Ymgynghori, asesu, cynllunio a pharatoi ar gyfer triniaethau cosmetig dewisol nad ydynt yn llawfeddygol

URN: SKANSC2
Sectorau Busnes (Suites): Therapi Harddwch,Triniaethau Cosmetig nad ydynt yn llawfeddygol
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 30 Maw 2021

Trosolwg

​Mae'r safon yma ar gyfer ymarferwyr esthetig sy'n gwneud yr ymgynghoriad, yr asesiad, y cynllunio a'r paratoi ar gyfer triniaethau. dewisol cosmetig nad ydynt yn llawfeddygol. Mae'r safon yn rhan o'r set safonau galwedigaethol cenedlaethol cosmetig nad yw'n llawfeddygol, sy'n cynnwys safonau sy'n ymwneud â thocsin botwliniwm math A, llenwadau croenol, pliciadau cemegol gradd ganolig i'r croen, mesotherapi a meicro nodwyddo uwch, electroserio uwch a thriniaethau dermaplaneg. Bydd yn rhaid i chi ddilyn y protocol triniaeth cosmetig nad yw'n llawfeddygol, gofynion deddfwriaethol, rheoleiddiol a chyfundrefnol er mwyn nodi, asesu a rhoi ar waith arferion gwaith diogel, glanwaith ac effeithiol. Rhaid i'r ymarferydd esthetig gael cymhwyster Cymorth Cyntaf yn y Gweithle neu ei gyffelyb a gallu cyflawni'r swyddogaethau o fewn SFHCHS36: Cefnogaeth bywyd sylfaenol a gallu cael gafael ar gyfarpar cefnogi bywyd fel sydd wedi ei nodi yn y cynllun rheoli cymhlethdodau a/neu argyfwng.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

​1. cynnal ymgynghoriad cosmetig nad yw’n llawfeddygol sy’n gryno a  chynhwysfawr gan gymryd i ystyriaeth:

1.1 yr hanes meddygol mae’r unigolyn wedi ei ddatgan a’i statws meddygol cyfredol 
1.2 hanes triniaethau’r unigolyn
1.3 dosbarthiad, cyflwr a sensitifrwydd croen yr unigolyn a gallu’r man triniaeth i wella
1.4 pryderon, disgwyliadau a chanlyniadau disgwyliedig yr unigolyn 
1.5 addasrwydd corfforol a seicolegol yr unigolyn ar gyfer triniaeth gosmetig nad yw’n llawfeddygol
1.6 y gwrtharwyddion a’r cyfyngiadau cymharol a llwyr sydd wedi eu datgan 
2. cydnabod, ymateb a chyfeirio’n briodol mewn ymateb i gyflyrau wedi eu datgelu yn unol â deddfwriaeth data 
3. trafod amcanion, pryderon, disgwyliadau a chanlyniadau disgwyliedig yr unigolyn er mwyn hysbysu’r cynllun triniaeth gosmetig nad yw’n llawfeddygol i gynnwys:
3.1 dewisiadau amgen ar gyfer triniaeth
4. trafod y strwythurau tâl ac egluro sut gall hyn effeithio ar ddewis yr unigolyn o driniaethau cosmetig nad ydynt yn llawfeddygol 
5. trafod a chytuno ar raglen preimio’r croen neu’r argymhellion sydd eu hangen cyn y driniaeth gosmetig nad yw’n llawfeddygol 
6. cyfathrebu gyda’r unigolyn er mwyn penderfynu ar ei allu i roi cydsyniad gwybodus
7. asesu, trafod, cytuno a chofnodi’r ymgynghoriad cosmetig nad yw’n llawfeddygol a chanlyniadau disgwyliedig a’r risgiau cysylltiedig gyda’r unigolyn
8. hysbysu a darparu gwybodaeth i’r unigolyn am ei hawliau 
9. cymryd a chadw cyfryngau gweledol gyda chydsyniad o fan triniaeth yr unigolyn yn unol â gofynion yswiriant, polisïau cyfundrefnol a gweithdrefnau cyfundrefnol
10. trafod y teimlad corfforol all ddigwydd yn ystod y driniaeth gosmetig nad yw’n llawfeddygol gan ddilyn y protocol triniaeth
11. trafod y dewisiadau ar gyfer rheoli poen
12. datblygu’r cynllun triniaeth gosmetig nad yw’n llawfeddygol 
13. darparu a chael cadarnhad bod y cyfarwyddiadau llafar ac ysgrifenedig a’r cyngor a roddwyd i’r unigolyn cyn ac ar ôl y driniaeth wedi eu derbyn


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

​1. pwysigrwydd cydweithredu gyda phobl broffesiynol gymwys er mwyn cefnogi arferion gwaith effeithiol a diogel

2. pam ei bod yn rhaid i chi gydymffurfio ag arferion moesegol a gweithio o fewn y gofynion deddfwriaethol

3. pwysigrwydd ymwneud â, a chofnodi eich datblygiad proffesiynol parhaus i gynnwys, gwybodaeth gyfredol ac wedi ei diweddaru, polisïau, gweithdrefnau a chanllawiau arfer orau
4. yr anatomeg a’r ffisioleg sy’n berthnasol i’r safon yma
5. y gwrtharwyddion neu’r amodau cyflwyno i gynnwys:
5.1. y rhesymau dros beidio ag enwi gwrtharwyddion os ydynt y tu allan i’ch maes cymwys neu’ch cylch gwaith
5.2 sut a phryd i gyfeirio at bobl broffesiynol eraill ym maes gofal iechyd a thu allan i faes gofal iechyd
6. y rhesymau pam y gall cyflyrau meddygol fynd yn groes i’r driniaeth gosmetig nad yw’n llawfeddygol
7. y gofynion deddfwriaethol ac yswiriant ar gyfer cael diagnosis a chyfeirio meddygol
8. pwysigrwydd cyfathrebu gyda’r unigolyn mewn modd proffesiynol ac o fewn cyfyngiadau eich gallu 
9. y ffactorau i’w hystyried pan yn creu cynllun triniaeth gosmetig nad yw’n llawfeddygol sydd wedi ei theilwrio
10. pam ei bod yn rhaid i chi ddatblygu a chytuno ar gynllun triniaeth gosmetig nad yw’n llawfeddygol i gynnwys:
10.1 statws meddygol cyfredol wedi ei ddatgan
10.2 hanes triniaethol
10.3 gwrtharwyddion cymharol a llwyr
10.4 dosbarthiad y croen, a’i gyflwr a’i sensitifrwydd
10.5 gallu’r croen i iachau
10.6 disgwyliadau’r unigolyn
10.7 addasrwydd corfforol a seicolegol yr unigolyn ar gyfer triniaeth gosmetig nad yw’n llawfeddygol 
11. y berthynas rhwng anghenion cymdeithasol, corfforol, seicolegol a ffisiolegol ac amcanion y driniaeth 
12. effaith dylanwadau cymdeithasol, y cyfryngau a thueddiadau 
13. sut gall eich datblygiad proffesiynol parhaus chi eich hun gefnogi’r unigolyn i wneud dewis gwybodus, i gynnwys: 
13.1 dewisiadau amgen ar gyfer triniaeth
14. perthnasedd sefydlu’r gweithgareddau cyn triniaeth sy’n berthnasol i amcanion y driniaeth
15. pwysigrwydd asesu, trafod, cytuno ar, adolygu a chofnodi canlyniadau’r ymgynghoriad cosmetig nad yw’n llawfeddygol 
16. pwysigrwydd egluro proses y driniaeth, y canlyniadau disgwyliedig a’r risgiau cysylltiedig
17. manteision defnyddio cymhorthion gweledol yn ystod ymgynghoriad 
18. sut i reoli disgwyliadau’r unigolyn
19. y gofynion deddfwriaethol a digollediad ar gyfer cael cydsyniad gwybodus wedi’i lofnodi a ar gyfer y drinaieth gosmetig nad yw’n llawfeddygol 
20. y gofynion deddfwriaethol ar gyfer sicrhau, cofnodi, cadw gwarchod a dal data’r unigolyn 
21. pam bod triniaethau cosmetig nad ydynt yn llawfeddygol wedi eu gwahardd neu eu cyfyngu ar gyfer pobl dan oed
22. yr oed pan mae rhywun yn cael ei ystyried dan oed a sut mae hyn yn amrywio yn genedlaethol
23. y gofynion deddfwriaethol sy’n pennu hawliau’r unigolyn a’r ymarferydd
24. pwysigrwydd egluro’r teimlad corfforol sy’n cael ei greu i’r unigolyn gan y driniaeth i gynnwys:
24.1 sut mae’r trothwy poen a sensitifrwydd yn amrywio o unigolyn i unigolyn
25. y mathau o ddulliau reoli poen a’r risgiau cysylltiedig 
26. y gofynion deddfwriaethol, yswiriant a chyfundrefnol ar gyfer cymryd a chadw delweddau gweledol o fan triniaeth yr unigolyn 
27. y gofynion deddfwriaethol a rheoleiddiol ar gyfer cwblhau a chadw cofnodion triniaeth gosmetig yr unigolyn nad yw’n llawfeddygol 
28. y rhesymau dros ddarparu a chael cadarnhad eich bod wedi derbyn gan yr unigolyn y cyfarwyddiadau llafar ac ysgrifenedig a chyngor cyn ac ar ôl y driniaeth gosmetig nad yw’n llawfeddygol


Cwmpas/ystod


Cyflyrau wedi eu datgelu
*
*

1. gwrtharwyddion
2. anhwylderau dysmorffig y corff
3. cyflwr corfforol, a seicolegol
4. diogelu
5. vulnerability issues


* Hawliau

*

1. amser i adfyfyrio/cyfnod i wneud dewis gwybodus
2. cydsyniad gwybodus
3. cytundeb ariannol/ar gontract
4. cefnogaeth ac adolygiad wedi triniaeth
5. yr hawl i ofyn am gymwysterau, hyfforddiant ac yswiriant digollegiad yr ymarferydd


Delweddau gweledol
*
*

1. ffotograffaidd
2. fideo


Anatomeg a Ffisioleg
*
1. strwythur a swyddogaeth systemau’r corff a’u cyd-ddibynniaeth ar ei gilydd
2. ffactorau cynhenid ac anghynhenid y croen
3. protocol osgoi risg cysylltiedig neu ardaloedd perygl 
Dosbarthiad y croen
1. Graddfa Fitzpatrick 
2. Ffoto-ddifrod Glogau 


Cyfarwyddiadau

*
1. hawliau a chyfrifoldebau cyfreithiol yr unigolyn a’r ymarferydd esthetig
2. cefnogaeth a chyngor sydd ar gael ar unwaith ac yn barhaus
3. rheoli cymhlethdodau a/neu gynllun argyfwng
4. disgwyliadau wedi triniaeth ac amserlenni cysylltiedig 
5. cyfarwyddiadau a gofal cyn ac wedi triniaeth
6. cyfyngiadau a risgiau cysylltiedig
7. triniaethau yn y dyfodol
8. protocol gweithdrefn cwynion neu brotocol pryderon



Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Delweddau gweledol

Delweddau gweledol yw tystiolaeth sydd wedi ei chreu drwy ffotograffiaeth neu fideo.


Dolenni I NOS Eraill

SKANSC1, SKANSC3, SKANSC4, SKANSC5, SKANSC6, SKANSC7, SKANSC8, SKANSC9


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Maw 2024

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SkillsActive

URN gwreiddiol

SKANSC2

Galwedigaethau Perthnasol

Therapydd Harddwch, Estheteg Harddwch, Ymarferydd Estheteg

Cod SOC

6222

Geiriau Allweddol

Ymgynghoriad, asesu, cynllun triniaeth, paratoi, gwrtharwyddion, cyfathrebu, protocol triniaeth, tocsin botulinum, llenwadau croenol, pliciadau cemegol gradd ganolig i’r croen, mesotherapi, meicro nodwyddo uwch, electroserio uwch, dermaplaneg