Lliwio a goleuo’r gwallt mewn modd creadigol gan ddefnyddio technegau uwch

URN: SKAHDBR6
Sectorau Busnes (Cyfresi): Trin gwallt a barbro
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 2021

Trosolwg

​Mae'r safon yma yn cydfodoli â, SKAHDBRBNST1 Gweithredu a chynnal arferion gwaith diogel, glanwaith ac effeithiol a SKAHDBRBNS1 Ymgynghori, asesu, cynllunio a pharatoi ar gyfer gwasanaethau Gwallt, Barbro, Harddwch, Ewinedd, Lles a Holistig*.* Mae'r safon yma'n ymwneud â rhywun proffesiynol o faes trin gwallt sy'n cyfuno, addasu a phersonoleiddio technegau lliwio a goleuo er mwyn creu amrywiaeth o edrychiadau creadigol. Mae technegau yn cynnwys y defnydd o wau, tafellu a blocio, lliwio panel bloc a dodi goleuwr ar gyfer y pen llawn ac ad-dyfiant. Bydd gofyn i chi hefyd wneud gwerthusiad ar ôl y driniaeth ac adfyfyrio er mwyn gwelliant parhaus. Bydd rhaid i ddefnyddwyr y safon yma wneud yn siwr bod eu harferion yn adlewyrchu'r wybodaeth, y polisïau, y gweithdrefnau a'r cyfarwyddyd am yr arfer orau. Cynghorir defnyddwyr y safon yma i fod yn ymwybodol o, a chydymffurfio gyda gofynion cymorth cyntaf yn unol â deddfwriaeth a pholisïau a gweithdrefnau cyfundrefnol.

Y prif ddeilliannau yw:

  1. Lliwio a goleuo'r gwallt mewn modd creadigol
  2. Goleuo ar gyfer yr holl benn
  3. Goleuo ar gyfer ad-dyfiant

Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

​1. cynnal ymgynghoriad cryno a chynhwysfawr gyda'r unigolyn

2. cadw at eich cyfrifoldebau am iechyd a diogelwch yn unol â deddfwriaeth, rheoliadau, cyfarwyddebau a chanllawiau
3. trafod a darganfod amcanion yr unigolyn a’r canlyniadau a ddymunir, er mwyn cael y wybodaeth ar gyfer y cynllun gwasanaeth lliwio a/neu goleuo uwch, i:
3.1 hanes triniaethau
3.2 dewisiadau amgen ar gyfer triniaeth
4. gwneud dadansoddiad o’r gwallt a chroen y pen, i gynnwys: 
4.1 dosbarthiad cyrls y gwallt
4.2 nodweddion y gwallt *
4.3 *stad y gwallt
4.3 cyflwr croen y pen
4.4 canran o wallt gwyn
4.5 hyd yr ad-dyfiant ar wallt sydd wedi ei drin yn rhannol â chemegion 
4.6 hyd y gwallt
5. gwneud profion er mwyn penderfynu addasrwydd ar gyfer y gwasanaeth lliwio a/neu goleuo uwch
5.1 cofnodi a chadw’r canlyniad yn unol â deddfwriaeth data 
6. gwerthuso canlyniadau’r ymgynghoriad, amcanion yr unigolyn a’r dadansoddiad o groen y pen ar y cyd
7. trafod gyda’r unigolyn amrywiaeth o effeithiau y gellir eu cyflawni gan ddefnyddio cymhorthion gweledol perthnasol, i gynnwys:
7.1 taliadau a pharhad
8. cadarnhau a chytuno gyda’r unigolyn, ei fod wedi deall y gwasanaeth lliwio a/neu goleuo uwch arfaethedig, i gynnwys:
8.1 gwrth weithredoedd
8.2 adweithiau niweidiol
9.  sicrhau cydsyniad gwybodus yr unigolyn ar gyfer y gwasanaeth lliwio a/neu goleuo uwch arfaethedig
Gwasanaeth lliwio a goleuo creadigol
9. cribo a rhannu’r gwallt a gwarchod y croen o amgylch yn unol â’r protocol gwasanaeth lliwio a/neu goleuo uwch
10. dewis a pharatoi’r cynnyrch, offer, deunyddiau a chyfarpar yn unol â’r protocol gwasanaeth lliwio a/neu goleuo uwch
12. defnyddio technegau lliwio a/neu goleuo ar gyfer dodi’r cynnyrch mewn modd arloesol er mwyn cyflawni’r edrychiad a ddymunir yn unol â chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr, i gynnwys:
12.1 cyfuno a lleoli cynnyrch mewn modd sy’n ategu steil y gwallt 
Gosod a monitro’r broses liwio a/neu oleuo *
13. gosod a monitro’r amser prosesu yn unol â chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr 
14. gwneud prawf datblygiad er mwyn cadarnhau’r amseroedd prosesu i gynnwys asesiad o’r canlynol:
14.1 cyflwr y gwallt
14.2 cyflwr y goleuwr 
14.3 sensitifrwydd croen y pen
15. tynnu’r cynnyrch o’r gwallt a chroen y pen yn unol â chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr
16. dodi arlliw i wallt wedi’i oleuo yn unol â chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr
17. cwblhau’r gwasanaeth yn unol â’r gwasanaeth lliwio a/neu goleuo
18. cadarnhau gyda’r unigolyn ei fod yn fodlon gyda’r canlyniad terfynol 
19. monitro iechyd a lles yr unigolyn drwy gydol y gwasanaeth lliwio a/neu goleuo uwch
20. gweithredu yn y modd cywir os bydd adwaith niweidiol 
21. cwblhau cofnodion gwasanaeth yr unigolyn a’u cadw yn unol â deddfwriaeth data 
22. defnyddio ymarfer adfyfyriol i werthuso’r gwasanaeth a chymryd camau priodol 
23. rhoi *cyfarwyddiadau a chyngor i’r unigolyn, cyn ac ar ôl y gwasanaeth gwallt
24. cofnodi canlyniad y gwasanaeth lliwio a/neu goleuo uwch a’r gwerthusiad ohono


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:


1. eich swyddogaeth a’ch cyfrifoldebau o ran darparu gwasanaethau lliwio a/neu goleuo a phwysigrwydd gweithio o fewn eich gallu
2. pam ei bod yn rhaid i chi gydymffurfio gydag arfer moesegol a gweithio o fewn gofynion deddfwriaethol, i gynnwys:
2.1 y cyfrifoldebau drosoch chi eich hun a’ch adeiladau o dan reoliadau trwyddedu yr awdurdod lleol
3. pwysigrwydd ymwneud â, a dogfennu datblygiad proffesiynol parhaus, i gynnwys, polisïau gwybodaeth wedi eu diweddaru, gweithdrefnau a chanllawiau ar gyfer arfer gorau 
4. yr anatomeg a’r ffisioleg sy’n berthnasol i’r safon yma 
5. y gwrtharwyddion cymharol a llwyr sy’n berthnasol i’r gwasanaeth gwallt, i gynnwys:
5.1 y gofynion deddfwriaethol ac yswiriant ar gyfer cael diagnosis meddygol a chyfeirio
6. pwysigrwydd adnabod nodweddion afreolaidd ar y croen a niwed i groen y pen, a’u cyfeirio at weithiwr proffesiynol perthnasol ym maes gofal iechyd 
7. y mathau o gynnyrch a ddefnyddir ar gyfer gwasanaethau lliwio a/neu goleuo a’u cyfyngiadau, i gynnwys addasiadau sydd eu hangen, mewn perthynas â’r canlynol:
7.1 dosbarthiad cyrls y gwallt
7.2 cyflwr y gwallt
7.3 stad y gwallt
7.4 cyflwr croen y pen
7.5 gwallt gwrthsafol
8. yr effeithiau ffisiolegol y caiff cynnrych lliwio a goleuo ar strwythur y gwallt
9. sut i adnabod gwallt sydd wedi ei or-brosesu a’r risgiau cysylltiedig a pha gamau i’w cymryd 
10. sut i adnabod trichorrhexis nodosa, y risgiau cysylltiedig a pha gamau i’w cymryd
11. pwysigrwydd cadw at gyfarwyddiadau’r gwneuthurwr er mwyn rhwystro anghydnawsedd o ran cynnyrch a risgiau i iechyd
12. y gwahaniaethau rhwng dyfnder lliw a chysgodion tonaidd i gynnwys: 
13.1 sut maent yn cysylltu â’r olwyn liw
13. sut i adnabod lliwiad ac isliwiau naturiol a sut mae’n effeithio ar y dewis o gynnyrch, i gynnwys: 
13.1 goleuo’r gwallt ymlaen llaw
13.2 dodi cynnyrch cyn lliwiad
13.3 dodi arlliw lliw sy’n niwtraleiddio
13.4 dodi arlliw lliw creadigol
14. y mathau o gryfderau perocsid a ddefnyddir mewn gwasanaethau lliwio a goleuo, i gynnwys:
14.1 pryd a pham y defnyddir cryfderau perocsid 
15. pam bod mandylledd gwael o’r gwallt yn dylanwadu ar y dewisiadau o gynnyrch a gwasanaeth 
16. yr effeithiau y caiff tymheredd ar ddodi cynnyrch lliwio a goleuo ac ar eu datblygiad 
17. pwysigrwydd gwneud dadansoddiad o’r gwallt a chroen y pen a sut mae’n effeithio ar y dewis o gynnyrch a’r cyfarpar a ddefnyddir 
18. sut y gall patrymau tŵf y gwallt benderfynu safle a lleoliad aroleuadau ac isoleuadau 
19. pwysigrwydd gwneud profion a sut y gall canlyniadau profion effeithio ar y gwasanaeth lliwio a goleuo 
20. yr offer, deunyddiau a chyfarpar a ddefnyddir ar gyfer gwasanaethau lliwio a goleuo ar gyfer pob dosbarthiad a mathau o gyrls y gwallt a chyflyrau
21. y risgiau sy’n gysylltiedig â lliwio a goleuo’r gwallt 
22. pwysigrwydd amddiffyn croen a chroen pen yr unigolyn rhag cynnyrch lliwio a goleuo 
23. pwysigrwydd cadw at gyfarwyddiadau’r gwneuthurwr ar gyfer y defnydd diogel o gynnyrch lliwio a goleuo a’r defnydd diogel ohonynt, i gynnwys:
23.1 pwysigrwydd egluro teimlad corfforol ar groen y pen 
24. pam y dylech chi gribo a rhannu’r gwallt cyn y cynnyrch lliwio a goleuo 
25. sut i gyflawni gwasanaeth lliwio a goleuo, i gynnwys:
25.1 sut i ddodi cynnyrch lliwio a goleuo i’r gwallt mewn modd diogel er mwyn osgoi bod yn agored i gemegolion i’r croen a chroen y pen 
26. amser y gwasanaeth yn unol â’ch polisïau a gweithdrefnau cyfundrefnol
27. pwysigrwydd gwneud prawf datblygiad yn ystod y gwasanaeth i’r gwallt yn unol â chyfrawyddiadau’r gwneuthurwr 
28. y rhesymau pam gall fod angen i chi fynd i’r afael â phroblemau all yn aml godi pan yn lliwio a goleuo’r gwallt, i gynnwys:
28.1 ffyrdd y gellir eu cywiro
29. pwysigrwydd ymgynghori gyda’r unigolyn drwy gydol y gwasanaeth lliwio a goleuo
30. yr adweithiau niweidiol a gysylltir â gwasanaethau lliwio a goleuo a sut i ymateb iddynt
31. y cyfrifoldebau iechyd a diogelwch yn unol â deddfwriaeth cyn, yn ystod ac ar ôl y gwasanaeth
32. y gofynion cyfreithiol ar gyfer darparu gwasanaethau i’r gwallt i blant dan oed ac oedolion bregus
33. pam ei bod hi'n bwysig trafod a sefydlu amcanion yr unigolyn, ei bryderon, disgwyliadau, y canlyniadau y mae'n eu dymuno a chytuno ar y cynllun gwasanaeth lliwio a goleuo
34. y strwythurau taliadau a’r dewisiadau ar gyfer triniaeth
35. y gofynion deddfwriaethol a digollediad er mwyn sicrhau cydsyniad gwybodus wedi'i lofnodi ar gyfer y gwasanaeth
36. y rhesymau dros gymryd delweddau gweledol gyda chydsyniad o fan triniaeth yr unigolyn, a'u cadw yn unol â gofynion y gwasanaeth, deddfwriaethol, yswiriant a chyfundrefnol 
37. pwysigrwydd cadw at y protocol gwasanaeth lliwio a goleuo
38. pwysigrwydd monitro iechyd a lles yr unigolyn yn ystod ac ar ôl y gwasanaeth 
39. canlyniadau disgwyliedig gwasanaeth lliwio a goleuo 
40. diben ymarfer adfyfyriol a gwerthuso a’r modd y mae’n darparu gwybodaeth ar gyfer gwasanaethau yn y dyfodol
41. y cyfarwyddiadau a’r cyngor, cyn ac ar ôl y gwasanaeth lliwio a goleuo


Cwmpas/ystod

​Dosbarthiad cyrls y gwallt

1. syth
2. tonnog
3. cyrliog
4. cyrls tynn
5. cyfuniad

Nodweddion y gwallt
*
1. dwysedd y gwallt
2. gwëad y gwallt
3. hydwythedd y gwallt
4. mandylledd y gwallt
5. patrymau tŵf y gwallt

Stad y gwallt*
*
1. gwallt sydd heb ei drin yn gemegol
2. gwallt sydd wedi ei drin yn rhannol â chemegion
3. gwallt sydd wedi ei drin yn gemegol

Profion

1. hydwythedd
2. mandylledd
3. edefyn
4. anghydnawsedd
5. datblygiad
6. prawf croen

Protocol gwasanaeth lliwio a goleuo

1. amgylchedd waith
2. iechyd a diogelwch
3. atal a rheoli haint
4. cynllun gwasanaeth
5. cydsyniad gwybodus
6. canlyniadau profion
7. cyfarwyddiadau’r gwneuthurwr
8. rheoli data
9. archwilio ac atebolrwydd
10. cyfarwyddiadau a chyngor
11. cynaliadwyedd
12. rheoli gwastraff
13. ymarfer wedi’i seilio ar dystiolaeth
14. ymarfer adfyfyriol

Cynnyrch

1. hufen rhwystro
2. rhannol barhaol
3. hanner-parhaol/ lled barhaol
4. parhaol
5. goleuwyr
6. arlliwiau
7. gwarchodwyr lliw a goleuwyr

Techegau lliwio a goleuo

1. tafellu
2. bloc / panel bloc
3. gwau
4. goleuo’r holl ben
5. goleuo ar gyfer ad-dyfiant
6. defnydd o offer llaw
7. llaw rhydd

Cyfarwyddiadau

1. hawliau cyfreithiol a chyfrifoldebau yr unigolyn a’r ymarferydd
2. cyfarwyddiadau a gofal cyn ac ar ôl y gwasanaeth
3. cyfyngiadau a risgiau cysylltiedig
4. triniaethau yn y dyfodol

Anatomeg a ffisioleg

*
1. strwythur a swyddogaeth systemau’r corff a’u cyd-ddibyniaeth ar ei gilydd
2. strwythur a swyddogaeth y gwallt a thŵf y gwallt
3. strwythur a swyddogaeth y croen
4. gwrtharwyddion cymharol a llwyr a phatholegau cysylltiedig


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Gwrtharwydd llwyr

Mae gwrtharwydd llwyr yn gyflwr sy'n rhwystro'r gwasanaeth rhag cael ei gyflawni ac a all fod angen cael ei gyfeirio.

Adwaith niweidiol

Adwaith niweidiol yw adwaith 'annisgwyl' neu ganlyniad yn dilyn

gwasanaeth e.e. llewygu

Anatomeg a Ffisioleg

Sut mae'r systemau sgerbydol, cyhyrog, cylchredol, lymffatig, anadlol, ysgarthol, treuliadol, endocrinaidd a nerfol yn rhyngweithio gyda'i gilydd a sut maent yn effeithio ar yr unigolyn, gwasanaeth a chanlyniadau

Gwrth weithred

Gwrth weithred yw adwaith neu ganlyniad 'disgwyliedig' yn dilyn gwasanaeth,

e.e. erythema

Prawf datblygiad

Prawf datblygiad yw cael gwared o gynnyrch yn ystod y gwasanaeth er mwyn gwirio a chadarnhau'r amser datblygu

Ymarfer wedi ei seilio ar dystiolaeth

Mae ymarfer wedi ei seilio ar dystiolaeth yn seiliedig ar y dystiolaeth

orau gyfredol, ddilys a pherthnasol sydd ar gael

Cymorth Cyntaf

Gall cymorth cyntaf gyfeirio at gymwysterau cymorth cyntaf yn y gwaith neu ei gyffelyb neu ymwybyddiaeth o gymorth cyntaf iechyd meddyliol.

Dosbarthiad cyrls y gwallt

Gellir cyfeirio at ddosbarthiad cyrls y gwallt fel Math 1 – 4.

Offer llaw a thechnegau llaw rhydd

Enghreifftiau o offer llaw a thechnegau llaw rhydd yw'r defnydd o gonau, cap, crib, ffilm neu stribedi ffoil i'w tynnu drwodd, bwrdd balyage, ysbodol a brwshis a sbyngau arlliwio sydd wedi eu haddasu'n benodol.

Protocol

Protocol yw gweithdrefn safonol er mwyn sicrhau arfer gorau a

chydymffurfiad pan yn darparu gwasanaethau h.y. dilyn cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr.

Gwrtharwydd cymharol

Gwrtharwydd cymharol yw cyflwr sy'n gofyn am asesiad o addasrwydd ar gyfer y gwasanaeth a/neu os oes angen addasiadau,

Prawf Edefyn

Gellir cyfeirio ar brawf edefyn fel prawf dorri ac fe'i gwneir cyn y gwasanaeth er mwyn profi'r adwaith gemegol ar y gwallt ar gyfer y canlyniadau a ddymunir.


Dolenni I NOS Eraill

​SKAHDBRBNST1, SKAHDBRBNS1, SKAHDBR1, SKAHD1, SKAHD2 SKAHDBR2, SKAHDBR3, SKAHDBR4, SKAHDBR5,

SKAHDBR7, SKAHDBR8, SKAHDBR9, SKAHDBR10, SKAHDBR11, SKAHDBR12, SKAHDBR13, SKAHDBR14, SKAHDBR15, SKAHDB16, SKAHDB19, SKAHDB20, SKAHDB21, SKABR5



Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

2024

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SkillsActive

URN gwreiddiol

SKACH10

Galwedigaethau Perthnasol

Trinwyr gwallt a Galwedigaethau Cysylltiedig

Cod SOC

6221

Geiriau Allweddol

lliwio creadigol, goleuo creadigol, llaw rhydd, defnydd o offer llaw, conau, cap, crib, stribynnau ffilm neu ffoil, bwrdd balyage