Trefnu a goruchwylio teithio

URN: SKAODP11
Sectorau Busnes (Suites): Rhaglenni Awyr Agored
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 30 Maw 2021

Trosolwg

​Mae'r safon yma'n ymwneud â threfnu a goruchwylio teithio ar gyfer plant, pobl ifanc ac oedolion. Gall teithio fod yn cael ei yrru gan y teithiwr ei hun, megis ar droed neu ar feic, mewn cerbyd y mae'n berchen arno neu'n ei logi, neu ar drafnidiaeth gyhoeddus.

Mae gan y safon yma ddau ddeilliant. Y rhain yw:

  1. gwneud trefniadau ar gyfer teithio
  2. goruchwylio  teithio

Mae'r safon yma ar gyfer pobl sy'n trefnu teithio sy'n cynnwys plant a phobl ifanc gydag oedolion yn cymryd rhan.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

​1 cynllunio trefniadau teithio sy’n cwrdd â gofynion y daith ac anghenion y sawl sy’n cymryd rhan 

2. cynllunio trefniadau teithio sy’n sicrhau cydbwysedd rhwng effeithlonrwydd, cost-effeithiolrwydd, cysur a gofal am yr amgylchedd 
3. cynllunio ar gyfer digwyddiadau annisgwyl o fewn eich trefniadau teithio 
4. cynllunio trefniadau teithio sy’n ddiogel ac sy’n cymryd amodau yn ystod y daith i ystyriaeth 
5. rhoi’r wybodaeth gywir a diweddaraf am y trefniadau teithio i’r sawl sy’n cymryd rhan, cydweithwyr ac eraill 
6. sicrhau bod y sawl sy’n cymryd rhan, cydweithwyr ac eraill wedi eu llwyr baratoi ar gyfer y daith 
7. cymryd camau i sicrhau bod y sawl sy’n cymryd rhan, cydweithwyr ac eraill yn cychwyn ac yn cyrraedd mewn da bryd 
8. cynnal diogelwch y sawl sy’n cymryd rhan, cydweithwyr ac eraill yn ystod y daith 
9. sicrhau bod cyfarpar, meddiannau ac unrhyw ddogfennau teithio’n saff ac yn ddiogel yn ystod y daith 
10. goruchwylio’r modd mae cyfarpar a meddiannau yn cael eu trin fel ag i osgoi anaf a difrod 
11. delio ag unrhyw drafferthion yn ystod y daith mewn modd sy’n sicrhau diogelwch, diogeledd, cysur y sawl sy’n cymryd rhan, cydweithwyr ac eraill 
12. gweithio’n ddiogel bob amser yn unol â’r ddeddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau perthnasol  
13. cadw cofnodion teithiau sy’n ofynnol yn unol â gofynion a gweithdrefnau cyfundrefnol 


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

​1. y ddeddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau cyfredol sy’n berthnasol i ymarfer eich gwaith ac sydd raid i chi gadw atynt 

2. amrediad a chyfyngiadau eich gallu, cyfrifoldebau ac atebolrwydd fel ag y mae’n berthnasol i’ch swydd

3. sut i roi ar waith weithdrefnau a phrotocolau penodol ar gyfer iechyd, diogelwch a lles y sawl sy’n cymryd rhan  
4. sut i gynllunio trefniadau teithio sy’n cwrdd â gofynion y daith ac anghenion y sawl sy’n cymryd rhan 
5. adnoddau a threfniadau ychwanegol all fod yn angenrheidiol ar gyfer unigolion sydd ag anableddau dysgu a/neu gorfforol 
6. sut i gynllunio adnoddau a threfniadau ychwanegol all fod yn angenrheidiol i gwrdd ag anghenion y sawl sy’n cymryd rhan 
7. sut fathau o ddigwyddiadau annisgwyl all ddigwydd a pha gynlluniau y dylid eu gwneud i gymryd y rhain i ystyriaeth
8. sut i gynllunio trefniadau teithio sy’n ddiogel ac sy’n cymryd amodau yn ystod y daith i ystyriaeth
9. pwysigrwydd rhoi’r wybodaeth gywir a diweddaraf am y trefniadau teithio i’r sawl sy’n cymryd rhan, cydweithwyr ac eraill 
10. sut i roi’r wybodaeth gywir a diweddaraf am y trefniadau teithio i’r sawl sy’n cymryd rhan, cydweithwyr ac eraill 
11. sut i sicrhau bod y sawl sy’n cymryd rhan, cydweithwyr ac eraill wedi eu llwyr baratoi ar gyfer y daith 
12. pa gamau gellir eu cymryd er mwyn sicrhau bod y sawl sy’n cymryd rhan, cydweithwyr ac eraill yn cychwyn ac yn cyrraedd mewn da bryd 
13. pwysigrwydd sicrhau diogelwch a lles y sawl sy’n cymryd rhan yn ystod y daith a sut i wneud hynny
14. dulliau o annog ymddygiad cadarnhaol a delio ag ymddygiad annerbyniol
15. sut i sicrhau bod cyfarpar, meddiannau ac unrhyw ddogfennau teithio’n saff ac yn ddiogel yn ystod y daith 
16. sut i oruchwylio’r modd mae cyfarpar a meddiannau yn cael eu trin fel ag i osgoi anaf a difrod 
17. sut i sicrhau bod cerbydau sydd o dan eich rheolaeth yn cydymffurfio â deddfwriaethau, canllawiau polisïau a gweithdrefnau cyfredol 
18. y mathau o drafferthion all godi yn ystod y daith a sut i ddelio â’r rhain mewn modd sy’n cynnal diogelwch, diogeledd, cysur y sawl sy’n cymryd rhan
19. pa ddogfennau sydd angen eu cadw a phwysigrwydd gwneud hynny


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Trefniadau teithio
*
*
1. dull o drafnidiaeth
2. llwybr
3. amseroedd ymadael a chyrraedd
4. camau ar hyd y daith
5. bwyd a diod
6. cysur a glendid
7. llety dros nos
8. goruchwyliaeth a chefnogaeth
9. cludo cyfarpar a meddiannau
10. gofynion iechyd, diogelwch a lles
11. cynllun gweithredu argyfwng

**Eraill**

*
*
1. clientiaid
2. rhieni
3. oedolion eraill megis arweinwyr partïon


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill

​SKAODP7, SKAODP8 a SKAODP12


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Maw 2024

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SkillsActive

URN gwreiddiol

SKAOP15

Galwedigaethau Perthnasol

Cyfarwyddwr, Rheolwr, Hyfforddi Chwaraeon

Cod SOC

6211

Geiriau Allweddol

awyr agored; rhaglenni; teithio; goruchwyliaeth