Dyrannu a monitro cynnydd eich gwaith yn eich maes cyfrifoldeb

URN: SKAOP12
Sectorau Busnes (Suites): Rhaglenni Awyr Agored
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 28 Chwef 2014

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud â sicrhau bod y gwaith sydd ei angen yn eich maes cyfrifoldeb chi yn cael ei gynllunio'n effeithiol a'i ddyrannu'n deg i unigolion a/neu dimau.  Mae hefyd yn gofyn am fonitro cynnydd a safon gwaith unigolion a/neu dimau er mwyn sicrhau bod y lefel angenrheidiol neu safon y perfformiad yn cael ei gyrraedd ac adolygu a diweddaru cynlluniau gwaith yng ngoleuni datblygiadau.

Gall maes y cyfrifoldeb fod yn gangen neu'n adran neu'n ardal weithredol neu'n safle gweithredu oddi mewn i sefydliad, er enghraifft.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

Dyrannu a monitro cynnydd eich gwaith yn eich maes cyfrifoldeb


*

  1. archwilio ffyrdd eraill o lanw swyddi gwag

  2. cadarnhau gyda'ch rheolwr y gwaith sydd ei angen yn eich maes cyfrifoldeb a cheisio eglurder, lle bydd angen, ar unrhyw bwyntiau a materion sydd heb eu penderfynu.

  3. cynllunio sut y bydd y gwaith yn cael ei wneud, gan geisio barn pobl yn eich maes cyfrifoldeb, adnabod unrhyw flaenoriaethau neu weithgareddau pwysig a gwneud y defnydd gorau o'r adnoddau sydd ar gael.

  4. sicrhau bod gwaith yn cael ei ddyrannu'n deg i unigolion a/neu dimau gan roi ystyriaeth i sgiliau, gwybodaeth a dealltwriaeth, profiad a llwyth gwaith a'r cyfle i ddatblygu.

  5. sicrhau bod unigolion a/neu dimau yn derbyn cyfarwyddyd ar waith sydd wedi ei ddyrannu, gan ddangos sut mae hynny'n cyd-fynd â'r weledigaeth a'r amcanion gogyfer â'r maes a'r sefydliad yn gyffredinol, a safon neu lefel y perfformiad disgwyliedig.

  6. annog unigolion a/neu dimau i ofyn cwestiynau, cynnig awgrymiadau a cheisio eglurhad mewn perthynas â gwaith sydd wedi'i ddyrannu.

  7. monitro cynnydd a safon gwaith unigolion a/neu dimau a hynny'n rheolaidd ac yn deg yn erbyn safon neu lefel y perfformiad disgwyliedig a rhoi adborth prydlon ac adeiladol.

  8. cefnogi unigolion a/neu dimau er mwyn canfod ac ymdrin â phroblemau a digwyddiadau annisgwyl.

  9. ysgogi unigolion a/neu dimau i gwblhau'r gwaith sydd wedi ei ddyrannu iddynt a, lle bydd cais wedi ei wneud a lle bydd hynny'n bosib, rhoi unrhyw gefnogaeth a/neu adnoddau ychwanegol er mwyn helpu i'w gwblhau.

  10. monitro eich maes am wrthdaro, gan ganfod yr achos(ion) pan fydd hynny'n digwydd ac ymdrin â'r mater yn brydlon ac effeithiol.

  11. adnabod perfformiad annerbyniol neu wael, trafod yr achos(ion) a chytuno ar ffyrdd o wella perfformiad gydag unigolion a/neu dimau.

  12. cydnabod pan fydd unigolion a/neu dimau wedi cwblhau darnau sylweddol o waith neu weithgareddau gwaith yn llwyddiannus

  13. defnyddio gwybodaeth a gasglwyd am berfformiad unigolion a/neu dimau mewn unrhyw werthusiadau perfformiad ffurfiol

  14. adolygu a diweddaru cynlluniau gwaith ar gyfer eich maes, gan adrodd yn glir am unrhyw newidiadau wrth y rhai fydd yn cael eu heffeithio.


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Dyrannu a monitro cynnydd eich gwaith yn eich maes cyfrifoldeb


*

  1. sut i ddewis a chymhwyso'r gwahanol ddulliau o gyfathrebu â phobl ar draws maes cyfrifoldeb, a hynny'n llwyddiannus

  2. pwysigrwydd cadarnhau/crisialu'r gwaith sydd ei angen yn eich maes cyfrifoldeb gyda'ch rheolwr a sut i wneud hyn yn llwyddiannus

  3. sut i adnabod a rhoi sylw dyladwy i faterion iechyd a diogelwch yn y dasg o gynllunio, dyrannu a monitro gwaith

  4. sut i lunio cynllun gwaith ar gyfer eich maes cyfrifoldeb, gan gynnwys sut i adnabod unrhyw flaenoriaethau neu weithgareddau hanfodol a'r adnoddau sydd ar gael

  5. pwysigrwydd gofyn am farn pobl sy'n gweithio yn eich maes a sut i ystyried eu safbwyntiau wrth lunio cynllun gwaith

  6. pam ei bod yn bwysig dyrannu gwaith i unigolion a/neu dimau a hynny mewn ffordd deg a sut i wneud hynny'n effeithiol

  7. pam ei bod yn bwysig bod unigolion a/neu dimau yn derbyn cyfarwyddyd ar waith sydd wedi ei ddyrannu a safon neu lefel y perfformiad disgwyliedig a sut i wneud hynny'n effeithiol

  8. pwysigrwydd dangos i unigolion a/neu dimau sut mae eu gwaith yn cyd-fynd â gweledigaeth ac amcanion y maes a gweledigaeth ac amcanion y sefydliad

  9. dulliau o annog unigolion a/neu dimau i ofyn cwestiynau a/neu geisio eglurhad mewn perthynas â gwaith sydd wedi ei ddyrannu iddynt.

  10. dulliau effeithiol o fonitro'n rheolaidd ac yn deg gynnydd a safon gwaith unigolion a/neu dimau yn erbyn y safonau neu lefel y perfformiad disgwyliedig

  11. sut i roi adborth prydlon ac adeiladol i unigolion a/neu dimau

  12. pam ei bod yn bwysig monitro eich maes am wrthdaro a sut i adnabod achos(ion) gwrthdaro pan fydd yn digwydd a sut i ymdrin â'r mater yn brydlon ac effeithiol

  13. pam ei bod yn bwysig adnabod perfformiad annerbyniol neu wael gan unigolion a/neu dimau a sut i drafod yr achosion a chytuno gyda nhw ar ffyrdd o wella perfformiad

  14. y mathau o broblemau a digwyddiadau annisgwyl all ddigwydd a sut i gefnogi unigolion a/neu dimau wrth ymdrin â nhw

  15. y gefnogaeth a/neu adnoddau ychwanegol y bydd unigolion a/neu dimau eu hangen o bosib i'w helpu i gwblhau eu gwaith a sut i gynorthwyo gyda darparu hyn

  16. sut i ddewis a chymhwyso'n llwyddiannus wahanol ffyrdd o annog, ysgogi a chefnogi unigolion a/neu dimau er mwyn iddynt gwblhau'r gwaith sydd wedi ei ddyrannu iddynt, gwella eu perfformiad ac er mwyn cydnabod eu llwyddiannau

  17. sut i gofnodi gwybodaeth ar berfformiad parhaus unigolion a/neu dimau a defnyddio'r wybodaeth hon at ddibenion gwerthuso perfformiad ffurfiol

  18. pwysigrwydd adolygu a diweddaru cynlluniau gwaith ar gyfer eich maes yng ngoleuni datblygiadau, sut i ail-ddyrannu gwaith ac adnoddau gan adrodd yn glir am unrhyw newidiadau wrth y rhai fydd yn cael eu haffeithio

  19. gofynion y diwydiant/sector ar gyfer datblygu neu gynnal a chadw gwybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau

  20. deddfwriaeth, rheoliadau, canllawiau, codau ymarfer penodol y diwydiant/sector mewn perthynas â chyflawni gwaith

  21. yr unigolion a/neu dimau yn eich maes cyfrifoldeb

  22. y weledigaeth a'r amcanion ar gyfer eich maes cyfrifoldeb

  23. gweledigaeth ac amcanion y sefydliad cyffredinol

  24. y gwaith sydd ei angen yn eich maes cyfrifoldeb

  25. yr adnoddau sydd ar gael ar gyfer gwneud y gwaith angenrheidiol

  26. y cynllun gwaith ar gyfer eich maes cyfrifoldeb

27 atganiad polisi ysgrifenedig y sefydliad ar fater iechyd a diogelwch a gwybodaeth a gofynion cysylltiedig  

  1. polisi a gweithdrefnau eich sefydliad yn nhermau datblygiad personol

  2. safonau neu lefel perfformiad disgwyliedig y sefydliad

  3. polisïau a gweithdrefnau'r sefydliad gogyfer â delio â pherfformiad gwael

  4. polisïau a gweithdrefnau cwyno a disgyblu'r sefydliad

  5. systemau gwerthuso perfformiad y sefydliad


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau

Rhaid i chi ddangos eich bod yn gyson yn:

  1. Adnabod yn brydlon unrhyw newidiadau mewn amgylchiadau ac addasu cynlluniau a gweithgareddau yn unol â hynny.

  2. Blaenoriaethu amcanion a chynllunio gwaith er mwyn gwneud y defnydd gorau o amser ac adnoddau.

  3. Sicrhau eich bod yn neilltuo amser i gefnogi eraill.

  4. Cymryd cyfrifoldeb personol dros beri i bethau'n digwydd.

  5. Dangos ymwybyddiaeth o'ch gwerthoedd, cymhellion ac emosiynau personol.

  6. Dangos gonestrwydd, tegwch a chysondeb wrth wneud penderfyniadau.

7 .Cytuno'n glir â'r hyn a ddisgwylir gan eraill a'u dal yn atebol.

  1. Ceisio deall anghenion a chymhellion pobl.

  2. Ymfalchïo yn y dasg o gyflwyno gwaith o safon uchel.

  3. Bod yn effro i risgiau a pheryglon posib.

  4. Annog a chefnogi eraill i wneud y defnydd gorau o'u doniau.

  5. Defnyddio amrywiaeth o ddulliau arwain sy'n briodol i bobl a sefyllfaoedd gwahanol.


Sgiliau

Rhestrir isod y prif sgiliau a'r priodoleddau generig sy'n gymwys i'r dasg o gyflwyno Rhaglenni Awyr Agored.

  1. Empathi

  2. Gwrando'n weithredol

  3. Hyfforddi

  4. Cyfathrebu

  5. Ymgynghori

  6. Dylanwadu a pherswadio

  7. Dirprwyo

  8. Diplomyddiaeth

  9. Galluogi

  10. Hwyluso

  11. Dilyn

  12. Arwain drwy esiampl

  13. Rheoli ymddygiad heriol

  14. Mentora

  15. Ysgogi

  16. Trafod a chyfaddawdu

  17. Sicrhau adborth

  18. Cynllunio a gwerthuso

  19. Darparu adborth

  20. Pennu amcanion

  21. Gwerthfawrogi a chefnogi eraill


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

29 Ebr 2018

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SkillsActive

URN gwreiddiol

CFAMLD6

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt a Galwedigaethau Technegol, Hamdden; teithio a thwristiaeth, Chwaraeon; hamdden ac adloniant, Galwedigaethau Chwaraeon a Ffitrwydd

Cod SOC


Geiriau Allweddol

awyr agored