Cefnogi pobl ag anableddau i gymryd rhan mewn gweithgareddau

URN: SKAODP2
Sectorau Busnes (Suites): Rhaglenni Awyr Agored,Ymarfer Corff a Ffitrwydd
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 30 Maw 2021

Trosolwg

​Mae'r safon yma'n ymwneud â galluogi pobl sydd ag anableddau corfforol, anhawsterau dysgu, neu namau synhwyrol i gymryd rhan mewn gweithgareddau. Fel arfer bydd hyn yn digwydd mewn cyd-destun iechyd a diogelwch, chwaraeon neu amgylchedd awyr agored.  Mae'r safon yma'n canolbwyntio ar y galluoedd sydd eu hangen er mwyn gweithio gyda phobl anabl sy'n cymryd rhan.

Mae tri phrif ddeilliant i'r safon yma. Y rhain yw:

  1. Nodi anghenion y bobl anabl sy'n cymryd rhan ar gyfer y gweithgaredd.
  2. Addasu gweithgareddau ar gyfer anghenion pobl anabl sy'n cymryd rhan.

  3. Cwrdd ag anghenion pobl anabl sy'n cymryd rhan.

Bwriedir y safon yma ar gyfer staff sy'n gweithio gyda phobl anabl sy'n cymryd rhan o fewn cyd-destun sy'n ymwneud â naill ai iechyd a diogelwch, chwaraeon neu'r amgylchedd. Rhaid i chi fod wedi cael eich hyfforddi yn y gweithgareddau yr ydych yn eu harwain ac mewn gweithio gyda phobl anabl sy'n cymryd rhan a bod â phrofiad o'r meysydd hynny.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:


Nodi anghenion pobl anabl sy’n cymryd rhan ar gyfer y gweithgaredd
1. casglu gwybodaeth gywir am anghenion yr unigolyn sy’n cymryd rhan 
2. ceisio cymorth gan eraill i helpu dehongli’r wybodaeth, pan fo angen 
3. gwneud asesiad o allu’r unigolyn mewn perthynas â’r gweithgaredd
4. cofnodi’r wybodaeth yn unol â gweithdrefnau cyfundrefnol 
5. nodi’r newidiadau i’r gweithgaredd a’r gefnogaeth y gall yr unigolyn sy’n cymryd rhan fod eu hangen

Addasu gweithgareddau i anghenion pobl anabl sy’n cymryd rhan
6. gwneud yn siwr bod y nodau sydd wedi eu cynllunio ar gyfer y gweithgaredd yn ddiogel ac yn realistig ar gyfer yr unigolyn sy’n cymryd rhan, tra’n parhau i gynnig cyfleoedd ar gyfer her a datblygiad 
7. llunio’r gweithgaredd a pharatoi ar ei gyfer fel ei fod yn cwrdd ag anghenion yr unigolyn sy’n cymryd rhan, gan gymryd i ystyriaeth reoleiddiadau a gweithdrefnau cyfundrefnol 
8. hysbysu cydweithwyr ac eraill yn llawn am natur a nodau’r gweithgaredd 
9. gwneud yn siwr gall yr unigolyn sy’n cymryd rhan fynd yn ddiogel i’r amgylchedd ac at y cyfarpar lle bydd y gweithgaredd yn digwydd 
10. gwneud yn siwr bod unrhyw gefnogaeth ar gyfer anghenion personol, meddygol a chyfathrebu’r unigolyn ar gael 
11. ceisio cymorth pan bydd problemau sydd y tu hwnt i lefel eich gallu yn codi 
*Cwrdd ag anghenion pobl anabl sy’n cymryd rhan *
12. cyfathrebu gyda’r unigolyn sy’n cymryd rhan mewn ffordd sy’n cwrdd â’i anghanion 
13. gwirio lefel dealltwriaeth yr unigolyn sy’n cymryd rhan o bob agwedd allweddol yn ystod y gweithgaredd 
14. darparu cymorth uniongyrchol yn ystod y gweithgaredd gyda chydsyniad yr unigolyn sy’n cymryd rhan yn unig
15. darparu lefel o oruchwyliaeth drwy gydol y gweithgaredd sy’n bodloni gofynion diogelwch, llesiant a meddygol yr unigolyn sy’n cymryd rhan
16. adolygu gyda’r unigolyn sy’n cymryd rhan ac eraill bod y gweithgaredd a’r trefniadau yn cwrdd â’u hanghenion 
17. gweithio mewn modd diogel bob amser yn unol â’r holl ddeddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau 


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

​Nodi anghenion pobl anabl sy’n cymryd rhan ar gyfer y gweithgaredd *

1. pwysigrwydd nodi pa wybodaeth am anghenion yr unigolyn sy’n cymryd rhan all fod angen ei chasglu gennych
2. sut i gasglu gwybodaeth am anghenion yr unigolyn sy’n cymryd rhan mewn modd sentitif
3. y ffynonellau o gymorth ar gyfer dehongli gwybodaeth am anableddau 
4. sut i wneud asesiad o allu’r unigolyn sy’n cymryd rhan gan gymryd y model cynhwysiad i ystyriaeth.
5. gweithdrefnau ar gyfer cofnodi’r wybodaeth ar gyfer ei defnyddio yn y dyfodol 
6. y mathau mwyaf cyffredin o anabledd y gellwch ddod ar eu traws a goblygiadau’r rheiny i’r gweithgaredd 
7. sut i nodi’r diwygiadau i’r gweithgaredd, y gefnogaeth gall yr unigolyn fod hangen a’r gweithdrefnau ar gyfer gwirio’r diwygiadau hyn gydag eraill 

Addasu gweithgareddau i anghenion pobl anabl sy’n cymryd rhan 
8. sut i wneud yn siwr bod y nodau a gynlluniwyd ar gyfer y gweithgaredd yn ddiogel ac yn realistig ar gyfer yr unigolyn sy’n cymryd rhan, tra’n parhau i gynnig cyfleoedd ar gyfer her a datblygiad 
9. gwerth chwaraeon, adloniant a/neu weithgareddau hamdden i bobl sy’n cymryd rhan a phwysigrwydd eu cynnwys hyd at eithaf eu gallu 
10. sut i lunio’r gweithgaredd a pharatoi ar ei gyfer tra’n dilyn rheoleiddiadau a gweithdrefnau cyfundrefnol
11. pam ei bod yn bwysig hysbysu cydweithwyr ac eraill yn llawn am natur a nodau’r gweithgaredd
12. sut i wneud yn siwr gall yr unigolyn sy’n cymryd rhan fynd yn ddiogel i’r amgylchedd ac at y cyfarpar lle bydd y gweithgaredd yn digwydd
13. pam ei bod yn bwysig ceisio cymorth pan bydd problemau sydd y tu hwnt i lefel eich gallu yn codi
Cwrdd ag anghenion pobl anabl sy’n cymryd rhan*
14. sut i gyfathrebu gyda’r unigolyn sy’n cymryd rhan mewn ffordd sy’n cwrdd â’i anghanion
15. pam ei bod yn bwysig gwirio lefel dealltwriaeth yr unigolyn sy’n cymryd rhan o bob agwedd allweddol yn ystod y gweithgaredd
16. pam ei bod yn bwysig sicrhau cydsyniad yr unigolyn sy’n cymryd rhan tra’n darparu cymorth uniongyrchol yn ystod y gweithgaredd 
17. sut i ddarparu lefel o oruchwyliaeth drwy gydol y gweithgaredd sy’n bodloni gofynion diogelwch, llesiant a meddygol yr unigolyn sy’n cymryd rhan 
18. pam ei bod yn bwysig adolygu gyda’r unigolyn sy’n cymryd rhan ac eraill bod y gweithgaredd a’r trefniadau yn cwrdd â’u hanghenion a sut mae gwneud hynny 
19. y ddeddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau cyfredol sy’n berthnasol i ymarfer eich gwaith ac sydd raid i chi gadw atynt


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth
*
*
1. natur yr anabledd
2. beth gall yr unigolyn sy’n cymryd rhan ei wneud
3. gofynion ar gyfer mynediad
4. cyfarpar arbennig sydd ei angen
5. hoff ddulliau cyfathrebu
6. gofynion diogelwch
7. gofynion llesiant
8. gofynion meddygol
9. hanes blaenorol o gymryd rhan


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill

​SKAODP7, SKAODP8


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Maw 2024

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SkillsActive

URN gwreiddiol

SKAOP19

Galwedigaethau Perthnasol

Cyfarwyddwr, Hyfforddwr

Cod SOC

6211

Geiriau Allweddol

anabledd; gweithgareddau; cefnogaeth; ymarfer corff; gweithgaredd corfforol