Torri’r gwallt mewn modd creadigol gan ddefnyddio cyfuniad o dechnegau

URN: SKAHDBR4
Sectorau Busnes (Suites): Trin gwallt a barbro
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 30 Maw 2021

Trosolwg

​Mae'r safon yma yn cydfodoli â, SKAHDBRBNST1 Gweithredu a chynnal arferion gwaith diogel, glanwaith ac effeithiol *a *SKAHDBRBNS1 Ymgynghori, asesu, cynllunio a pharatoi ar gyfer gwasanaethau Gwallt, Barbro, Harddwch, Ewinedd, Lles a Holistig*. *Mae'r safon yma'n ymwneud â rhywun proffesiynol o faes trin gwallt sy'n defnyddio sgiliau torri uwch i greu edrychiad creadigol wedi'i deilwrio a'i ailsteilio er mwyn gwella delwedd bersonol. Bydd gofyn i chi hefyd wneud gwerthusiad ar ôl y driniaeth ac adfyfyrio er mwyn gwelliant parhaus. Bydd rhaid i ddefnyddwyr y safon yma wneud yn siwr bod eu harferion yn adlewyrchu'r wybodaeth, y polisïau, y gweithdrefnau a'r cyfarwyddyd am yr arfer orau. Cynghorir defnyddwyr y safon yma i fod yn ymwybodol o, a chydymffurfio gyda gofynion cymorth cyntaf yn unol â deddfwriaeth a pholisïau a gweithdrefnau cyfundrefnol.

Y prif ddeilliannau yw:

  1. gwneud toriad creadigol wedi'i ailstelio

Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

1. ​cynnal ymgynghoriad cryno a chynhwysfawr gyda'r unigolyn

2. cadw at eich cyfrifoldebau am iechyd a diogelwch yn unol â deddfwriaeth, rheoliadau, cyfarwyddebau a chanllawiau, i gynnwys:
2.1 cael gwared o doriadau gwallt dros ben o groen yr unigolyn drwy gydol y gwasanaeth 
2.2 codi blew sydd dros ben oddi ar y llawr er mwyn osgoi anaf 
3. trafod a darganfod amcanion yr unigolyn a’r canlyniadau a ddymunir, er mwyn cael y wybodaeth ar gyfer y cynllun gwasanaeth torri’n greadigol, i gynnwys 
3.1 ffordd o fyw’r unigolyn
3.2 strwythurau anatomegol y pen a’r wyneb 
3.3 dewisiadau amgen ar gyfer triniaeth
4. gwneud dadansoddiad o’r gwallt a chroen y pen er mwyn penderfynu ar y cynllun gwasanaeth, i gynnwys:
4.1 dosbarthiad cyrls y gwallt
4.2 nodweddion y gwallt *
4.3 *stad y gwallt
4.4 hyd y gwallt
4.5 cyflwr croen y pen
5. edrych ar amrywiaeth o edrychiadau y gellir eu cyflawni gyda’r unigolyn gan ddefnyddio cymhorthion gweledol perthnasol 
6. cadarnhau a chytuno gyda’r unigolyn, ei fod wedi deall y gwasanaeth arfaethedig i dorri’n greadigol, i gynnwys:
6.1 gwrth-weithredoedd
6.2 adweithiau niweidiol
7. sicrhau cydsyniad gwybodus gan yr unigolyn ar gyfer y gwasanaeth torri 
8. cribo a rhannu’r gwallt yn unol â’r protocol gwasanaeth torri mewn modd creadigol 
9. defnyddio* technegau torri* sy’n addas ar gyfer cyflwr gwallt yr unigolyn a dosbarthiad cyrls ei wallt er mwyn sicrhau’r edrychiad creadigol a ddymunir, i gynnwys:
9.1 dewis a defnyddio offer a chyfarpar er mwyn osgoi difrod i’r gwallt a chroen y pen 
10. creu a thorri’r amlinelliad gwreiddiol yn unol â’r cynllun gwasanaeth torri, i gynnwys:
10.1 cadarnhau gyda’r unigolyn ei fod eisiau bwrw ymlaen gyda’r toriad 
 11. cyfuno ac addasu eich technegau torri ac effeithiau’r torri er mwyn sicrhau’r edrychiad a ddymunir yn unol â’r* protocol torri mewn modd creadigol, i gynnwys:
11.1 cylchdroi eich safle o gwmpas yr unigolyn er mwyn sicrhau cywirdeb y toriad
12. croes-edrych ar y toriad er mwyn sicrhau dosbarthiad cywir o bwysau, cydbwysedd a siâp
13. siapio cylchfesurau gweledig y gwallt gan ddefnyddio technegau torri neu glipiwr, gan gymryd i ystyriaeth:
13.1 rhimyn naturiol y gwallt 
13.2 *patrymau tŵf y gwallt
13.3 gwallt nad oes mo’i eisiau y tu allan i ddyluniad y gwallt
14. cymryd camau adferol addas i ddatrys unrhyw broblemau sy’n codi yn ystod y gwasanaeth torri
15. edrych yn derfynol ar y toriad i wneud yn siwr ei fod yn gywir 
16. defnyddio technegau darfod creadigol sy’n ategu’r toriad a siap wyneb yr unigolyn
17. cwblhau’r gwasanaeth torri creadigol gan sicrhau bod yr unigolyn yn rhydd o ddarnau o flew 
18. cadarnhau gyda’r unigolyn ei fod yn fodlon gyda’r canlyniad terfynol 
19. monitro iechyd a lles yr unigolyn drwy gydol y gwasanaeth torri
20. gweithredu yn y modd cywir os bydd adwaith niweidiol
21. cwblhau cofnodion gwasanaeth yr unigolyn a’u cadw yn unol â deddfwriaeth data
22. defnyddio ymarfer adfyfyriol i werthuso’r gwasanaeth a chymryd camau priodol
23. rhoi cyfarwyddiadau a chyngor i’r unigolyn, cyn ac ar ôl y gwasanaeth
24. cofnodi canlyniad y gwasanaeth torri creadigol a’r gwerthusiad ohono 


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

​1.  eich swyddogaeth a’ch cyfrifoldebau o ran darparu gwasanaethau torri a phwysigrwydd gweithio o fewn eich gallu

2. pam ei bod yn rhaid i chi gydymffurfio gydag arfer moesegol a gweithio o fewn gofynion deddfwriaethol, i gynnwys:
2.1 y cyfrifoldebau drosoch chi eich hunain a’ch adeiladau o dan reoliadau trwyddedu yr awdurdod lleol
3. pwysigrwydd ymwneud â, a dogfennu datblygiad proffesiynol parhaus, i gynnwys, polisïau gwybodaeth wedi eu diweddaru, gweithdrefnau a chanllawiau ar gyfer arfer gorau
4. yr anatomeg a’r ffisioleg sy’n berthnasol i’r safon yma 
5. y gwrtharwyddion cymharol a llwyr sy’n berthnasol i’r gwasanaeth gwallt, i gynnwys:
5.1 y gofynion deddfwriaethol ac yswiriant ar gyfer cael diagnosis meddygol a chyfeirio
6. pwysigrwydd adnabod nodweddion afreolaidd ar y croen a niwed i groen y pen, a’u cyfeirio at weithiwr proffesiynol perthnasol ym maes gofal iechyd 
7. y mathau o dechnegau torri a ddefnyddir o fewn edrychiad creadigol, a’r addasiadau sydd eu hangen, a’u cyfyngiadau, mewn perthynas â’r canlynol:
7.1 dosbarthiad cyrls y gwallt
7.2 nodweddion y gwallt
7.3 stad y gwallt
7.4 hyd y gwallt
7.5 cyflwr croen y pen
7.6 hanes gwasanaeth i’r gwallt
8. ble i ganfod syniadau creadigol er mwyn ysbrydoli a phenderfynu ar y cynllun gwasanaeth, i gynnwys:
8.1 sut i ddehongli ysbrydoliaeth o themau hanesyddol, diwylliannol a ffasiwn i dueddiadau cyfredol 
9. pwysigrwydd edrych ar amrywiaeth edrychiadau y gellir eu cyflawni gan ddefnyddio cymhorthion gweledol perthnasol
10. y mathau o offer a chyfarpar a ddefnyddir mewn gwasanaethau torri a’r defnydd ohonynt 
11. sut i ddefnyddio rasel steilio mewn modd diogel a pham bod yn rhaid iddi hi gael ei defnyddio ar wallt gwlyb:
11.1 risgiau cysylltiedig
12. y gwahaniaethau rhwng torri gwallt gwlyb a sych a sut mae’n effeithio ar faint o dyndra a ddefnyddir 
 13. pwysigrwydd cadw’r gwallt wastad yn wlyb drwy gydol y broses o dorri gwlyb
14. sut i addasu technegau torri gwallt ar gyfer pob dosbarthiad o gyrls y gwallt
15. sut i adnabod gwallt wedi’i orbrosesu, y risgiau cysylltiedig a’r camau i’w cymryd
16. sut i adnabod trichorrhexis nodosa, y risgiau cysylltiedig a’r camau i’w cymryd 
17. yr effeithiau all gael eu creu drwy gyfuno ac addasu gwahanol dechnegau torri
18. pwysigrwydd ystyried dosbarthiad pwysau a gweithio gyda phatrymau tŵf naturiol y gwallt
19. y rhesymau dros sefydlu canllawiau a’u dilyn
20. sut i bylu’r croen ac yn unol â chanllawiau pylu’r croen
21. y siapiau traddodiadol a chyfredol o’r gwallt
22. pwysigrwydd dewis ongl briodol lle caiff y gwallt ei ddal pan yn torri er mwyn sicrhau dosbarthiad cywir o’r pwysau, cydbwysedd a faint o raddiant gaiff ei gyflawni
23. sut i bersonoleiddio ac addasu technegau torri, i gynnwys: 23.1 sut i gyfuno estyniadau dros dro neu led barhaol i’r gwallt 
24. sut i lefelu a phrofi cliperi
25. y mathau o lafnau cliper a’u maint a’r atodiadau sydd ar gael, a’r effeithiau mae’r rhain yn eu cyflawni 
26. y risgiau sy’n gysylltiedig gyda thorri agos parhaus 
27. y risgiau sy’n gysylltiedig â thoriadau i’r gwallt yn agos at groen agored
28. y mathau o gynnyrch sydd ar gael ar gyfer gorffen y gwallt 
29. pam dylai gwallt gael ei olchi cyn gwasanaeth torri 
30. pam dylech chi gribo a rhannu’r gwallt cyn ei dorri 
31. sut i greu a dilyn canllaw ar gyfer cyfuniad o steiliau torri o fewn edrychiad creadigol, i gynnwys:
31.1 amseroedd y gwasanaeth yn unol â pholisïau a gweithdrefnau cyfundrefnol
32. sut i groes-wirio a chydbwyso’r toriad
33. y rhesymau pam y gall bod angen i chi fynd i’r afael â phroblemau all godi’n aml pan yn torri gwallt, i gynnwys:
 33.1 ffyrdd y gellir eu cywiro
34. sut i greu gwahanol siapiau i’r gwddf gan ystyried patrymau tŵf y gwallt 
35. pwysigrwydd ymgynghori gyda’r unigolyn drwy gydol y broses dorri
36. yr adweithiau niweidiol a gysylltir â’r gwasanaeth torri a sut i ymateb iddynt
37. y cyfrifoldebau iechyd a diogelwch yn unol â deddfwriaeth cyn, yn ystod ac ar ôl y gwasanaeth
38. y gofynion cyfreithiol ar gyfer darparu gwasanaethau i’r gwallt i blant dan oed ac oedolion bregus
39. pam ei bod hi’n bwysig trafod gyda a chanfod gan yr unigolyn ei amcanion, pryderon, disgwyliadau a’r canlyniadau y mae’n eu dymuno a chytuno ar y cynllun gwasanaeth torri 
40. y strwythurau taliadau a’r dewisiadau ar gyfer triniaeth
41. y gofynion deddfwriaethol a digollediad ynglŷn â sicrhau cydsyniad gwybodus ar gyfer y gwasanaeth 
42. y rhesymau dros gymryd delweddau gweledol gyda chydsyniad o fan triniaeth yr unigolyn, a'u cadw yn unol â gofynion y gwasanaeth, deddfwriaethol, yswiriant a chyfundrefnol 
43. pwysigrwydd cadw at y protocol gwasanaeth torri’n mewn modd creadigol
44. pwysigrwydd monitro iechyd a lles yr unigolyn yn ystod ac ar ôl y gwasanaeth
45. canlyniadau disgwyliedig gwasanaeth torri
46. diben ymarfer adfyfyriol a gwerthuso a’r modd y mae’n darparu gwybodaeth ar gyfer gwasanaethau yn y dyfodol
47. y cyfarwyddiadau a’r cyngor, cyn ac ar ôl y gwasanaeth torri 


Cwmpas/ystod


Dosbarthiad cyrls y gwallt
*
1. syth
2. tonnog
3. cyrliog
4. cyrls tynn
5. cyfuniad

Nodweddion y gwallt

1. dwysedd y gwallt
2. gwëad y gwallt
3. hydwythedd y gwallt
4. mandylledd y gwallt
5. patrymau tŵf y gwallt

Stad y gwallt

1. gwallt sydd heb ei drin yn gemegol
2. gwallt sydd wedi ei drin yn rhannol â chemegion
3. gwallt sydd wedi ei drin yn gemegol

Technegau torri

1. torri clwb
2. llaw rhydd
3. torri pwynt
4. siswrn dros y crib
5. cliper dros y crib
6. gweadu
7. teneuo

Offer a Chyfarpar

*
1. siswrn
2. cliperi
3. siswrn teneuo
4. trimwyr
5. ffoiliau
6. rasel steilio

Effeithiau torri
*
1. graddio
2. haenu
3. blaenfeinio
4. datgysylltu
5. pylu
6. toriad anghymesur

Protocol torri’n mewn modd creadigol 

1. amgylchedd waith
2. iechyd a diogelwch
3. atal a rheoli haint
4. cynllun gwasanaeth
5. cydsyniad gwybodus
6. rheoli data 
7. archwilio ac atebolrwydd
8. cyfarwyddiadau a chyngor
9. cynaliadwyedd
10. rheoli gwastraff
11. ymarfer wedi’i seilio ar dystiolaeth
12. ymarfer adfyfyriol

Patrymau tŵf y gwallt

1. llyfiad buwch
2. troell
3. coron ddwbl
4. pigyn gweddw
5. cynffon hwyaden
6. genetig
7. systemig

Technegau gorffen creadigol

1. steilio
2. defnyddio dodi cynnyrch



Cyfarwyddiadau

1. hawliau cyfreithiol a chyfrifoldebau yr unigolyn a’r ymarferydd 
2. cyfarwyddiadau a gofal cyn ac ar ôl y gwasanaeth
3.  cyfyngiadau a risgiau cysylltiedig
4. triniaethau yn y dyfodol

Anatomeg a ffisioleg

1. strwythur a swyddogaeth systemau’r corff a’u cyd-ddibyniaeth ar ei gilydd
2. strwythur a swyddogaeth y gwallt a thŵf y gwallt
3. strwythur a swyddogaeth y croen
4. gwrtharwyddion cymharol a llwyr a phatholegau cysylltiedig

Siapiau’r gwddf

*
1. wedi’i flaenfeinio
2. wedi’i sgwario
3. llinell lawn y gwddf
4. pylu’r croen


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Gwrtharwydd llwyr

Mae gwrtharwydd llwyr yn gyflwr sy'n rhwystro'r gwasanaeth rhag cael ei gyflawni ac a all fod angen cael ei gyfeirio.

Adwaith niweidiol**

Adwaith niweidiol yw adwaith 'annisgwyl' neu ganlyniad yn dilyn

gwasanaeth e.e. llewygu

Anatomeg a Ffisioleg

Sut mae'r systemau sgerbydol, cyhyrog, cylchredol, lymffatig, anadlol, ysgarthol, treuliadol, endocrinaidd a nerfol yn rhyngweithio gyda'i gilydd a sut maent yn effeithio ar yr unigolyn, gwasanaeth a chanlyniadau.

Gwrth weithred

Gwrth weithred yw adwaith neu ganlyniad 'disgwyliedig' yn dilyn gwasanaeth,

e.e. erythema

Ymarfer wedi ei seilio ar dystiolaeth

Mae ymarfer wedi ei seilio ar dystiolaeth yn seiliedig ar y dystiolaeth

orau gyfredol, ddilys a pherthnasol sydd ar gael

Cymorth Cyntaf

Gall cymorth cyntaf gyfeirio at gymwysterau cymorth cyntaf yn y gwaith neu ei gyffelyb neu ymwybyddiaeth o gymorth cyntaf iechyd meddyliol

Dosbarthiad cyrls y gwallt

Gellir cyfeirio at ddosbarthiad cyrls y gwallt fel Math 1 – 4

Torri pwynt

Mae torri pwynt yn fath o dechneg gweadu

Protocol

Protocol yw gweithdrefn safonol er mwyn sicrhau arfer gorau a

chydymffurfiad pan yn darparu gwasanaethau h.y. dilyn cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr

Gwrtharwydd cymharol

Gwrtharwydd cymharol yw cyflwr sy'n gofyn am asesiad o addasrwydd ar gyfer y gwasanaeth a/neu os oes angen addasiadau

Rasel steilio

Mae gan rasel steilio giardiau amlswyddogaethol dewisol wedi eu hatodi i'r llafn er mwyn creu gwead y gwallt ac effeithiau.

Gweadu

Techneg dorri sy'n creu symudiad ac sy'n rhoi'r ymddangosiad o faint mwy.

Teneuo

Techneg dorri all gael ei chyflawni â llaw rydd neu dfrwy defnyddio siswrn deneuo er mwyn lleihau maint y gwallt.


Dolenni I NOS Eraill

SKAHDBRBNST1, SKAHDBRBNS1, SKAHDBR1, SKAHD1, SKAHD2 SKAHDBR2, SKAHDBR3, SKAHDBR5, SKAHDBR6, SKAHDBR7, SKAHDBR8, SKAHDBR9, SKAHDBR10, SKAHDBR11, SKAHDBR12, SKAHDBR13, SKAHDBR14, SKAHDBR15, SKAHDB16, SKAHDB19, SKAHDB20, SKAHDB21, SKABR5




Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Maw 2024

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SkillsActive

URN gwreiddiol

SKACH9

Galwedigaethau Perthnasol

Trinwyr gwallt a Galwedigaethau Cysylltiedig

Cod SOC

6221

Geiriau Allweddol

torri creadigol, graddio, haenu, blaenfeinio, datgysylltu, pylu