Gwella a chynnal ewinedd drwy ddefnyddio syanacrylad

URN: SKANT7
Sectorau Busnes (Suites): Gwasanaethau Ewinedd
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 30 Maw 2021

Trosolwg

​​Mae'r safon yma yn cydfodoli â, SKAHDBRBNST1 *Gweithredu a chynnal arferion gwaith diogel, glanwaith ac effeithiol* *a *SKAHDBRBNS1 Ymgynghori, asesu, cynllunio a pharatoi ar gyfer gwasanaethau Gwallt, Barbro, Harddwch, Ewinedd, Lles a Holistig. **Mae'r safon yma ar gyfer rhywun proffesiynol ym maes Ewinedd sy'n darparu gwasaneth i'r ewin i wella, cynnal a thrwsio gwelliannau syanacrylad i'r ewin. Mae'r gwasanaeth gwella'r ewin gyda syanacrylad yn cynnwys paratoi'r ewinedd, siapio'r ewinedd, gwaith ar y glasgroen ac ymestyn yr ewin naturiol drwy ddodi gorchudd gwella'r ewin syanacrylad. Bydd gofyn i chi hefyd wneud gwerthusiad ar ôl y driniaeth ac adfyfyrio er mwyn gwelliant parhaus. Bydd rhaid i ddefnyddwyr y safon yma wneud yn siwr bod eu harferion yn adlewyrchu'r wybodaeth, polisïau a gweithdrefnau diweddaraf a chyfarwyddyd am arfer orau. Cynghorir defnyddwyr o'r safon yma i fod yn ymwybodol o, a chydymffurfio gyda gofynion cymorth cyntaf yn unol â deddfwriaeth a pholisïau a gweithdrefnau cyfundrefnol.

Y prif ddeilliannau yw:

  1. Gwella'r ewinedd drwy ddodi gorchudd syanacrylad ar y blaenau
  2. Dodi gorchudd syanacrylad er mwyn trwsio'r ewin naturiol
  3. Dodi powdr polymer
    4.

Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

1. cynnal ymgynghoriad cryno a chynhwysfawr gyda'r unigolyn

  1. cadw at eich cyfrifoldebau am iechyd a diogelwch yn unol â deddfwriaeth, rheoliadau, gorchmynion a chanllawiau

  2. trafod a sefydlu amcanion, pryderon, disgwyliadau a'r canlyniadau y mae'n eu dymuno er mwyn hysbysu'r cynllun gwasanaeth syanacrylad, i gynnwys:

3.1 y dewis o liw i'r powdr polymer

3.2 ffordd o fyw

3.3 dewisiadau triniaeth amgen

  1. cadarnhau a chytuno gyda'r unigolyn, ei fod wedi deall y  gwasanaeth syanacrylad arfaethiedig, i gynnwys:

4.1 gwrth-weithredoedd

4.2 adweithiau niweidiol

4.3 teimlad corfforol ar haen yr ewin a'r croen o amgylch

  1. sicrhau a chofnodi cydsyniad gwybodus yr unigolyn wedi ei hysbysu ar gyfer y gwasanaeth syanacrylad

  2. paratoi man triniaeth yr unigolyn yn unol â'r protocol gwasanaeth syanacrylad*, *i gynnwys:

6.1 cael gwared o unrhyw gynnyrch sy'n bodoli o'r ewin yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr

  1. gwneud dadansoddiad o'r ewin a'r croen, i gynnwys:

7.1 cyflwr yr ewin

7.2 cyflwr y croen

7.3 hyd a siap yr ewin

  1. trafod a chytuno ar y gwasanaeth hylif monomer a'r powdr polymer yn unol â'r protocol gwasanaeth syanacrylad

  2. cadarnhau gyda'r unigolyn yr hyd a'r siap i'r ewin y mae'n ei ddymuno

  3. clipio a siapio'r ewinedd er mwyn sicrhau min rhydd esmwyth yn unol â'r protocol gwasanaeth syanacrylad

  4. paratoi'r glasgroen yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr

  5. defnyddio offer i gael gwared o lasgroen o blât gweledig yr ewin heb niweidio'r croen o amgylch

  6. paratoi plat yr ewin ar gyfer gorffeniad yr hylif monomer a'r powdr polymer, yn unol â'r protocol gwasanaeth syanacrylad

*Dodi'r gorchudd hylif monomer a phowdr polymer ar ewinedd naturiol i'w trwsio *

14. dodi resin gan adael ymyl yn rhydd o'r croen o amgylch, a'i adael i drin yn unol â'r protocol gwasanaeth syanacrylad

  1. addasu, ffitio a dodi'r ffabrig/troch'r powdr polymer i'r ewin er mwyn sicrhau bod y cynnyrch y siap ac yn y lleoliad cywir, gan adael ymyl rhydd o gwmpas y croen o amgylch yn unol â'r protocol gwasanaeth syanacrylad, i gynnwys:

15.1 asesu'r angen i ddodi stribyn straen

  1. dodi gan adael ymyl rhydd a gwmpas y croen o amgylch a'I adael i drin yn unol â'r protocol gwasanaeth syanacrylad Dodi blaenau a gorchuddion gwella ewin* syanacrylad*

  2. dewis ac addasu blaenau'r ewin i gyd-fynd ag ewin naturiol yr unigolyn yn unol â'r protocol gwasanaeth syanacrylad

  3. cysylltu blaen yr ewin gyda'r ewin naturiol gan ddefnyddio glud i'r ewin yn unol â'r protocol gwasanaeth syanacrylad, i gynnwys:

18.1 torri a siapio ymyl rhydd y blaenau

18.2 ymdoddi'r blaenau i mewn i'r ewin naturiol os oes angen fel na fydd modd sylwi arnynt gan sicrhau na fydd difrod i'r ewin naturiol

  1. dodi resin gan adael ymyl rhydd o amgylch y croen o gwmpas a'i adael i drin yn unol â'r protocol gwasanaeth syanacrylad

  2. addasu, ffitio ffabrig/trochi'r powdr polymer i'r ewin er mwyn sicrhau bod y cynnyrch y siap ac yn y lleoliad cywir, gan adael ymyl rhydd o gwmpas y croen o amgylch yn unol â'r protocol gwasanaeth syanacrylad,

  3. dodi resin gan adael ymyl rhydd o amgylch y croen o gwmpas a'i adael i sychu yn unol â'r protocol gwasanaeth Technegau Gorffen

  4. defnyddio technegau ffeilio er mwyn creu'r cydbwysedd, yr hyd a'r siap y gofynnir amdano

  5. defnyddio technegau caboli er mwyn creu wyneb a sglein esmwyth a gwastad

  6. monitro iechyd, lles ac adwaith croen yr unigolyn drwy gydol y gwasanaeth syanacrylad

  7. gweithredu yn y modd cywir os bydd adwaith niweidiol

  8. cwblhau'r gwasanaeth yn unol â'r protocol gwasanaeth syanacrylad, gofynion deddfwriaethol a pholisïau a gweithdrefnau cyfundrefnol

  9. cwblhau cofnodion gwasanaeth yr unigolyn a'u cadw'n unol â deddfwriaeth data 

28. defnyddio ymarfer adfyfyriol er mwyn gwerthuso'r gwasanaeth syanacrylad a gweithredu'n briodol

  1. rhoi *cyfarwyddiadau *a chyngor i'r unigolyn cyn ac ar ôl y gwasanaeth

  2. cofnodi canlyniad a gwerthusiad o'r gwasanaeth syanacrylad


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

1. eich swyddogaeth a'ch cyfrifoldebau pan yn darparu'r gwasanaethau syanacrylad, a phwysigrwydd gweithio o fewn eich gallu

  1. pam fod rhaid i chi gydymffurfio ag arfer moesegol a gweithio o fewn gofynion deddfwriaethol, i gynnwys:

2.1 y cyfrifoldebau o dan reoliadau trwyddedu'r awdurdod lleol i chi eich hun a'ch adeilad

  1. pwysigwrydd ymwneud â, a chofnodi datblygiad proffesiynol parhaus i gynnwys, polisïau gwybodaeth, gweithdrefnau a chyfarwyddyd am yr arfer orau diweddaraf

4. yr *anatomeg a'r ffisioleg *sy'n berthnasol i'r safon yma

  1. y gwrtharwyddion cymharol a llwyr sy'n berthnasol i'r driniaeth ewinedd, i gynnwys:

5.1 y gofynion deddfwriaethol ac yswiriant ar gyfer cael diagnosis a chyfeirio meddygol

  1. pwysigrwydd adnabod nodweddion afreolaidd amheus ac anafiadau ar y croen, a chyfeirio at rywun proffesiynol perthnasol ym maes gofal iechyd

7. diben, y defnydd o a chyfyngiadau gwasanaethau syanacrylad, mewn perthynas â:

7.1 hanes meddygol o'r gorffennol a chyfredol

7.2 cyflwr yr ewin a'r croen

7.3 ffactorau perthnasol sy'n ymwneud â'r ffordd o fyw

7.4 meddyginiaeth a chyflyrau meddygol

7.5 disgwyliadau'r unigolyn

  1. y gwahanol fathau o gyflyrau'r ewin a'r croen y gellir eu trin

  2. pwysigrwydd gwneud dadansoddiad o'r ewin a'r croen er mwyn penderfynu ar gynllun gwasanaeth syanacrylad

10 pwysigrwydd cadw at y protocol gwasanaeth syanacrylad

11. y technegau a ddefnyddir i wneud gwelliannau i'r ewin gan ddefnyddio syanacrylad, i gynnwys:

11.1 sut i addasu'r gwelliant syanacrylad i'r ewin er mwyn cwrdd ag anghenion yr unigolyn

  1. y mathau o ffeiliau a chlustogau a'u heffeithiau

  2. y mathau o flaenau'r ewin, a thechnegau o'u dodi a'u cyfuno

     14. manteision a chyfyngiadau blaenau sydd wedi eu cyfuno a heb eu cyfuno

  3. sut i ddodi gwelliannau i'r ewin er mwyn sicrhau eu bod cyn gryfed ac yn parhau cyhyd â phosib

16. y rhesymau dros adael ymyl rhydd o amgylch y croen o gwmpas

  1. cyfansoddiad cemegol syanacrylad, actifayddion, powdrau polymer a'r adwaith gemegol sy'n digwydd yn ystod y broses o drin

  2. yr effaith gaiff syanacrylad ar ffabrigau naturiol

  3. y rhesymau dros a phwysigrwydd osgoi adwaith ecsothermig

  4. sut mae *cynnrych gwella ewinedd syanacrylad * yn wahanol i gynnyrch gwella ewinedd eraill

  5. y mathau o systemau trochi powdr polymer a ffabrigau sydd ar gael a'u manteision

  6. sut i ddodi ffabrig a chynnyrch trochi powdr polymer i welliannau i'r ewin

  7. y mathau o gynnyrch glendid ar gyfer y croen a phwysigrwydd dilyn cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr

  8. mathau o, manteision a chyfyngiadau cynnyrch a chyfarpar yr ewinedd a ddefnyddir mewn gwasanaethau gwella ewinedd syanacrylad

  9. sut i baratoi, defnyddio a chynnal a chadw cynnyrch, offer a chyfarpar, yn unol â'r protocol gwasanaeth syanacrylad, i gynnwys

26. pam ei fod yn bwysig glanhau a sychu'r ewin naturiol cyn dodi system gwella'r ewin, i gynnwys:

26.1 y rhesymau dros ddefnyddio cynnyrch cyn triniaeth er mwyn sychu plat yr ewin

  1. y rhesymau dros ddodi cynnyrch wedi triniaeth yn dilyn dodi'r deunydd syanacrylad i wella'r ewin

  2. technegau trwsio ewinedd naturiol

  3. technegau trwsio gwelliannau i'r ewinedd

30. y mathau o ddulliau cynnal a chadw a ddefnyddir i adfer gwelliannau i'r ewin, sut a phryd i'w cyflawni

  1. y rhesymau pam fod gwelliant i'r ewin yn dioddef colled neu ddifrod annisgwyl a chynamserol yn dilyn gwasanaeth gwella'r ewin

  2. yr adweithiau niweidiol a gysylltir gyda gwasanaeth syanacrylad a sut i ymateb iddynt

  3. y cyfrifoldebau iechyd a diogelwch yn unol â deddfwriaeth cyn, yn ystod, ac ar ôl y gwasanaeth syanacrylad, i gynnwys:

33.1 pwysigrwydd echdynnu ac awyriant digonol pan yn defnyddio cynnyrch gwella'r ewin

  1. y rhesymau pam fod angen cynllun wrth gefn ar gyfer cael gwared o'r gwelliant i'r ewin mewn modd diogel, i gynnwys :

34.1. y ffyrdd gall cynllun wrth gefn fod yn effeithiol ac yn fodd o gadw iechyd a diogelwch yr unigolyn

35. pwysigrwydd defnyddio cynnyrch sydd wedi cael eu cymeradwyo'n gosmetig

  1. pwysigrwydd cadw at gyfarwyddiadau'r gwneuthurwr er mwyn atal anghydnawsedd cynnyrch a risgiau i iechyd

  2. y mathau a'r risgiau cysylltiedig o gynnyrch i'r ewinedd sy'n gysylltiedig â natur wenwynig

  3. pam ei fod yn bwysig trafod a sefydlu amcanion yr unigolyn, ei bryderon, disgwyliadau, y canlyniadau y mae'n eu dymuno a chytuno ar y cynllun gwasanaeth syanacrylad

39. y gofynion cyfreithiol ar gyfer darparu gwasanaethau i'r ewinedd i blant dan oed ac oedolion bregus

  1. y strwythurau talu a dewisiadau ar gyfer triniaeth

41. y gofynion deddfwriaethol a digollediad er mwyn sicrhau cydsyniad gwybodus wedi’i lofnodi ar gyfer gwasanaeth syanacrylad 

  1. pwysigrwydd monitro iechyd a lles yr unigolyn yn ystod ac ar ôl y gwasanaeth

43. y rhesymau dros gymryd delweddau gweledol cydsyniol o fan triniaeth yr unigolyn, a’u cadw yn unol â gofynion y gwasanaeth a rhai deddfwriaethol, yswiriant a chyfundrefnol

  1. y gofynion deddfwriaethol a rheoleiddiol ar gyfer cwblhau a chadw cofnodion o wasanaeth syanacrylad yr unigolyn

45. canlyniadau disgwyliedig gwasanaethau syanacrylad

  1. diben ymarfer adfyfyriol a gwerthuso a sut y mae'n darparu gwybodaeth ar gyfer gwasanaethau yn y dyfodol

  2. pwysigrwydd cofnodi canlyniad a gwerthusiad o'r gwasanaeth

48. y cyfarwyddiadau a'r cyngor, cyn ac ar ôl y gwasanaeth syanacrylad


Cwmpas/ystod

Adwaith niweidiol

  1. adwaith alergaidd

  2. afliwiad o'r cynnyrch

  3. afliwiad o blât yr ewin

  4. afliwiad o haen yr ewin

  5. plât yr ewin yn teneuo

  6. toriadau a chrafiadau

  7. cleisio

  8. goroleuad

  9. adwaith ecsothermig

10.  codi'r cynnyrch

11.  colli'r gwelliant yn rhy gynnar

12.  haint

Protocol gwasanaeth syanacrylad

  1. amgylchedd waith

  2. iechyd a diogelwch

  3. atal a rheoli haint

  4. cynllun gwasnaeth

  5. cydsyniad gwybodus

  6. rheoli data

  7. cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr

  8. archwilio ac atebolrwydd

  9. cyfarwyddiadau a chyngor

10.  cynaliadwyedd

11.  rheoli gwastraff

12.  ymarfer yn seiliedig ar dystiolaeth

13.  ymarfer adfyfyriol

Cyflwr yr ewin

**1. cnoi ewinedd

  1. afliwiad

  2. wedi ystumio

  3. hollt uwchben yr hyponychium

  4. llinellau beau

  5. llinellau hydredol a llorweddol gwrymiog

  6. sych

  7. onychorrhexis

  8. onycholysis

Hyd a siap yr ewin

  1. hir

  2. hyd canolig

  3. byr

  4. crwn

  5. hirgrwn

  6. sgwar

  7. sgwofal

  8. arch

  9. almon

10.  stileto

Cyfarwyddiadau

  1. hawliau a chyfrifoldebau cyfreithiol yr unigolyn a'r ymarferydd

  2. cyfarwyddiadau a gofal cyn ac ar ôl y driniaeth

  3. cyfyngiadau a risgiau cysylltiedig

  4. gwasanaethau yn y dyfodol

Anatomeg a ffisioleg

  1. strwythur a swyddogaeth systemau'r corff a'u cyd- ddibyniaeth ar ei gilydd o fewn y dwylo a'r traed

  2. y gwrtharwyddion a'r patholegau sy'n perthyn i'r uned ewinedd, tŵf yr ewinedd a'r croen

  3. strwythur a swyddogaethau'r ewinedd a thŵf yr ewinedd

Cynnyrch gwella ewinedd syanacrylad

**1. gwydr ffeibr

2. sidan

3. ffabrig

4. trochydd powdr polymer

Cynnyrch wedi triniaeth

**1. hufenau

  1. Olewon

Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Gwrtharwydd llwyr

Mae gwrtharwydd llwyr yn gyflwr sy'n rhwystro'r gwasanaeth rhag cael ei gyflawni a gall fod angen iddo gael ei gyfeirio.

Adwaith niweidiol**

Adwaith niweidiol yw adwaith 'annisgwyl' neu ganlyniad yn dilyn gwasanaeth, e.e. llewygu

Gwrth weithred

Gwrth weithred yw adwaith neu ganlyniad  'disgwyliedig' yn dilyn,

e.e. erythema

Ymarfer wedi ei seilio ar dystiolaeth

Mae ymarfer wedi ei seilio ar dystiolaeth yn seiliedig ar y dystiolaeth

orau gyfredol, ddilys a pherthnasol sydd ar gael.

Cymorth Cyntaf

Gall cymorth cyntaf gyfeirio at gymwysterau cymorth cyntaf yn y gwaith neu ei gyffelyb ac ymwybyddiaeth o gymorth cyntaf iechyd meddyliol.

Protocol

Protocol yw gweithdrefn safonol er mwyn sicrhau arfer orau a chydymffurfiad pan yn darparu gwasanaethau h.y. dilyn cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr.

Gwrtharwydd cymharol

Gwrtharwydd cymharol yw cyflwr sy'n gofyn am asesiad o addasrwydd ar gyfer y gwasanaeth a/neu os oes angen addasiadau.

Gwenwyndra

Penderfynir gwenwyndra gan adwaith rhywun i wahanol ddognau gemegolyn. Gall gwenwyndra neu adweithiau niweidiol ddigwydd o ganlyniad i anghydnawsedd gyda chymysgedd anghywir o gemegolion.


Dolenni I NOS Eraill

SKAHDBRBNST1, SKAHDBRBNS1, SKABN1, SKABN2, SKABN3, SKANT2, SKANT3, SKANT4, SKANT5, SKANT6, SKANT7, SKANT9


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Maw 2024

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SkillsActive

URN gwreiddiol

SKANS8

Galwedigaethau Perthnasol

Technegydd ewinedd

Cod SOC

6222

Geiriau Allweddol

gwelliannau i’r ewin, lapio, syanacrylad, gwydr ffeibr, resin, ewin artiffisial, powdr polymer, powdr trochi