Darparu adnewyddiad o’r croen gan ddefnyddio triniaethau mesotherapi

URN: SKANSC5
Sectorau Busnes (Suites): Therapi Harddwch,Triniaethau Cosmetig nad ydynt yn llawfeddygol
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 30 Maw 2021

Trosolwg

​Mae'r safon yma yn cydfodoli â, SKANSC1.2: Gweithredu a chynnal arferion gwaith diogel, glanwaith ac effeithiol yn ystod gweithdrefnau cosmetig dewisol nad ydynt yn llawfeddygol a SKANSC2.2: Ymgynghori, asesu, cynllunio a pharatoi ar gyfer gweithdrefnau cosmetig dewisol nad ydynt yn llawfeddygol o fewn yr amgylchedd waith. Mae'r safon yma ar gyfer ymarferwyr esthetig uwch sy'n defnyddio triniaethau mesotherapi i adnerwyddu'r croen a gwella cyflwr y croen. Bydd gofyn i chi hefyd wneud gwerthusiad ar ôl y driniaeth ac adfyfyrio er mwyn gwelliant parhaus. Rhaid i'r ymarferydd esthetig gael cymhwyster Cymorth Cyntaf yn y Gweithle neu ei gyffelyb a gallu cyflawni'r swyddogaethau o fewn SFHCHS36: Cefnogaeth bywyd sylfaenol a gallu cael gafael ar gyfarpar cefnogi bywyd fel sydd wedi ei nodi yn y cynllun rheoli cymhlethdodau. Bydd rhaid i ddefnyddwyr y safon yma wneud yn siwr bod eu harferion yn adlewyrchu'r wybodaeth, y polisïau, y gweithdrefnau a'r cyfarwyddyd am yr arfer orau.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

​1. cynnal ymgynghoriad cryno a chynhwysfawr gyda’r unigolyn a chadw at eich cyfrifoldebau am iechyd a diogelwch cyn, yn ystod ac ar ôl y driniaeth mesotherapi 

2. trafod a sefydlu amcanion yr unigolyn, ei bryderon, disgwyliadau a’r canlyniadau a ddymunir, er mwyn cael y wybodaeth ar gyfer y cynllun triniaeth mesotherapi, i gynnwys:

2.1 dewisiadau amgen ar gyfer triniaeth
2.2 dosbarthiad croen, ei nodweddion a’i gyflwr
2.3 rhaglen baratoadol ar gyfer preimio’r croen 
3. trafod a chytuno ar y strategaeth rheoli poen, gan gymryd i ystyriaeth lefel goddefiad yr unigolyn, yn unol â gofynion deddfwriaethol a pholisïau a gweithdrefnau cyfundrefnol 
4. ailadrodd, cadarnhau a chytuno gyda’r unigolyn, ei fod wedi deall y driniaeth mesotherapi a rheoli poen arfaethedig, i gynnwys:
4.1 gwrth-weithredoedd
4.2 adweithiau niweidiol
5. sicrhau a chofnodi cydsyniad gwybodus yr unigolyn ar gyfer y driniaeth mesotherapi a rheoli poen, gan ganiatau amserlen ddigonol i’r unigolyn wneud dewis gwybodus 
6. dewis cynnyrch paratoi glendid effeithiol i gwrdd ag anghenion yr unigolyn yn unol â chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr, 
7. paratoi man triniaeth yr unigolyn yn unol â’r protocol triniaeth mesotherapi 
8. dewis y ddyfais mesotherapi a’r toddiant ysgogi ar gyfer dosbarthiad a nodweddion y croen, amcanion yr unigolyn a man triniaeth yr unigolyn 
9. dilyn y protocol triniaeth mesotherapi er mwyn sicrhau ymdriniaeth wastad o’r man triniaeth i gynnwys:
9.1 addasu’r technegau a’r toddiant ysgogi ar gyfer gwahanol barthau 
10. monitro iechyd, lles a chyflwr croen yr unigolyn drwy gydol y driniaeth mesotherapi
11. gweithredu yn y modd cywir os bydd adwaith niweidiol 
12. cwblhau’r driniaeth yn unol â’r protocol triniaeth mesotherapi, gofynion deddfwriaethol a pholisïau a gweithdrefnau cyfundrefnol 
13. cymryd a chadw delweddau gweledol cydsyniol o fan triniaeth yr unigolyn yn unol â gofynion yswiriant, polisïau a gweithdrefnau cyfundrefnol
 14. cwblhau cofnodion triniaeth gosmetig yr unigolyn nad yw’n llawfeddygol a’u cadw’n unol â deddfwriaeth 
15. defnyddio ymarfer adfyfyriol er mwyn gwerthuso’r driniaeth mesotherapi a gweithredu’n briodol 
16. rhoi a sicrhau cadarnhad eich bod wedi derbyn cyfarwyddiadau a chyngor geiriol ac ysgrifenedig a roddwyd i’r unigolyn cyn ac ar ôl y driniaeth 
17. cofnodi canlyniad y driniaeth dyfais plasma a’r gwerthusiad ohoni er mwyn cytuno ar a darparu gwybodaeth ar gyfer triniaethau’r dyfodol 
18. trafod a chytuno gyda’r unigolyn ar driniaethau ar gyfer y dyfodol 


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

​1. pwysigrwydd cydweithredu gyda phobl broffesiynol gymwys er mwyn cefnogi arferion gwaith effeithiol a diogel

2. eich swyddogaeth a’ch cyfrifoldebau pan yn darparu triniaethau dyfais plasma a phwysigrwydd gweithio o fewn eich gallu 
3. pam ei bod yn rhaid i chi gydymffurfio ag arfer moesegol a gweithio o fewn gofynion deddfwriaethol
4. pwysigwrydd ymwneud â, a chofnodi datblygiad proffesiynol parhaus i gynnwys, y polisïau, y wybodaeth, gweithdrefnau a chyfarwyddyd am arfer orau ddiweddaraf 
5. yr anatomeg a’r ffisioleg sy’n berthnasol i’r safon yma
6. y broses heneiddio gronolegol o’r croen a’r berthynas gyda ffactorau cynhenid ac anghynenid
7. y mathau o doddiannau ysgogi, eu cyfansoddiad a’r effeithiau ffisiolegol yn yr epidermis
8. hanes mesotherapi
9. y dechneg electroporeiddiad a ddefnyddir mewn  mesotherapi heb nodwydd 
10. y mathau o gyfarpar mesotherapi a thoddiannau ysgogi, eu diben, defnydd a’u cyfyngiadau gan gymryd y canlynol i ystyriaeth:
10.1 dosbarthiad y croen
10.2 nodweddion y croen
10.3 amcanion yr unigolyn
10.4 cynllun triniaeth
10.5 man triniaeth yr unigolyn
10.6 addasrwydd corfforol a seicolegol yr unigolyn ar gyfer y driniaeth gosmetig nad yw’n llawfeddygol 
11. canfod, cadw, trin, defnyddio a chael gwared o gyfarpar mesotherapi a thoddiannau ysgogi yn unol â chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr a gofynion deddfwriaethol
12. y mathau o reolaeth poen a’r risgiau cysylltiedig 
13. y gofynion deddfwriaethol a chyfyngiadau ar gyfer canfod, cadw a defnyddio anesthetigion argroenol wedi eu trwyddedu 
14. yr adweithiau niweidiol sy’n gysylltiedig gyda thriniaeth mesotherapi a sut i ymateb iddynt
15. y cyfrifoldebau am iechyd a diogelwch yn unol â deddfwriaeth cyn, yn ystod ac ar ôl y driniaeth mesotherapi
 16. pam ei bod yn bwysig trafod ac adnabod amcanion, pryderon, disgwyliadau’r unigolyn a’r canlyniadau y mae’n ei ddymuno a chytuno ar y cynllun triniaeth cosmetig nad yw’n llawfeddygol 
17. pwysigrwydd defnyddio cymhorthion gweledol i hysbysu’r unigolyn o’r effeithiau corfforol 
18. y strwythurau taliadau a’r dewisiadau ar gyfer triniaeth 
19. triniaethau y gellir eu cyflawni ar y cyd â thriniaeth mesotherapi a’r risgiau cysylltiedig 
20. y mathau o raglenni preimio’r croen a’u perthnasedd i lwyddiant y driniaeth mesotherapi
21. y gofynion deddfwriaethol a digollediad er mwyn sicrhau cydsyniad gwybodus wedi’i lofnodi ar gyfer y driniaeth mesotherapi 
22. pwysigrwydd cadw at y protocol triniaeth mesotherapi
23. y mathau o gynnyrch glendid ar gyfer y croen a phwysigrwydd dilyn cyfarwyddiadau’r gwneuthurwr
24. y rhesymau dros weithio’n systematig er mwyn mynd dros y cyfan o fan triniaeth yr unigolyn, yn unol â’r protocol triniaeth mesotherapi i gynnwys:
24.1 toddiant a thechnegau ysgogi a sut maent yn wahanol yn ôl y parthau
25. pwysigrwydd monitro iechyd a lles yr unigolyn yn ystod ac ar ôl y driniaeth 
26. sut i weithredu yn y modd cywir os bydd adwaith niweidiol
27. sut i gwblhau’r driniaeth yn unol â’r protocol triniaeth mesotherapi, gofynion deddfwriaethol a pholisïau a gweithdrefnau cyfundrefnol 
28. y mathau o gynnyrch cyn ac ar ôl y driniaeth a’u manteision a’u defnydd 
29. y gofynion deddfwriaethol, yswiriant a chyfundrefnol ynglŷn â chymryd a chadw delweddau gweledol o fan triniaeth yr unigolyn 
30. y gofynion deddfwriaethol a rheoleiddiol ar gyfer cwblhau a chadw cofnod o driniaeth mesotherapi’r unigolyn 
31. canlyniadau disgwyliedig triniaeth mesotherapi
32. diben ymarfer adfyfyriol a gwerthuso a sut y mae’n darparu gwybodaeth ar gyfer triniaethau yn y dyfodol 
33. sut i goladu, dadansoddi, crynhoi a chofnodi adborth gwerthusol mewn modd clir a chryno 
34. pwysigrwydd cofnodi canlyniad y driniaeth mesotherapi a’r gwerthusiad ohoni
35. y cyfarwyddiadau a’r cyngor, cyn ac ar ôl y driniaeth mesotherapi


Cwmpas/ystod

Gwybodaeth ychwanegol

Disgwylir bod yr ymarferydd estheteg sy'n ymgeisio am y safon yma eisoes â'r sgiliau, yr wybodaeth a'r ymddygiadau a nodir o fewn canllawiau triniaeth yr ymarferydd estheteg a'r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol cosmetig nad yw'n llawfeddygol.

Disgwylir i'r ymarferydd fod eisoes yn gallu dangos gallu mewn penderfynu'r gwrtharwyddion cymharol (cyfyngol) **a llwyr (ataliol) ar gyfer y triniaethau cosmetig nad ydynt yn llawfeddygol. Yn ogystal â hyn, dylai'r ymarferydd esthetig allu adnabod adweithiau neu ddigwyddiadau niweidiol a gweithredu ar fyrder i'w cywiro fel ag y cytunwyd o fewn y cynllun rheoli cymhlethdodau.

Disgwylir i'r safon yma gael ei defnyddio ar y cyd â SKANSC1: Rhoi arferion gwaith diogel, glanwaith ac effeithiol ar waith a'u cynnal yn ystod triniaethau cosmetig dewisiol nad ydynt yn llawfeddygol a SKANSC2: Ymgynghori, asesu, cynllunio a pharatoi ar gyfer triniaethau cosmetig dewisiol nad ydynt yn llawfeddygol.

Dylai tystiolaeth ar gyfer eitemau a restrir o fewn yr amrediad/rhychwant gael ei ddangos yn unol â'r math penodol o driniaeth gosmetig nad yw'n llawfeddygol sy'n cael ei chyflawni.

*
Amcanion yr unigolyn

1. gwella adnewyddiad y croen
2. gwella cyflwr y croen
3. gwrth heneiddio

Dosbarthiad y croen

1. Graddfa Fitzpatrick
2. Difrod-ffoto Glogau

Nodweddion y croen

1. olewog
2. sych
3. cyfuniad
4. sensitif
5. aeddfed
6. wedi sychu
7. afreoleidd-drau mewn lliwiad
8. dwysedd y croen

Gwrth weithredoedd

1. hyperemia
2. cleisio
3. anghysur
4. chwydd gwyn

Dyfais mesotherapi

1. heb nodwydd
2. nodwydd meicro 
3. cyfarpar awtomataidd

Toddiannau ysgogi

1. Asid hyalwronig
2. fitaminau a mwynau
3. asidau amino


Anatomeg a ffisioleg

1. strwythur a swyddogaeth systemau’r corff a’u cyd-ddibyniaeth ar ei gilydd
2. strwythur a swyddogaeth y croen ac atodiadau’r croen 
3. afiechydon, anhwylderau a chyflyrau’r croen 
4. proses heneiddio’r croen yn cynnwys effeithiau geneteg, ffordd o fyw ac amgylchedd 
5. swyddogaeth rhwystro ar gyfer croen sydd mewn perygl a phrosesau atgynhyrchu’r croen
 
Adweithiau niweidiol

1. gorliwiad
2. heintio
3. creithio
4. sensitifrwydd/llid
5. adwaith alergaidd
6. papiwlau
7. adwaith histamin ormodol
8. proses iachau sydd mewn peryg
9. pendro
10. llewygu
11. cyfog
12. poen
13. chwydd gwyn gormodol
14. necrosis
15. heintio
16. goradwaith
17. dallineb
18. achludiad fasgiwlaidd

Cymhorthion gweledol

1. Delweddau esboniadol
2. Diagramau esboniadol

Protocol triniaeth mesotherapi

1. amgylchedd waith
2. iechyd a diogelwch
3. cynllun rheoli risg
4. atal a rheoli haint
5. rheoli cymhlethdodau
6. cynllun triniaeth
7. cydsyniad gwybodus
8. rheoli data
9. archwiliad ac atebolrwydd
10. cyfarwyddiadau a chyngor
11. rheoli gwastraff
12. ymarfer sy’n seiliedig a’r dystiolaeth ac sy’n adfyfyrio

Cyfarwyddiadau*

1. hawliau a chyfrifoldebau cyfreithiol yr unigolyn a’r ymarferydd esthetig 
2. cynllun rheoli cymhlethdodau
3. disgwyliadau wedi’r driniaeth ac amserlenni cysylltiedig 
4. cyfarwyddiadau a gofal cyn ac ar ôl y driniaeth
5. cyfyngiadau a risgiau cysylltiedig
6. triniaethau yn y dyfodol
7. gweithdrefn cwynion neu brotocol pryderon


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Mesotherapi * *

Gellir yn aml gyfeirio at gyfarpar mesotherapi fel gwn mesotherapi neu ddyfais awtomataidd. Gelwir y dechneg hon yn fesotherapi nappage sy'n gyfres o bigiadau arwynebol sy'n dodi fitaminau, mwynau, asidau amino ac asidau hyalwronig i mewn i haenau epidermaidd y croen.

Gellir cyfeirio at fesotherapi heb nodwydd fel electro fesotherapi neu  electroporeiddiad. Techneg feicrobioleg sy'n defnyddio amledd radio neu uwchsain i gynyddu hydreiddedd pilen y gell er mwyn amsugno fitaminau, mwynau, asidau amino ac asidau hyalwronig i mewn i haenau croenol y croen.

Rhagofalon cyffredinol a rhagofalon safonol

Mae rhagofalon cyffredinol yn berthnasol os yw'r ymarferydd yn dod i gysylltiad â gwaed a/neu rywfaint o hylif corfforol. Cyfrifoldeb yr ymarferydd yw rhoi mesurau atal a rheoli haint ar waith er mwyn atal dod i gysylltiad â phathogenau a drosglwyddir drwy'r gwaed neu Ddeunyddiau Eraill all fod yn Heintus (OPIM).

Rhagofalon safonol yw'r lefel sylfaenol o reoli haint ddylai gael ei ddefnyddio bob amser o fewn yr amgylchedd waith, megis glendid dwylo, cyfarpar amddiffyn personol, atal anafiadau gan nodwyddau neu declynnau miniog, asesiad risg, glendid anadlol ac ymddygiad safonol ynghylch pesychu, glanhau amgylcheddol a chael gwared o wastraff.

Delweddau gweledol

Delweddau gweledol yw tystiolaeth sydd wedi'i chynhyrchu drwy ffotograffau neu fideo.

Amgylchedd waith

Dylai gofynion am yr amgylchedd waith gydymffurfio â deddfwriaeth Iechyd a Diogelwch a bod yn unol â'r canllawiau sydd wedi cael eu gosod allan naill ai gan eich awdurdod lleol neu gorff llywodraethu.

Dylid gwneud asesiadau risg, a dylai dulliau rheoli gael eu rhoi ar waith a'u cofnodi, a'u diweddaru yn rheolaidd a/os oes newidiadau yn digwydd. Dylai'r amgylchedd waith fod yn lanwaith ac yn addas i'w diben er mwyn i driniaethau cosmetig nad ydynt yn llawfeddygol gael eu cwblhau mewn modd diogel ac effeithiol gan ddefnyddio technegau aseptig. Mae angen i weithdrefnau i atal a rheoli haint gadw'r risg o heintio a throsglwyddo meicrobau mor isel â phosibl. Rhaid i gyfarpar amddiffyn personol fod yn addas i'w ddiben ac ar gael. Rhaid i gyfarpar a chynnyrch gael eu cynnal a'u cadw yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr a gofynion deddfwriaethol. 

Mae’n ddoeth creu cynllun ar gyfer rheoli cymhlethdodau a/neu argyfwng ar gyfer pob triniaeth gosmetig nad yw’n llawfeddygol os bydd adwaith neu ddigwyddiad niweidiol


Dolenni I NOS Eraill

​SKANSC1, SKANSC2, SKANSC3, SKANSC4, SKANSC6, SKANSC7, SKANSC8, SKANSC9


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Maw 2024

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SkillsActive

URN gwreiddiol

SKANSC5

Galwedigaethau Perthnasol

Therapydd Harddwch, Estheteg Harddwch, Ymarferydd Estheteg

Cod SOC

6222

Geiriau Allweddol

mesotherapi, deunyddiau chwistrelladwy, injection technegau chwistrellu, cynllun rheoli cymhlethdodau, asid hyalwronig, rheoli poen, triniaethau cosmetig dewisiol nad ydynt yn llawfeddygol, rheoleiddiad, coctels meso, toddiant ysgogi, mesotherapi heb nodw