Darparu arweinyddiaeth mewn amgylcheddau hamdden gweithgar

URN: SKAODP3
Sectorau Busnes (Suites): Hyfforddi Chwaraeon,Rhaglenni Awyr Agored,Ymarfer Corff a Ffitrwydd
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 30 Maw 2021

Trosolwg

​Mae'r safon yma yn ymwneud â darparu arweinyddiaeth ac annog diwylliant cydweithredol o fewn amgylcheddau hamdden gweithgar. Y mae'n canolcwyntio ar yr angen am ddiwylliant sy'n annog, cymhell a chefnogi unigolion a budd-ddeiliaid eraill i gyflawni'r weledigaeth a'r amcanion yn eich maes gwaith.  Yn y cyd-destun hwn gall 'Maes Gwaith' fod yn sefydliad neu fe all fod yn gynllun partneriaeth neu brosiect.

Mae'r safon yma ar gyfer rheolwyr llinell gyntaf a chanol yn y sector hamdden gweithgar.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

​1. Annog ymrwymiad i nodau ac amcanion sy’n cael eu rhannu o fewn cyfyngiadau sy’n bodoli. 

2. rhannu strategaethau gyda chydweithwyr ac eraill er mwyn sicrhau bod nodau ac amcanion cyffredin yn cael eu cyflawni 

3. arwain ym maes eich cyfrifoldeb er mwyn cyflawni nodau ac amcanion a gytunwyd tra’n goresgyn heriau, a datblygu atebion a manteisio ar gyfleoedd 
4. annog a dathlu creadigrwydd, arloesedd, amrywiaeth a chynhwysiant o fewn maes eich cyfrifoldeb 
5. gosod esiampl dda pan yn ymgysylltu â chydweithwyr, eraill a’r sawl sy’n cymryd rhan 
6. defnyddio dulliau arweinyddiaeth sy’n berthnasol i gydweithwyr ac eraill 
7. defnyddio amrywiaeth o ddulliau i gyfathrebu gyda chydweithwyr ac eraill 
8. rhoi cefnogaeth a chyngor i gydweithwyr ac eraill pan maent ei angen, yn enwedig mewn cyfnodau o siomedigaeth a newid 
9. cyfrannu tuag at ddiwylliant o newid parhaus 
10. grymuso cydweithwyr i ddatblygu eu ffyrdd eu hunain o weithio a gwenud eu penderfyniadau eu hunain o fewn terfynau a gytunwyd 
11. annog a rhoi cyfleoedd i gydweithwyr ac eraill i gynnig arweiniad ym meysydd eu harbenigedd eu hunain a dangos parodrwydd i ddilyn yr arweiniad yma 


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

​1. y ddeddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau cyfredol sy’n berthnasol i ymarfer eich gwaith ac sydd raid i chi gadw atynt 

2. yr agweddau ategol o arweinyddiaeth, hyfforddiant a mentora a’r defnydd effeithiol ohonynt
3. technegau gwahanol ar gyfer gosod cyfeiriad a sefydlu amcanion a chreu strategaethau
4. dulliau o gyfathrebu gyda chydweithwyr ac eraill 
5. technegau er mwyn gwella perfformiad mewn arweinyddiaeth 
6. methodolegau ar gyfer cynllunio gwelliant
7. technegau ar gyfer hwyluso creadigrwydd ac arloesedd 
8. sut i gyflwyno eich hun mewn modd cadarnhaol gosod esiampl dda i eraill 
9. gofynion ar gyfer cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant a sut i gwrdd â’r rhain pan yn arwain tîm 
10. technegau ar gyfer annog eraill i gynnig arweiniad a ffyrdd y gellir gwneud hynny 
11. gwahanol ffyrdd o ddatblygu timau a’r sawl sy’n cymryd rhan 
12. eich gwerthoedd eich hun, eich cymhelliant, gweledigaeth, cryfderau a mannau lle gellir gwella mewn swyddogath o fewn y tîm 
13. cryfer a mannau lle gellir gwella i gydweithwyr ac i eraill 
14. gweledigaeth ac amcanion yr holl sefydliad 
15. gweledigaeth, amcanion, diwylliant a chynlluniau gweithredol maes eich cyfrifoldeb 
16. diwylliant arweinyddiaeth ar draws y sefydliad a’ch dull chi o arweinyddiaeth 


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill

​SKAODP1, SKAODP4, SKAODP9


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Maw 2024

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SkillsActive

URN gwreiddiol

SKAOP14

Galwedigaethau Perthnasol

Cyfarwyddwr, Chwaraeon; hamdden ac adloniant, Hyfforddwr

Cod SOC

6211

Geiriau Allweddol

arweinyddiaeth; gweithgar; hamdden; rheoli