Cyflawni pigiadau mewngroenol o docsin botwliniwm math A er mwyn trin chwysu gormodol cosmetig

URN: SKANSC10
Sectorau Busnes (Suites): Triniaethau Cosmetig nad ydynt yn llawfeddygol
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 30 Maw 2021

Trosolwg

Mae'r safon yma yn cydfodoli â, SKANSC1.2: Gweithredu a chynnal arferion gwaith diogel, glanwaith ac effeithiol yn ystod gweithdrefnau cosmetig dewisol nad ydynt yn llawfeddygol*.* a SKANSC2.2: Ymgynghori, asesu, cynllunio a pharatoi ar gyfer gweithdrefnau cosmetig dewisol nad ydynt yn llawfeddygol o fewn yr amgylchedd waith, yn dilyn ymgynghoriad a gwerthusiad gyda rhagnodwr annibynnol sy'n cael ei reoleiddio. Y mae'r safon yma ar gyfer ymarferwyr esthetig sy'n cyflawni pigiadau mewngroenol o docsin botwliniwm math A er mwyn trin chwysu gormodol cosmetig. Y mae'r botwliniwm math A yn rhwystro asetylcolin, niwrodrawsyrrydd o'r system nerfol paraymatebol rhag cael ei ryddhau, gan rwystro gorsymbyliad o'r chwarennau chwys ecrin sy'n arwain at chwysu gormodol. Caiff y tocsin botwliniwm ei gyflawni fel cwrs o weithrediadau wrth i'r nerfau atgynhyrchu dros amser. Bydd gofyn i chi wneud gwerthusiad ac adfyfyrio wedi'r driniaeth er mwyn gwlliant parhaus. Rhaid i'r ymarferydd esthetig gael cymhwyster Cymorth Cyntaf yn y Gweithle neu ei gyffelyb a gallu cyflawni'r swyddogaethau o fewn SFHCHS36: Cefnogaeth bywyd sylfaenol a gallu cael gafael ar gyfarpar cefnogi bywyd fel sydd wedi ei nodi yn y cynllun rheoli cymhlethdodau.  Bydd rhaid i ddefnyddwyr y safon yma wneud yn siwr bod eu harferion yn adlewyrchu'r wybodaeth, y polisïau, y gweithdrefnau a'r cyfarwyddyd am yr arfer orau

Y prif ddeilliannau yw:

  1. Lleihau chwysu cosmetig gormodol
  2. Trin hyperhidrosis ceseiliol canolog cynradd sydd wedi ei ddiagnosio.

Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

1. canfod a thrafod canlyniadau a dogfennau'r unigolyn ar gyfer y driniaeth tocsin botwliniwm math A gan y rhagnodwr annibynnol sy'n cael ei reoleiddio i gynnwys:

1.1 cynllun triniaeth yr unigolyn i gynnwys y manna i gael eu trin

1.2 cyngor, cefnogaeth a chyfarwyddyd

1.3 cynllun argyfwng

1.4 polisi rheoli moddion

1.5 strategaeth rheoli poen

2. cytuno ar a chael y prescripsiwn ar gyfer y tocsin botwliniwm math A gan ragnodwr annibynnol sy'n cael ei, yn unol â'r protocol tocsin botwliniwm math A, gofynion deddfwriaethol rheoleiddiol, polisïau cyfundrefnol a gweithdrefnau

  1. cynnal ymgynghoriad cryno a chynhwysfawr gyda'r unigolyn a chadw at eich cyfrifoldebau am iechyd a diogelwch cyn, yn ystod ac ar ôl y driniaeth tocsin botwliniwm math A

4. trafod amcanion, pryderon, disgwyliadau yr unigolyn a'r canlyniadau y mae'n ei ddymuno er mwyn hysbysu'r cynllun triniaeth tocsin botwliniwm math A i gynnwys   :

4.1 dewisiadau amgen ar gyfer triniaeth

  1. penderfynu ar y cynllun triniaeth tocsin botwliniwm math A yn unol â'r gofynion deddfwriaethol a pholisïau a gweithdrefnau cyfundrefnol

6. ailadrodd, cadarnhau a chytuno gyda’r unigolyn, ei fod wedi deall y driniaeth tocsin botwliniwm math A a rheoli poen arfaethedig, i gynnwys:

6.1 gwrth-weithredoedd

**6.2 adweithiau niewidiol

7. sicrhau a chofnodi cydsyniad gwybodus yr unigolyn ar gyfer y  tocsin botwliniwm  math A, gan ganiatau amserlen ddigonol I’r unigolyn wneud dewis gwybodus

8. adolygu’r cydsyniad gwybodus ar gyfer y driniaeth tocsin botwliniwm  math A a rheoli poen 

  1. casglu cydsyniad wedi ei hysbysu'r unigolyn, a presgripsiwn wedi ei gwblhau gan fferyllydd, i gynnwys:

9.1 cyfarwyddyd sy'n benodol i'r claf

9.2 toddiannau ail gyfuniad halwynog

9.3 cyfarwyddiadau ynglŷn â chadw

9.4 protocol ar gyfer cael gwared o wastraff
10. dewis cynnyrch paratoi glendid effeithiol er mwyn cwrdd ag anghenion yr unigolyn yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr


11. paratoi man triniaeth yr unigolyn yn unol â'r protocol triniaeth tocsin  botwliniwm math A a'r strategaethau cysylltiedig ar gyfer osgoi risg, i gynnwys:
11.1 gwneud marciau cyn triniaeth er mwyn nodi’r man hyperhidrotig ar gyfer pob cesail, yn dibynnu ar y man lle mae blew’n tyfu 
11.2 sicrhau bod yna ddigon o le rhwng y marciau a'u bod wedi eu dosbarthu yn gyfartal
12. paratoi chwistrell a nodwydd a gaiff eu defnyddio unwaith, yn unol â phrotocol y driniaeth
13.chwistrellu a dodi'r toddiant tocsin botwliniwm math A drwy'r croen gyda nodwydd ddiheintiedig a gaiff ei defnyddio unwaith, yn unol â phrotocol triniaeth y tocsin botwliniwm math A, i gynnwys:
13.1 addasu technegau chwistrellu, ongl a dyfnder
13.2 yn unol â'r marciau cyn y driniaeth
 13.3 mewn un symudiad esmwyth a rhyddhau graddol er mwyn lleihau trawma i'r rhan briodol
14. monitro iechyd, lles ac adwaith croen yr unigolyn drwy gydol y driniaeth tocsin botwliniwm math A, yn unol â gofynion deddfwriaethol a pholisïau a gweithdrefnau cyfundrefnol
15. os oes yna adwaith neu ddigwyddiad niweidiol, fod yr ymarferydd esthetig yn cymryd camau i'w gywiro ar fyrder, fel sydd wedi ei amlinellu o fewn y cynllun argyfwng i gynnwys:

15.1 ceisio a gweithredu ymyrraeth feddygol ar unwaith gan yr unigolyn proffesiynol ym maes iechyd sydd wedi ei nodi a'i hyfforddi i ddelio gyda chymhlethdodau fel sydd wedi eu hamlinellu o fewn y cynllun argyfwng pan fod angen meddyginiaeth na ellir ei gael ond ar bresgripsiwn
16.cwblhau'r driniaeth yn unol â phrotocol triniaeth y tocsin botwliniwm math A, gofynion deddfwriaethol a pholisïau a gweithdrefnau cyfundrefnol, i gynnwys:
16.1 cael gwared o unrhyw farciau cyn triniaeth, os yn briodol
17. cymryd a chadw cyfryngau gweledol cydsyniol o fan triniaeth yr unigolyn yn unol â gofynion yswiriant, polisïau a gweithdrefnau
18. cwblhau a chadw cofnodion triniaeth gosemtic yr unigolyn heb fod yn llawfeddygol yn unol â deddfwriaeth data

19. defnyddio arfer adfyfryiol i werthuso’r driniaeth tocsin  botwliniwm math A a gweithredu’n briodol 

20. rhoi cyfarwyddiadau a chyngor i’r unigolyn cyn ac ar ôl y driniaeth, i gynnwys:

20.1 manylion cyswllt y rhagnodwyr sy'n cael eu rheoleiddio

20.2 cynllun argyfwng

20.3 cynllun wrth gefn os bydd rhywun yn absennol

21. trafod, gwerthuso a chofnodi’r canlyniadau gyda’r rhagnodwr annibynnol sy’n cael ei reoleiddio a chytuno ar weithredu pellach a thriniaethau a wneir yn y dyfodol

22. trafod y canlyniadau a chytuno ar driniaethau yn y dyfodol gyda'r unigolyn 


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

​1. pwysigrwydd cydweithio gyda phobl broffesiynol gymwys er mwyn cefnogi arferion gwaith effeithiol a diogel

  1. swyddogaethau a chyfrifoldebau'r rhagnodwr annibynnol sy'n cael ei reoleiddio

3. pam ei bod yn rhaid i chi gydymffurfio ag arferiol moesegol a gweithio o fewn gofynion deddfwriaethol

4. pwysigrwydd ymwneud â, a chofnodi datblygiad proffesiynol parhaus i gynnwys, polisïau gwybodaeth wedi eu diweddaru, gweithdrefnau a chanllawiau arfer

5. yr anatomeg a'r ffisioleg sy'n berthnasol sy'n berthnasol i'r safon yma

6. y mathau o, cyfansoddiad ac effeithiau ffarmacolegol y cyfansoddion cemegol mewn toddiadau tocsin botwliniwm, i gynnwys:

6.1 sut all crefydd a chredo rwystro triniaeth tocsin botwliniwm math A

  1. pwysigrwydd derbyn diagnosis wedi ei seilio ar dystiolaeth gan feddyg teulu, i gynnwys:

7.1 diben a chanlyniadau profion iodin

  1. y gwahaniaethau rhwng gor-chwysu cosmetig a hyperhidrosis ceseiliol canolog cynradd ac eilaidd

9. y rhesymau dros beidio â thrin hyperhidrosis ceseiliol canolog eilaidd

10. sut i adnabod y man heiperheidrotig o bob cesail yn ôl y man blewog i gynnwys:

10.1 faint o bigiadau y gellir yn ddiogel eu defnyddio

10.2 pam mae’n rhaid i chi adael yr un faint o bellter rhwng mannau pigiad

10.3 yr offer diheintiedig a ddefnyddir i nodi'r mannau lle caiff y pigiadau eu rhoi cyn y driniaeth

  1. effaith ffisiolegol y toddiant tocsin botwliniwm tocsin math A ar feinewoedd gwaelodol y corff, mewn perthynas â'r canlynol:

11.1 atal rhyddhau’r niwrodrawsyrrydd asetylcolin a’i effaith ar y system nerfol paraymatebol 

11.2 pam mai rhywbeth dros dro yw effaith pigiadau o docsin botwliniwm math A o dan y croen

11.3 pa mor aml mae angen triniaethau yn unol ag anghenion yr unigolyn 

12. diben, defnydd a chyfyngiadau'r triniaethau tocsin botwliniwm math A , mewn perthynas â'r canlynol:

12.1 hanes meddygol cyfredol a bleanorol

12.2 hanes trinaethau cosmetig blaenorol nad oeddynt yn llawfeddygol

12.3 ffactorau perthnasol yn y ffordd o fyw

12.4 meddyginiaethau a chyflyrrau meddygol

12.5 ystyried lles corfforol a seicolegol yr unigolyn o’r driniaeth tocsin botwliniwm

12.6 disgwyliadau'r unigolyn

  1. yr adweithiau niweidiol sy'n gysylltiedig â'r driniaeth tocsin  botwliniwm math A

14. cymryd y camau cywir os bydd yna adwaith neu ddigwyddiad niweidiol i gynnwys:

14.1 pam a pha bryd mae angen ymyrraeth feddygol
14.2 y strategaethau ar gyfer osgoi risg
15. y gwahaniaethu rhwng cynnyrch wedi’i drwyddedu, heb label a heb ei drwyddedu, i gynnwys:
15.1 y gofynion rheoleiddio a deddfwriaethol
16. y defnydd trwyddedig dynodedig o feddyginiaethau na ellir ond eu cael ar brescripsiwn a phryd y gellir eu defnyddio heb label, gan ystyried:
16.1 diogelwch
16.2 man triniaeth
16.3 addasrwydd
16.4 cytundeb gyda'r rhagnodwr annibynol sy'n cael ei reoleiddio
17. y mathau o ddulliau rheoli poen a risgiau cysylltiedig
18. y gofynion deddfwriaethol a chyfyngiadau ar gyfer canfod, cadw a defnyddio anesthetigion cyfoes wedi eu trwyddedu
19. y cyfrifoldebau am iechyd a diogelwch yn unol â deddfwriaeth cyn, yn ystod ac ar ôl y driniaeth tocsin botwliniwm math A
20. pwysigrwydd cael a thrafod y canlyniadau ymgynghori gyda'r rhagnodwr annibynol sy'n cael ei reoleiddio
21. pwysigrwydd cael a dilyn cyfarwyddiadau gan y rhagnodwr annibynol sy'n cael ei reoleiddio yn unol â'r polisi rheoli meddyginiaethau, cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr, gofynion deddfwriaethol a rheoleiddiol, i gynnwys:
21.1 mynediad
21.2 defnydd
 21.3 cadw
21.4 pa mor hir fyddant yn cadw a phryd fyddant yn dod i ben
21.5 polisi cael gwared o wastraff

21.6 archwilio ac atebolrwydd

22. sut mae canlyniadau ymgynghori’r rhagnodwr sy’n cael ei reoleiddio yn hysbysu’r cynllun triniaeth tocsin botwliniwm math A 

23. pam ei bod hi'n bwysig trafod ac adnabod amcanion, pryderon, disgwyliaidau yr unigolyn a'r canlyniadau y mae'n ei ddymuno a chytuno ar y cynllun triniaeth botwliniwm math A

24. pwysigrwydd defnyddio cymhorthion gweledol i hysbysu'r unigolyn o'r effeithiau corfforol
25. strwythurau talu a dewisiadau ar gyfer triniaeth
26. pam ei bod yn bwysig caniatau amser i’r unigolyn ystyried cyn cadarnhau a chytuno i dderbyn triniaeth gosmetig ddewisol nad yw’n llawfeddygol 
27. pwysigrwydd sicrhau cydsyniad gwybodus ar gyfer triniaeth tocsin botwliniwm  math A a rheoli poen 
28. y gofynion deddfwriaethol a digollediad ar gyfer sicrhau cydsyniad gwybodus wedi’i lofnodi ar gyfer triniaeth gosmetig ddewisol nad yw’n llawfeddygol
29. y mathau o gynnyrch glendid ar gyfer y croen a phwysigrwydd dilyn cyfarwyddiadau’r gwneuthurwr 
30. pwysigrwydd cadw at y protocol tocsin botwliniwm math A
31. pwysigrwydd monitro iechyd a lles yr yr unigolyn yn ystod ac ar ôl y driniaethp
32. pwysigrwydd cadw at y cynllun argyfwng os bydd yna adwaith niweidiol
33. y gofynion deddfwriaethol, yswiriant a chyfundrefnol ar gyfer cymryd a chadw cyfryngau gweledol o fan triniaeth yr unigolyn
34. y gofynion deddfwriaethol a rheoleiddiol ar gyfer cwblhau a chadw cofnodion meddygol yr unigolyn a'i driniaeth gosmetig nad yw'n llawfeddygol
35. y canlyniadau disgwyliedig o'r driniaeth tocsin botwliniwm math A
36. pwysigrwydd trafod, adfyfyrio, gwerthuso a chofnodi'r canlyniadau gyda'r rhagnodwr annibynol sy'n cael ei reoleiddio er mwyn cael gwybodaeth ar gyfer camau pellach a thriniaethau yn y dyfodol
37. sut i gasglu, dadansoddi, crynhoi a chofnodi adborth gwerthuso mewn modd clir a chryno
38. pwysigrwydd cofnodi canlyniad y driniaeth tocsin botwliniwm math A a’r gwerthusiad ohoni

  1. y cyfarwyddiadau a'r cyngor, cyn ac ar ôl y driniaeth botwliniwm math A 


Cwmpas/ystod

Gwybodaeth Ychwanegol

Disgwylir i’r rhagnodwr annibynnol sy’n cael ei reoleiddio fod wedi cyflawni’r cymwysterau perthnasol sy’n cwrdd â’r gofynion deddfwriaethol a rheoleiddiol. Rhaid i’r cymwysterau llawn gael eu harddangos yn cynnwys y rhif pin a’r cyrff rheoleiddiol.
Disgwylir i’r ymarferydd fod eisoes yn gallu dangos gallu mewn penderfynu’r gwrtharwyddion cymharol (cyfyngol) a llwyr (ataliol) ar gyfer y triniaethau cosmetig nad ydynt yn llawfeddygol. Yn ogystal â hyn, dylai’r ymarferydd esthetig allu adnabod adweithiau neu ddigwyddiadau niweidiol a gweithredu ar fyrder i’w cywiro fel ag y cytunwyd o fewn cynllun argyfwng y rhagnodwr annibynnol sydd wedi ei reoleiddio.

*
*

Protocol triniaeth tocsin Botwliniwm math A

  1. amgylchedd waith
  2. iechyd a diogelwch
  3. cynllun rheoli risg
  4. rhwystro a rheoli haint
  5. canlyniadau ymgynghori gan y rhagnodwr annibynnol sy'n cael ei reoleiddio
  6. cynllun rheoli
  7. rheoli meddyginiaeth
  8. cynllun triniaeth
  9. cydsyniad wedi ei hysbysu
  10. pobl broffesiynol briodol
  11. rheoli data
  12. archwilio ac atebolrwydd
  13. cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr
  14. cyfarwyddiadau a chyngor
  15. cynaliadwyedd
  16. rheoli gwastraff
  17. ymarfer yn seiliedig ar dystiolaeth
  18. arfer adfyfyriol

Gwrth Weithredoedd

  1. hyperemia
  2. mân anafiadau
  3. cleisio
  4. chwydd gwyn

  5. poen braich

  6. gwendid yn y cyhyrau

  7. poen yn y cyhyrau

  8. cosi yn y gesail



**Anatomeg a ffisioleg**
  1. strwythr a swyddogaeth holl systemau'r corff a'u cyd-ddibynniaeth ar ei gilydd
2. patholegau'r croen a systemig 3. patholegau digwyddiad niweidiol difrifol  4. gwybodaeth sylfaenol am ffarmacoleg a gwyddorau  5. yr effeithiau gaiff y tocsin botwliniwm math A ar strwythurau gwaelodol y croen a'r cyhyrrau

Adweithiau anffafriol

  1. ptosis/ecotroffin
  2. haint
  3. cyfog
  4. adwaith alergaidd
  5. anaphylacsis
  6. botwliaeth
  7. anafiadau wedi eu hachosi gan nodwyddau
  8. necrosis
  9. hematoma
  10. emboledd yr ysgyfaint
  11. anaf gwythiennol, rhedwelïol a nerfol

Strategaethau i osgoi risg

  1. cynllun argyfwng
  2. asesiad(au) risg
  3. hanes meddygol caffael
  4. cynllun(iau) triniaeth
  5. mannau triniaeth cyfyngedig
  6. cyfarwyddiadau a chyngor cyn ac ar ôl
  7. osgoi defnyddio heb drwydded
  8. brechiadau
  9. cymhwyster cymorth cyntaf yn y gwaith a chefnogaeth bywyd sylfaenol neu ei gyffelyb
  10. arferion gwaith iechyd a diogelwch cyffredinol
  11. atal a rheoli haint
  12. amgylchedd waith
  13. ymgynghoriad gyda rhywun proffesiynol ym maes gofal iechyd, rhagnodwr annibynnol wedi ei reoleiddio
  14. protocol presgripsiwn deddfwriaethol 

  15. rheoli meddyginiaeth

  16. cydsyniad wedi ei hysbysu
  17. cydweithredu gyda phobl personel broffesiynol berthnasol
  18. rheoli data
  19. archwilio ac atebolrwydd
  20. protocol presgripsiwn
  21. dealltwriaeth sylfaenol o ffarmacoleg
  22. anatomi gwybodaeth waith o anatomeg geseiliol
  23. rheoli gwastraff
  24. ystyriaeth o les corfforol ac emosiynol yr unigolyn



Cymhorthion gweledol

  1. diagramau
  2. marciau cyn triniaeth




Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Pobl Broffesiynol Gymwys

Pobl broffesiynol y tu allan i faes eich gallu y gellwch gyfeirio atynt neu ofyn am eu cyngor.

Adweithiau niweidiol

Caiff adweithiau niweidiol hefyd eu hadnabod fel digwyddiadau niweidiol neu risgiau. Adwaith niweidiol yw adwaith gorfforol neu ffisiolegol annisgwyl i driniaeth sy'n cael ei chyflawni

Gwrth-weithred

Gwrth weithred yw adwaith dros dro ddisgwyliedig o driniaeth

Wedi ei Wrtharwyddo  

Sefyllfa benodol lle na ddylid defnyddio cyffur, triniaeth neu lawdriniaeth oherwydd y gall fod yn niweidiol i'r person.

Cynllun Argyfwng

Cyfrifoldeb y rhagnodwr annibynnol wedi ei reoleiddio yw’r cynllun argyfwng. Y mae’r cynllun argyfwng yn cynnwys yr ymateb priodol ar y safle, y broses gyfeirio gofal iechyd a gallu cael gafael ar becyn argyfwng sy’n addas ar gyfer delio gydag adweithiau neu ddigwyddiadau niweidiol. Mae gan y rhagnodwr annibynnol sy’n cael ei reoleiddio ddyletswydd o ofal tuag at ei gleifion ac i ddilyn y canllawiau rheoleiddiol a osodir allan gan eu Corff Proffesiynol, Statudol a Rheoleiddiedig.

Cyfarwyddyd sy'n benodol i'r claf

Presgripsiwn sy'n benodol i'r unigolyn a'r driniaeth sydd i gael ei gwneud.

Marciau cyn triniaeth

Dylid gwneud marciau cyn triniaeth drwy ddefnyddio pen ysgrifennu lawfeddygol ddiheintiedig a ddefnyddir unwaith. Defnyddir marciau cyn triniaeth er mwyn creu canllawiau ar gyfer nodi mannau i roi pigiadau fel ag sydd wedi ei osod allan yn y cynllun triniaeth cosmetig nad yw'n llawfeddygol.

Rhagnodwr Annibynnol sy'n cael ei reoleiddio

Caiff rhagnodwyr annibynnol sy’n cael eu rheoleiddio gan y Cyrff Rheoleiddiol Proffesiynol Statudol. Bydd gan ragnodwyr annibynnol sy’n cael eu rheoleiddio y cymwysterau perthnasol i dderbyn eu cofrestriad a’u rhif pin. Cyfrifoldeb y rhagnodwyr annibynnol sy’n cael eu rheoleiddio ac sydd yn cydweithredu gyda phobl eraill i wneud y triniaethau tocsin a’r gwerthusiad ohoni math A yw sicrhau bod yr ymarferydd esthetig wedi cael yr hyfforddiant a’r profiad digonol i roddi meddyginiaethau na ellir ond eu rhoi ar bresgripsiwn. 

Delweddau gweledol

Delweddau gweledol yw tystiolaeth sydd wedi'i chynhyrchu drwy ffotograffau neu fideo.


Dolenni I NOS Eraill

​SKANSC11, SKANSC12, SKANSC13, SKANSC1.2, SKANSC2.2


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Maw 2024

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SkillsActive

URN gwreiddiol

SKANSC10

Galwedigaethau Perthnasol

Estheteg Harddwch, Ymarferydd Estheteg

Cod SOC

6222

Geiriau Allweddol

tocsin botulinwm math A, deunyddiau chwistrelladwy, technegau chwistrellu, rheoli poen, rhagnodwr annibynnol sy’n cael ei reoleiddio, triniaethau cosmetig dewisol nad ydynt yn llawfeddygol, polisi rheoli meddyginiaeth, cynllun argyfwng, meddyginiaethau sy