Rhoi adnewyddiad i’r croen gan ddefnyddio ynni uwchsain dwysedd uchel wedi ei ffocysu

URN: SKANSC13
Sectorau Busnes (Suites): Therapi Harddwch,Triniaethau Cosmetig nad ydynt yn llawfeddygol
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 30 Maw 2021

Trosolwg

Mae'r safon yma yn cydfodoli â, SKANSC1.2: Gweithredu a chynnal arferion gwaith diogel, glanwaith ac effeithiol yn ystod gweithdrefnau cosmetig dewisol nad ydynt yn llawfeddygol. a SKANSC2.2: Ymgynghori, asesu, cynllunio a pharatoi ar gyfer gweithdrefnau cosmetig dewisol nad ydynt yn llawfeddygol o fewn yr amgylchedd waith. Mae'r safon yma ar gyfer ymarferwyr esthetig uwch sy'n cyflawni triniaethau ynni uwchsain dwysedd uchel wedi eu ffocysu er mwyn adnewyddu'r croen. Y mae uwchsain dwysedd uchel wedi ei ffocysu yn dechneg therapiwtig nad yw'n fewnwthiol sy'n defnyddio tonnau uwchsonig (sain) i ddosbarthu ynni sy'n cynhesu o dan feinwe'r croen, meinwe edafeddog isgroenol **a meinwe arwynebol cyhyrol-aponiwrotig. Bydd gofyn i chi hefyd wneud gwerthusiad ar ôl y driniaeth ac adfyfyrio er mwyn gwelliant parhaus. Rhaid i'r ymarferydd esthetig gael cymhwyster Cymorth Cyntaf yn y Gweithle neu ei gyffelyb a gallu cyflawni'r swyddogaethau o fewn SFHCHS36: Cefnogaeth bywyd sylfaenol a gallu cael gafael ar gyfarpar cefnogi bywyd fel sydd wedi ei nodi yn y cynllun rheoli cymhlethdodau. Bydd rhaid i ddefnyddwyr y safon yma wneud yn siwr bod eu harferion yn adlewyrchu'r wybodaeth, y polisïau, y gweithdrefnau a'r cyfarwyddyd am yr arfer orau.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

​1. cynnal ymgynghoriad cryno a chynhwysfawr gyda'r unigolyn

  1. cadw at eich cyfrifoldebau am iechyd a diogelwch yn unol â deddfwriaeth, rheoliadau, gorchmynion a chanllawiau

  2. trafod a sefydlu amcanion, pryderon, disgwyliadau a chanlyniadau disgwyliedig yr unigolyn er mwyn hysbysu'r cynllun triniaeth HIFU, i gynnwys:

3.1 dewisiadau triniaeth amgen

3.2 dosbarthiad croen a'i nodweddion

3.3 rhaglen baratoadol ar gyfer preimio'r croen

3.4 triniaeth baratoadol o'r croen

3.5 teimlad corfforol a sŵn

4. cadarnhau a chytuno gyda’r unigolyn, ei fod wedi deall y driniaeth HIFU arfaethedig, i gynnwys:

4.1 gwrth-weithredoedd

4.2 adweithiau niweidiol

5. sicrhau a chofnodi cydsyniad gwybodus yr unigolyn ar gyfer y driniaeth HIFU, gan ganiatau amserlen ddigonol i’r unigolyn wneud dewis gwybodus

  1. dewis cynnyrch paratoi glendid effeithiol i gwrdd ag anghenion yr unigolyn yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr

  2. paratoi man triniaeth yr unigolyn yn unol â'r protocol triniaeth, i gynnwys:

7.1 defnyddio cynnyrch paratoi ar gyfer llithriad a'r dargludedd gorau, cyn y driniaeth HIFU yn unol â phryderon yr unigolyn am y croen sydd wedi ei dargedu a'r protocol triniaeth HIFU

  1. paratoi'r cyfarpar HIFU a dewis y getrisen i'w ddefnyddio yn unol â dosbarthiad a nodweddion y croen, amcanion yr unigolyn a'i fan triniaeth,

  2. cyflawni'r driniaeth HIFU yn unol â'r protocol triniaeth HIFU, i gynnwys:

9.1 ymdriniaeth gyfartal o'r man triniaeth

9.2 nad yw'r cyswllt mewn un fan yn parhau yn hwy na chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr

10.monitro iechyd, lles ac adwaith y croen drwy gydol y driniaeth HIFU

  1. gweithredu yn y modd cywir os bydd adwaith niweidiol 

12. cwblhau'r driniaeth yn unol â'r protocol triniaeth HIFU, gofynion deddfwriaethol a pholisïau a gweithdrefnau cyfundrefnol

13. cymryd a chadw delweddau gweledol cydsyniol o fan triniaeth yr unigolyn, yn unol â gofynion yswiriant, polisïau a gweithdrefnau cyfundrefnol

  1. cwblhau cofnodion triniaeth HIFU'r unigolyn a'u cadw'n unol â deddfwriaeth data

  2. defnyddio ymarfer adfyfyriol er mwyn gwerthuso'r driniaeth HIFU a gweithredu'n briodol

  3. rhoi cyfarwyddiadau a chyngor i'r unigolyn cyn ac ar ôl y driniaeth

  4. cofnodi'r canlyniad a gwerthusiad y driniaeth HIFU er mwyn cytuno ar a hysbysu triniaethau'r dyfodol

18. trafod a chytuno gyda’r unigolyn ar driniaethau ar gyfer y dyfodol


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

​1. pwysigrwydd cydweithredu gyda phobl broffesiynol gymwys er mwyn cefnogi arferion gwaith diogel

  1. eich swyddogaeth a'ch cyfrifoldebau pan yn darparu triniaethau HIFU a phwysigrwydd gweithio o fewn maes eich gallu

  2. pam bod yn rhaid i chi gydymffurfio ag arfer moesegol a gweithio o fewn gofynion deddfwriaethol, i gynnwys:

3.1 y cyfrifoldebau o dan reoliadau trwyddedu'r awdurdod lleol i chi eich hun a'ch adeilad

4. pwysigrwydd ymwneud â, a chofnodi datblygiad proffesiynol parhaus i gynnwys, y gweithdrefnau, y polisïau a’r cyfarwyddyd am yr arfer orau ddiweddaraf

  1. yr anatomeg a'r ffisioleg sy'n berthnasol i'r safon yma

  2. y gwrtharwyddion cymharol a llwyr sy'n berthnasol i driniaethau HIFU, i gynnwys:

6.1 y gofynion deddfwriaethol ac yswiriant ar gyfer cael diagnosis a chyfeirio meddygol

6.2 sut a phryd i gyfathrebu a/neu gyfeirio at bobl broffesiynol eraill nad ydynt ym maes gofal iechyd neu sydd ym maes gofal iechyd

  1. pwysigrwydd adnabod nodweddion afreolaidd ac anafiadau ar y croen, a chyfeirio at rywun proffesiynol perthnasol ym maes gofal iechyd

  2. y rhesymau pam ei bod yn rhaid i'r unigolyn warchod y croen gyda chynnyrch ffactor gwarchod haul ar ôl y driniaeth HIFU

  3. y broses heneiddio gronolegol i'r croen a'r berthynas gyda ffactorau cynhenid ac anghynenid

10. swyddogaeth cyfarpar HIFU ac amryw getrys, i gynnwys:

10.1 sut caiff ynni uwchsain ei ddisgrifio a'i fesur mewn perthynas â'r sbectrwm electromagnetig

10.2 sut mae uwchsain yn anfon ynni i amryw ddyfnderoedd o dan feinwe'r croen

  1. sut i baratoi'r cyfarpar HIFU a dewis y getrisen sydd i'w defnyddio, yn unol â dosbarthiad a nodweddion y croen, amcanion yr unigolyn a'i fan triniaeth

  2. sut i gwblhau triniaeth HIFU yn unol â'r protocol triniaeth HIFU, i gynnwys:

12.1 ymdriniaeth gyfartal o'r man triniaeth

  1. canfod, cadw, trin, defnyddio a chael gwared o'r cyfarpar HIFU yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr a gofynion deddfwriaethol 

  2. pwysigrwydd ystyried lles corfforol a seicolegol unigolyn ar gyfer y driniaeth HIFU

  3. yr adweithiau niweidiol sy'n gysylltiedig gyda thriniaeth HIFU a sut i ymateb

  4. y cyfrifoldebau iechyd a diogelwch yn unol â deddfwriaeth cyn, yn ystod ac ar ôl y driniaeth HIFU

  5. pam ei bod hi'n bwysig trafod ac adnabod amcanion, pryderon, disgwyliaidau yr unigolyn a'r canlyniadau y mae'n ei ddymuno a chytuno ar y cynllun triniaeth HIFU

  6. pwysigrwydd defnyddio cymhorthion gweledol i hysbysu'r unigolyn o'r effeithiau corfforol

  7. y strwythurau talu a dewisiadau ar gyfer triniaeth

  8. y gofynion deddfwriaethol a digollediad er mwyn sicrhau cydsyniad gwybodus wedi'i lofnodi ar gyfer triniaeth HIFU a rheoli poen

  9. pwysigrwydd cadw at y protocol triniaeth HIFU

22. y mathau o gynnyrch glendid ar gyfer y croen a phwysigrwydd dilyn cyfarwyddiadau’r gwneuthurwr 

  1. y cynnyrch a ddefnyddir ar y cyd â thriniaethau HIFU I'r wyneb er mwyn gwella llithriad a dargludedd

  2. y rhesymau dros weithio'n systematig er mwyn gwneud y cyfan o fan triniaeth yr unigolyn, yn unol â'r protocol triniaeth HIFU

  3. pwysigrwydd monitro iechyd a lles yr unigolyn yn ystod ac ar ôl y driniaeth

  4. sut i weithredu yn y modd cywir us bydd adwaith niweidiol

  5. y cynnyrch wedi'r driniaeth sy'n hybu'r iachau a'r effeithiau adferol

28. y rhesymau dros gymryd delweddau gweledol gyda chydsyniad o fan triniaeth yr unigolyn, a’u cadw yn unol â gofynion y gwasanaeth, a’r rhai yswiriant a chyfundrefnol 

  1. y gofynion deddfwriaethol a rheoleiddiol ar gyfer cwblhau a chadw cofnod o driniaeth HIFU yr unigolyn

30. canlyniadau disgwyliedig triniaeth HIFU

  1. diben ymarfer adfyfyriol a gwerthuso a sut y mae'n darparu gwybodaeth ar gyfer triniaethau yn y dyfodol

  2. pwysigrwydd cofnodi canlyniad a gwerthusiad y driniaeth HIFU

     33. y cyfarwyddiadau a'r cyngor, cyn ac ar ôl y driniaeth HIFU


Cwmpas/ystod

Dosbarthiad croen**

  1. Graddfa Fitzpatrick
  2. Difrod-ffoto Glogau
  3. Graddfa Lancer

  4. Ffenoteip a genoteip

Nodweddion y croen

  1. sensitifrwydd y croen
  2. cyflwr y croen
  3. dwysedd y croen


Triniaeth baratoadol i'r croen

  1. glanhau
  2. deuod tywyniad golau


Adweithiau niweidiol

  1. hyperaemia
  2. anafiadau
  3. creithio atroffig
  4. creithio celoid
  5. colli dŵr trans-epidermaidd
  6. cleisio gormodol
  7. llid
  8. adwaith alergaidd
  9. adwaith histamin gormodol
  10. proses iachau wedi ei pheryglu
  11. pendro
  12. llewygu
  13. llosgi


Protocol triniaeth HIFU

  1. amgylchedd waith
  2. iechyd a diogelwch
  3. cynllun rheoli risg
  4. atal a rheoli haint
  5. rheoli cymhlethdodau
  6. cynllun triniaeth
  7. cydsyniad gwybodus

  8. rheoli data

  9. cyfarwyddiadau’r gwneuthurwr

  10. canlyniadau prawf

  11. archwilio ac atebolrwydd
  12. cyfarwyddiadau a chyngor

  13. cynaliadwyedd

  14. rheoli gwastraff
  15. ymarfer yn seiliedig ar dystiolaeth
  16. ymarfer adfyfyriol

Anatomeg a ffisioleg

  1. strwythur a swyddogaeth systemau'r corff a'u cyd-ddibyniaeth ar ei gilydd
  2. gwrtharwyddion cymharol a llwyr a phatholegau
  3. proses heneiddio'r croen yn cynnwys effeithiau geneteg, ffordd o fyw ac amgylchedd
  4. swyddogaeth rhwystro ar gyfer croen sydd mewn perygl a phrosesau adnewyddu croen
  5. y broses o synthasis colagen ac elastin yn cynnwys symbyliad  ffeibroblastig 

  6. amrywiaethau a lleoliad trwch y croen a meinwe bloneg

  7. effeithiau a mantiesion allbwn ynni amledd radio wedi ei greu o HIFU


Cymhorthion gweledol

  1. delweddau esboniadol
  2. diagramau esboniadol



Cyfarwyddiadau

  1. hawliau a chyfrifoldebau cyfreithiol yr unigolyn a'r ymarferydd esthetig
  2. rheoli cymhlethdodau
  3. disgwyliadau wedi'r driniaeth ac amserlenni cysylltiedig
  4. cyfarwyddiadau a gofal cyn ac ar ôl y driniaeth
  5. cyfyngiadau a risgiau cysylltiedig
  6. triniaethau yn y dyfodol
  7. gweithdrefn cwynion neu brotocol pryderon










Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Gwrtharwydd llwyr

Mae gwrtharwydd llwyr yn gyflwr sy'n rhwystro'r gwasanaeth rhag cael ei gyflawni ac a all fod angen cael ei gyfeirio.

Adwaith niweidiol

Adwaith niweidiol yw adwaith 'annisgwyl' neu ganlyniad yn dilyn gwasanaeth e.e. llewygu

Anatomeg a Ffisioleg

Sut mae'r systemau sgerbydol, cyhyrog, cylchredol, lymffatig, anadlol, ysgarthol, treuliadol, endocrinaidd a nerfol yn rhyngweithio gyda'i gilydd a sut maent yn effeithio ar yr unigolyn, gwasanaeth a chanlyniadau.

Gwrth weithred

Gwrth weithred yw adwaith neu ganlyniad 'disgwyliedig' yn dilyn gwasanaeth, e.e. erythema

Ymarfer wedi ei seilio ar dystiolaeth

Mae ymarfer wedi ei seilio ar dystiolaeth yn seiliedig ar y dystiolaeth orau gyfredol, ddilys a pherthnasol sydd ar gael.

Cymorth Cynta*f*

Gall cymorth cyntaf gyfeirio at gymwysterau cymorth cyntaf yn y gwaith neu ei gyffelyb neu ymwybyddiaeth o gymorth cyntaf iechyd meddyliol.

Protocol

Protocol yw gweithdrefn safonol er mwyn sicrhau arfer orau a chydymffurfiad pan yn darparu gwasanaethau h.y. dilyn cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr.

Gwrtharwydd cymharo*l*

Gwrtharwydd cymharol yw cyflwr sy'n gofyn am asesiad o addasrwydd ar gyfer y gwasanaeth a/neu os oes angen addasiadau

.

Gwasanaeth preimio'r croen

Mae rhaglen preimio'r croen yn set o gyfarwyddiadau y gall yr unigolyn eu gwneud cyn y driniaeth er mwyn sicrhau'r canlyniadau gorau.

Delweddau gweledol

Delweddau gweledol yw tystiolaeth sydd wedi ei chreu drwy ffotograffiaeth neu fideo.


Dolenni I NOS Eraill

SKANSC1.2, SKANSC2.2, SKANSC10, SKANSC11, SKANSC12SKANSC13


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Maw 2024

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SkillsActive

URN gwreiddiol

SKANSC13

Galwedigaethau Perthnasol

Therapydd Harddwch, Estheteg Harddwch, Ymarferydd Estheteg

Cod SOC

6222

Geiriau Allweddol

ynni uwchsain dwysedd uchel wedi eu ffocysu, HIFU, adnewyddu’r croen