Hwyluso hamdden awyr agored

URN: SKAOP11
Sectorau Busnes (Suites): Rhaglenni Awyr Agored
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 28 Chwef 2014

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud â darparu profiadau hamdden yn yr awyr agored.

Mae'r safon hon yn cynnwys tri phrif ddeilliant:

  1. Cadarnhau sylfeini'r gweithgaredd hamdden

  2. Hwyluso profiadau awyr agored er mwyn cyfarfod ag anghenion hamdden y cyfranogwyr

  3. Rheoli lles corfforol ac emosiynol y cyfranogwyr

Mae'r safon hon ar gyfer staff sydd â rhywfaint o brofiad o weithio yn yr awyr agored ac sy'n gallu gweithio heb unrhyw oruchwyliaeth uniongyrchol.  Cyd-destunau posib – gweithio'n uniongyrchol gydag oedolion a phobl ifanc, er enghraifft mewn canolfan gweithgareddau gwyliau neu yn ystod gwyliau teithio yn y DU neu dramor er mwyn darparu deilliannau hamdden.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

Cadarnhau sylfaeni'r gweithgaredd hamdden

* *

  1. rhyngweithio â'r cyfranogwyr yn unol â gofynion y gweithgaredd a rheoliadau a gweithdrefnau'r sefydliad

  2. sicrhau bod y cyfranogwyr yn deall sut i ddefnyddio'r cyfarpar a'r dillad darparu lleoliad ac adnoddau sy'n cyfarfod ag anghenion y cyfranogwyr, rheoliadau a gweithdrefnau'r sefydliad

  3. annog y cyfranogwyr i gael y mwyaf o'r profiad hamdden

  4. tawelu meddwl y cyfranogwyr ynglŷn ag unrhyw agweddau ar y profiad sydd, o bosib, yn peri pryderu iddyn nhw

Hwyluso profiadau awyr agored er mwyn cyfarfod ag anghenion hamdden y cyfranogwyr

  1. cwblhau dadansoddiad anghenion mewn perthynas â'r cyfranogwyr

  2. pennu nodau realistig ar gyfer y cyfranogwyr

  3. darparu gweithgareddau heriol ar gyfer y cyfranogwyr

  4. cefnogi, rheoli ac annog y cyfranogwyr er mwyn sicrhau bod eu hanghenion yn cael eu bodloni

  5. rhoi'r cyfle i'r cyfranogwyr adolygu'r profiad hamdden

  6. rhoi gwybodaeth i'r cyfranogwyr am sut i barhau â'r gweithgaredd yn y dyfodol

Rheoli lles corfforol ac emosiynol y cyfranogwyr

* *

  1. dilyn rheoliadau a gweithdrefnau'r sefydliad mewn perthynas â'r gweithgaredd

  2. rheoli risg er mwyn cadw'r gweithgaredd mor ddiogel ag sydd angen gan roi ystyriaeth i fanteision mentro

  3. monitro ar gyfer dechreuad perygl corfforol ac emosiynol, gan gynnwys amodau anffafriol

  4. annog y cyfranogwyr i fod yn gyfrifol am eu diogelwch personol a diogelwch y grŵp

  5. annog ymddygiad positif ac ymdrin yn effeithiol gydag ymddygiad annerbyniol

  6. ymyrryd yn ôl y galw er mwyn arbed neu gyfyngu ar niwed

  7. adnabod a rheoli terfynau corfforol ac emosiynol cyfranogwyr a'u galluogi i gadw eu hurddas a'u hunan-barch

  8. cynnal a chadw ac amrywio rheolau sylfaenol yn unol â rheoliadau a gweithdrefnau'r sefydliad a gofynion y cyfranogwyr

  9. ymateb i ddigwyddiadau ac achosion brys yn unol â rheoliadau a gweithdrefnau'r sefydliad


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Cadarnhau sylfaeni'r gweithgaredd hamdden

* *

  1. y cyfarpar a'r dillad i gyd-fynd â'r profiad

  2. sut i greu amgylchfyd gwrando effeithiol sy'n annog cyfranogwyr i leisio eu barn

  3. y mathau o agwedd ac ymddygiad sy'n annog hwyl a mwynhad o fewn terfynau diogelwch

  4. pam ei bod yn bwysig sicrhau bod y cyfranogwyr yn deall sut i ddefnyddio'r cyfarpar a'r dillad gan amlhau i'r eithaf y profiad hamdden ar yr un pryd

  5. sut i annog y cyfranogwyr i gael y mwyaf o'r profiad hamdden

  6. pam fod angen i'r cyfranogwyr fod wedi cael cyfarwyddyd llawn ynghylch y profiad ynghyd â'i nodau a'i amcanion

  7. y rheolau sylfaenol angenrheidiol, iechyd a diogelwch, gofynion rheoliadau a gweithdrefnau'r sefydliad sy'n eu tanategu gan gynnwys:  

  8. sut i dawelu meddwl y cyfranogwyr ynglŷn ag unrhyw agweddau ar y profiad sydd, o bosib, yn peri pryder iddyn nhw a pham ei bod yn bwysig gwneud hyn

  9. pam ei bod yn bwysig cwblhau asesiad cychwynnol o anghenion cyfranogwyr

  10. technegau ysgogi

Hwyluso profiadau awyr agored er mwyn cyfarfod ag anghenion hamdden y cyfranogwyr

* *

  1. y broses a'r drefn gofnodi berthnasol ar gyfer asesu angen

  2. sut i bennu cyrchnodau realistig ar gyfer y cyfranogwyr a'r sgiliau sydd eu hangen i'w cyflawni

  3. gweithgareddau heriol, ond sydd heb fod yn fygythiol

  4. ymatebion nodweddiadol unigolion sydd dan bwysau

  5. technegau rheoli grŵp

  6. pam ei bod yn bwysig rhoi cyfle i'r cyfranogwyr adolygu'r profiad hamdden a sut i wneud hyn

  7. pa wybodaeth i'w rhoi i gyfranogwyr am sut i barhau â'r gweithgaredd yn y dyfodol

Rheoli lles corfforol ac emosiynol cyfranogwyr

  1. pam ei bod yn bwysig dilyn rheoliadau a gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer y digwyddiad a sut i wneud hyn

  2. offer a thechnegau asesu risg

  3. sut i fonitro ar gyfer dechrau perygl corfforol ac emosiynol, gan gynnwys amodau anffafriol

  4. pam ei bod yn bwysig annog cyfranogwyr i fod yn gyfrifol am eu diogelwch personol a diogelwch y grŵp a sut i wneud hyn

  5. manteision annog ymddygiad positif ac o ddelio'n effeithiol gydag ymddygiad annerbyniol

  6. sut i ymyrryd yn ôl yr angen i atal neu gyfyngu ar niwed

  7. sut i adnabod a rheoli terfynau corfforol ac emosiynol cyfranogwyr a'u galluogi i gadw eu hurddas a'u hunan-barch

  8. sut i gynnal a chadw ac amrywio rheolau sylfaenol yn unol â gofynion iechyd a diogelwch a gofynion y cyfranogwyr

  9. newid i 'y gweithdrefnau gogyfer ag ymateb i ddigwyddiadau ac achosion brys yn unol â gofynion iechyd a diogelwch'


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad

1. Cyfranogwyr

1.1 oedolion

1.2 plant a phobl ifanc

1.3 grwpiau nad yw eu haelodau'n adnabod ei gilydd

1.4 pobl sydd ag anghenion penodol mewn perthynas â'r gweithgaredd

  1. unigolion

1.6 grwpiau

2. Amodau anffafriol

2.1 tir anodd

2.2 amodau dŵr anodd

2.3 tywydd

*
 *

3. Ymddygiad positif

3.1 cyfathrebu

3.2 cymryd rhan

3.3 cefnogaeth y naill i'r llall

3.4 datrys problemau

3.5 tanio brwdfrydedd

*
 *

4. Ymddygiad annerbyniol

4.1 ymddygiad yn achosi niwed corfforol

4.2 ymddygiad yn achosi niwed emosiynol

4.3 ymddygiad yn achosi niwed difrod

5. Nodau

5.1 llwyddiant unigolyn

5.2 llwyddiant grŵp

6. Dadansoddi anghenion

6.1 agwedd ac ymddygiad

6.2 sgiliau gweithgaredd

6.3 sgiliau cyfathrebu

7. Profiad

7.1 un sesiwn

7.2 sawl diwrnod

7.3 yn gofyn am lety dros nos

7.4 cydaddysgol

7.5 sgiliau cyfathrebu


Gwybodaeth Cwmpas

1. Iechyd a diogelwch

1.1 deddfwriaeth sy'n berthnasol i iechyd a diogelwch

1.2 gweithdrefnau a gofynion y sefydliad

1.3. egwyddorion dyletswydd gofal

1.4 diogelu

1.5 iechyd emosiynol/seicolegol

1.6 rheolau trwyddedu ar gyfer gweithgareddau/canolfannau

1.7 canllawiau gwneuthurwyr cyfarpar

1.8 gwybodaeth dechnegol

1.9 y mathau o hapddigwyddiadau

1.10 gweithdrefnau achosion brys safonol


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau

​Rhestrir isod y prif sgiliau a'r priodoleddau generig sy'n gymwys i'r dasg o gyflwyno Rhaglenni Awyr Agored.

  1. Empathi

  2. Gwrando'n weithredol

  3. Hyfforddi

  4. Cyfathrebu

  5. Ymgynghori

  6. Dylanwadu a pherswadio

  7. Dirprwyo

  8. Diplomyddiaeth

  9. Galluogi

  10. Hwyluso

  11. Dilyn

  12. Arwain drwy esiampl

  13. Rheoli ymddygiad heriol

  14. Mentora

  15. Ysgogi

  16. Trafod a chyfaddawdu

  17. Sicrhau adborth

  18. Cynllunio a gwerthuso

  19. Darparu adborth

  20. Pennu amcanion

  21. Gwerthfawrogi a chefnogi eraill


Geirfa

Hapddigwyddiadau

Darpariaeth a wnaed ar gyfer digwyddiadau all godi: y tywydd, damwain ac achos brys a newidiadau anorfod.  Gall hefyd gynnwys cynllunio ar gyfer materion ymddygiadol neu les gyda chyfranogion neu staff eraill.

Rheoliadau a gweithdrefnau'r sefydliad

Yn nodweddiadol, bydd y dogfennau hyn yn gosod y safonau, gweithdrefnau a'r gofynion ar gyfer cyflwyno'r gweithgaredd.  Gallant gynnwys rhestri cyfarpar, amlinelliad o gynlluniau sesiwn, pwyntiau a gweithdrefnau diogelwch.  Gallant hefyd gyfeirio at gyrff llywodraethol Cenedlaethol (CLlC) penodol neu gyrff gweithgarwch cenedlaethol eraill perthnasol yn nhermau gwybodaeth a chanllawiau sy'n ymwneud â gweithgareddau.  Gall y dogfennau hefyd gyfeirio at lefelau staffio yn nhermau cymarebau, cymwysterau a'r hyfforddiant/asesiad yr ymgymerwyd ag e, a gall fod ynghlwm wrth CLlC, ymgynghorwyr technegol a nodweddion allanol neu fewnol eraill.  Mae sawl defnydd i *ddogfennau o safon dda ac o bosib bydd eu hangen ar amrywiaeth o *bartïon a budd-ddeiliaid mewnol ac allanol.  Mae'r dogfennau yn cynorthwyo i gyfleu gwybodaeth gyson a chlir i aelodau staff ac eraill.


Dolenni I NOS Eraill

​Mae'r safon hon yn cyplysu â SKAOP10 a SKAOP12


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

29 Ebr 2018

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SkillsActive

URN gwreiddiol

SKAD26

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt a Galwedigaethau Technegol, Hamdden; teithio a thwristiaeth, Chwaraeon; hamdden ac adloniant, Galwedigaethau Chwaraeon a Ffitrwydd

Cod SOC


Geiriau Allweddol

awyr agored; hwyluso; hamdden; cyfranogwyr; diogelwch; profiadau; anghenion; lles;