Darparu gwasanaethau trin ewinedd traed

URN: SKANS3
Sectorau Busnes (Suites): Gwasanaethau Ewinedd,Therapi Harddwch
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 01 Ion 2015

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â darparu gwasanaeth trin ewinedd traed i gleientiaid. Mae'n cynnwys ymgynghori â'r cleient, adnabod unrhyw wrtharwyddion, paratoi ar gyfer y gwasanaeth a chynhyrchu cynllun gwasanaeth. Mae hefyd yn cynnwys siapio'r ewinedd, defnyddio triniaethau croen a chwtigl, glanhau a sychu'r traed, cael gwared ar groen caled gormodol, tylino'r droed a rhan isaf y goes a thaenu gorffeniad addas i'r ewinedd.

Er mwyn cyflawni'r safon hon bydd angen i chi gynnal iechyd, diogelwch a hylendid effeithiol trwy gydol eich gwaith. Bydd angen i chi hefyd gynnal eich ymddangosiad personol a dangos sgiliau cyfathrebu ac ymgynghori effeithiol.

Prif ganlyniadau'r safon hon yw:

  1. cynnal dulliau gwaith diogel ac effeithiol wrth ddarparu gwasanaethau trin ewinedd traed

  2. ymgynghori, cynllunio a pharatoi ar gyfer gwasanaethau trin ewinedd traed

  3. cynnal gwasanaethau trin ewinedd traed


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

Cynnal dulliau gwaith diogel ac effeithiol wrth ddarparu gwasanaethau trin ewinedd traed

* *

  1. cynnal eich cyfrifoldebau dros iechyd a diogelwch trwy gydol y gwasanaeth

  2. paratoi'ch cleient a'ch hun i fodloni gofynion cyfreithiol a sefydliadol

  3. gosod eich cleient mewn safle i fodloni anghenion y gwasanaeth

  4. sicrhau bod eich ystum eich hun a'ch dulliau gwaith yn isafu ar flinder a risg o anaf i chi'ch hun ac eraill

  5. sicrhau bod amodau amgylcheddol yn addas i'r cleient a'r gwasanaeth

  6. cadw'ch ardal waith yn lân ac yn daclus trwy gydol y gwasanaeth

  7. defnyddio dulliau gwaith sy'n isafu ar risg o groes-heintio

  8. sicrhau defnydd ar gyfarpar a deunydd glân

  9. hyrwyddo arferion gwaith amgylcheddol a chynaliadwy

  10. dilyn cyfarwyddiadau'r gweithle a chyflenwyr neu gynhyrchwyr ar gyfer defnydd diogel ar gyfarpar, deunyddiau a chynnyrch

  11. cael gwared ar ddeunydd gwastraff i fodloni gofynion cyfreithiol

  12. cynnal y gwasanaeth o fewn amser sy'n ymarferol yn fasnachol

Ymgynghori, cynllunio a pharatoi ar gyfer gwasanaethau trin ewinedd traed

* *

  1. defnyddio technegau ymgynghori i bennu cynllun gwasanaeth y cleient

  2. sicrhau caniatâd gwybodus, wedi'i lofnodi gan riant neu warcheidwad ar gyfer plant cyn unrhyw wasanaeth

  3. sicrhau bod rhiant neu warcheidwad yn bresennol trwy gydol y gwasanaeth ar gyfer plant sy'n iau na 16 oed

  4. adnabod unrhyw wrtharwyddion a chymryd unrhyw gamau angenrheidiol

  5. cytuno ar y gwasanaeth a'r canlyniadau sy'n bodloni anghenion y cleient

  6. sicrhau caniatâd gwybodus, wedi'i lofnodi gan y cleient cyn cynnal y gwasanaeth

  7. glanhau'r ardal a fydd yn cael ei thrin a thynnu unrhyw orffeniad sydd ar yr ewinedd yn barod

  8. adnabod cyflwr yr ewinedd a'r croen

  9. argymell triniaethau a chynnyrch ar gyfer math o groen a chyflwr ewinedd y cleient

Cynnal gwasanaethau trin ewinedd traed

* *

  1. glanhau a sychu traed y cleient

  2. cadarnhau hyd a siâp dymunol yr ewinedd gyda'r cleient

  3. siapio'r ewinedd i sicrhau ymyl rhydd llyfn

  4. defnyddio offer a chynnyrch i dynnu cwtigl gormodol, heb ddifrodi'r croen o'i amgylch

  5. tynnu croen caled gormodol, heb achosi poen i'r cleient

  6. dethol a thaenu triniaethau traed ac ewinedd i gyd-fynd â math o groen a chyflwr ewinedd eich cleient  

  7. defnyddio dilyniant tylino i fodloni anghenion y cleient a'r cynllun gwasanaeth

  8. sicrhau bod ardal yr ewin yn lân, yn sych ac yn rhydd rhag cynnyrch

  9. taenu haen sylfaenol sy'n berthnasol i anghenion y cleient

  10. taenu gorffeniad ewinedd ac uwch haen, yn y drefn ofynnol

  11. sicrhau bod y cwtigl a wal yr ewin yn rhydd rhag cynnyrch

  12. sicrhau bod y cleient yn fodlon â gorffeniad yr ewinedd a'i fod yn bodloni'r cynllun gwasanaeth y cytunwyd arno

  13. rhoi cyngor ac argymhellion i'r cleient ar y gwasanaeth a ddarparwyd

  14. sicrhau bod cofnodion y cleient yn cael eu cwblhau a'u llofnodi gennych chi a'r cleient


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Cynnal dulliau gwaith diogel ac effeithiol wrth ddarparu gwasanaeth trin ewinedd traed

* *

  1. eich cyfrifoldebau dros iechyd a diogelwch fel y diffinnir gan unrhyw ddeddfwriaeth benodol sy'n berthnasol i'ch swydd

  2. gofynion cyfreithiol a sefydliadol ar gyfer paratoi cleient

  3. gofynion cyfreithiol a sefydliadol ar gyfer eich hylendid, amddiffyniad ac ymddangosiad personol

  4. technegau gosod eich hun a'ch cleient mewn safle diogel a pham ei bod hi'n bwysig defnyddio'r rhain

  5. amodau amgylcheddol angenrheidiol ar gyfer gwasanaethau, megis gwresogi ac awyru a pham bod y rhain yn bwysig

  6. pam ei bod hi'n bwysig cadw'ch ardal waith yn lân ac yn daclus

  7. dulliau glanhau, diheintio a sterileiddio

  8. dulliau gweithio yn ddiogel ac yn lân ac mewn ffordd sy'n isafu ar risg o groes-heintio

  9. gwahanol fathau o ddulliau gwaith sy'n hyrwyddo arferion gwaith amgylcheddol a chynaliadwy

  10. yr adweithiau a allai ddigwydd, sut i ddelio â hwy a pha gyngor i'w roi i'r cleientiaid

  11. y peryglon a'r risgiau sy'n bodoli yn eich gweithle a'r arferion gwaith diogel y mae'n rhaid i chi eu dilyn

  12. cyfarwyddiadau cyflenwyr a chynhyrchwyr ar gyfer defnydd diogel ar gyfarpar, deunydd a chynnyrch y mae'n rhaid i chi eu dilyn

  13. y gofynion cyfreithiol ar gyfer cael gwared ar wastraff

  14. rhesymau dros gwblhau'r gwasanaeth o fewn amser sy'n ymarferol yn fasnachol

Ymgynghori, cynllunio a pharatoi ar gyfer gwasanaethau trin ewinedd traed

* *

  1. pwysigrwydd cyfathrebu gyda chleientiaid mewn modd proffesiynol

  2. sut i gynnal ymgynghoriad gan ystyried anghenion amrywiol y cleient

  3. y gofynion cyfreithiol ar gyfer trin plant sy'n iau na 16 oed

  4. yr oed pan fydd unigolyn yn cael ei ystyried yn blentyn a sut mae hynny'n gwahaniaethu yn genedlaethol

  5. y rhesymau dros gytuno ar wasanaeth sy'n bodloni anghenion y cleient

  6. arwyddocâd cyfreithiol sicrhau caniatâd gwybodus, wedi'i lofnodi gan gleient i gynnal y gwasanaeth

  7. gofynion cyfreithiol dros storio a diogelu data cleient

  8. y camau angenrheidiol i'w cymryd mewn perthynas â gwrtharwyddion penodol wrth gyfeirio cleientiaid

  9. sut i adnabod gwrtharwyddion a fyddai'n atal neu'n cyfyngu ar y gwasanaeth

  10. y gwrtharwyddion sy'n gofyn am atgyfeiriad meddygol a pham

  11. y rhesymau dros beidio ag enwi gwrtharwyddion penodol wrth atgyfeirio cleientiaid

  12. y gwahanol fathau o gyflyrau ewinedd a chroen y gellir eu trin

  13. sut i gynnal dadansoddiad ewinedd a chroen

Cynnal gwasanaeth trin ewinedd traed

* *

  1. y gwahanol siapiau ewinedd naturiol yr ydych chi'n debygol o ddod ar eu traws yn ystod gwasanaethau trin ewinedd traed

  2. y technegau a ddefnyddir o fewn trin ewinedd traed a sut i'w cynnal

  3. y gwahanol fathau o gynnyrch, offer a chyfarpar trin ewinedd traed a sut i'w defnyddio

  4. yr effaith ar yr ewinedd a'r croen wrth ddefnyddio cynnyrch a chyfarpar yn anghywir

  5. nodweddion a buddion gwahanol gynnyrch, gwasanaethau a thriniaethau traed ac ewinedd

  6. sut i addasu'r gwasanaeth trin ewinedd traed i gyd-fynd ag anghenion y cleient unigol

  7. y gwahanol fathau o dechnegau tylino a ddefnyddir gyda gwasanaeth trin ewinedd traed

  8. effeithiau technegau tylino ar yr ewinedd, croen, cyhyrau ac adeiladweithiau gwaelodol

  9. pam ei bod hi'n bwysig glanhau a sychu'r ewinedd naturiol cyn taenu gorffeniad ar yr ewin

  10. pwysigrwydd argymell gorffeniad i'r ewinedd sy'n addas i anghenion y cleient

  11. dulliau taenu gwahanol fathau o orffeniadau i'r ewinedd

  12. y dulliau a ddefnyddir i dynnu gwahanol orffeniadau ewinedd, gan gynnwys farnis gel a chelf ewinedd

  13. anatomi'r droed a rhan isaf y goes

41. adeiladwaith yr ewin

  1. proses twf yr ewin

  2. swyddogaeth ac adeiladwaith y croen

  3. yr adweithiau a allai ddigwydd, sut i ddelio â hwy a pha gyngor i'w roi i gleientiaid

  4. y cyngor a'r argymhellion ar gynnyrch a gwasanaethau


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad

Technegau ymgynghori

* *

  1. holi

  2. gwrando

  3. edrych

  4. teimlo

  5. ysgrifenedig

Camau angenrheidiol

* *

  1. annog y cleient i geisio cyngor meddygol

  2. esbonio pam na ellid cynnal y gwasanaeth

  3. addasu'r gwasanaeth

Triniaethau traed ac ewinedd

* *

  1. cwyr paraffîn

  2. mygydau traed

  3. esgidiau thermal

  4. digenwyr

Gorffeniad ewinedd

* *

  1. lliw tywyll

  2. Ffrengig

  3. wedi'u gloywi

Cyngor ac argymhellion

* *

  1. cynnyrch ôl-ofal addas a'u defnydd

  2. osgoi gweithgareddau a allai achosi adweithiau

  3. y cyfnodau amser a argymhellir rhwng gwasanaethau

  4. cynnyrch a gwasanaethau yn awr ac yn y dyfodol


Gwybodaeth Cwmpas

Iechyd a diogelwch

* *

  1. Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith

  2. Rheoliadau Adrodd ar Anafiadau, Clefydau neu Ddigwyddiadau Peryglus (RIDDOR)

  3. Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Cymorth Cyntaf)

  4. Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân)

  5. Rheoliadau Gweithredoedd Codi a Chario

  6. Rheoliadau Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd (COSHH)

  7. Rheoliadau Trydan yn y Gweithle

  8. Deddf Diogelu'r Amgylchedd

  9. Rheoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith

  10. Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Gwybodaeth i Gyflogeion)

Arferion gwaith amgylcheddol a chynaliadwy

* *

  1. gostwng gwastraff a rheoli gwastraff (ailgylchu, ailddefnyddio, gwaredu diogel)

  2. gostwng defnydd ar ynni (cyfarpar sy'n arbed ynni, goleuadau ynni isel, defnyddio paneli solar)

  3. gostwng defnydd ar ddŵr ac adnoddau eraill

  4. atal llygredd

  5. defnyddio eitemau untro

  6. defnyddio dodrefn wedi'u hailgylchu, ecogyfeillgar

  7. defnyddio paent â chemegau isel

  8. defnyddio pecynnau cynnyrch ecogyfeillgar

  9. dewis cynnyrch domestig cyfrifol (te a choffi Masnach Deg)

  10. annog siwrneion i'r gwaith sy'n gostwng carbon

Anghenion amrywiol

 

  1. diwylliannol

  2. crefyddol

  3. oed

  4. anabledd

  5. rhyw

Gwrtharwyddion sy'n atal

  1. heintiau ffyngaidd

  2. heintiau feirws

  3. heintiau parasitig

  4. cyflyrau croen difrifol

Gwrtharwyddion sy'n cyfyngu ar

  1. heintiau bacterol

  2. psorïasis

  3. dermatitis

  4. gwahaniad ewinedd difrifol

  5. esgyrn wedi torri

  6. ewin wedi tyfu i'r byw

  7. bynions

  8. bodiau cam

Cyflyrau ewinedd

* *

  1. newid lliw

  2. di-siâp

  3. wedi hollti

  4. gwrymiog

  5. sych

  6. dadhydradedig

  7. brau

  8. tyllog

Siapiau ewinedd naturiol

* *

  1. ffan

  2. bachyn

  3. llwy

  4. hirgrwn

  5. sgwâr

Anatomi

* *

  1. esgyrn y droed a rhan isaf y goes

  2. cyhyrau'r droed a rhan isaf y goes

  3. cylchrediad y gwaed i'r droed a rhan isaf y goes

 

* *

* *

Adeiladwaith yr ewin

* *

  1. haen yr ewin

  2. gwely'r ewin

  3. matrics

  4. cwtigl

  5. gwyn yr ewinedd

  6. hyponychium

  7. eponychium

  8. wal yr ewin

  9. ymyl rhydd

  10. plyg ewin ochr

Twf yr ewin

* *

  1. ffurfiant yr ewin

  2. cyfradd dyfu

  3. ffactorau sy'n effeithio ar dwf

  4. effeithiau difrod ar dwf

  5. trwch yr ewin

Adeiladwaith y croen

* *

  1. dermis

  2. uwchgroen

  3. haen tan y croen

  4. atodion

Cyngor ac argymhellion

* *

  1. gwasanaethau ychwanegol

  2. cynnyrch ychwanegol


Gwerthoedd

Mae'r gwerthoedd allweddol a ganlyn yn sail i gyflwyno gwasanaethau yn y sectorau harddwch, ewinedd a sba

  1. parodrwydd i ddysgu

  2. agwedd weithio hyblyg

  3. gweithiwr tîm

  4. agwedd bositif

  5. moeseg bersonol a phroffesiynol


Ymddygiadau

Mae'r ymddygiad a ganlyn yn sail i gyflwyno gwasanaethau yn y sectorau harddwch, ewinedd a sba. Mae'r ymddygiad hwn yn sicrhau bod cleientiaid yn cael argraff gadarnhaol o'r sefydliad a'r unigolyn

  1. bodloni safonau ymddygiad y sefydliad

  2. cyfarch y cleient yn barchus ac mewn modd cyfeillgar

  3. cyfathrebu gyda'r cleient mewn ffordd sy'n gwneud iddynt deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a'u parchu

  4. trin y cleient yn gwrtais ac yn wasanaethgar bob amser

  5. addasu'r ymddygiad i ymateb yn effeithiol i wahanol ymddygiad gan y cleient

  6. gwirio gyda'r cleient eich bod chi wedi deall eu disgwyliadau yn llawn

  7. ymateb yn brydlon ac yn gadarnhaol i gwestiynau a sylwadau'r cleient

  8. adnabod gwybodaeth y gallai'r cleient ei chael yn gymhleth a gwirio a ydynt wedi deall yn llawn

  9. esbonio'r glir wrth y cleient os na ellir bodloni eu hanghenion neu'u disgwyliadau am unrhyw reswm

  10. cynnal dulliau gwaith effeithiol, glân a diogel

  11. cadw at gyfarwyddiadau'r gweithle, y cyflenwyr a'r cynhyrchwyr wrth ddefnyddio cyfarpar, deunyddiau a chynnyrch yn ddiogel

  12. bodloni safonau ymddangosiad y sefydliad a'r diwydiant.


Sgiliau

Mae'r sgiliau allweddol a ganlyn yn sail i gyflwyno gwasanaethau yn y sectorau harddwch, ewinedd a sba

  1. y gallu i hunan-reoli

  2. cyfathrebu llafar a dieiriau gwych

  3. defnyddio'r ffyrdd mwyaf priodol o gyfathrebu gyda chleient

  4. ymateb yn brydlon i gleient sy'n gofyn am gymorth

  5. canfod gwybodaeth yn gyflym a fydd o gymorth i'r cleient

  6. rhoi gwybodaeth y mae ei hangen ar gleient am wasanaethau a chynnyrch a gynigir gan y sefydliad


Geirfa

Wedi gloywi

Gorffeniad satin neu sglein gan ddefnyddio 2 i 4 ffordd o loywi.

Glanhau'r dwylo

Mae hyn yn cyfeirio at lanhau neu olchi'r dwylo i lefel antiseptig er mwyn rhwystro bacteria.

Gorffeniad Ffrengig

Techneg o fewn gwasanaethau ewinedd sy'n creu llinell wenu ddiffiniedig ar ymyl rhydd yr ewin.


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Maw 2020

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SkillsActive

URN gwreiddiol

SKAN3

Galwedigaethau Perthnasol

Technegydd ewinedd, Therapydd Harddwch

Cod SOC


Geiriau Allweddol

trin ewinedd traed; tylino traed; gorffeniad ewinedd;