu dulliau personol o weithio a gwneud eu penderfyniadau eu hunain oddi mewn i derfynau cytunedig

  10. annog a rhoi cyfleoedd i gydweithwyr ac eraill i arwain yn eu meysydd arbenigol personol a dangos parodrwydd i ddilyn yr arweiniad hwn


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. agweddau canmoliaethus arwain, rheoli, hyfforddi a mentora a'r defnydd effeithiol ohonynt

  2. gwahanol dechnegau ar gyfer gosod cyfeiriad a phennu amcanion a chreu strategaethau

  3. dulliau o gyfathrebu gyda chydweithwyr ac eraill

  4. technegau ar gyfer gwella perfformiad wrth arwain

  5. methodolegau ar gyfer gwella cynllunio

  6. technegau ar gyfer hwyluso creadigrwydd a dyfeisgarwch

  7. gofynion cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiad a sut i gyfarfod â'r rhain wrth arwain tîm

  8. technegau gogyfer ag annog eraill i arwain a dulliau o gyflawni hyn

  9. gwahanol ffyrdd o fynd ati i ddatblygu timau a chyfranogwyr

  10. eich gwerthoedd, cymhelliant, gweledigaeth, cryfderau personol a meysydd i'w gwella wrth weithio mewn tîm

  11. cryfderau cydweithwyr ac eraill a'u meysydd i'w gwella

  12. gweledigaeth ac amcanion yn sefydliad cyfan

  13. gweledigaeth, amcanion, diwylliant a'r cynlluniau gweithredol ar gyfer eich maes cyfrifoldeb

  14. diwylliant arwain ar draws y sefydliad a'ch steil bersonol chi o arwain


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad

1. Cyfranogwyr

1.1 oedolion

1.2 plant a phobl ifanc

1.3 grwpiau nad yw eu haelodau'n adnabod ei gilydd

1.4 cyfranogwyr sydd ag anghenion penodol mewn perthynas â'r gweithgaredd

1.5 unigolion

1.6 grwpiau

2. Cydweithwyr

2.1 staff ar lefel uwch

2.2 gweithio ar yr un lefel

2.3 y rhai hynny sy'n gweithio mewn swyddogaethau ategol


*

3. Eraill

3.1 cleientiaid

3.2 rhieni

3.3 budd-ddeiliaid


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau

Rhestrir isod y prif sgiliau a'r priodoleddau generig sy'n gymwys i'r dasg o gyflwyno Rhaglenni Awyr Agored.

  1. Empathi

  2. Gwrando'n weithredol

  3. Hyfforddi

  4. Cyfathrebu

  5. Ymgynghori

  6. Dylanwadu a pherswadio

  7. Dirprwyo

  8. Diplomyddiaeth

  9. Galluogi

  10. Hwyluso

  11. Dilyn

  12. Arwain drwy esiampl

  13. Rheoli ymddygiad heriol

  14. Mentora

  15. Ysgogi

  16. Trafod a chyfaddawdu

  17. Sicrhau adborth

  18. Cynllunio a gwerthuso

  19. Darparu adborth

  20. Pennu amcanion

  21. Gwerthfawrogi a chefnogi eraill


Geirfa

Rheoliadau a gweithdrefnau'r sefydliad

Yn nodweddiadol, bydd y dogfennau hyn yn gosod y safonau, gweithdrefnau a'r gofynion ar gyfer cyflwyno'r gweithgaredd.  Gallant gynnwys rhestri cyfarpar, amlinelliad o gynlluniau sesiwn, pwyntiau a gweithdrefnau diogelwch.  Gallant hefyd gyfeirio at gyrff llywodraethol Cenedlaethol (CLlC) penodol neu gyrff gweithgarwch cenedlaethol eraill perthnasol yn nhermau gwybodaeth a chanllawiau sy'n ymwneud â gweithgareddau.  Gall y dogfennau hefyd gyfeirio at lefelau staffio yn nhermau cymarebau, cymwysterau a'r hyfforddiant/asesiad yr ymgymerwyd ag e, a gall fod ynghlwm wrth CLlC, ymgynghorwyr technegol a nodweddion allanol neu fewnol eraill.


Dolenni I NOS Eraill

​Mae'r safon hon yn cyplysu â SKAOP2, SKAOP5 a SKAOP12


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

29 Ebr 2018

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SkillsActive

URN gwreiddiol

SKAA322

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt a Galwedigaethau Technegol, Hamdden; teithio a thwristiaeth, Chwaraeon; hamdden ac adloniant, Galwedigaethau Chwaraeon a Ffitrwydd

Cod SOC


Geiriau Allweddol

darparu; arweinyddiaeth; chwaraeon; egnïol; hamdden