Adnewyddu’r croen drwy ddefnyddio triniaethau meicronodwyddo

URN: SKANSC6
Sectorau Busnes (Suites): Therapi Harddwch,Triniaethau Cosmetig nad ydynt yn llawfeddygol
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 30 Maw 2021

Trosolwg

​Mae'r safon yma yn cydfodoli â, SKANSC1.2: Gweithredu a chynnal arferion gwaith diogel, glanwaith ac effeithiol yn ystod gweithdrefnau cosmetig dewisol nad ydynt yn llawfeddygol a SKANSC2.2: Ymgynghori, asesu, cynllunio a pharatoi ar gyfer gweithdrefnau cosmetig dewisol nad ydynt yn llawfeddygol o fewn yr amgylchedd waith. Mae'r safon yma ar gyfer ymarferwyr esthetig uwch sy'n defnyddio technegau meicronodwyddo ar lefel uwch er mwyn adnewyddu'r croen a gwella cyflwr y corff a chroen yr wyneb. Bydd gofyn i chi hefyd wneud gwerthusiad ar ôl y driniaeth ac adfyfyrio er mwyn gwelliant parhaus. Rhaid i'r ymarferydd esthetig gael cymhwyster Cymorth Cyntaf yn y Gweithle neu ei gyffelyb a gallu cyflawni'r swyddogaethau o fewn SFHCHS36: Cefnogaeth bywyd sylfaenol a gallu cael gafael ar gyfarpar cefnogi bywyd fel sydd wedi ei nodi yn y cynllun rheoli cymhlethdodau. Bydd rhaid i ddefnyddwyr y safon yma wneud yn siwr bod eu harferion yn adlewyrchu'r wybodaeth, y polisïau, y gweithdrefnau diweddaraf a'r cyfarwyddyd am yr arfer orau.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

​1. cynnal ymgynghoriad cryno a chynhwysfawr gyda’r unigolyn a chadw at eich cyfrifoldebau am iechyd a diogelwch cyn, yn ystod ac ar ôl y driniaeth meicronodwyddo uwch 

2. trafod a sefydlu amcanion yr unigolyn, ei bryderon, disgwyliadau a’r canlyniadau a ddymunir, er mwyn cael y wybodaeth ar gyfer y cynllun triniaeth meicronodwyddo uwch, i gynnwys:
2.1 dewisiadau triniaeth amgen 
2.2 dosbarthiad croen, a’i nodweddion
2.3 rhaglen baratoadol ar gyfer preimio’r croen
3. trafod a chytuno ar y strategaeth rheoli poen, gan gymryd i ystyriaeth lefel goddefiad yr unigolyn, yn unol â gofynion deddfwriaethol a pholisïau a gweithdrefnau cyfundrefnol
4. ailadrodd, cadarnhau a chytuno gyda’r unigolyn, eu bod wedi deall y driniaeth meicronodwyddo uwch arfaethedig a rheoli poen, i gynnwys:
4.1 gwrth-weithredoedd
4.2 adweithiau niweidiol
5. sicrhau a chofnodi cydsyniad gwybodus yr unigolyn ar gyfer y driniaeth meicronodwyddo uwch a rheoli poen, gan ganiatau amserlen ddigonol i’r unigolyn wneud dewis gwybodus 
6. dewis cynnyrch paratoi glendid effeithiol i gwrdd ag anghenion yr unigolyn yn unol â chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr, i gynnwys 
7. paratoi man triniaeth yr unigolyn yn unol â’r protocol triniaeth meicronodwyddo uwch
8. dewis dyfnder y nodwydd ar gyfer dosbarthiad a nodweddion y croen, amcanion yr unigolyn a man triniaeth yr unigolyn 
9. dilyn y protocol triniaeth meicronodwyddo uwch er mwyn sicrhau ymdriniaeth wastad o’r man triniaieth i gynnwys:
9.1 addasu technegau i gwrdd ag anghenion yr unigolyn 
10. monitro iechyd, lles ac adwaith y croen drwy gydol y driniaeth meicronodwyddo uwch
11. gweithredu yn y modd cywir os bydd adwaith niweidiol 
12. cwblhau’r driniaeth yn unol â’r protocol triniaeth  meicronodwyddo uwch, gofynion deddfwriaethol a pholisïau a gweithdrefnau cyfundrefnol 
13. cymryd a chadw delweddau gweledol cydsyniol o fan triniaeth yr unigolyn yn unol â gofynion yswiriant, polisïau a gweithdrefnau cyfundrefnol
 14. cwblhau cofnodion triniaeth gosmetig yr unigolyn nad yw’n llawfeddygol a’u cadw’n unol â deddfwriaeth data
15. defnyddio ymarfer adfyfyriol er mwyn gwerthuso’r driniaeth meicronodwyddo uwch a gweithredu’n briodol 
16. rhoi a chael cadarnhad o dderbyn y cyfarwyddiadau geiriol ac ysgrifenedig a’r cyngor a roddir i’r unigolyn cyn ac ar ôl y driniaeth 
17. cofnodi’r canlyniad y driniaeth meicronodwyddo uwch a’r gwerthusiad ohoni er mwyn cytuno ar a darparu gwybodaeth ar gyfer triniaethau’r dyfodol 
18. trafod a chytuno gyda’r unigolyn ar driniaethau ar gyfer y dyfodol


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

​1. pwysigrwydd cydweithredu gyda phobl broffesiynol gymwys er mwyn cefnogi arferion gwaith effiethiol a diogel 

2. eich swyddogaeth a’ch cyfrifoldebau pan yn darparu triniaethau cosmetig nad ydynt yn llawfeddygol a phwysigrwydd gweithio o fewn eich gallu 
3. pam ei bod yn rhaid i chi gydymffurfio ag arfer moesegol a gweithio o fewn gofynion deddfwriaethol
4. pwysigwrydd ymwneud â, a chofnodi datblygiad proffesiynol parhaus i gynnwys, y polisïau, y wybodaeth, gweithdrefnau a chyfarwyddyd am arfer orau ddiweddaraf 
5. yr anatomeg a’r ffisioleg sy’n berthnasol i’r safon yma 
6. y broses heneiddio gronolegol o’r croen a’r berthynas gyda ffactorau cynhenid ac anghynenid 
7. y mathau o gyfarpar a chyfryngau meicronodwyddo uwch, ynghŷd â’u diben a’u defnydd gan gymryd y canlynol i ystyriaeth:
7.1 dosbarthiad y croen
7.2 nodweddion y croen
7.3 amcanion yr unigolyn
7.4 y man triniaeth
7.5 gwahanol ddyfnderau’r nodwydd
8. cyfyngiadau’r cynnyrch a’r cyfarpar a ddefnyddir ar gyfer triniaethau meicronodwyddo uwch 
9. canfod, cadw, trin, defnyddio a chael gwared o gyfarpar meicronodwyddo uwch yn unol â chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr a gofynion deddfwriaethol
10. addasrwydd corfforol a seicolegol yr unigolyn ar gyfer y driniaeth gosmetig nad yw’n llawfeddygol
11. mathau o reolaeth poen a’r risgiau cysylltiedig
12. y gofynion deddfwriaethol a chyfyngiadau ar gyfer canfod, cadw a defnyddio anesthetigion argroenol wedi eu trwyddedu
driniaeth tocsin botwliniwm   math A
13. yr adweithiau niweidiol sy’n gysylltiedig gyda thriniaeth meicronodwyddo uwch a sut i ymateb iddynt
14. y cyfrifoldebau am iechyd a diogelwch yn unol â deddfwriaeth cyn, yn ystod ac ar ôl y driniaeth meicronodwyddo uwch 
15. pam ei bod yn bwysig trafod a sefydlu amcanion, pryderon, disgwyliadau’r unigolyn a’r canlyniadau y mae’n ei ddymuno a chytuno ar y cynllun triniaeth gosmetig nad yw’n llawfeddygol
 16. pwysigrwydd defnyddio cymhorthion gweledol i hysbysu’r unigolyn o’r effeithiau corfforol 
17. y strwythurau taliadau a’r dewisiadau ar gyfer triniaeth
18. triniaethau y gellir eu cyflawni ar y cyd â’r driniaeth meicronodwyddo uwch neu ar ei hôl a’r risgiau cysylltiedig 
19. y mathau o raglenni preimio’r croen a’u perthnasedd i lwyddiant y driniaeth meicronodwyddo uwch 
20. y gofynion deddfwriaethol a digollediad er mwyn sicrhau cydsyniad gwybodus wedi’i lofnodi ar gyfer y driniaeth meicronodwyddo uwch a rheoli poen 
21. pwysigrwydd cadw at y protocol triniaeth meicronodwyddo uwch *
22. y mathau o gynnyrch glendid ar gyfer y croen a phwysigrwydd dilyn cyfarwyddiadau’r gwneuthurwr
23. y rhesymau dros weithio’n systematig er mwyn mynd dros y cyfan o fan triniaeth yr unigolyn, yn unol â’r protocol triniaeth meicronodwyddo uwch i gynnwys:
23.1 sut i addasu parhad, dwysedd a dyfnder yn ystod y driniaeth meicronodwyddo uwch 
24. pwysigrwydd monitro iechyd a lles yr unigolyn yn ystod ac ar ôl y driniaeth
25. sut i weithredu yn y modd cywir os bydd adwaith niweidiol 
26. y cynnyrch wedi’r driniaeth sy’n gwarchod, hybu’r iachau a’r effeithiau adferol, yn unol â chyfarwyddiadau’r gwneuthurwyr
27. y gofynion deddfwriaethol, yswiriant a chyfundrefnol ynglŷn â chymryd a chadw delweddau gweledol o fan triniaeth yr unigolyn 
28. y gofynion deddfwriaethol a rheoleiddiol ar gyfer cwblhau a chadw cofnod o driniaeth meicronodwyddo uwch yr unigolyn
29. canlyniadau disgwyliedig triniaeth meicronodwyddo uwch 
30. diben ymarfer adfyfyriol a gwerthuso a sut y mae’n darparu gwybodaeth ar gyfer triniaethau yn y dyfodol 
31. sut i goladu, dadansoddi, crynhoi a chofnodi adborth gwerthusol mewn modd clir a chryno 
32. pwysigrwydd cofnodi canlyniad y driniaeth meicronodwyddo uwch a’r gwerthusiad ohoni
33. y *cyfarwyddiadau a’r cyngor, cyn ac ar ôl y driniaeth meicronodwyddo uwch


Cwmpas/ystod

​Gwybodaeth ychwanegol

Disgwylir bod yr ymarferydd estheteg sy’n ymgeisio am y safon yma eisoes â’r sgiliau, yr wybodaeth a’r ymddygiadau a nodir o fewn canllawiau triniaeth yr ymarferydd estheteg a’r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol cosmetig nad yw’n llawfeddygol.


Disgwylir i’r ymarferydd fod eisoes yn gallu dangos gallu mewn penderfynu’r gwrtharwyddion cymharol (cyfyngol) a llwyr (ataliol) ar gyfer y triniaethau cosmetig nad ydynt yn llawfeddygol. Yn ogystal â hyn, dylai’r ymarferydd esthetig allu adnabod adweithiau neu ddigwyddiadau niweidiol a gweithredu ar fyrder i’w cywiro fel ag y cytunwyd o fewn y cynllun rheoli cymhlethdodau.
Disgwylir i’r safon yma gael ei defnyddio ar y cyd â SKANSC1: Rhoi arferion gwaith diogel, glanwaith ac effeithiol ar waith a’u cynnal yn ystod triniaethau cosmetig dewisol nad ydynt yn llawfeddygol a SKANSC2: Ymgynghori, asesu, cynllunio a pharatoi ar gyfer triniaethau cosmetig dewisol nad ydynt yn llawfeddygol.
Dylai tystiolaeth ar gyfer eitemau a restrir o fewn yr amrediad/rhychwant gael ei ddangos yn unol â’r math penodol o driniaeth gosmetig nad yw’n llawfeddygol sy’n cael ei chyflawni.
*
Amcanion yr unigolyn*
*
1. lleihad mewn rhychau
2. gwelliant yng nghyflwr y croen
3. gwelliant yng ngweadedd y croen
4. gwelliant yn llacrwydd y croen

Dosbarthiad y croen

1. Graddfa Fitzpatrick 
2. Difrod-ffoto Glogau

Nodweddion y croen

1. sensitifrwydd y croen
2. cyflwr y croen
3. dwysedd y croen





Gwrth weithredoedd*

1. hyperemia
2. man anafiadau
3. cleisio
4. anesmwythder
5. chwydd gwyn

Nodwydd – yr wyneb
*
1. 1mm - 1.5mm

Nodwydd – y corff*
*
1. 1.5mm - 2.0mm

Anatomeg a ffisioleg

1. strwythur a swyddogaeth systemau’r corff a’u cyd-ddibyniaeth ar ei gilydd
2. strwythur a swyddogaeth y croen ac atodiadau’r croen
3. afiechydon, anhwylderau a chyflyrau’r croen 
4. proses heneiddio’r croen yn cynnwys effeithiau geneteg, ffordd o fyw ac amgylchedd
5. swyddogaeth rhwystro ar gyfer croen sydd mewn perygl a phrosesau atgynhyrchu’r croen

Adweithiau niweidiol

1. colli dŵr traws epidermaidd
2. cleisio gormodol
3. anafiadau
4. llid
5. adwaith alergaidd
6. adwaith histamin ormodol
7. proses iachau sydd mewn perygl
8. pendro
9. llewygu

Cymhorthion gweledol

1. Delweddau esboniadol
2. Diagramau esboniadol

Protocol triniaeth meicronodwyddo uwch*

1. amgylchedd waith
2. iechyd a diogelwch
3. cynllun rheoli risg
4. atal a rheoli haint
5. rheoli cymhlethdodau
6. cynllun triniaeth
7. cydsyniad gwybodus
8. rheoli data 
9. archwiliad ac atebolrwydd
10. cyfarwyddiadau a chyngor
11. rheoli gwastraff
12. ymarfer sy’n seiliedig a’r dystiolaeth ac sy’n adfyfyriol

Cyfarwyddiadau

1. hawliau a chyfrifoldebau cyfreithiol yr unigolyn a’r ymarferydd esthetig
2. rheoli cymhlethdodau
3. disgwyliadau wedi’r driniaeth ac amserlenni cysylltiedig
4. cyfarwyddiadau a gofal cyn ac ar ôl y driniaeth
5. cyfyngiadau a risgiau cysylltiedig
6. triniaethau yn y dyfodol
7. gweithdrefn cwynion neu brotocol pryderon



Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Rhagofalon cyffredinol a rhagofalon safonol
*
Mae rhagofalon cyffredinol yn berthnasol os yw’r ymarferydd yn dod i gysylltiad â gwaed a/neu rywfaint o hylif corfforol. Cyfrifoldeb yr ymarferydd yw rhoi mesurau atal a rheoli haint ar waith er mwyn atal dod i gysylltiad â phathogenau neu Ddeunyddiau Eraill all fod yn Heintus (OPIM).
Rhagofalon safonol yw’r lefel sylfaenol o reoli haint ddylai gael ei ddefnyddio bob amser o fewn yr amgylchedd waith, megis glendid dwylo, cyfarpar amddiffyn personol, atal anafiadau gan nodwyddau neu declynnau miniog, asesiad risg, glendid anadlol ac ymddygiad safonol ynghylch pesychu, glanhau amgylcheddol a chael gwared o wastraff.

Delweddau gweledol

Delweddau gweledol yw tystiolaeth sydd wedi’i chynhyrchu drwy ffotograffau neu fideo.

Amgylchedd waith

*
Dylai gofynion am yr amgylchedd waith gydymffurfio â deddfwriaeth Iechyd a Diogelwch a bod yn unol â’r canllawiau sydd wedi cael eu gosod allan naill ai gan eich awdurdod lleol neu gorff llywodraethu.
Dylid gwneud asesiadau risg, a dylai dulliau rheoli gael eu rhoi ar waith a’u cofnodi, a’u diweddaru yn rheolaidd a/os oes newidiadau yn digwydd. Dylai’r amgylchedd waith fod yn lanwaith ac yn addas i’w diben er mwyn i driniaethau cosmetig nad ydynt yn llawfeddygol gael eu cwblhau mewn modd diogel ac effeithiol gan ddefnyddio technegau aseptig. Mae angen i weithdrefnau i atal a rheoli haint gadw’r risg o heintio a throsglwyddo meicrobau mor isel â phosibl. Rhaid i gyfarpar amddiffyn personol fod yn addas i’w ddiben ac ar gael. Rhaid i gyfarpar a chynnyrch gael eu cynnal a’u cadw yn unol â chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr a gofynion deddfwriaethol.
Mae’n ddoeth creu cynllun ar gyfer rheoli cymhlethdodau a/neu argyfwng ar gyfer pob triniaeth gosmetig nad yw’n llawfeddygol os bydd adwaith neu ddigwyddiad niweidiol.


Dolenni I NOS Eraill

​SKANSC1, SKANSC2, SKANSC3, SKANSC4, SKANSC5, SKANSC7, SKANSC8, SKANSC9


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Maw 2024

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SkillsActive

URN gwreiddiol

SKANSC6

Galwedigaethau Perthnasol

Therapydd Harddwch, Estheteg Harddwch, Ymarferydd Estheteg

Cod SOC

6222

Geiriau Allweddol

meicro nodwyddo, nodwyddau, cynllun rheoli cymhlethdodau, rheoli poen, triniaethau cosmetig dewisol nad ydynt yn llawfeddygol, rheoleiddiad