Dylanwadu ar strategaeth a’i datblygu a’i hadolygu

URN: SKAODP4
Sectorau Busnes (Suites): Rhaglenni Awyr Agored
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 30 Maw 2021

Trosolwg

​Mae'r safon yma'n ymwneud â newid parhaol ac effeithiol na ellir ond ei gyflawni drwy ddatblygiad strategol. Gall rheolwyr gynorthwyo'r broses yma drwy fod yn effro i 'yrrwyr newid' – er enghraifft tueddiadau newydd yn y farchnad, newidiadau yn agendâu'r llywodraeth, disgwyliadau newydd neu uwch yn nisgwyliadau'r cwsmer/gymuned. Rhaid iddynt werthuso'r gyrwyr newid hyn, asesu eu pwysigrwydd ar gyfer cyfeiriad y sefydliad, a chyfathrebu'r rhain 'i fyny' i bobl sy'n gwneud penderfyniadau allweddol.

Mae angen hefyd i reolwyr ddatblygu strategaeth ar gyfer maes eu cyfrifoldeb eu hunain, ymgynghori ynglŷn â'u cynigion gyda chydweithwyr a budd-ddeiliaid (er enghraifft cymunedau a chwsmeriaid) a gallu gwerthuso deilliannau strategol, gan geisio gwneud gwelliannau ar hyd y ffordd drwy'r amser  

Mae'r safon yma'n ymwneud â:

  1. nodi gyrwyr newid a'u gwerthuso
  2. dylanwadu ar holl strategaeth eich sefydliad
  3. datblygu strategaeth ar gyfer maes eich cyfrifoldeb eich hun
  4. gwerthuso deilliannau strategol

Argymhellir y safon yma i reolwyr ac ymarferwyr ar lefel uwch


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:


 Nodi a gwerthuso gyrwyr newid
1. nodi ffynonellau gwybodaeth allweddol am yrwyr newid a chadw cofnod ohonynt 
2. ymchwilio’n barhaus i wybodaeth am yrwyr newid 
3. gwerthuso’r wybodaeth a blaenoriaethu’r gyrwyr newid fel ag sy’n berthnasol i’ch sefydliad eich hun 
4. dadansoddi’r wybodaeth yma a defnyddio eich dadansoddiad i werthuso holl strategaeth eich sefydliad 
5. edrych ar y goblygiadau ar gyfer y dyfodol i’ch sefydliad a maes eich cyfrifoldeb 
6. trafod eich ymchwil gyda chydweithwyr perthnasol a chymryd eu safbwyntiau i ystyriaeth 
7. trefnu a chofnodi eich ymchwil a’ch casgliadau er mwyn hysbysu gwenud penderfyniadau yn y dyfodol 

Dylanwau ar holl strategaeth eich sefydliad
8. cyfathrebu eich ymchwil am yrwyr newid i’r sawl sy’n gwneud penderfyniadau allweddol 
9. edrych ar oblygiadau eich ymchwil gyda’r sawl sy’n gwneud penderfyniadau allweddol 
10. ymchwilio a darparu gwybodaeth ychwanegol fel bo angen
11. llunio achos sy’n argyhoeddi a gwneud argymhellion ar gyfer newid 
12. nodi a negodi agweddau o strategaeth gyfundrefnol lle gellir gwneud newidiadau a gwelliannau. 

Datblygu eich strategaeth eich hun ym maes eich cyfrifoldeb *
13. arwain yn y datblygiad o weledigaeth y gellir ei chyflawni ac sy’n anogol ym maes eich cyfrifoldeb sy’n gyson â holl strategaeth eich sefydliad 
14. nodi a blaenoriaethau nodau sy’n gyson â’ch gweledigaeth a’r hyn y gwydds i fod yn yrwyr newid 
15. gwneud yn siwr bod eich gweledigaeth a’ch nodau’n cymryd i ystyriaeth ac yn mynd i’r afael â’r adnoddau sydd ar gael a’r hyn y gwydds eu bod yn rhwystrau i newid 
16. datblygu polisïau a gwerthoedd fydd yn arwain gwaith cydweithwyr i gyflawni’r weledigaeth a’r nodau
17. gwneud yn siwr bod eich strategaeth yn sicrhau cydbwysedd rhwng arloesedd a risg ar y naill law ac atebion sydd wedi cael eu profi’n llwyddiannus ar y llaw arall 
18. gwneud yn siwr bod eich strategaeth yn hyblyg ac yn agored i newid allanol a mewnol 
19. ymgynghori ynglŷn â’ch strategaeth gyda chydweithwyr, y sawl sy’n gwneud penderfyniadau a budd-ddeiliaid, gan gymryd eu safbwyntiau i ystyriaeth a gwneud newidiadau fel bo’n briodol 
20. sicrhau cefnogaeth i’ch strategaeth gan gydweithwyr a budd-ddeiliaid 
21. nodi mesurau perfformiad allweddol ac amserlenni sy’n gyson â’ch gweledigaeth, nodau a pholisïau 
22. rhoi dulliau monitro a gwerthuso ar waith a fydd yn darparu’r wybodaeth yr ydych ei hangen ar gyfer eich mesurau perfformiad 

Gwerthuso deilliannau strategol*
23. casglu gwybodaeth o fewn amserlenni a gytunwyd 
24. dadansoddi gwybodaeth yn erbyn mesurau perfformiad allweddol 
25. datblygu a chofnodi casgliadau ac argymhellion i wella’ch strategaeth
26. adrodd am eich casgliadau a’ch argymhellion i gydweithwyr, y sawl sy’n gwneud penderfyniadau a budd-ddeiliaid a chymryd eu hadborth i ystyriaeth 
27. addasu eich strategaeth yn unol â chasgliadau ac argymhellion a gytunwyd 



Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:


1. y gwerthoedd hollgyffredinol ar gyfer eich sefydliad a maes eich gwaith, yn cynnwys tegwch, a ddylai hysbysu datblygiad strategaeth a’i werthusiad  
2. y gwerthoedd a’r cysyniadau allweddol sy’n sail i waith yn eich  sector
3. natur, hyd a lled a strwythur eich sector
4. y manteision cymdeithasol ac economaidd allweddol mae eich sector yn ei gyfrannu i gymdeithas 
5. rolau a swyddogaethau prif rannau eich sector (gan gynnwys y dimensiynau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol) a sut mae nhw’n cysylltu â’i gilydd 
6. amcanion a gweithrediadau’r prif fathau o sefydliadau yn eich sector a’u budd-ddeiliaid 
7. y cysyniad o wasanaeth, y gymysgfa cynnyrch/gwasanaeth a swyddogaeth a phwysigrwydd datblygu cynnyrch/gwasanaeth 
8. pynciau cyfoes yn eich sector, gan gynnwys effaith polisïau’r llywodraeth 
9. beth yw strategaeth a pholisi a pham bod sefydliadau eu hangen 
10. natur gylchynnol datblygu strategaeth 
11. egwyddorion ac offer rheolaeth sy’n berthnasol i ddatblygiad strategaeth 
12. strategaeth a pholisi eich sefydliad fel mae’n effeithio ar faes eich gwaith a beth mae’r rhain yn ceisio ei gyflawni 
13. llinellau cyfathrebu ac atebolrwydd o fewn eich sefydliad ar faterion strategol 
14. pam fod ymwybyddiaeth o yrwyr newid yn arbennig o bwysig wrth ddatblygu strategaeth 
15. y gyrwyr newid mewnol ac allanol sy’n effeithio ar ddatblygiad strategaeth a pholisi, yn cynnwys agendâu cenedlaethol a chyd-destunau lleol/cymunedol 
16. sut i gadw i fyny ar strategaeth a pholisi
17. sut i nodi goblygiadau strategaeth a pholisi ar gyfer maes eich gwaith a pham bod hyn yn bwysig 
18. sut mae gwahanol agweddau o strategaeth a pholisi yn gysylltiedig â’i gilydd 
19. y ffynonellau cyfundrefnol, cenedlaethol a lleol/cymunedol allwch chi eu defnyddio i nodi a gwerthuso gyrwyr newid 
20. sut i ymchwilio a dadansoddi gwybodaeth am yrwyr newid a nodi’r goblygiadau i’ch sefydliad a maes eich gwaith  
21. y gwahaniaeth rhwng gwybodaeth ansoddol a meintiol a dulliau ymchwil priodol 
22. sut i ddefnyddio cynllunio ar gyfer senario
23. pwysigrwydd trafod a chytuno ar newid strategol gyda chydweithwyr, y sawl sy’n gwneud penderfyniadau a budd-ddeiliaid 
24. sut i wneud argymhellion ar gyfer newid 
25. sut i lunio achos ar gyfer newid sy’n argyhoeddi a dylanwadu ar y sawl sy’n gwneud penderfyniadau a negodi gyda hwy
26. sut i ddylanwadu ar agendâu am newid a’u negodi
27. pwysigrwydd cael gweledigaeth anogol ar gyfer maes eich cyfrifoldeb a sut i ddatblygu 
28. sut i nodi’r nodau allweddol sy’n cefnogi eich gweledigaeth 
29. pwysigrwydd cael polisïau a gwerthoedd fydd yn arwain gwaith eich cydweithwyr a sut i ddatblygu’r rhain 
30. pwysigrwydd dysgu o brofiad y gorffennol a bod yn arloesol wrth ddatblygu strategaeth
31. rhwystrau posibl i newid strategol a sut i fynd i’r afael â’r rhain 
32. pwysigrwydd sicrhau cefnogaeth i’ch strategaeth a sut i wneud hynny
33. sut i asesu a rheoli risg pan yn datblygu strategaeth
34. pwysigrwydd monitro a gwerthuso newid strategol 
35. y gwahaniaeth rhwng allbynnau a deilliannau 
36. sut i ddatblygu mesurau perfformiad a dulliau monitro/gwerthuso
37. sut i ddadansoddi gwybodaeth am fesurau perfformiad allweddol ac adnabod gwelliannau i berfformiad



Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Ffynonellau gwybodaeth
1. oddi mewn i’r sefydliad
2. o fewn y gymuned
3. tu allan I’r sefydliad yn genedlaethol

Gyrwyr newid
1. deddfwriaeth a rheoleiddiad
2. polisi llywodraeth/strategaeth
3. polisïau/strategaethau eich sefydliad eich hun
4. polisïau a strategaethau sefydliadau eraill
5. cymdeithasol
6. economaidd
7. technolegol
8. anghenion a disgwyliadau’r cwsmer/y gymuned
9. anghenion a disgwyliadau’r budd-ddeiliad
10. cystadleuwyr busnes
11. adnoddau sydd ar gael

*Gwybodaeth *
1. ansoddol
2. meintiol


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill

​SKAODP3, SKAODP9


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Maw 2024

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SkillsActive

URN gwreiddiol

SKAA13

Galwedigaethau Perthnasol

Rheolwr, Hyfforddi Chwaraeon, Cyfarwyddwr;

Cod SOC

6211

Geiriau Allweddol

dylanwadu; datblygu; adolygu; strategaeth; gweithgar; hamdden