Cynllunio a chynnig gwasanaethau hamdden yn unol â cheisiadau gan gwsmeriaid allanol

URN: SKALM2
Sectorau Busnes (Suites): Rheoli Hamdden
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 01 Chwef 2018

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymdrîn â chynllunio a chynnig gwasanaethau hamdden yn unol â cheisiadau gan gwsmeriaid allanol . Mi ddylai'r gwaith fodloni gofynion trefniadaethol a chyfreithiol, yn enwedig y rheiny sy'n berthnasol i iechyd a diogelwch. Cyd-destunau posib ar gyfer y safon hon fyddai cynllunio rhaglenni a digwyddiadau ar gyfer canolfan chwaraeon / hamdden, canolfan gweithgareddau awyr agored neu glwb ffitrwydd.

*
*

*
*

Prif ddeilliannau'r safon hon ydy:

  1. cynllunio a chynnig gwasanaethau i fodloni gofynion

  2. monitro ac adolygu gwasanaethau a gweithredoedd  

Mae'r safon hon ar gyfer rheolwyr, arweinwyr a staff datblygu chwaraeon sy'n gweithio ar y lefel hon.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

Cynllunio a chynnig gwasanaethau i fodloni gofynion**

  1. gwirio manylion y cais yn erbyn gwasanaethau a gweithredoedd cyfredol

  2. cynnwys aelodau tîm a rhanddeiliaid yn y broses cynllunio gwasanaethau a gweithrediadau, yn unol â cheisiadau rhanddeiliaid allanol, i fodloni deilliannau cytunedig

  3. cynllunio'r gwaith fel bod modd bodloni'r gofynion ar gyfer y gwasanaethau a'r gweithredoedd yn unol â'r polisïau a gweithdrefnau cyfreithiol a threfniadaethol

  4. rhannu'r cynlluniau gwasanaeth a gofynion gyda'r aelodau tîm gan egluro eu dyletswyddau, cyfrifoldebau, targedau ac amserlenni

  5. cyflawni dadansoddiad risg budd er mwyn cefnogi dichonoldeb y cais allanol   

  6. cynllunio ar gyfer digwyddiadau annisgwyl, pan fo amgylchiadau nad oedd modd eu rhagweld, a allai effeithio ar y cais gwreiddiol am wasanaethau

  7. cadw cofnodion yn unol â pholisïau a gweithdrefnau trefniadaethol

  8. darparu y gwasanaeth

Monitro ac adolygu gwasanaethau a gweithredoedd * *

  1. monitro gweithrediadau a gwasanaethau yn erbyn y dadansoddiad risg a mynd i'r afael ag unrhyw broblemau

  2. adolygu'r gwasanaethau a gweithrediadau yn erbyn y cais drwy gasglu adborth gan staff, cwsmeriaid a rhanddeiliaid allanol

  3. darparu data o'r adolygiad i'r rhanddeiliaid er mwyn llywio'r gwasanaeth yn y dyfodol


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Cynllunio a chynnig gwasanaethau i fodloni gofynion**

  1. ffynonellau gwybodaeth ar ofynion ar gyfer gwasanaethau a gweithrediadau

  2. polisïau a gweithdrefnau cyfreithiol a threfniadaethol ar gyfer cynllunio a chynnig gwasanaethau a gweithredoedd

  3. yr ystyriaethau cyfleoedd cyfartal a fyddai o bosib yn effeithio ar ddisgwyliadau'r cwsmeriaid gan gynnwys trefniadau arbennig i gwsmeriaid gydag anableddau neu sesiynau i ferched yn unig

  4. y mathau o broblemau a allai godi a'r dulliau i fynd i'r afael â nhw ar gyfer:

4.1 cyfleusterau dan do gan gynnwys materion yn ymwneud â'r pwll 

4.2 cyfleusterau yn yr awyr agored **

  1. manylion rhoi cynllun wrth gefn ar waith

  2. gofynion cyfreithiol, trefniadaethol ac ymarfer gorau ar gyfer cydraddoldeb ac amrywioldeb wrth gynllunio a chynnig gwasanaethau a gweithrediadau

  3. y protocol ar gyfer briffio aelodau tîm ynghylch cynlluniau a gofynion

  4. sut i logi gwasanaethau ychwanegol allanol er mwyn bodloni'r cais am wasanaethau

Monitro ac adolygu gwasanaethau a gweithredoedd * *

  1. gweithdrefnau ar gyfer cyflawni dadansoddiad risg

  2. y mathau o beryglon posib

  3. yr arfau a’r technegau gwerthuso ar gyfer adolygu gwasanaethau a gweithrediadau

  4. y polisïau a’r gweithdrefnau cyfreithiol a threfniadaethol ar gyfer cynnal a chadw cofnodion am wasanaethau a gweithrediadau


Cwmpas/ystod

Gwybodaeth Ychwanegol**

Diben yr wybodaeth ganlynol ydy cynnig cyfarwyddyd i'r rheiny sy'n defnyddio'r safon hon.  

Gofynion **

Pan gaiff y term gofynion ei ddefnyddio yn y ddogfen safon hon, gall gyfeirio at y canlynol.

  1. polisi / gweithdrefn y fframwaith rheoli prosiectau

  2. gofynion ynghylch perfformiad

  3. rhaglen

  4. cwsmer unigol

  5. asesiadau risg penodol ar gyfer digwyddiadau

  6. trwydded adloniant

  7. trwydded cerddoriaeth

  8. yswiriant atebolrwydd  

  9. hyfforddi staff ar ymadael yr adeilad pan fo tân

  10. adnoddau staffio

  11. lleoliad

  12. cymhwysedd

  13. cynlluniau prosiect

  14. Gweithdrefnau Arferol (NOP)

  15. Cynlluniau Gweithredu mewn Argyfwng (EAP)

Fel arfer bydd gofynion yn cyfeirio at un neu fwy o agweddau ond mewn gwirionedd mae'n golygu'r gofynion am y gwasanaeth gan y rhanddeiliaid.


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas

Cyfleusterau dan do** (lleiafswm o 2)

  1. materion yn ymwneud â'r pwll

  2. materion ynghylch rheoli plant

  3. cyfleusterau ystafelloedd stiwdio a chynhadledd

  4. neuaddau

  5. maint a chymhwysedd y cyfleuster

  6. canolfannau a'r nifer o ganolfannau a geisiwyd

  7. canolfan wedi ei archebu ddwywaith ar yr un pryd

  8. sŵn

  9. trais

  10. rheoli tyrfaoedd

  11. os ydy'r offer ar gael ac os ydy'r offer yn wallus

  12. staffio a gallu staffio

* *

Cyfleusterau yn yr Awyr Agored (lleiafswm o 2)

  1. maint a chymhwysedd y cyfleuster

  2. lleoliadau a’r nifer o leoliadau a geisiwyd

  3. lleoliad wedi ei archebu ddwywaith ar yr un pryd

  4. sŵn

  5. trais

  6. rheoli tyrfaoedd

  7. os ydy'r offer ar gael ac os ydy'r offer yn wallus

  8. staffio a gallu staffio

  9. amodau'r tywydd


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Chwef 2023

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SkillsActive

URN gwreiddiol

SKAB229

Galwedigaethau Perthnasol

Swyddi Chwaraeon a Ffitrwydd , Gweithwyr proffesiynol cysylltiol a galwedigaethau technegol

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Gwasanaethau hamdden, Cynllunio, Gweithredu, Cwsmeriaid, Gofynion