Cael gwared o welliannau i’r ewin ac adfer yr ewin naturiol

URN: SKANT 9
Sectorau Busnes (Suites): Gwasanaethau Ewinedd
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 30 Maw 2021

Trosolwg

​Mae'r safon yma yn cydfodoli â, SKAHDBRBNST1 Gweithredu a chynnal arferion gwaith diogel, glanwaith ac effeithiol *a *SKAHDBRBNS1 Ymgynghori, asesu, cynllunio a pharatoi ar gyfer gwasanaethau Gwallt, Barbro, Harddwch, Ewinedd, Lles a Holistig. Mae'r safon yma ar gyfer rhywun proffesiynol ym maes ewinedd sy'n darparu gwasanaethau ewin i gael gwared o welliannau i'r ewin. Bydd gofyn i chi gael gwared o syanoacrylad, hylif monomer a phowdr polymer a gwelliannau i'r ewin sydd wedi eu gwneud gyda gel a'u trin gyda golau UV. Bydd gofyn i chi hefyd wneud gwerthusiad ar ôl y driniaeth ac adfyfyrio er mwyn gwelliant parhaus. Bydd rhaid i ddefnyddwyr y safon yma wneud yn siwr bod eu harferion yn adlewyrchu'r wybodaeth, polisïau a gweithdrefnau diweddaraf a chyfarwyddyd am arfer orau. Cynghorir defnyddwyr y safon yma i fod yn ymwybodol o, a chydymffurfio gyda gofynion cymorth cyntaf yn unol â deddfwriaeth a pholisïau a gweithdrefnau cyfundrefnol.

Y prif ddeilliannau yw:

  1. Cael gwared o'r gwelliannau syanoacrylad i'r ewin
  2. Cael gwared o'r gwelliannau hylif a phowdr polymer i'r ewin.
  3. Cael gwared o'r gwelliannau cynnyrch ewin wedi ei drin ag UV.

Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

1. cynnal ymgynghoriad cryno a chynhwysfawr gyda'r unigolyn

  1. cadw at eich cyfrifoldebau am iechyd a diogelwch yn unol â deddfwriaeth, rheoliadau, gorchmynion a chanllawiau

  2. trafod a sefydlu cynllun gwasanaeth i gael gwared o welliant i'r ewin, i gynnwys:

3.1 y math o welliant i'r ewin

  1. cadarnhau a chytuno gyda’r unigolyn, eu bod wedi deall y  gwasanaeth arfaethedig i gwared o welliant i’r ewin, i gynnwys:

4.1 gwrth-weithredoedd

4.2 adweithiau niweidiol

4.3 corfforol ar haen yr ewin a'r croen o amgylch

  1. sicrhau a chofnodi cydsyniad gwybodus yr unigolyn ar gyfer y gwasanaeth arfaethedig i gwared o welliant i’r ewin
**Cael gwared o welliannau i'r ewin**

6.defnyddio technegau i gael gwared o welliant i'r ewin yn unol â'r protocol gwasanaeth

6.1 defnyddio technegau i beidio â difrodi'r ewin naturiol neu'r croen o amgylch

Adfer yr ewin naturiol

7. gwneud dadansoddiad o'r ewin a'r croen, i gynnwys:

7.1 cyflwr yr ewin

7.2 cyflwr y croen

7.3 hyd a siap yr ewin

8. trafod a chytuno ar y cynnyrch ewin a gofal o'r croen i'w defnyddio yn y driniaeth adfer yn unol â'r protocol gwasanaeth

  1. cadarnhau gyda'r unigolyn yr hyd a'r siap i'r ewin y mae'n ei ddymuno

10. siapio'r ewinedd er mwyn sicrhau min rhydd yn unol â'r protocol gwasanaeth

Gwaith ar y glasgroen

11. paratoi'r glasgroen yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr

12. defnyddio offer i gael gwared o lasgroen o blât gweledig yr ewin heb niweidio'r croen o amgylch

13. dodi'r cynnyrch wedi triniaeth **yn unol â'r protocol gwasanaeth

  1. monitro iechyd, lles ac adwaith croen yr unigolyn drwy gydol y gwasanaeth

  2. gweithredu yn y modd cywir os bydd adwaith niweidiol

16. cwblhau'r gwasanaeth yn unol â'r protocol gwasanaeth, gofynion deddfwriaethol a pholisïau a gweithdrefnau cyfundrefnol

17. cwblhau cofnodion gwasanaeth yr unigolyn a'u cadw'n unol â deddfwriaeth data

  1. defnyddio ymarfer adfyfyriol er mwyn gwerthuso'r gwasanaeth gweithredu'n briodol

  2. rhoi cyfarwyddiadau a chyngor i'r unigolyn cyn ac ar ôl y gwasanaeth

  3. cofnodi canlyniad a gwerthusiad o'r gwasanaeth


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. eich swyddogaeth a'ch cyfrifoldebau pan yn darparu gwasanaethau cael gwared o welliannau i'r ewin naturiol a phwysigrwydd gweithio o fewn eich gallu
2. pam ei bod yn rhaid i chi gydymffurfio ag arfer moesegol a gweithio o fewn gofynion deddfwriaethol, i gynnwys:

2.1 y cyfrifoldebau o dan reoliadau trwyddedu'r awdurdod lleol i chi eich hun a'ch adeilad

  1. pwysigwrydd ymwneud â, a chofnodi datblygiad proffesiynol parhaus i gynnwys, polisïau gwybodaeth, gweithdrefnau a chyfarwyddyd am yr arfer orau diweddaraf

4. yr anatomeg a'r ffisioleg sy'n berthnasol i'r safon yma

  1. y gwrtharwyddion cymharol a llwyr sy'n berthnasol i'r gwasanaeth ewinedd, i gynnwys:

5.1 y gofynion deddfwriaethol ac yswiriant ar gyfer cael diagnosis a chyfeirio meddygol

6. pwysigrwydd adnabod nodweddion afreolaidd ac anafiadau ar y croen, a chyfeirio at rywun proffesiynol perthnasol ym maes gofal iechyd

7. diben, y defnydd o a chyfyngiadau gwasanaethau cael gwared o welliannau i'r ewin mewn perthynas â:

7.1 cyflwr yr ewin

7.2 ffactorau perthnasol sy'n ymwneud â'r ffordd o fyw

7.3 disgwyliadau'r unigolyn

8.sut i wneud dadansoddiad o'r ewin a'r croen

  1. pwysigrwydd cadw at y protocol gwasanaeth

  2. cyfansoddiad cemegol yr holl gynnyrch gwella ewin, i gynnwys:

10.1 y risgiau sy'n gysylltiedig ag alergenau a chynhwysion all achosi niwed

11.y technegau a’r cynnyrch a ddefnyddir i gael gwared o bob math o welliannau i’r ewin, i gynnwys:

11.1 sut i gadw difrod i'r ewin a'r croen o amgylch cyn lleied â phosibl

12. y mathau o ffeiliau a chlustogau a'u heffeithiau

13. y mathau o gynnyrch glendid ar gyfer y croen a phwysigrwydd dilyn cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr

14. sut i baratoi a defnyddio cynnyrch, offer a chyfarpar yn unol â'r 

protocol gwasanaeth cynnyrch ewin
15. y rhesymau dros adfer a thrin yr ewin naturiol a'r croen o amgylch ar ôl cael gwared o wasanaeth gwella ewin


16. y technegau ar gyfer trwsio ewinedd naturiol

17. y mathau o systemau cryfhau i ewin wedi ei drin ag UV sy'n rhoi strwythur i ewinedd gwan

18. y rhesymau dros ddodi cynnyrch wedi triniaeth yn dilyn cael gwared o wasanaeth gwella ewin

19. yr adweithiau niweidiol a gysylltir gyda, gwasanaethau i gael gwared o welliannau i'r ewin a sut i ymateb

20. y cyfrifoldebau iechyd a diogelwch yn unol â deddfwriaeth cyn, yn, ystod, ac ar ôl y gwasanaeth i gael gwared o welliannau i'r ewin, i gynnwys:

20.1 pwysigrwydd echdynnu ac awyriant digonol pan yn cael gwared o gynnyrch gwelliannau i'r ewin


21. pam ei bod hi'n bwysig trafod a sefydlu amcanion yr unigolyn, ei bryderon, disgwyliadau, y canlyniadau y mae'n eu dymuno a chytuno ar y cynllun gwasanaeth i gael gwared o welliannau i'r ewin

22. y gofynion cyfreithiol ar gyfer darparu gwasanaethau i'r ewinedd i blant dan oed ac oedolion bregus

23. y gofynion deddfwriaethol a digollediad er mwyn sicrhau cydsyniad gwybodus wedi'i lofnodi ar gyfer y gwasanaeth i gael gwared o welliant(nnau) i’r ewin 

24. pwysigrwydd monitro iechyd a lles yr unigolyn yn ystod ac ar ôl y gwasanaeth

25.  rhesymau dros gymryd delweddau gweledol gyda chydsyniad o fan triniaeth yr unigolyn, a'u cadw yn unol â gofynion y gwasanaeth, deddfwriaethol, yswiriant a chyfundrefnol

26. y gofynion deddfwriaethol a rheoleiddiol ar gyfer cwblhau a chadw cofnodion o wasanaeth yr unigolyn

27. canlyniadau disgwyliedig gwasanaethau i gael gwared o welliannau i'r ewin

28. diben ymarfer adfyfyriol a gwerthuso a sut y mae'n darparu gwybodaeth ar gyfer gwasanaethau yn y dyfodol

29. pwysigrwydd cofnodi canlyniad y gwasanaethau i gael gwared o welliannau i’r ewin a'r gwerthusiad ohonynt

30. y cyfarwyddiadau a'r cyngor, cyn ac ar ôl y gwasanaeth cael gwared o welliannau i'r ewin 


Cwmpas/ystod

Gwella'r Ewin

  1. hylif monomer a phowdr polymer
  2. gel caled wedi ei drin gyda golau UV
  3. gel meddal wedi ei drin gyda golau UV
  4. syanoacrylad




Adwaith niweidiol
  1. adwaith alergaidd
  2. afliwiad o'r cynnyrch
  3. afliwiad o blât yr ewin
  4. afliwiad o haen yr ewin
  5. plât yr ewin yn teneuo
  6. toriadau a chrafiadau
  7. cleisio
  8. goroleuad
  9. adwaith ecsothermig
  10. codi'r cynnyrch
  11. colli gwelliant yn gynamserol
  12. haint
  13. onycholysis


Protocol gwasanaeth
  1. amgylchedd waith
  2. iechyd a diogelwch
  3. atal a rheoli haint
  4. cynllun gwasnaeth
  5. cydsyniad gwybodus
  6. rheoli data
  7. cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr
  8. archwilio ac atebolrwydd
  9. cyfarwyddiadau a chyngor
  10. cynaliadwyedd
  11. rheoli gwastraff
  12. ymarfer yn seiliedig ar dystiolaeth
  13. ymarfer adfyfyriol



Cyflwr yr ewin

1. cnoi ewinedd
2.afliwiad
3. wedi ystumio
4. hollt uwchben yr hyponychium
5. llinellau beau
6. llinellau hydredol a llorweddol gwrymiog
7. sych
8. onychorrhexis

9. onycholysis


Hyd a siap yr ewin

  1. hir
  2. hyd canolig
  3. byr
  4. crwn
  5. hirgrwn
  6. sgwar
  7. sgwofal
  8. arch
  9. almon
  10. stileto


Cynnyrch wedi'r driniaeth
  1. hufennau
  2. olewon



Cyfarwyddiadau
  1. hawliau a chyfrifoldebau cyfreithiol yr unigolyn a'r ymarferydd
  2. cyfarwyddiadau a gofal cyn ac ar ôl y driniaeth
  3. cyfyngiadau a risgiau cysylltiedig
  4. gwasanaethau yn y dyfodol



Anatomeg a ffisioleg
  1. strwythur a swyddogaeth systemau'r corff a'u cyd- ddibyniaeth ar ei gilydd o fewn y dwylo a'r traed
  2. y gwrtharwyddion a'r patholegau sy'n perthyn i'r uned ewinedd, tŵf yr ewinedd a'r croen
  3. strwythur a swyddogaethau'r ewinedd a thŵf yr ewinedd



Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Gwrtharwydd llwyr

Mae gwrtharwydd llwyr yn gyflwr sy'n rhwystro'r gwasanaeth rhag cael ei gyflawni a gall fod angen iddo gael ei gyfeirio.

Adwaith niweidiol

Adwaith niweidiol yw adwaith 'annisgwyl' neu ganlyniad yn dilyn gwasanaeth, e.e. llewygu

Gwrth weithred

Gwrth weithred yw adwaith neu ganlyniad  'disgwyliedig' yn dilyn, e.e. erythema

Ymarfer wedi ei seilio ar dystiolaeth

Mae ymarfer wedi ei seilio ar dystiolaeth yn seiliedig ar y dystiolaeth orau gyfredol, ddilys a pherthnasol sydd ar gael.

Cymorth Cyntaf

Gall cymorth cyntaf gyfeirio at gymwysterau cymorth cyntaf yn y gwaith neu ei gyffelyb ac ymwybyddiaeth o gymorth cyntaf iechyd meddyliol.

Protocol

Protocol yw gweithdrefn safonol er mwyn sicrhau arfer orau a chydymffurfiad pan yn darparu gwasanaethau h.y. dilyn cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr.

Gwrtharwydd cymharol

Gwrtharwydd cymharol yw cyflwr sy'n gofyn am asesiad o addasrwydd ar gyfer y gwasanaeth a/neu os oes angen addasiadau.


Dolenni I NOS Eraill

SKAHDBRBNST1, SKAHDBRBNS1, SKABN1, SKABN2, SKABN3, SKANT1, SKANT2, SKANT3, SKANT4, SKANT5



Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Maw 2024

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SkillsActive

URN gwreiddiol

SKANT9

Galwedigaethau Perthnasol

Technegydd ewinedd

Cod SOC

6222

Geiriau Allweddol

cael gwared o welliannau i’r ewin, cael gwared o ewin artiffisial, cael gwared o gynnyrch wedi ei drin ag UV, gel caled, gel meddal, LED, cael gwared o flaenau’r ewin