Rheoli’r defnydd effeithlon o adnoddau
URN: SKAODP9
                    Sectorau Busnes (Cyfresi): Rhaglenni Awyr Agored
                    Datblygwyd gan: SkillsActive
                    Cymeradwy ar: 
2021                        
                    
                Trosolwg
Mae'r safon yma'n ymwneud â rheoli adnoddau yr ydych yn gyfrifol amdanynt . Gall y rhain fod naill ai'n adnoddau ariannol mewn ffurf cyllideb neu adnoddau ffisegol megis cyfarpar a nwyddau traul. Mae'r safon yn ymwneud ag adnoddau a gaiff eu hargymell i chi a'ch tïm i gwrdd â'u hancanion. Mae hefyd yn ymwneud â monitro a rheoli'r ffordd caiff adnoddau eu defnyddio.
Anelir y safon yma at staff sydd â chyfrifoldebau sylweddol am reoli adnoddau.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1. rhoi cyfle i gydweithwyr ddarparu gwybodaeth ar yr adnoddau mae’r tîm eu hangen 
2.    cydgasglu gwybodaeth gan gydweithwyr am yr adnoddau mae’r tîm eu hangen 
3. gwneud argymhellion sy’n cymryd i ystyriaeth y tueddiadau a’r datblygiadau a’r arfer orau gyfredol sy’n debygol o effeithio ar y defnydd o adnoddau 
4. gwneud argymhellion sy’n gyson ag amcanion y tîm, rheoliadau a gweithdrefnau cyfundrefnol a materion amgylcheddol 
5.   rhoi cyfle i gydweithwyr gymryd cyfrifoldeb unigol dros y defnydd effeithlon o adnoddau pan fo gofyn iddynt
6.  monitro’r defnydd effeithlon o adnoddau o fewn maes eich cyfrifoldeb 
7.    gwneud yn siwr bod y defnydd o adnoddau gan y tîm yn cymryd yr effaith bosibl ar yr amgylchedd i ystyriaeth 
8. monitro ansawdd adnoddau a sicrhau bod cysondeb yn y modd caiff cynnyrch a gwasanaeth eu cyflenwi 
9.    gweithredu’n gywirol ac yn amserol i ddelio ag unrhyw anghysonderau arwyddocaol rhwng yr hyn gaiff ei gynllunio o ran defnyddio adnoddau a’r hyn sy’n digwydd 
10. gwneud yn siwr bod cofnodion sy’n ymwneud â’r defnydd o adnoddau yn cael eu cwblhau yn unol â’ch rheoliadau a gweithdrefnau cyfundrefnol 
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1.  y ddeddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau cyfredol sy’n berthnasol i ymarfer eich gwaith ac sydd raid i chi gadw atynt 
2. sut i roi cyfle i gydweithwyr i ddarparu gwybodaeth am yr adnoddau mae’r tîm eu hangen 
3.  sut i gydgasglu gwybodaeth gan gydweithwyr am yr adnoddau mae’r tîm eu hangen 
4.   sut i wneud argymhellion ar gyfer y defnydd effeithiol o’r adnoddau gan gymryd i ystyriaeth dueddiadau a datblygiad ac arfer orau gyfredol sy’n debygol o effeithio ar y defnydd o adnoddau 
5. sut i wneud argymhellion sy’n gyson ag amcanion y tîm, rheoliadau a gweithdrefnau cyfundrefnol a materion amgylcheddol 
6.  sut i ddarparu cyfleoedd i gydweithwyr gymryd cyfrifoldeb unigol dros eu defnydd effeithlon o adnoddau pan fo gofyn iddynt 
7.  sut i fonitro’r defnydd effeithlon o adnoddau o fewn maes eich cyfrifoldeb 
8.  sut i fonitro a rheoli’r defnydd o adnoddau er mwyn sicrhau cymaint o effeithlonrwydd â phosibl, tra’n cadw at ansawdd cynnyrch a gwasanaethau 
9.  pwysigrwydd rheolaeth effeithiol o adnoddau i berfformiad y sefydliad 
10.  sut i wneud yn siwr bod y defnydd o adnoddau gan y tîm yn cymryd i ystyriaeth yr effaith bosibl ar yr amgylchedd 
11.   sut i fonitro ansawdd yr adnoddau a sicrhau cysondeb wrth gyflenwi’r cynnyrch a’r gwasanaeth 
12.   y mathau o weithredu cywirol gellwch chi ei wneud os bydd  anghysonderau arwyddocaol rhwng yr hyn gaiff ei gynllunio o ran defnyddio adnoddau a’r hyn sy’n digwydd 
13. pwysigrwydd sicrhau bod cofnodion sy’n ymwneud â’r defnydd o adnoddau yn cael eu cwblhau yn unol â’ch rheoliadau a gweithdrefnau cyfundrefnol 
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Adnoddau
1.  ariannol
2. pobl
3. ffisegol/cyfarpar  
Gweithredu cywirol
*  
*
*
1.  newid gweithgareddau
2. addasu’r defnydd o adnoddau
3.  negodi’r dyraniad o adnoddau
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
SKAODP12
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
2024        
    
Dilysrwydd
        Ar hyn o bryd
        
    
Statws
        Gwreiddiol
        
    
Sefydliad Cychwynnol
        SkillsActive
        
    
URN gwreiddiol
        SKAOP13
        
    
Galwedigaethau Perthnasol
Cyfarwyddwr, Rheolwr, Hyfforddi Chwaraeon        
    
Cod SOC
        6211
        
    
Geiriau Allweddol
            rheoli; adnoddau