Cynorthwyo gyda gwasanaethau ewinedd

URN: SKANS1
Sectorau Busnes (Suites): Gwasanaethau Ewinedd
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 01 Ion 2015

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â chynorthwyo uwch aelod o staff ac ymgymryd â gwasanaethau ewinedd dan oruchwyliaeth ar y dwylo a'r traed. Bydd angen i chi allu paratoi ar gyfer gwasanaethau ewinedd trwy osod yr ardal waith a defnyddio technegau ymgynghori. Bydd angen i chi hefyd allu cynorthwyo gyda gwasanaethau ewinedd, gan gynnwys llyfnu, gloywi, taenu gorffeniad addas i'r ewinedd a hylif dwylo a thraed. Bydd y gwasanaeth hefyd yn cynnwys gwirio bod uwch aelod o staff a'r cleient yn fodlon â'r canlyniad gorffenedig.

Er mwyn cyflawni'r safon hon bydd angen i chi gynnal iechyd, diogelwch a hylendid effeithiol trwy gydol eich gwaith. Bydd angen i chi hefyd gynnal eich ymddangosiad personol a dangos sgiliau cyfathrebu ac ymgynghori da.

Prif ganlyniadau'r safon hon yw:

  1. cynnal dulliau gwaith diogel ac effeithiol wrth gynorthwyo gyda gwasanaethau ewinedd

  2. ymgynghori, cynllunio a pharatoi ar gyfer gwasanaethau ewinedd

  3. cynnal gwasanaethau ewinedd


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

                                            Cynnal dulliau gwaith diogel ac effeithiol wrth gynorthwyo gyda gwasanaethau ewinedd

* *

  1. cynnal eich cyfrifoldebau dros iechyd a diogelwch trwy gydol y gwasanaeth

  2. dilyn cyfarwyddyd uwch aelod o staff trwy gydol y gwasanaeth a cheisio cymorth yn ôl yr angen

  3. gosod yr ardal waith i fodloni gweithdrefnau sefydliadol

  4. gwirio bod yr amodau amgylcheddol yn addas i'r cleient a'r gwasanaeth

  5. sicrhau bod eich hylendid, amddiffyniad ac ymddangosiad personol yn bodloni gofynion diwydiant a sefydliadol derbyniol

  6. glanhau'r holl offer a chyfarpar yn dilyn y gofynion sefydliadol

  7. golchi'ch dwylo cyn ymgymryd â gwasanaethau ewinedd

  8. gosod cyfarpar a deunyddiau er hwylustod a'u defnydd diogel

  9. sicrhau bod eich ystum eich hun a'ch dulliau gwaith yn isafu ar flinder a rissug o anaf i chi'ch hun ac eraill

  10. cael gwared ar ddeunyddiau gwastraff yn ôl gofynion y salon

  11. cynnal y gwasanaeth o fewn amser sy'n ymarferol yn fasnachol

  12. gadael yr ardal waith mewn cyflwr sy'n addas ar gyfer gwasanaethau pellach

Ymgynghori, cynllunio a pharatoi ar gyfer gwasanaethau ewinedd

* *

  1. defnyddio technegau ymgynghori i bennu gofynion y cleient o fewn cyfyngiadau eich cyfrifoldeb

  2. sicrhau caniatâd wedi'i lofnodi gan riant neu warcheidwad cyn trin plentyn cyn unrhyw wasanaeth

  3. sicrhau bod rhiant neu warcheidwad yn bresennol trwy gydol y gwasanaeth ar gyfer plant sy'n iau na 16 oed

  4. gofyn cwestiynau i'ch cleientiaid i ganfod a oes ganddynt unrhyw wrtharwyddion i wasanaethau ewinedd a chofnodi ymatebion eich cleient

  5. paratoi a gosod y cleient mewn safle i fodloni anghenion y gwasanaeth ewinedd y cytunwyd arno

  6. golchi dwylo neu draed y cleient a thynnu unrhyw orffeniad ewinedd sydd i'w gael yn barod

  7. cynnal dadansoddiad o ewinedd a chroen y cleient a chofnodi'r canlyniadau

  8. dewis a pharatoi cynnyrch a chyfarpar ar gyfer y gwasanaeth ewinedd, ar sail canlyniadau'r dadansoddiad ewinedd a chroen

  9. cadarnhau pa orffeniad ewinedd y mae'r cleient wedi'i ddewis cyn y gwasanaeth

Cynnal gwasanaethau ewinedd

* *

  1. defnyddio cyfarpar a deunydd yn ôl cyfarwyddiadau'r cynhyrchwr ac uwch aelod o staff

  2. llyfnu'r ewinedd, gan sicrhau bod ymyl rhydd yr ewin wedi'i adael yn llyfn a'i siapio i'r hyd gofynnol

  3. defnyddio technegau gloywi i greu arwyneb llyfn a sglein i'r plât ewinedd

  4. lleithio'r croen gan ddefnyddio cynnyrch addas a thynnu lleithder gormodol o'r ewinedd

  5. taenu gorffeniad ewinedd gan adael y cwtigl yn rhydd rhag cynnyrch

  6. sicrhau bod y cleient ac uwch aelod o staff yn fodlon â'r canlyniad gorffenedig

  7. rhoi cyngor ac argymhellion i'ch cleient ar y gwasanaeth a ddarparwyd

  8. sicrhau bod cofnodion y cleient yn cael eu llanw a'u llofnodi gan y cleient ac uwch aelod o staff


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Cynnal dulliau gwaith diogel ac effeithiol wrth gynorthwyo gyda gwasanaethau ewinedd

* *

  1. eich cyfrifoldebau dros iechyd a diogelwch fel y diffinnir gan unrhyw ddeddfwriaeth benodol sy'n berthnasol i'ch swydd

  2. pam ei bod hi'n bwysig dilyn cyfarwyddiadau uwch aelod o staff a chanlyniadau peidio â gwneud hynny

  3. yr amodau amgylcheddol sy'n ofynnol ar gyfer gwasanaethau a pham bod y rhain yn bwysig

  4. eich cyfrifoldebau a rhesymau dros gynnal eich hylendid, amddiffyniad ac ymddangosiad personol yn unol â gofynion derbyniol y diwydiant a'r sefydliad

  5. sut i ddiheintio a sterileiddio offer a chyfarpar ar gyfer gwasanaethau ewinedd

  6. dulliau glanhau, diheintio a sterileiddio

  7. pwysigrwydd diheintio dwylo, a'r rhesymau dros wneud hynny

  8. pam ei bod hi'n bwysig cynnal safonau hylendid ac egwyddorion osgoi croes-heintio

  9. sut i baratoi a gosod y cleient yn ei safle ar gyfer y gwasanaeth ewinedd

  10. sut i osgoi anghysur ac anaf posibl i'ch hun a risgiau gosod y cleientiaid mewn safle gwael

  11. sut i gael gwared ar wastraff o wasanaethau ewinedd

  12. y rhesymau dros gwblhau'r gwasanaeth o fewn amser sy'n ymarferol yn fasnachol

  13. y cyflwr y dylid gadael yr ardal waith a pham bod hyn yn bwysig  

Ymgynghori, cynllunio a pharatoi ar gyfer gwasanaethau ewinedd

* *

  1. sut i ddefnyddio technegau ymgynghori i ganfod anghenion y cleient

  2. y sgiliau holi a gwrando y mae eu hangen arnoch chi i gael gwybodaeth

  3. y rhesymau pam y mae angen i riant neu warcheidwad fod yn bresennol trwy gydol y gwasanaeth a rhoi caniatâd ysgrifenedig wrth drin plant iau na 16 oed

  4. pam ei bod hi'n bwysig holi cleientiaid i ganfod unrhyw wrtharwyddion i wasanaethau ewinedd a chofnodi eu hymatebion

  5. sut i gynnal dadansoddiad croen ac ewinedd

  6. dethol a pharatoi cynnyrch, cyfarpar a deunyddiau ar gyfer gwasanaethau ewinedd

Cynnal gwasanaethau ewinedd

* *

  1. gwahanol fathau a defnyddiau cynnyrch, offer a chyfarpar sy'n ofynnol ar gyfer gwasanaethau trin ewinedd dwylo a thraed

  2. defnyddio offer a chynnyrch yn anghywir ar gyfer gwasanaethau trin ewinedd dwylo a thraed a sut y gall y rhain ddifrodi'r croen a'r ewinedd

  3. sut i greu gwahanol fathau o siapiau ewinedd

  4. y dull(iau) cywir o daenu gorffeniad wedi'i loywi, farnis ewinedd clir, farnis ewinedd golau a chryfhäwr ewinedd

  5. sut i daenu a thynnu gwahanol fathau o orffeniadau ewinedd

  6. adweithiau posibl a allai ddigwydd a sut i ddelio â hwy

26. adeiladwaith sylfaenol yr ewin

27. adeiladwaith sylfaenol y croen

  1. cyngor ac argymhellion ar gynnyrch a gwasanaeth

  2. gofynion cyfreithiol a sefydliadol ar gyfer llanw cofnodion cleient


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad

Technegau ymgynghori

* *

  1. holi

  2. gwrando

  3. edrych

  4. teimlo

  5. ysgrifenedig

Gorffeniad ewinedd

* *

  1. wedi'i loywi

  2. farnis clir

  3. cryfhäwr ewinedd

  4. lliw golau

Cyngor ac argymhellion

* *

  1. cynnyrch ôl-ofal addas a'u defnydd

  2. osgoi gweithgareddau a allai achosi adweithiau

  3. cynnyrch a gwasanaethau yn awr ac yn y dyfodol


Gwybodaeth Cwmpas

Iechyd a diogelwch

* *

  1. Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith

  2. Rheoliadau Adrodd ar Anafiadau, Clefydau neu Ddigwyddiadau Peryglus (RIDDOR)

  3. Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Cymorth Cyntaf)

  4. Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân)

  5. Rheoliadau Gweithredoedd Codi a Chario

  6. Rheoliadau Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd (COSHH)

  7. Rheoliadau Trydan yn y Gweithle

  8. Deddf Diogelu'r Amgylchedd

  9. Rheoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith

  10. Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Gwybodaeth i Gyflogeion)

Gwrtharwyddion

* *

  1. ffyngaidd

  2. bacterol

  3. feirws

  4. heintiau parasitig

  5. gwahaniad ewinedd difrifol

  6. ecsema difrifol

  7. psorïasis

  8. dermatitis

Adeiladwaith sylfaenol y croen

  1. uwchgroen

  2. dermis

Adeiladwaith sylfaenol yr ewin

* *

  1. matrics

  2. haen ewin

  3. gwely'r ewin

  4. cwtigl

  5. ymyl rhydd

Cyngor ac argymhellion

* *

  1. gwasanaethau ychwanegol

  2. cynnyrch ychwanegol

  3. cynnyrch i'w defnyddio yn y cartref a'r rheini i'w hosgoi a pham

  4. yr adweithiau a allai ddigwydd ar ôl gwasanaethau ewinedd a pha gyngor i'w roi i gleientiaid

  5. y cyfnodau amser a argymhellir rhwng gwasanaethau ewinedd


Gwerthoedd

Mae'r gwerthoedd allweddol a ganlyn yn sail i gyflwyno gwasanaethau yn y sectorau harddwch, ewinedd a sba

  1. parodrwydd i ddysgu

  2. agwedd weithio hyblyg

  3. gweithiwr tîm

  4. agwedd bositif

  5. moeseg bersonol a phroffesiynol


Ymddygiadau

Mae'r ymddygiad a ganlyn yn sail i gyflwyno gwasanaethau yn y sectorau harddwch, ewinedd a sba. Mae'r ymddygiad hwn yn sicrhau bod cleientiaid yn cael argraff gadarnhaol o'r sefydliad a'r unigolyn

  1. bodloni safonau ymddygiad y sefydliad

  2. cyfarch y cleient yn barchus ac mewn modd cyfeillgar

  3. cyfathrebu gyda'r cleient mewn ffordd sy'n gwneud iddynt deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a'u parchu

  4. trin y cleient yn gwrtais ac yn wasanaethgar bob amser

  5. addasu'r ymddygiad i ymateb yn effeithiol i wahanol ymddygiad gan y cleient

  6. gwirio gyda'r cleient eich bod chi wedi deall eu disgwyliadau yn llawn

  7. ymateb yn brydlon ac yn gadarnhaol i gwestiynau a sylwadau'r cleient

  8. adnabod gwybodaeth y gallai'r cleient ei chael yn gymhleth a gwirio a ydynt wedi deall yn llawn

  9. esbonio'r glir wrth y cleient os na ellir bodloni eu hanghenion neu'u disgwyliadau am unrhyw reswm

  10. cynnal dulliau gwaith effeithiol, glân a diogel

  11. cadw at gyfarwyddiadau'r gweithle, y cyflenwyr a'r cynhyrchwyr wrth ddefnyddio cyfarpar, deunyddiau a chynnyrch yn ddiogel

  12. bodloni safonau ymddangosiad y sefydliad a'r diwydiant.


Sgiliau

Mae'r sgiliau allweddol a ganlyn yn sail i gyflwyno gwasanaethau yn y sectorau harddwch, ewinedd a sba

  1. y gallu i hunan-reoli

  2. cyfathrebu llafar a dieiriau gwych

  3. defnyddio'r ffyrdd mwyaf priodol o gyfathrebu gyda chleient

  4. ymateb yn brydlon i gleient sy'n gofyn am gymorth

  5. canfod gwybodaeth yn gyflym a fydd o gymorth i'r cleient

  6. rhoi gwybodaeth y mae ei hangen ar gleient am wasanaethau a chynnyrch a gynigir gan y sefydliad


Geirfa

Adweithiau

Adweithiau negyddol i'r driniaeth neu gynnyrch megis cochni gormodol neu adweithiau alergaidd.

Gwrtharwyddion

Amodau neu gyfyngiadau sy'n nodi na ddylid cynnal gwasanaeth penodol.

Croes-heintio

Trosglwyddo micro-organebau trwy arferion hylendid gwael trwy gyswllt uniongyrchol gydag unigolyn arall neu gyswllt anuniongyrchol trwy offer a chyfarpar wedi'u heintio.

Diheintio

Atal twf micro-organebau (ac eithrio sborau) sy'n achosi salwch gan ddefnyddio cyfryngau cemegol.

Glanhau dwylo

Glanhau neu olchi'r dwylo i lefel antiseptig er mwyn atal twf bacteria.

Amodau amgylcheddol

Mae'r rhain yn cynnwys gwresogi, goleuadau, awyru i sicrhau'r lleoliad a'r naws cywir ar gyfer y gwasanaeth.

Gofynion Cyfreithiol

Mae hyn yn cyfeirio at y cyfreithiau sy'n effeithio ar y ffordd y mae busnesau yn gweithredu, sut mae'r salon neu'r gweithlu yn cael ei sefydlu a'i gynnal, pobl sy'n cael eu cyflogi a'r systemau gwaith y mae'n rhaid eu cynnal. Ymhlith yr enghreifftiau y mae rheoliadau COSHH, Rheoliadau Trydan yn y Gweithle a'r Rheoliadau Cynnyrch Cosmetig (Diogelwch).

Cyfarwyddiadau'r Cynhyrchwyr

Arweiniad a gyhoeddir gan y cynhyrchwyr neu'r cyflenwyr ar gyfer cynnyrch neu gyfarpar yn ymwneud â'u defnydd diogel ac effeithiol.

Cyflwyniad personol

Mae hyn yn cynnwys hylendid personol; defnyddio cyfarpar amddiffyn personol; dillad ac ategolion sy'n addas i'r gweithle penodol.

Gofynion y salon

Unrhyw weithdrefnau'r salon neu reolau gwaith a gyhoeddir gan reolwyr y salon yn eich gweithle penodol.

Sterileiddio

Dulliau glanhau a ddefnyddir er mwyn dinistrio micro-organebau yn llwyr.


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Maw 2020

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SkillsActive

URN gwreiddiol

SKAN1

Galwedigaethau Perthnasol

Technegydd ewinedd, Therapydd Cynorthwyol

Cod SOC


Geiriau Allweddol

cynorthwyo; ewinedd; gwasanaethau;