Cysylltu â chleientiaid er mwyn dadansoddi a chytuno ar eu hanghenion a’u hamcanion ar gyfer rhaglenni a gweithgareddau

URN: SKAODP5
Sectorau Busnes (Suites): Rhaglenni Awyr Agored
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 30 Maw 2021

Trosolwg

​Mae'r safon yma'n disgrifio'r gallu sydd ei angen i weithio gyda  chleientiaid yn y sector awyr agored ac i gytuno ar nodau ar gyfer rhaglenni a gweithgareddau awyr agored.

Caiff yr uned yma ei hargymhell i reolwyr ac ymarferwyr uwch yn y sector awyr agored.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:


1. sefydlu ffordd effeithiol o gysylltu gyda’r cleient.
2. sefydlu a chynnal perthynas waith gyda’r cleient sy’n arwain at drafodaeth a negodi 
3. casglu’r holl wybodaeth berthnasol 
4. dadansoddi gwybodaeth am gleientiaid er mwyn darparu gwybodaeth ar gyfer gosod nodau priodol 
5. sicrhau bod gan y cleient ddealltwriaeth gywir o’i sefydliad ei hun a’i wasanaethau  
6. sicrhau bod y cleient yn ymwybodol o’r amgylchedd awyr agored gynaliadwy, ei werth a’r manteision i anghenion y cleient 
7. galluogi’r cleient i fynegi nodau posibl sy’n briodol i’w anghenion, gallu a photensial 
8. gweithio gyda’r cleient i fireinio disgwyliadau fel eu bod yn realistig i’r sawl sy’n cymryd rhan, hyd y rhaglen a’r gwasanaethau gall ei sefydliad ei hun eu cynnig 
9. nodi a chytuno ar:
9.1 lefelau o gymryd risg emosiynol a chorfforol 
9.2 dulliau a strategaethau dysgu 
9.3 strategaethau trosglwyddo dysgu lle bo’n briodol
9.4 gwerthuso
9.5 unrhyw angen am ddilyniant
10. cofnodi canlyniadau’r trafodaethau a’r nodau a gytunwyd


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:


1. pam ei bod yn bwysig ymchwilio a negodi nodau clir ar gyfer rhaglenni awyr agored 
2. gwahanol ddulliau o gysylltu â chleientiaid a’u cryfderau a’u gwendidau cymharol 
3. sut i sefydlu a chynnal perthynas gyda’r cleient sy’n arwain at drafodaeth a negodi a chydweithio 
4. sut i ddadansoddi gwybodaeth sydd wedi ei gasglu gan y cleient 
5. pwysigrwydd cyd-ddealltwriaeth rhwng eich sefydliad chi ac un y cleient
6. pwysigrwydd cyflawniad ac amgylchedd gynaliadwy a pham bod rhaid i’r cleient ddeall hyn
7. yr effaith a’r manteision gall yr awyr agored ei gynnig i les y cleientiaid 
8. y mathau o wybodaeth sydd rhaid ei gael er mwyn datblygu nodau gyda’r cleient 
9. pwysigrwydd dilysu gwybodaeth gan y cleient a sut gellir gwneud hyn.
10. y gwahanol ddulliau o drefnu, dadansoddi a defnyddio gwybodaeth sy’n berthnasol i nodi a diffinio nodau ar gyfer rhaglenni awyr agored 
11. y prif brosesau a sgiliau a ddefnyddir pan yn trafod nodau ar gyfer rhaglenni awyr agored
12. pwysigrwydd sefydlu: lefelau o gymryd risg emosiynol a chorfforol; dulliau a strategaethau dysgu; strategaethau trosglwyddo dysgu lle bo’n briodol; gwerthuso; unrhyw angen am ddilyniant 
13. pan ei bod yn bwysig cael cytundeb gyda chleientiaid a chydweithwyr perthnasol 
14. pan ei bod yn bwysig cofnodi canlyniadau trafodaethau 
15. y gwahanol fathau o gleientiaid y mae darparwyr yn gweithio gyda hwy yn eich sector eich hun
16. yr amrywiaeth o nodau nodweddiadol y gall cleientiaid eu cael pan yn mynd at sefydliadau yn eu sector eu hunain
17. yr anghenion nodweddiadol, lefelau gallu a photensial y sawl sy’n cymryd rhan ac y datblygir rhaglenni awyr agored yn eich sector eich hun ar eu cyfer 
18. yr amrywiaeth o ddulliau posibl sydd ar gael i gwrdd â nodau cleientiaid 
19. y prif ffynonellau a'r mathau o wybodaeth y gellir eu defnyddio i adnabod anghenion ychwanegol ar gyfer rhaglenni awyr agored 
20. y gofynion cyfreithiol a rheoleiddiol all effeithio ar raglenni
yn eich sector eich hun a’u prif oblygiadau ar gyfer ymarferoldeb y rhaglen 
21. polisïau a’r gweithdrefnau eich sefydliad eich hun yn gysylltiedig â’r berthynas gyda chleientiaid a phrosesau negodi 
22. maint eich cyfrifoldebau i ymchwilio a negodi nodau ar gyfer rhaglenni awyr agored 
23. sut mae eich swyddogaeth yn cysylltu â swyddogaethau pobl eraill yn eich sefydliad mewn perthynas â chytuno ar nodau a datblygu rhaglenni 



Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth
1. sefydliad y cleient
2. adnoddau sydd ar gael
3. y sawl sy’n cymryd rhan
4. anghenion, galluoedd a photensial y sawl sy’n cymryd rhan
5. ffactorau eraill all effeithio ar nodau’r rhaglen


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill

​SKAODP6


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Maw 2024

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SkillsActive

URN gwreiddiol

SKAB243

Galwedigaethau Perthnasol

Rheolwr, Hyfforddi Chwaraeon, Cyfansoddwyr

Cod SOC

6211

Geiriau Allweddol

awyr sgored; rhaglenni; gweithgareddau; nodau; anghenion; cleientiaid