Llacio’r gwallt yn barhaol
Trosolwg
Mae'r safon yma yn cydfodoli â, SKAHDBRBNST1 Gweithredu a chynnal arferion gwaith diogel, glanwaith ac effeithiol a SKAHDBRBNS1 Ymgynghori, asesu, cynllunio a pharatoi ar gyfer gwasanaethau Gwallt, Barbro, Harddwch, Ewinedd, Lles a Holistig. Mae'r safon yma'n ymwneud â rhywun proffesiynol o faes trin gwallt sy'n darparu gwasanaethau i lacio'r gwallt yn barhaol. Bydd gofyn i chi hefyd wneud gwerthusiad ar ôl y driniaeth ac adfyfyrio er mwyn gwelliant parhaus. Bydd rhaid i ddefnyddwyr y safon yma wneud yn siwr bod eu harferion yn adlewyrchu'r wybodaeth, y polisïau, y gweithdrefnau a'r cyfarwyddyd am yr arfer orau. Cynghorir defnyddwyr y safon yma i fod yn ymwybodol o, a chydymffurfio gyda gofynion cymorth cyntaf yn unol â deddfwriaeth a pholisïau a gweithdrefnau cyfundrefnol.
Y prif ddeilliannau yw:
- llacio gwallt nad yw wedi ei drin yn gemegol
- llacio gwallt sydd wedi ei drin yn gemegol
- llacio gwallt ar gyfer gwallt sydd wedi ei drin yn rhannol â chemegion
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Cwmpas/ystod
Dosbarthiad cyrls y gwallt
1. tonnog2. cyrliog3. cyrls tynn4. cyfuniad
Nodweddion y gwallt
1. dwysedd y gwallt2. gwëad y gwallt3. hydwythedd y gwallt4. mandylledd y gwallt5. patrymau tŵf y gwallt
Stad y gwallt
1. gwallt sydd heb ei drin yn gemegol2. gwallt sydd wedi ei drin yn rhannol â chemegion3. gwallt sydd wedi ei drin yn gemegol
Profion
1. hydwythedd2. mandylledd3. edefyn4. datblygiad5. prawf croen
Protocol gwasanaeth i lacio’r gwallt yn barhaol
1. amgylchedd waith2. iechyd a diogelwch3. atal a rheoli haint4. cynllun gwasanaeth5. cydsyniad gwybodus6. cyfarwyddiadau’r gwneuthurwr7. canlyniadau profion8. rheoli data9. archwilio ac atebolrwydd10. cyfarwyddiadau a chyngor11. cynaliadwyedd12. rheoli gwastraff13. ymarfer wedi’i seilio ar dystiolaeth14. ymarfer adfyfyriol
Cyfarwyddiadau
1. hawliau cyfreithiol a chyfrifoldebau yr unigolyn a’r ymarferydd2. cyfarwyddiadau a gofal cyn ac ar ôl y driniaeth3. cyfyngiadau a risgiau cysylltiedig4. triniaethau yn y dyfodol
Anatomeg a ffisioleg
1. strwythur a swyddogaeth systemau’r corff a’u cyd- ddibyniaeth ar ei gilydd2. strwythur a swyddogaeth y gwallt a thŵf y gwallt3. strwythur a swyddogaeth y croen4. gwrtharwyddion cymharol a llwyr a phatholegau cysylltiedig
Cynnyrch
1. gwarchodwr croen y pen2. llaciwr sodiwm3. llaciwr nad yw’n sodiwm4. triniaeth cyn llacio5. triniaeth ar ôl llacio6. siampŵ cydbwyso pH
Offer
1. cribau cynffon nad ydynt wedi eu gwneud o fetel2. cribau llydan nad ydynt wedi eu gwneud o fetel3. brwsiau arlliw4. ysbodolau5. dwylo (gyda chyfarpar amddiffyn personol)
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Gwrtharwydd llwyr
Mae gwrtharwydd llwyr yn gyflwr sy'n rhwystro'r gwasanaeth rhag cael ei gyflawni ac a all fod angen cael ei gyfeirio
Adwaith niweidiol
Adwaith niweidiol yw adwaith 'annisgwyl' neu ganlyniad yn dilyn
gwasanaeth e.e. llewygu
Anatomeg a ffisioleg
Y ffordd mae'r systemau sgerbydol, cylchredol, lymffatig, resbiradol, ysgarthol, treuliol, endocrinaidd a nerfol yn rhyngweithio gyda'i gilydd a sut mae nhw'n effeithio ar yr unigolyn, y gwasanaeth a'r canlyniadau.
Gwallt wedi'i drin yn gemegol
Gwallt wedi'i drin yn gemegol yw lle mae pen llawn o wallt wedi ei drin o'r blaen gyda chemegolyn, h.y. llaciwr, lliw, goleuwr neu byrm
Gwrth weithred
Gwrthweithred yw adwaith neu ganlyniad 'disgwyliedig' yn dilyn gwasanaeth,
e.e. erythema
Prawf Datblygiad
Prawf Datblygiad yw cael gwared o gynnyrch y ystod y gwasnaeth i wirio a chadarnhau'r amser datblygiad.
Ymarfer wedi ei seilio ar dystiolaeth
Mae ymarfer wedi ei seilio ar dystiolaeth yn seiliedig ar y dystiolaeth orau gyfredol, ddilys a pherthnasol sydd ar gael
Cymorth Cyntaf
Gall cymorth cyntaf gyfeirio at gymwysterau cymorth cyntaf yn y gwaith neu ei gyffelyb neu ymwybyddiaeth o gymorth cyntaf iechyd meddyliol.
Dosbarthiad cyrls y gwallt
Gellir cyfeirio at ddosbarthiad cyrls y gwallt fel Math 1 – 4
Gwallt wedi'i drin yn rhannol â chemegion
Gellir cyfeirio at wallt sydd wedi'i drin yn rhannol â chemegion fel ad-dyfiant neu lle mae rhannau o'r gwallt wedi eu trin â chemegolyn a rhannau eraill heb fod wedi eu trin yn y fath fodd.
Protocol
Protocol yw gweithdrefn safonol er mwyn sicrhau arfer gorau a
chydymffurfiad pan yn darparu gwasanaethau h.y. dilyn cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr.
Gwrtharwydd cymharol
Gwrtharwydd cymharol yw cyflwr sy'n gofyn am asesiad o addasrwydd ar gyfer y gwasanaeth a/neu os oes angen addasiadau.
*
Dolenni I NOS Eraill
SKAHDBRBNST1, SKAHDBRBNS1, SKAHDBR1, SKAHD1, SKAHD2 SKAHDBR2, SKAHDBR3, SKAHDBR4, SKAHDBR5,
SKAHDBR6, SKAHDBR7, SKAHDBR8, SKAHDBR9, SKAHDBR10, SKAHDBR11, SKAHDBR12, SKAHDBR14, SKAHDBR15,
SKAHDB16, SKAHDB19, SKAHDB20, SKAHDB21, SKABR5