Darparu triniaeth dermaplaneg er mwyn digroeni ac annog adnewyddiad o’r croen

URN: SKANSC8
Sectorau Busnes (Suites): Therapi Harddwch,Triniaethau Cosmetig nad ydynt yn llawfeddygol
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 30 Maw 2021

Trosolwg

​Mae'r safon yma yn cydfodoli â, SKANSC1 Gweithredu a chynnal arferion gwaith diogel, glanwaith ac effeithiol yn ystod gweithdrefnau cosmetig dewisol nad ydynt yn llawfeddygol. a SKANSC2: Ymgynghori, asesu, cynllunio a pharatoi ar gyfer gweithdrefnau cosmetig dewisol nad ydynt yn llawfeddygol o fewn yr amgylchedd waith. Mae'r safon yma ar gyfer ymarferwyr esthetig sy'n darparu triniaeth dermaplaneg ddiogel ac effeithiol i ddigennu ac annog adnewyddiad o'r croen neu fel paratoad ar gyfer triniaethau pellach. Bydd gofyn i chi hefyd wneud gwerthusiad ar ôl y driniaeth ac adfyfyrio er mwyn gwelliant parhaus. Rhaid i'r ymarferydd esthetig gael cymhwyster Cymorth Cyntaf yn y Gweithle neu ei gyffelyb a gallu cyflawni'r swyddogaethau o fewn SFHCHS36: Cefnogaeth bywyd sylfaenol a gallu cael gafael ar gyfarpar cefnogi bywyd fel sydd wedi ei nodi yn y cynllun rheoli cymhlethdodau. Bydd rhaid i ddefnyddwyr y safon yma wneud yn siwr bod eu harferion yn adlewyrchu'r wybodaeth, y polisïau, y gweithdrefnau a'r cyfarwyddyd am yr arfer orau.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

​1. cynnal ymgynghoriad cryno a chynhwysfawr wyneb yn wyneb gyda’r unigolyn a chadw at eich cyfrifoldebau am iechyd a diogelwch cyn, yn ystod ac ar ôl y driniaeth dermaplaneg 

2. trafod er mwyn sefydlu amcanion yr unigolyn, ynghŷd â’i bryderon, disgwyliadau a chanlyniadau disgwyliedig yr unigolyn er mwyn hysbysu’r cynllun triniaeth dermaplaneg i gynnwys:

2.1 dewisiadau triniaeth amgen
2.2 dosbarthiad y croen, ei nodweddion a’i gyflwr
2.3 rhaglen baratoadol ar gyfer preimio’r croen
3. ailadrodd, cadarnhau a chytuno gyda’r unigolyn, ei fod wedi deall y driniaeth dermaplaneg arfaethedig i gynnwys:
3.1 gwrth weithredoedd
3.2 adweithiau niweidiol
4. sicrhau a chofnodi cydsyniad gwybodus yr unigolyn ar gyfer y driniaeth dermaplaneg, gan ganiatau amserlen ddigonol i’r unigolyn wneud dewis gwybodus
5. dewis cynnyrch paratoi glendid effeithiol i gwrdd ag anghenion yr unigolyn yn unol â chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr 
6. paratoi man triniaeth yr unigolyn yn unol â’r protocol triniaeth, dermaplaneg 
7. paratoi a defnyddio cyfarpar yn ôl cyfarwyddidau’r gwneuthurwr ac yn unol â’r protocol triniaeth dermaplaneg 
8. dilyn y protocol triniaeth dermaplaneg er mwyn sicrhau eich bod yn cael gwared o sylwedd arwynebol mewn modd gwastad i gynnwys:
8.1 cefnogi’r croen â llaw
8.2 addasu technegau ar gyfer man triniaeth yr unigolyn
9. monitro iechyd, lles ac adwaith y croen drwy gydol y driniaeth dermaplaneg 
10. gweithredu yn y modd cywir os bydd adwaith niweidiol 
11. cwblhau’r driniaeth yn unol â’r protocol triniaeth dermaplaneg gofynion deddfwriaethol a pholisïau a gweithdrefnau cyfundrefnol
12. cymryd a chadw delweddau gweledol cydsyniol o fan triniaeth yr unigolyn, yn unol â gofynion yswiriant, polisïau a gweithdrefnau cyfundrefnol
 13. cwblhau cofnodion triniaeth gosmetig yr unigolyn nad yw’n llawfeddygol a’u cadw’n unol â deddfwriaeth data
14. defnyddio ymarfer adfyfyriol er mwyn gwerthuso’r driniaeth dermplaneg a gweithredu’n briodol
15. rhoi a chael cadarnhad o dderbyn y cyfarwyddiadau ar lafar ac ysgrifenedig a’r cyngor a roddir i’r unigolyn cyn ac ar ôl y driniaeth 
16. cofnodi canlyniad y driniaeth dermaplaneg a’r gwerthusiad ohoni er mwyn cytuno ar a hysbysu triniaethau’r dyfodol 
17. trafod a chytuno gyda’r unigolyn ar driniaethau ar gyfer y dyfodol


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:


1. pwysigrwydd cydweithredu gyda phobl broffesiynol gymwys er mwyn cefnogi arferion gwaith diogel
2. eich swyddogaeth a’ch cyfrifoldebau pan yn darparu triniaethau cosmetig nad ydynt yn llawfeddygol a phwysigrwydd gweithio o fewn eich gallu 
3. pam fod rhaid i chi gydymffurfio ag arfer moesegol a gweithio o fewn gofynion deddfwriaethol
4. pwysigrwydd ymwneud â, a chofnodi datblygiad proffesiynol parhaus i gynnwys, y polisïau gwybodaeth, gweithdrefnau a chyfarwyddyd am arfer orau diweddaraf
5. yr anatomeg a’r ffisioleg sy’n berthnasol i’r safon yma
6. y broses heneiddio gronolegol o’r croen a’r berthynas gyda ffactorau cynhenid ac anghynenid
7. y raddfa pH a’i pherthnasedd i sensitifrwydd y croen
8. sut a pham mae swyddogaeth rhwystro’r croen yn cael ei lesteirio gan driniaeth dermaplaneg i gynnwys:
8.1 y risg cynyddol o oleusensitifrwydd a ffyrdd o warchod y croen
9. yr adweithiau niweidiol sy’n gysylltiedig gyda’r driniaeth dermaplaneg a sut i ymateb iddynt
10. y cyfrifoldebau iechyd a diogelwch yn unol â deddfwriaeth cyn, yn ystod ac ar ôl y driniaeth dermaplaneg 
11. pam ei bod yn bwysig trafod ac adnabod amcanion, pryderon, disgwyliadau yr unigolyn a’r canlyniadau y mae’n ei ddymuno a chytuno ar y cynllun triniaeth gosmetig nad yw’n llawfeddygol 
12. y mathau o raglenni preimio’r croen a’u perthnasedd i lwyddiant y driniaeth dermaplaneg 
13. pwysigrwydd defnyddio cymhorthion gweledol i hysbysu’r unigolyn o’r effeithiau corfforol 
14. y strwythurau talu a’r dewisiadau ar gyfer triniaeth 
15. y triniaethau ellir eu cyflawni ar y cyd â’r driniaeth dermaplaneg neu ar ei hôl a’r risgiau cysylltiedig 
16. y gofynion deddfwriaethol a digollediad er mwyn sicrhau cydsyniad gwybodus wedi’i lofnodi ar gyfer y driniaeth dermaplaneg 
17. pwysigrwydd cadw at y protocol triniaeth dermaplaneg
18. sut i gadw, trin, defnyddio a chael gwared o gyfarpar  dermaplaneg a llafnau diheintiedig a ddefnyddir unwaith yn unol â chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr a gofynion deddfwriaethol 
 19. pam ei bod yn bwysig nodi’r risgiau cysylltiedig i driniaeth dermaplaneg a sut i’w rheoli, i gynnwys:
19.1 defnyddio gwe ddiheintiedig
19.2 defnyddio toddiant diheintiedig
19.3 anafiadau posibl
19.4 mannau triniaeth sy’n addas ar gyfer y driniaeth dermaplaneg 
19.5 dosbarthiad o’r croen
19.6 gallu’r croen i iachau
20. y mathau o gynnyrch wedi trinaieth, ynghŷd â’u manteision a’r defnydd ohonynt 
21. y mathau o gynnyrch glendid ar gyfer y croen a phwysigrwydd dilyn cyfarwyddiadau’r gwneuthurwr 
22. sut i baratoi’r cyfarpar  yn unol â’r protocol triniaeth dermaplaneg i gynnwys:
22.1 sut i ddefnyddio'r llafn mewn modd aseptig
23. pam a sut i ogwyddo’r llafn a chefnogi’r croen â llaw er mwyn cyflawni canlyniadau effeithiol i’r driniaeth 
24. y rhesymau dros weithio’n systematig er mwyn mynd dros y cyfan o fan triniaeth yr unigolyn, yn unol â’r protocol triniaeth dermaplaneg 
22. pwysigrwydd monitro iechyd a lles yr unigolyn yn
ystod ac ar ôl y driniaeth
25. y gofynion deddfwriaethol, yswiriant a chyfundrefnol ar gyfer cymryd a chadw delweddau gweledol o fan triniaeth yr unigolyn 
26. y gofynion deddfwriaethol a rheoleiddiol ar gyfer cwblhau a chadw cofnodion triniaeth dermaplaneg yr unigolyn
27. canlyniadau disgwyliedig y driniaeth dermaplaneg 
28. diben ymarfer adfyfyriol a gwerthuso a sut y mae’n darparu gwybodaeth ar gyfer triniaethau yn y dyfodol
29. sut i goladu, dadansoddi, crynhoi a chofnodi adborth gwerthuso mewn modd clir a chryno
30. pwysigrwydd cofnodi canlyniad y driniaeth dermaplaneg a’r gwerthusiad ohoni
31. y cyfarwyddiadau a’r cyngor, cyn ac ar ôl y driniaeth dermaplaneg


Cwmpas/ystod

Gwybodaeth Ychwanegol


Disgwylir bod yr ymarferydd estheteg sy’n ymgeisio am y safon yma eisoes â’r sgiliau, yr wybodaeth a’r ymddygiadau a nodir o fewn canllawiau triniaeth yr ymarferydd estheteg a’r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol cosmetig nad yw’n llawfeddygol.
Disgwylir i’r ymarferydd fod eisoes yn gallu dangos gallu mewn penderfynu’r gwrtharwyddion cymharol (cyfyngol) a llwyr (ataliol) ar gyfer y triniaethau cosmetig nad ydynt yn llawfeddygol. Yn ogystal â hyn, dylai’r ymarferydd esthetig allu adnabod adweithiau neu ddigwyddiadau niweidiol a gweithredu ar fyrder i’w cywiro fel ag y cytunwyd o fewn cynllun rheoli cymhlethdodau.
Disgwylir i’r safon yma gael ei defnyddio ar y cyd â SKANSC1: Rhoi arferion gwaith diogel, glanwaith ac effeithiol ar waith a’u cynnal yn ystod triniaethau cosmetig dewisol nad ydynt yn llawfeddygol a SKANSC2: Ymgynghori, asesu, cynllunio a pharatoi ar gyfer triniaethau cosmetig dewisol nad ydynt yn llawfeddygol. 
Dylai tystiolaeth ar gyfer eitemau a restrir o fewn yr amrediad/rhychwant gael ei ddangos yn unol â’r math penodol o driniaeth gosmetig nad yw’n llawfeddygol sy’n cael ei chyflawni. 
 
Amcanion yr unigolyn
*
1. digroeniad cynyddol
2. cael gwared o’r blew
3. adfywiad cynyddol o’r croen
4. gwrth heneiddio
5. paratoad cyn triniaethau plicio’r croen
6. paratoad cyn triniaethau photo adnewyddiad 
7. amsugniad cynyddol o gynnyrch fferyllol a gofal o’r croen 

Dosbarthiad o’r croen

1. Graddfa Fitzpatrick
2. Ffoto-ddifrod Glogau

Nodweddion o’r croen

1. olewog
2. sych
3. cyfuniad
4. sensitif
5. aeddfed
6. sych
7. afreoleiddrau lliwiad
8. dwysedd y croen

Gwrth weithredoedd

1. hyperemia
2. swyddogaeth rhwystro ar gyfer croen sydd mewn perygl 

Cyfarpar

*
1. llafnau llawfeddygol diheintiedig
2. daliwr llafn
3. coes a llafn a ddefnyddir unwaith
4. tynnwr llafn


Man triniaeth
1. rhych yr wyneb a'r safn
2. corff


Anatomeg a ffisioleg

  1. strwythur a swyddogaeth systemau'r corff a'u cyd-ddibyniaeth ar ei gilydd

2. strwythur a swyddogaeth y croen ac atodiadau'r croen
3. afiechydon, anhwylderau a chyflyrau'r croen
4. proses heneiddio'r croen yn cynnwys effeithiau geneteg, ffordd o fyw ac amgylchedd
5. swyddogaeth rhwystro ar gyfer croen sydd mewn perygl a phrosesau adnewyddu'r croen
6. y broses o ddigroeni, diblisgiad ac arwynebu'r croen

Adweithiau niweidiol

*
*
1. haint
2. anafiadau
3. chwydd gwyn
4. creithio gordyfol ac atroffig  
5.mwy o adwaith goleusensitifedd

Cymhorthion gweledol

*
*
1. Delweddau esboniadol
2. Diagramau esboniadol

Protocol triniaeth dermaplaneg

*
1. amgylchedd waith
2. iechyd a diogelwch
3. cynllun rheoli risg
4. atal a rheoli haint
5. rheoli cymhlethdodau
6. cynllun triniaeth
7. cydsyniad gwybodus
8. rheoli data
9. archwiliad ac atebolrwydd
10. cyfarwyddiadau a chyngor
11. rheoli gwastraff
12. ymarfer sy’n seiliedig a’r dystiolaeth ac sy’n adfyfyriol

Cyfarwyddiadau

*
1. hawliau a chyfrifoldebau cyfreithiol yr unigolyn a’r ymarferydd esthetig
2. rheoli cymhlethdodau
3. disgwyliadau wedi’r driniaeth ac amserlenni cysylltiedig
4. cyfarwyddiadau a gofal cyn ac ar ôl y driniaeth
5. cyfyngiadau a risgiau cysylltiedig
6. triniaethau yn y dyfodol
7. gweithdrefn cwynion neu brotocol pryderon



Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Rhagofalon cyffredinol a rhagofalon safonol

Mae rhagofalon cyffredinol yn berthnasol os yw'r ymarferydd yn dod i gysylltiad â gwaed a/neu rywfaint o hylif corfforol. Cyfrifoldeb yr ymarferydd yw rhoi mesurau atal a rheoli haint ar waith er mwyn atal dod i gysylltiad â phathogenau neu Ddeunyddiau Eraill all fod yn Heintus (OPIM).

Rhagofalon safonol yw'r lefel sylfaenol o reoli haint ddylai gael ei ddefnyddio bob amser o fewn yr amgylchedd waith, megis glendid dwylo, cyfarpar amddiffyn personol, atal anafiadau gan nodwyddau neu declynnau miniog, asesiad risg, glendid anadlol ac ymddygiad safonol ynghylch pesychu, glanhau amgylcheddol a chael gwared o wastraff.

 

Delweddau gweledol

Delweddau gweledol yw tystiolaeth sydd wedi'i chynhyrchu drwy ffotograffau neu fideo

Amgylchedd waith

Dylai gofynion am yr amgylchedd waith gydymffurfio â deddfwriaeth Iechyd a Diogelwch a bod yn unol â'r canllawiau sydd wedi cael eu gosod allan naill ai gan eich awdurdod lleol neu gorff llywodraethu.

Dylid gwneud asesiadau risg, a dylai dulliau rheoli gael eu rhoi ar waith a'u cofnodi, a'u diweddaru yn rheolaidd a/os oes newidiadau yn digwydd. Dylai'r amgylchedd waith fod yn lanwaith ac yn addas i'w diben er mwyn i driniaethau cosmetig nad ydynt yn llawfeddygol gael eu cwblhau mewn modd diogel ac effeithiol gan ddefnyddio technegau aseptic. Mae angen i weithdrefnau i atal a rheoli haint gadw'r risg o heintio a throsglwyddo meicrobau mor isel â phosibl. Rhaid i gyfarpar amddiffyn personol fod yn addas i'w ddiben ac ar gael. Rhaid i gyfarpar a chynnyrch gael eu cynnal a'u cadw yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr a gofynion deddfwriaethol.

Mae'n ddoeth creu cynllun ar gyfer rheoli cymhlethdodau a/neu argyfwng ar gyfer pob triniaeth gosmetig nad yw'n llawfeddygol os bydd adwaith neu ddigwyddiad niweidiol.


Dolenni I NOS Eraill

​SKANSC1, SKANSC2, SKANSC3, SKANSC4, SKANSC5, SKANSC6, SKANSC7, SKANSC9


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Maw 2024

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SkillsActive

URN gwreiddiol

SKANSC8

Galwedigaethau Perthnasol

Therapydd Harddwch, Estheteg Harddwch, Ymarferydd Estheteg

Cod SOC

6222

Geiriau Allweddol

dermaplaneg, digroenio, digeniad, haenau arwynebol y croen, stratwm, rhaglen preinio’r croen, adnewyddiad o’r croen, adfywiad o’r croen, llafn lawfeddygol