Lliwio’r a goleuo’r gwallt

URN: SKAHDBR5
Sectorau Busnes (Suites): Trin gwallt a barbro
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 30 Maw 2021

Trosolwg

​Mae'r safon yma yn cydfodoli â, SKAHDBRBNST1 Gweithredu a chynnal arferion gwaith diogel, glanwaith ac effeithiol a SKAHDBRBNS1 Ymgynghori, asesu, cynllunio a pharatoi ar gyfer gwasanaethau Gwallt, Barbro, Harddwch, Ewinedd, Lles a Holistig. Mae'r safon yma'n ymwneud â rhywun proffesiynol o faes trin gwallt sy'n darparu gwasanaethau lliwio a goleuo. Bydd y gwasanaethau lliwio'n cynnwys defnyddio lliwiau rhannol barhaol, hanner parhaol/ lled barhaol a pharhaol. Yn ogystal â hyn, defnyddio lliwiau a goleuwyr er mwyn creu isoleuadau ac aroleuadau. Bydd gofyn i chi hefyd wneud gwerthusiad ar ôl y driniaeth ac adfyfyrio er mwyn gwelliant parhaus. Bydd rhaid i ddefnyddwyr y safon yma wneud yn siwr bod eu harferion yn adlewyrchu'r wybodaeth, y polisïau, y gweithdrefnau a'r cyfarwyddyd am yr arfer orau. Cynghorir defnyddwyr y safon yma i fod yn ymwybodol o, a chydymffurfio gyda gofynion cymorth cyntaf yn unol â deddfwriaeth a pholisïau a gweithdrefnau cyfundrefnol.

Y prif ddeilliannau yw:

  1. lliwio'r holl ben
  2. lliwio ar gyfer ad-dyfiant
  3. aroleuadau ac isoleuadau wedi eu gwau a rhai gloyw

Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

​1. cynnal ymgynghoriad cryno a chynhwysfawr gyda'r unigolyn

2. cadw at eich cyfrifoldebau am iechyd a diogelwch yn unol â deddfwriaeth, rheoliadau, cyfarwyddebau a chanllawiau 
3. trafod a darganfod amcanion yr unigolyn a’r canlyniadau a ddymunir, er mwyn cael y wybodaeth ar gyfer y cynllun gwasanaeth lliwio a/neu goleuo, i gynnwys:
3.1 hanes triniaethau
3.2 dewisiadau amgen ar gyfer triniaeth
4. gwneud dadansoddiad o’r gwallt a chroen y pen, i gynnwys: 
4.1 dosbarthiad cyrls y gwallt
4.2 nodweddion y gwallt
4.3 stad y gwallt
4.4 cyflwr croen y pen
4.5 canran o wallt gwyn
4.6 hyd yr ad-dyfiant ar wallt sydd wedi ei drin yn rhannol â chemegion 
4.7 hyd y gwallt
5. gwneud profion er mwyn penderfynu addasrwydd ar gyfer y gwasanaeth lliwio a/neu goleuo, i gynnwys:
5.1 cofnodi a chadw’r canlyniad yn unol â deddfwriaeth data 
6. gwerthuso canlyniadau’r ymgynghoriad, amcanion yr unigolyn a’r dadansoddiad o groen y pen ar y cyd
7. trafod gyda’r unigolyn yr effeithiau y gellir eu cyflawni gan ddefnyddio cymhorthion gweledol perthnasol er mwyn darparu’r wybodaeth ar gyfer y detholiad o gynnyrch sydd i’w defnyddio, i gynnwys:
7.1 taliadau a pharhad
8. cadarnhau a chytuno gyda’r unigolyn, ei fod wedi deall y gwasanaeth lliwio a/neu goleuo arfaethedig, i gynnwys:
8.1 gwrth weithredoedd 
8.2 adweithiau niweidiol
9. sicrhau cydsyniad gwybodus yr unigolyn ar gyfer y gwasanaeth lliwio a/neu goleuo arfaethedig:

Gwasanaeth lliwio a goleuo
10. cribo a rhannu’r gwallt a gwarchod y croen o amgylch yn unol â’r protocol gwasanaeth lliwio a/neu goleuo
11. dewis a pharatoi’r cynnyrch, offer, deunyddiau a chyfarpar yn unol â’r protocol gwasanaeth lliwio a/neu goleuo 
12. dodi’r cynnyrch a defnyddio technegau lliwio a/neu oleuo yn unol â’r protocol lliwio a/neu goleuo, i gynnwys:
12.1 gwau’r gwallt, gan ddodi rhannau gloywi a diogelu’r rhannau gloywi ar ôl dodi’r cynnyrch
13. dodi a monitro amser y broses yn unol â chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr 
14. gwneud prawf datblygiad er mwyn cadarnhau’r amseroedd prosesu i gynnwys asesiad o’r canlynol:
14.1 cyflwr y gwallt
14.2 cyflwr y goleuwr
14.3 sensitifrwydd croen y pen
15. tynnu’r cynnyrch o’r gwallt a chroen y pen yn unol â chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr 
16. cwblhau’r gwasanaeth yn unol â’r protocol lliwio a/neu goleuo
17. cadarnhau gyda’r unigolyn ei fod yn fodlon gyda’r canlyniad terfynol 
18. monitro iechyd a lles yr unigolyn drwy gydol y gwasanaeth lliwio a/neu goleuo 
19. gweithredu yn y modd cywir os bydd adwaith niweidiol
20. cwblhau cofnodion gwasanaeth yr unigolyn a’u cadw yn unol â deddfwriaeth data
21. defnyddio ymarfer adfyfyriol i werthuso’r gwasanaeth a chymryd camau priodol
22. rhoi cyfarwyddiadau a chyngor i’r unigolyn, cyn ac ar ôl y gwasanaeth gwallt
23. cofnodi canlyniad y gwasanaeth lliwio a/neu goleuo a’r gwerthusiad ohono


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:


1. eich swyddogaeth a’ch cyfrifoldebau o ran darparu gwasanaethau lliwio a/neu goleuo a phwysigrwydd gweithio o fewn eich gallu
2. pam ei bod yn rhaid i chi gydymffurfio gydag arfer moesegol a gweithio o fewn gofynion deddfwriaethol, i gynnwys:
2.1 y cyfrifoldebau drosoch chi eich hunain a’ch adeiladau o dan reoliadau trwyddedu yr awdurdod lleol
3. pwysigrwydd ymwneud â, a dogfennu datblygiad proffesiynol parhaus, i gynnwys, polisïau gwybodaeth wedi eu diweddaru, gweithdrefnau a chanllawiau ar gyfer arfer gorau
4. yr anatomeg a’r ffisioleg sy’n berthnasol i’r safon yma 
5. y gwrtharwyddion cymharol a llwyr sy’n berthnasol i’r gwasanaeth gwallt, i gynnwys:
5.1 y gofynion deddfwriaethol ac yswiriant ar gyfer cael diagnosis meddygol a chyfeirio
6. pwysigrwydd adnabod nodweddion afreolaidd ar y croen a niwed i groen y pen, a’u cyfeirio at weithiwr proffesiynol perthnasol ym maes gofal iechyd 
7. y mathau o gynnyrch a ddefnyddir ar gyfer gwasanaethau lliwio a/neu goleuo a’u cyfyngiadau, i gynnwys addasiadau sydd eu hangen, mewn perthynas â’r canlynol: 
7.1 dosbarthiad cyrls y gwallt
7.2 cyflwr y gwallt
7.3 stad y gwallt
7.4 cyflwr croen y pen
7.5 gwallt gwrthsafol
7.6 gwallt wedi ei drin yn gemegol
8. yr effeithiau ffisiolegol y caiff cynnrych lliwio a goleuo ar strwythur y gwallt
9. sut i adnabod gwallt sydd wedi ei or-brosesu a’r risgiau cysylltiedig a pha gamau i’w cymryd
10. sut i adnabod trichorrhexis nodosa, y risgiau cysylltiedig a pha gamau i’w cymryd 
11. pwysigrwydd cadw at gyfarwyddiadau’r gwneuthurwr er mwyn rhwystro anghydnawsedd o ran cynnyrch a risgiau i iechyd
12. egwyddorion ar gyfer dethol lliwiau, gan gynnwys y siart lliw rhyngwladol 
13. sut mae lliwiad naturiol ac isliwiau yn effeithio ar y dewis o liw’r cynnyrch, i gynnwys y dewis o’r canlynol:
13.1 goleuo’r gwallt ymlaen llaw
13.2 dodi cyn-liwiad
13.3 dodi arlliw gwrthweithiol
14. y mathau o gryfderau perocsid a ddefnyddir mewn gwasanaethau lliwio a goleuo, i gynnwys:
14.1 pryd a pham y defnyddir cryfderau perocsid 
15. pam bod mandylledd gwael o’r gwallt yn dylanwadu ar y dewisiadau o gynnyrch a gwasanaeth
16. yr effeithiau y caiff tymheredd ar ddodi cynnyrch llwiio a goleuo ac ar eu datblygiad 
17. pwysigrwydd gwneud dadansoddiad o’r gwallt a chroen y pen a sut mae’n effeithio ar y dewis o gynnyrch a’r cyfarpar a ddefnyddir 
18. sut y gall patrymau tŵf y gwallt benderfynu safle a lleoliad aroleuadau ac isoleuadau 
19. pwysigrwydd gwneud profion a sut y gall canlyniadau profion effeithio ar y gwasanaeth lliwio a goleuo 
20. yr offer, deunyddiau a chyfarpar a ddefnyddir ar gyfer gwasanaethau lliwio a goleuo ar gyfer pob dosbarthiad a mathau o wallt a chyflyrau 
21. y risgiau sy’n gysylltiedig â lliwio a goleuo’r gwallt 
22. pwysigrwydd amddiffyn croen a chroen pen yr unigolyn rhag cynnyrch lliwio a goleuo 
23. pwysigrwydd cadw at gyfarwyddiadau’r gwneuthurwr ar gyfer y defnydd diogel o gynnyrch lliwio a goleuo a’r defnydd diogel ohonynt, i gynnwys:
23.1 pwysigrwydd egluro teimlad corfforol ar groen y pen 
24. pam y dylech chi gribo a rhannu’r gwallt cyn y cynnyrch lliwio a goleuo 
25. sut i gyflawni gwasanaeth lliwio a goleuo, i gynnwys:
25.1 gwau’r gwallt
25.2 dodi rhannau gloywi a’u tynnu i ffwrdd
25.3 dodi cynnyrch lliwio a goleuo i’r gwallt mewn modd diogel er mwyn osgoi bod yn agored i gemegolion i’r croen a chroen y pen 
25.4 amseroedd y gwasanaeth yn unol â’ch polisïau a gweithdrefnau cyfundrefnol 
26. pwysigrwydd gwneud prawf datblygiad yn ystod y gwasanaeth i’r gwallt yn unol â chyfrawyddiadau’r gwneuthurwr 
27. y rhesymau pam bod angen i chi fynd i’r afael â phroblemau all yn aml godi pan yn lliwio a goleuo’r gwallt, i gynnwys:
27.1 ffyrdd y gellir eu cywiro
28. pwysigrwydd ymgynghori gyda’r unigolyn drwy gydol y gwasanaeth lliwio a goleuo
29. yr adweithiau niweidiol a gysylltir â’r gwasanaethau lliwio a goleuo a sut i ymateb iddynt 
30. y cyfrifoldebau iechyd a diogelwch yn unol â deddfwriaeth cyn, yn ystod ac ar ôl y gwasanaeth 
31. y gofynion cyfreithiol ar gyfer darparu gwasanaethau i’r gwallt i blant dan oed ac oedolion bregus
32. pam ei bod hi'n bwysig trafod a sefydlu amcanion yr unigolyn, ei bryderon, disgwyliadau, y canlyniadau y mae'n eu dymuno a chytuno ar y cynllun gwasanaeth lliwio a goleuo 
33. y strwythurau taliadau a’r dewisiadau ar gyfer triniaeth
34. y gofynion deddfwriaethol a digollediad er mwyn sicrhau cydsyniad gwybodus wedi'i lofnodi ar gyfer y gwasanaeth
35. y rhesymau dros gymryd delweddau gweledol gyda chydsyniad o fan triniaeth yr unigolyn, a'u cadw yn unol â gofynion y gwasanaeth, deddfwriaethol, yswiriant a chyfundrefnol 
36. pwysigrwydd cadw at y protocol gwasanaeth lliwio a goleuo
37. pwysigrwydd monitro iechyd a lles yr unigolyn yn ystod ac ar ôl y gwasanaeth
38. canlyniadau disgwyliedig gwasanaeth lliwio a goleuo 
39. diben ymarfer adfyfyriol a gwerthuso a’r modd y mae’n darparu gwybodaeth ar gyfer gwasanaethau yn y dyfodol
40. y cyfarwyddiadau a’r cyngor, cyn ac ar ôl y gwasanaeth lliwio a goleuo 


Cwmpas/ystod

Dosbarthiad cyrls y gwallt

1. syth
2. tonnog
3. cyrliog
4. cyrls tynn
5. cyfuniad

Nodweddion y gwallt
*
1. dwysedd y gwallt
2. gwëad y gwallt
3. hydwythedd y gwallt
4. mandylledd y gwallt
5. patrymau tŵf y gwallt

Stad y gwallt

1. gwallt sydd heb ei drin yn gemegol
2. gwallt sydd wedi ei drin yn rhannol â chemegion
3. gwallt sydd wedi ei drin yn gemegol

Profion*
*
1. hydwythedd
2. mandylledd
3. edefyn
4. anghydnawsedd
5. datblygiad
6. prawf croen

Cynnyrch

1. hufen rhwystro
2. rhannol barhaol
3. hanner-parhaol/ lled barhaol
4. parhaol
5. goleuwyr
6. arlliwiau
7. gwarchodwyr lliw a goleuwyr
 


Protocol gwasanaeth lliwio a goleuo

1. amgylchedd waith
2. iechyd a diogelwch
3. atal a rheoli haint
4. cynllun gwasanaeth
5. cydsyniad gwybodus
6. canlyniadau profion
7. cyfarwyddiadau’r gwneuthurwr
8. rheoli data
9. archwilio ac atebolrwydd
10. cyfarwyddiadau a chyngor
11. cynaliadwyedd
12. rheoli gwastraff
13. ymarfer wedi’i seilio ar dystiolaeth
14. ymarfer adfyfyriol

Techegau lliwio a goleuo

1. lliwio’r holl ben
2. lliwio ar gyfer ad-dyfiant
3. aroleuadau ac isoleuadau wedi eu gwau a rhai gloyw

Cyfarwyddiadau

1. hawliau cyfreithiol a chyfrifoldebau yr unigolyn a’r ymarferydd
2. cyfarwyddiadau a gofal cyn ac ar ôl y gwasanaeth
3. cyfyngiadau a risgiau cysylltiedig
4. triniaethau yn y dyfodol

Anatomeg a ffisioleg

*
1. strwythur a swyddogaeth y gwallt a chylchred tŵf y gwallt 
2. strwythur a swyddogaeth y croen
3. strwythur anatomegol y pen, gwddf ac ysgwyddau 
4. gwrtharwyddion cymharol a llwyr a phatholegau cysylltiedig 


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Gwrtharwydd llwyr

Mae gwrtharwydd llwyr yn gyflwr sy'n rhwystro'r gwasanaeth rhag cael ei gyflawni ac a all fod angen cael ei gyfeirio

Adwaith niweidiol

Adwaith niweidiol yw adwaith 'annisgwyl' neu ganlyniad yn dilyn gwasanaeth e.e. llewygu

Gwrth weithred

Gwrth weithred yw adwaith neu ganlyniad 'disgwyliedig' yn dilyn gwasanaeth,

e.e. erythema

Prawf datblygiad

Prawf datblygiad yw cael gwared o gynnyrch yn ystod y gwasanaeth er mwyn gwirio a chadarnhau'r amser datblygu.

Ymarfer wedi ei seilio ar dystiolaeth

Mae ymarfer wedi ei seilio ar dystiolaeth yn seiliedig ar y dystiolaeth

orau gyfredol, ddilys a pherthnasol sydd ar gael

Cymorth Cyntaf

Gall cymorth cyntaf gyfeirio at gymwysterau cymorth cyntaf yn y gwaith neu ei gyffelyb neu ymwybyddiaeth o gymorth cyntaf iechyd meddyliol.

Dosbarthiad cyrls y gwallt

Gellir cyfeirio at ddosbarthiad cyrls y gwallt fel Math 1 – 4

Protocol

Protocol yw gweithdrefn safonol er mwyn sicrhau arfer gorau a

chydymffurfiad pan yn darparu gwasanaethau h.y. dilyn cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr.

Gwrtharwydd cymharol

Gwrtharwydd cymharol yw cyflwr sy'n gofyn am asesiad o addasrwydd ar gyfer y gwasanaeth a/neu os oes angen addasiadau.

Prawf Edefyn

Gellir cyfeirio ar brawf edefyn fel prawf dorri ac fe'i gwneir cyn y gwasanaeth er mwyn profi'r adwaith gemegol ar y gwallt ar gyfer y canlyniadau a ddymunir


Dolenni I NOS Eraill

​SKAHDBRBNST1, SKAHDBRBNS1, SKAHDBR1, SKABBR2, SKABR1,SKABR2, SKABR3, SKABR4, SKAHDBR2, SKAHDBR3, SKAHDBR4, SKAHDBR6, SKAHDBR7, SKAHDBR8,SKAHDBR9, SKAHDBR10, SKAHDBR11, SKAHDBR12, SKAHDBR13, SKAHDBR14, SKAHDBR15, SKAHDB16, SKAHDB19, SKAHDB20, SKAHDB21, SKABR5





Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Maw 2024

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SkillsActive

URN gwreiddiol

SKACH4

Galwedigaethau Perthnasol

Trinwyr gwallt a Galwedigaethau Cysylltiedig

Cod SOC

6221

Geiriau Allweddol

lliw gwallt, goleuwr gwallt, cannydd gwallt