Gwella a chynnal ewinedd drwy ddefnyddio hylif monomer a phowdr polymer

URN: SKANT5
Sectorau Busnes (Suites): Gwasanaethau Ewinedd
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 30 Maw 2021

Trosolwg

​Mae'r safon yma yn cydfodoli â, SKAHDBRBNST1 Gweithredu a chynnal arferion gwaith diogel, glanwaith ac effeithiol *a *SKAHDBRBNS1 Ymgynghori, asesu, cynllunio a pharatoi ar gyfer gwasanaethau Gwallt, Barbro, Harddwch, Ewinedd, Lles a Holistig. Mae'r safon yma ar gyfer rhywun proffesiynol ym maes Ewinedd sy'n darparu gwasaneth i'r ewin i wella, cynnal a thrwsio gwelliannau hylif monomer a phowdr polymer. Mae'r gwasanaeth hylif monomer a phowdr polymer yn cynnwys paratoi'r ewinedd, siapio'r ewinedd, gwaith ar y glasgroen ac ymestyn yr ewin naturiol drwy gerfio'r ewin gan ddefnyddio ffurfiau a hylif monomer a phowdr polymer neu ddodi hylif monomer i flaenau'r ewin a'i orchuddio gyda phowdr polymer. Bydd gofyn i chi hefyd wneud gwerthusiad ar ôl y driniaeth ac adfyfyrio er mwyn gwelliant parhaus. Bydd rhaid i ddefnyddwyr y safon yma wneud yn siwr bod eu harferion yn adlewyrchu'r wybodaeth, polisïau a gweithdrefnau diweddaraf a chyfarwyddyd am arfer orau. Cynghorir defnyddwyr y safon yma i fod yn ymwybodol o, a chydymffurfio gyda gofynion cymorth cyntaf yn unol â deddfwriaeth a pholisïau a gweithdrefnau cyfundrefnol.

Y prif ddeilliannau yw*:*

  1. Gwella'r ewinedd drwy gerfio hylif monomer a phowdr polymer.
  2. Gwella'r ewinedd drwy ddodi gorchudd hylif monomer a phowdr polymer ar flaenau'r bysedd.
  3. Dodi hylif monomer i flaenau'r ewin naturiol a'i orchuddio gyda phowdr polymer
  4. Cynnal a thrwsio gwelliannau i'r ewin
  5. Cynnal a thrwsio gorchuddion yr ewin naturiol

Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

1. cynnal ymgynghoriad cryno a chynhwysfawr gyda'r unigolyn

  1. cadw at eich cyfrifoldebau am iechyd a diogelwch yn unol â deddfwriaeth, rheoliadau, gorchmynion a chanllawiau

3. trafod a sefydlu amcanion, pryderon, disgwyliadau a'r canlyniadau y mae'n eu dymuno er mwyn hysbysu'r cynllun gwasanaeth hylif monomer a phowdr polymer, i gynnwys:

3.1 gorffeniad ewin hylif monomer a phowdr polymer

3.2 ffordd o fyw

3.3 dewisiadau triniaeth amgen

4. cadarnhau a chytuno gyda'r unigolyn, ei fod wedi deall y  gwasanaeth hylif monomer a phowdr polymer arfaethedig, i gynnwys:

4.1 gwrth-weithredoedd

4.2 adweithiau niweidiol

4.3 teimlad corfforol ar haen yr ewin a'r croen o amgylch

  1. sicrhau a chofnodi cydsyniad gwybodus yr unigolyn ar gyfer y gwasanaeth hylif monomer a'r powdr polymer

  2. paratoi man triniaeth yr unigolyn yn unol â'r protocol gwasanaeth hylif monomer a'r powdr polymer, i gynnwys:

6.1 cael gwared o unrhyw gynnyrch sy'n bodoli o'r ewin yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr

  1. gwneud dadansoddiad o'r ewin a'r croen, i gynnwys:

7.1 cyflwr yr ewin

7.2 cyflwr y croen

7.3 hyd a siap yr ewin

8. trafod a chytuno ar wasanaeth yr hylif monomer a'r powdr polymer yn unol â'r protocol gwasanaeth

  1. cadarnhau gyda'r unigolyn yr hyd a'r siap i'r ewin y mae'n ei ddymuno

  2. clipio a siapio'r ewinedd er mwyn sicrhau min rhydd esmwyth yn unol â'r protocol gwasanaeth hylif monomer a phowdr polymer

  3. paratoi'r glasgroen yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr

12. defnyddio offer i gael gwared o lasgroen o blât gweledig yr ewin heb niweidio'r croen o amgylch

  1. paratoi plat yr ewin ar gyfer gorffeniad yr hylif monomer a'r powdr polymer, yn unol â'r protocol gwasanaeth gwasanaeth hylif monomer a phowdr polymer

Dodi gorchudd hylif monomer *a phowdr polymer ar ewinedd naturiol

  1. dodi'r hylif monomer a'r powdr polymer ar yr ewin naturiol gan adael ymyl yn rhydd o'r croen o amgylch, i gynnwys:

14.1 creu strwythur ewin artiffisial yn unol â'r protocol gwasanaeth hylif monomer a phowdr polymer

Cerfio gan ddefnyddio hylif a phowdr polymer

  1. addasu a ffitio'r ffurf cerfio er mwyn sicrhau gosodiad a siap cywir i'r cynnyrch

  2. defnyddio'r gymhareb hylif monomer a phowdr polymer sydd eu hangen yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr

  3. dodi'r hylif monomer a'r powdr polymer gan adael bwlch yn rhydd o'r croen o amgylch, i gynnwys:

17.1 creu strwythur ewin artiffisial yn unol â'r protocol gwasanaeth hylif monomer a phowdr polymer

Dodi gorchudd hylif monomer a phowdr polymer ar flaenau'r bysedd

  1. dewis ac addasu blaenau'r ewin i gyd-fynd ag ewin naturiol yr unigolyn

  2. cysylltu blaen yr ewin gyda'r ewin naturiol gan ddefnyddio glud i'r ewin yn unol â'r protocol gwasanaeth, i gynnwys:

19.1 clipio a siapio ymyl rhydd y blaenau

19.2 ymdoddi'r blaenau i mewn i'r ewin naturiol os oes angen fel na fydd modd sylwi arnynt gan sicrhau na fydd difrod i'r ewin naturiol

  1. paratoi wyneb yr ewin naturiol ar gyfer yr hylif monomer a'r powdr polymer

  2. dodi'r hylif monomer a'r powdr polymer a gadael ymyl yn rhydd o'r croen o amgylch, i gynnwys:

21.1 creu strwythur ewin artiffisial yn unol â'r protocol gwasanaeth hylif monomer a phowdr polymer

Cynnal a thrwsio

  1. nodi unrhyw gynnal a chadw a/neu ddifrod annisgwyl I welliannau'r ewin, i gynnwys:

22.1 nodi achos y difrod annisgwyl

22.2 trwsio neu ailosod a gwelliant ewin sydd wedi ei ddifrodi

23. defnyddio technegau cynnal ewin er mwyn adfer gwelliant yr ewin i'w gyflwr gwreiddiol

Technegau gorffen

  1. defnyddio technegau ffeilio er mwyn creu'r cydbwysedd, yr hyd a'r siap ar gyfer yr ewin

  2. defnyddio technegau caboli er mwyn creu wyneb a sglein esmwyth a chytbwys

  3. dodi'r cynnyrch wedi'r driniaeth **yn unol â'r protocol gwasanaeth hylif monomer a phowdr polymer

  4. monitro iechyd, lles ac adwaith croen yr unigolyn drwy gydol y gwasanaeth hylif monomer a'r powdr polymer

28. gweithredu yn y modd cywir os bydd adwaith niweidiol

  1. cwblhau'r gwasanaeth yn unol â'r protocol gwasanaeth hylif monomer a'r powdr polymer, gofynion deddfwriaethol a pholisïau a gweithdrefnau cyfundrefnol

  2. cwblhau cofnodion gwasanaeth yr unigolyn a'u cadw'n unol â deddfwriaeth data

31. defnyddio ymarfer adfyfyriol er mwyn gwerthuso'r gwasanaeth hylif monomer a'r powdr polymer a gweithredu'n briodol

  1. rhoi cyfarwyddiadau a chyngor i'r unigolyn cyn ac ar ôl y gwasanaeth

  2. cofnodi canlyniad a gwerthusiad o'r gwasanaeth hylif monomer a'r powdr polymer


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

1. eich swyddogaeth a'ch cyfrifoldebau pan yn darparu'r gwasanaethau hylif monomer a'r gwasanaethau powdr polymer, a phwysigrwydd gweithio o fewn eich gallu

  1. pam bod yn rhaid i chi gydymffurfio ag arfer moesegol a gweithio o fewn gofynion deddfwriaethol, i gynnwys:

2.1 y cyfrifoldebau o dan reoliadau trwyddedu'r awdurdod lleol i chi eich hun a'ch adeilad

  1. pwysigwrydd ymwneud â, a chofnodi datblygiad proffesiynol parhaus i gynnwys, polisïau gwybodaeth, gweithdrefnau a chyfarwyddyd am yr arfer orau diweddaraf

  2. yr anatomeg a'r ffisioleg sy'n berthnasol i'r safon yma

  3. y gwrtharwyddion cymharol a llwyr sy'n berthnasol i'r driniaeth ewinedd, i gynnwys:

5.1 y gofynion deddfwriaethol ac yswiriant ar gyfer cael diagnosis a chyfeirio meddygol

  1. pwysigrwydd adnabod nodweddion afreolaidd ac anafiadau ar y croen, a chyfeirio at rywun proffesiynol perthnasol ym maes gofal iechyd

7. diben, y defnydd o a chyfyngiadau gwasanaethau hylif monomer a phowdr polymer, mewn perthynas â:

7.1 hanes meddygol o'r gorffennol a chyfredol

7.2 cyflwr yr ewin a'r croen

7.3 ffactorau perthnasol sy'n ymwneud â'r ffordd o fyw

7.4 meddyginiaeth a chyflyrau meddygol
7.5 disgwyliadau'r unigolyn

8. y mathau o gyflyrau'r croen a'r ewin sy'n addas ar gyfer gwelliannau i'r ewin

9. sut i wneud dadansoddiad o'r ewin a'r croen

10. pwysigrwydd gwneud dadansoddiad o'r ewin a'r croen er mwyn penderfynu ar gynllun gwasanaeth yr hylif monomer a'r powdr polymer

11. pwysigrwydd cadw at y protocol gwasanaeth hylif monomer a'r powdr polymer

  1. y technegau llaw a ddefnyddir wrth wneud gwelliannau i'r ewin gan ddefnyddio hylif monomer a phowdr polymer:

12.1 sut i addasu'r gwasanaeth hylif monomer a'r gwasanaeth powdr polymer er mwyn cwrdd ag anghenion yr unigolyn

13. y mathau o ffeiliau a chlustogau a'u heffeithiau

  1. y mathau o flaenau'r ewin, a thechnegau o'u trin a'u cyfuno

  2. manteision a chyfyngiadau blaenau sydd wedi eu cyfuno a heb eu cyfuno

16. y gwahaniaethau rhwng cyfryngau clymu alcalinaidd ac asidaidd a'u heffeithiau

  1. pryd a pham y caiff cyfryngau clymu eu defnyddio

  2. sut i ddodi gwelliannau i'r ewin er mwyn sicrhau eu bod cyn gryfed ac yn parhau cyhyd â phosibl

  3. y gwahanol fathau o ffurfiau cerfio sydd ar gael a sut i'w defnyddio nhw

  4. y gwahanol fathau o orffeniadau hylif monomer a phowdr polymer

  5. mathau o, manteision a chyfyngiadau cynnyrch hylif monomer a phowder polymer, i gynnwys:

21.1 sut i gael cynnyrch powdr **polymer lliw sy'n cydweddu gyda dosbarthiad y croen

22. y rhesymau dros adael ymyl rydd o amgylch y croen o gwmpas

23. cyfansoddiad cemegol hylif monomer a phowdr polymer a sut mae polymeiddio yn digwydd pan gant eu cyfuno, i gynnwys:

23.1 enghreifftiau o beth all gael effaith niweidiol ar y broses gemegol

24. sut y gall gwelliannau i'r ewin gyda hylif monomer a phowdr polymer fod yn wahanol i gynnyrch gwella ewinedd eraill

  1. y mathau o gynnyrch glendid ar gyfer y croen a phwysigrwydd dilyn cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr

  2. sut i baratoi, defnyddio a chynnal a chadw cynnyrch, offer a chyfarpar, yn unol â'r protocol gwasanaeth hylif monomer a powdr polymer, i gynnwys:

26.1 cael gwared o hylif monomer sydd heb ei ddefnyddio mewn modd diogel yn unol â gofynion deddfwriaethol

  1. pam ei bod yn bwysig glanhau a sychu'r ewin naturiol cyn dodi hylif monomer a phowdr polymer i gynnwys:

27.1 y rhesymau dros ddefnyddio cynnyrch cyn triniaeth er mwyn sychu plat yr ewin

  1. y rhesymau dros ddodi cynnyrch wedi triniaeth yn dilyn dodi'r hylif monomer a'r powdr polymer

  2. technegau trwsio ewinedd naturiol

30. technegau trwsio gwelliannau i'r ewinedd

31. y mathau o ddulliau cynnal a ddefnyddir i adfer gwelliannau i'r ewin, sut a phryd i'w cyflawni

32. y rhesymau pam bod gwelliant i'r ewin yn dioddef colled neu ddifrod annisgwyl a chynamserol yn dilyn gwasanaeth gwella'r ewin

33. yr adweithiau niweidiol a gysylltir gyda gwasanaeth hylif monomer a phowdr polymer a sut i ymateb

  1. y cyfrifoldebau iechyd a diogelwch yn unol â deddfwriaeth cyn, yn ystod, ac ar ôl y gwasanaeth hylif monomer a phowdr polymer, i gynnwys:

34.1 pwysigrwydd echdynnu ac awyriant digonol pan yn defnyddio cynnyrch gwella ewinedd

35. y rhesymau pam bod angen cynllun wrth gefn ar gyfer cael gwared o'r gwelliant i'r ewin mewn modd diogel, i gynnwys:

35.1 y ffyrdd gall cynllun wrth gefn fod yn effeithiol ac yn fodd o gynnal iechyd a diogelwch yr unigolyn

  1. pam ei bod hi'n bwysig trafod a sefydlu amcanion yr unigolyn, ei bryderon, disgwyliadau, y canlyniadau y mae'n eu dymuno a chytuno ar y cynllun gwasanaeth hylif monomer a phowdr polymer

  2. y gofynion cyfreithiol ar gyfer darparu gwasanaethau i'r ewinedd i blant dan oed ac oedolion bregus

  3. y strwythurau talu a dewisiadau ar gyfer triniaeth

39. gofynion deddwriaethol a digollediad er mwyn sicrhau cydsyniad gwybodus wedi'i lofnodi ar gyfer gwasanaeth hylif monomer a phowdr polymer

  1. pwysigrwydd monitro iechyd a lles yr unigolyn yn ystod ac ar ôl y gwasanaeth

  2. pwysigrwydd defnyddio cynnyrch sydd wedi cael eu cymeradwyo yn gosmetig

  3. pwysigrwydd cadw at gyfarwyddiadau'r gwneuthurwr er mwyn atal anghydnawsedd cynnyrch a risgiau i iechyd

  4. y mathau a'r risgiau cysylltiedig o gynnyrch i'r ewinedd sy'n gysylltiedig â natur wenwynig

44. y rhesymau dros gymryd delweddau gweledol gyda chydsyniad o fan triniaeth yr unigolyn, a'u cadw yn unol â gofynion y gwasanaeth

45. y gofynion deddfwriaethol a rheoleiddiol ar gyfer cwblhau a chadw cofnodion o wasanaeth hylif monomer a phowdr polymer yr unigolyn

  1. canlyniadau disgwyliedig gwasanaethau hylif monomer a phowdr polymer

  2. diben ymarfer adfyfyriol a gwerthuso a sut y mae'n darparu gwybodaeth ar gyfer gwasanaethau yn y dyfodol

  3. pwysigrwydd cofnodi canlyniad y gwasanaeth hylif monomer a phowdr polymer a'r gwerthusiad ohono

  4. y cyfarwyddiadau a'r cyngor, cyn ac ar ôl y gwasanaeth hylif monomer a phowdr polymer


Cwmpas/ystod

Hylif Monomer a gorffeniad powdr polymer

  1. tywyll
  2. lliw
  3. pinc a gwyn
  4. ymestyn haen yr ewin gan ddefnyddio powdr tywyll a datddodi

Adweithiau niweidio*l*

  1. adwaith alergaidd
  2. afliwiad o'r cynnyrch
  3. afliwiad o blât yr ewin
  4. afliwiad o haen yr ewin
  5. plât yr ewin yn teneuo

  6. toriadau a chrafiadau

  7. cleisio
  8. goroleuad
  9. adwaith ecsothermig
  10. codi'r cynnyrch
  11. colli'r gwelliant yn rhy gynnar
  12. haint

Protocol hylif monomer a gwasanaeth powdr polymer

  1. amgylchedd waith

  2. iechyd a diogelwch

  3. atal a rheoli haint
  4. cynllun gwasnaeth
  5. cydsyniad gwybodus

  6. rheoli data

  7. cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr
  8. archwilio ac atebolrwydd
  9. cyfarwyddiadau a chyngor
  10. cynaliadwyedd
  11. rheoli gwastraff
  12. ymarfer yn seiliedig ar dystiolaeth

ymarfer adfyfyriol




Cyflwr yr ewin

  1. cnoi ewinedd

  2. afliwiad

  3. wedi ystumio
  4. hollt uwchben yr hyponychium
  5. llinellau beau
  6. llinellau hydredol a llorweddol gwrymiog
  7. sych
  8. onychorhecsis
  9. onycholysis

 Hyd a siap yr ewin

  1. hir
  2. hyd canolig
  3. byr
  4. crwn
  5. hirgrwn
  6. sgwar
  7. sgwofal
  8. arch
  9. almon
  10. stileto

Technegau cynnal yr ewin

  1. mewnlenwi
  2. aildafoli

  3. ôl-lenwad

  4. ailosod y gorchudd
  5. trwsio'r gorchudd

Cynnyrch wedi'r driniaeth

  1. hufennau
  2. olewon

Cyfarwyddiadau

  1. hawliau a chyfrifoldebau cyfreithiol yr unigolyn a'r ymarferydd
  2. cyfarwyddiadau a gofal cyn ac ar ôl y driniaeth
  3. cyfyngiadau a risgiau cysylltiedig

  4. gwasanaethau yn y dyfodol

*  Anatomeg a ffisioleg*

  1. strwythur a swyddogaeth systemau'r corff a'u cyd- ddibyniaeth ar ei gilydd o fewn y dwylo a'r traed
  2. y gwrtharwyddion a'r patholegau sy'n perthyn i'r uned ewinedd, tŵf yr ewinedd a'r croen
  3. strwythur a swyddogaethau'r ewinedd, tŵf yr ewinedd

Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Gwrtharwydd llwyr**

Mae gwrtharwydd llwyr yn gyflwr sy'n rhwystro'r gwasanaeth rhag cael ei gyflawni a gall fod angen iddo gael ei gyfeirio.

Adwaith niweidiol**

Adwaith niweidiol yw adwaith 'annisgwyl' neu ganlyniad yn dilyn gwasanaeth, e.e. llewygu

Gwrth weithred

Gwrth weithred yw adwaith neu ganlyniad  'disgwyliedig' yn dilyn, e.e. erythema

Ymarfer wedi ei seilio ar dystiolaeth

Mae ymarfer wedi ei seilio ar dystiolaeth yn seiliedig ar y dystiolaeth orau gyfredol, ddilys a pherthnasol sydd ar gael.

Cymorth Cyntaf

Gall cymorth cyntaf gyfeirio at gymwysterau cymorth cyntaf yn y gwaith neu ei gyffelyb ac ymwybyddiaeth o gymorth cyntaf iechyd meddyliol.

Protocol

Protocol yw gweithdrefn safonol er mwyn sicrhau arfer orau a chydymffurfiad pan yn darparu gwasanaethau h.y. dilyn cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr.

Gwrtharwydd cymharol

Gwrtharwydd cymharol yw cyflwr sy'n gofyn am asesiad o addasrwydd ar gyfer y gwasanaeth a/neu os oes angen addasiadau.

Gwenwyndra

Penderfynir gwenwyndra gan adwaith rhywun i wahanol
ddognau gemegolyn. Gall gwenwyndra neu adweithiau niweidiol
ddigwydd o ganlyniad i anghynawsedd gyda chymysgedd anghywir o gemegolion


Dolenni I NOS Eraill

SKAHDBRBNST1,SKAHDBRBNS1, SKABN1, SKABN2, SKABN3, SKANT1, SKANT2,

SKANT3, SKANT4, SKANT6, SKANT7, SKANT9



Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Maw 2024

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SkillsActive

URN gwreiddiol

SKANS 7

Galwedigaethau Perthnasol

Technegydd ewinedd

Cod SOC

6222

Geiriau Allweddol

gwelliannau i’r ewin, ewin artiffisial, powdr polymer, hylif monomer, glud i’r ewin, blaenau, polymereiddiad