Darparu triniaethau i lyfnhau’r gwallt

URN: SKAHDBR12
Sectorau Busnes (Suites): Trin gwallt a barbro
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 30 Maw 2021

Trosolwg

​Mae'r safon yma yn cydfodoli â, SKAHDBRBNST1 Gweithredu a chynnal arferion gwaith diogel, glanwaith ac effeithiol a SKAHDBRBNS1 Ymgynghori, asesu, cynllunio a pharatoi ar gyfer gwasanaethau Gwallt, Barbro, Harddwch, Ewinedd, Lles a Holistig*.* Mae'r safon yma'n ymwneud â rhywun proffesiynol o faes trin gwallt sy'n darparu  triniaethau i lyfnhau'r gwallt. Bydd gofyn i chi hefyd wneud gwerthusiad ar ôl y driniaeth ac adfyfyrio er mwyn gwelliant parhaus. Bydd rhaid i ddefnyddwyr y safon yma wneud yn siwr bod eu harferion yn adlewyrchu'r wybodaeth, y polisïau, y gweithdrefnau a'r cyfarwyddyd am yr arfer orau. Cynghorir defnyddwyr y safon yma i fod yn ymwybodol o, a chydymffurfio gyda gofynion cymorth cyntaf yn unol â deddfwriaeth a pholisïau a gweithdrefnau cyfundrefnol.

Y prif ddeilliannau yw:

  1. cyflawni triniaeth llyfnhau'r gwallt ar gyfer gwallt nad yw wedi ei drin yn gemegol
  2. cyflawni triniaeth llyfnhau'r gwallt ar gyfer gwallt sydd wedi ei drin yn gemegol
  3. cyflawni triniaeth llyfnhau'r gwallt ar gyfer gwallt sydd wedi ei drin yn rhannol â chemegion

Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:


1. cynnal ymgynghoriad cryno a chynhwysfawr gyda'r unigolyn
2. cadw at eich cyfrifoldebau am iechyd a diogelwch yn unol â deddfwriaeth, rheoliadau, cyfarwyddebau a chanllawiau
3. trafod a darganfod amcanion yr unigolyn a’r canlyniadau a ddymunir, er mwyn cael y wybodaeth ar gyfer y cynllun gwasanaeth llyfnhau’r gwallt, i gynnwys: 
3.1 hanes triniaethau
3.2 dewisiadau triniaeth amgen
4. gwneud dadansoddiad o’r gwallt a chroen y pen, i gynnwys: 
4.1 dosbarthiad cyrls y gwallt
4.2 nodweddion y gwallt *
4.3 *stad y gwallt
4.4 cyflwr croen y pen
4.5 maint yr ad-dyfiant ar wallt sydd wedi ei drin yn rhannol â chemegion 
4.6 faint o lyfnhau gellir ei gyflawni 
4.7 canran o wallt gwyn
5. gwneud profion er mwyn penderfynu addasrwydd ar gyfer y driniaeth i lyfnhau’r gwallt, i gynnwys:
5.1 cofnodi’r canlyniad a’i gadw yn unol â deddfwriaeth data 
6. cadarnhau a chytuno gyda’r unigolyn, ei fod wedi deall y gwasanaeth arfaethedig i lyfnhau’r gwallt, i gynnwys:
6.1 gwrth weithredoedd
6.2 adweithiau niweidiol
7. sicrhau cydsyniad gwybodus yr unigolyn ar gyfer y gwasanaeth i lyfnhau’r gwallt
8. paratoi’r unigolyn a siampwio’r gwallt a chroen y pen gyda siampŵ heb sylffad ynddo yn unol â’r protocol triniaeth i lyfnhau’r gwallt *
9. cribo a rhannu’r gwallt yn unol â’r protocol triniaeth i lyfnhau’r gwallt 
10. chwyth sychu’r gwallt yn unol â chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr 
11. cribo’r gwallt mewn rhannau yn unol â’r protocol triniaeth i lyfnhau’r gwallt 
12. dodi’r cynnyrch i lyfnhau’r gwallt mewn modd gwastad yn unol â’r protocol triniaeth i lyfnhau’r gwallt 
13. chwythsychu’r gwallt yng nghyfeiriad tŵf y gwallt yn unol â chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr 
 14. arllwys y cynnyrch i mewn i’r gwallt drwy wresogiad yn unol â chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr  
15. cwblhau’r driniaeth yn unol â’r protocol triniaeth i lyfnhau’r gwallt 
16. cadarnhau gyda’r unigolyn ei fod yn fodlon gyda’r canlyniad terfynol 
17. monitro iechyd a lles yr unigolyn drwy gydol y driniaeth i lyfnhau’r gwallt 
18. gweithredu yn y modd cywir os bydd adwaith niweidiol
19. cwblhau cofnodion triniaeth yr unigolyn a’u cadw yn unol â deddfwriaeth data
20. defnyddio ymarfer adfyfyriol i werthuso’r driniaeth a chymryd camau priodol 
21. rhoi *cyfarwyddiadau a chyngor i’r unigolyn, cyn ac ar ôl y driniaeth
22. cofnodi canlyniad y driniaeth i lyfnhau’r gwallt a’r gwerthusiad ohoni 


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:


1. eich swyddogaeth a’ch cyfrifoldebau o ran darparu gwasanaethau llyfnhau’r gwallt a phwysigrwydd gweithio o fewn eich gallu
2. pam ei bod yn rhaid i chi gydymffurfio gydag arfer moesegol a gweithio o fewn gofynion deddfwriaethol, i gynnwys:
2.1 y cyfrifoldebau drosoch chi eich hun a’ch adeiladau o dan reoliadau trwyddedu yr awdurdod lleol
3. pwysigrwydd ymwneud â, a dogfennu datblygiad proffesiynol parhaus, i gynnwys, polisïau gwybodaeth wedi eu diweddaru, gweithdrefnau a chanllawiau ar gyfer arfer gorau 
4. yr anatomeg a’r ffisioleg sy’n berthnasol i’r safon yma 
5. y gwrtharwyddion cymharol a llwyr sy’n berthnasol i’r gwasanaeth gwallt, i gynnwys:
5.1 y gofynion deddfwriaethol ac yswiriant ar gyfer cael diagnosis meddygol a chyfeirio
6. pwysigrwydd adnabod nodweddion afreolaidd ar y croen a niwed i groen y pen, a’u cyfeirio at weithiwr proffesiynol perthnasol ym maes gofal iechyd 
7. y mathau o gynnyrch a ddefnyddir ar gyfer llyfnhau’r gwallt a’u cyfyngiadau a’r addasiadau sydd eu hangen, mewn perthynas â’r canlynol:
7.1 dosbarthiad cyrls y gwallt
7.2 cyflwr y gwallt
7.3 stad y gwallt
7.4 cyflwr croen y pen
7.5 hyd ad-dyfiant ar wallt cyfnewid
7.6 canran o wallt gwyn
7.7 hanes triniaethau/ cemegion sydd wedi cronni
8. y mathau o gynnyrch llyfnhau sy’n gysylltiedig â gwenwyndra a’r risgiau cysylltiedig 
9. pwysigrwydd cadw at gyfarwyddiadau’r gwneuthurwr er mwyn rhwystro anghydnawsedd o ran cynnyrch a risgiau i iechyd 
10. pwysigrwydd gwneud dadansoddiad o’r gwallt a chroen y pen a sut mae’n effeithio ar y dewis o gynnyrch a ddefnyddir 
11. pwysigrwydd gwneud profion a sut y gall canlyniadau profion effeithio ar y driniaeth i lyfnhau’r gwallt 
12. sut i adnabod gwallt wedi’i orbrosesu, y risgiau cysylltiedig a’r camau i’w cymryd 
13. sut i adnabod trichorrhexis nodosa, y risgiau cysylltiedig a pha gamau i’w cymryd 
 14. yr offer a ddefnyddir ar gyfer triniaethau i lyfnhau’r gwallt
15. sut i addasu technegau i lyfnhau’r gwallt ar gyfer pob dosbarthiad o gyrls y gwallt a’u nodweddion 
16. effeithiau ffisiolegol cynnyrch llyfnhau’r gwallt ar strwythur y gwallt, i gynnwys:
16.1 addasiadau sydd eu hangen ar gyfer gwallt gwyn 
17. pwysigrwydd defnyddio siampŵ paratoi ar y gwallt a chroen y pen cyn y driniaeth i lyfnhau’r gwallt i gynnwys:
17.1 effeithiau ffisiolegol strwythur y gwallt
18. y risgiau sy’n gysylltiedig â llyfnhau gwallt wedi ei drin yn gemegol 
19. y rheswm pam dylai unigolyn osgoi golchi ei wallt am gyfnod o amser yn unol â chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr, i gynnwys:
19.1 pam dylid defnyddio siampŵ heb sylffad ynddo
20. sut i ddodi cynnyrch llyfnhau i’r gwallt yn unol â chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr 
21. pwysigrwydd dilyn cyfarwyddiadau’r gwneuthurwr ar gyfer cynnyrch a ddefnyddir mewn triniaethau i lyfnhau’r gwallt, i gynnwys:
21.1 faint o amser i ddisgwyl cyn golchi’r gwallt
22. sut caiff cyfarpar ei ddefnyddio i ddodi gwres er mwyn arllwyso cynnyrch i lyfnhau’r gwallt i mewn i’r gwallt 
23. pam dylech gribo a rhannu’r gwallt cyn y driniaeth llyfnhau
24. sut i gyflawni triniaeth i lyfnhau’r gwallt
25. yr amseroedd triniaeth yn unol â pholisïau a gweithdrefnau cyfundrefnol
26. y rhesymau pam y gall bod angen i chi fynd i’r afael â phroblemau all godi yn aml pan yn llyfnhau’r gwallt, i gynnwys:
26.1 ffyrdd y gellir eu cywiro
27. pwysigrwydd ymgynghori gyda’r unigolyn drwy gydol y broses o lyfnhau’r gwallt
28. yr adweithiau niweidiol a gysylltir â thriniaethau llyfnhau a sut i ymateb iddynt
29. y cyfrifoldebau iechyd a diogelwch yn unol â deddfwriaeth cyn, yn ystod ac ar ôl y driniaeth
30. y gofynion cyfreithiol ar gyfer darparu gwasanaethau i’r gwallt i blant dan oed ac oedolion bregus
 31. pam ei bod hi’n bwysig trafod gyda a sefydlu amcanion yr unigolyn, ei bryderon, ei ddisgwyliadau a’r canlyniadau y mae’n eu dymuno a chytuno ar y cynllun triniaeth i lyfnhau’r gwallt  
32. y strwythurau taliadau a’r dewisiadau ar gyfer triniaeth
33. y gofynion deddfwriaethol a digollediad ynglŷn â sicrhau cydsyniad gwybodus ar gyfer y gwasanaeth
34. y rhesymau dros gymryd delweddau gweledol gyda chydsyniad o fan triniaeth yr unigolyn, a'u cadw yn unol â gofynion y gwasanaeth, deddfwriaethol, yswiriant a chyfundrefnol
35. pwysigrwydd cadw at y protocol triniaeth i lyfnhau’r gwallt 
36. pwysigrwydd monitro iechyd a lles yr unigolyn yn ystod ac ar ôl y driniaeth
37. canlyniadau disgwyliedig triniaethau i lyfnhau’r gwallt 
38. diben ymarfer adfyfyriol a gwerthuso a’r modd y mae’n darparu gwybodaeth ar gyfer triniaethau yn y dyfodol 
39. y cyfarwyddiadau a’r cyngor, cyn ac ar ôl y driniaeth i lyfnhau’r gwallt  


Cwmpas/ystod

Dosbarthiad cyrls y gwallt
*
1. syth
2. tonnog
3. cyrliog
4. cyrls tynn
5. cyfuniad

Nodweddion y gwallt

1. dwysedd y gwallt
2. gwëad y gwallt
3. hydwythedd y gwallt
4. mandylledd y gwallt
5. patrymau tŵf y gwallt

Stad y gwallt*

1. gwallt sydd heb ei drin yn gemegol
2. gwallt sydd wedi ei drin yn rhannol â chemegion
3. gwallt sydd wedi ei drin yn gemegol

Profion

1. hydwythedd
2. mandylledd
3. edefyn
4. prawf croen

Protocol triniaeth i lyfnhau’r gwallt

1. amgylchedd waith
2. iechyd a diogelwch
3. atal a rheoli haint
4. cynllun gwasanaeth
5. cydsyniad gwybodus
6. cyfarwyddiadau’r gwneuthurwr
7. canlyniadau profion
8. rheoli data
9. archwilio ac atebolrwydd
10. cyfarwyddiadau a chyngor
11. cynaliadwyedd
 12. rheoli gwastraff
13. ymarfer wedi’i seilio ar dystiolaeth
14. ymarfer adfyfyriol

Cyfarwyddiadau

1. hawliau cyfreithiol a chyfrifoldebau yr unigolyn a’r ymarferydd
2. cyfarwyddiadau a gofal cyn ac ar ôl y driniaeth
3. cyfyngiadau a risgiau cysylltiedig
4. triniaethau yn y dyfodol

Anatomeg a ffisioleg
*
1. strwythur a swyddogaeth systemau’r corff a’u cyd- ddibyniaeth ar ei gilydd
2. strwythur a swyddogaeth y gwallt a thŵf y gwallt
3. strwythur a swyddogaeth y croen
4. gwrtharwyddion cymharol a llwyr a phatholegau cysylltiedig

Cynnyrch

1. siampŵ paratoi
2. cynnyrch llyfnhau
3. siampŵ heb sylffad ynddo
4. cynnyrch datglymu

Offer*

1. cribau cynffon
2. cribau llydan
3. dwylo (gyda chyfarpar amddiffyn personol)
4. brws esgyll/gwastad
5. offeryn dodi

Cyfarpar

1. peiriant sychu gwallt
2. sythwyr a reolir gan dymheredd



Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Gwrtharwydd llwyr

Mae gwrtharwydd llwyr yn gyflwr sy'n rhwystro'r gwasanaeth rhag cael ei gyflawni ac a all fod angen cael ei gyfeirio

Adwaith niweidiol

**Adwaith niweidiol yw adwaith 'annisgwyl' neu ganlyniad yn dilyn

gwasanaeth e.e. llewygu

Anatomeg a ffisioleg

Y ffordd mae'r systemau sgerbydol, cyhyrol, cylchredol, lymffatig, resbiradol, ysgarthol, treuliol, endocrinaidd a nerfol yn rhyngweithio gyda'i gilydd a sut mae nhw'n effeithio ar yr unigolyn, y gwasanaeth a'r canlyniadau

Gwrth weithred

Gwrthweithred yw adwaith neu ganlyniad 'disgwyliedig' yn dilyn gwasanaeth,

e.e. erythema

Ymarfer wedi ei seilio ar dystiolaeth

Mae ymarfer wedi ei seilio ar dystiolaeth yn seiliedig ar y dystiolaeth

orau gyfredol, ddilys a pherthnasol sydd ar gael.

Cymorth Cyntaf

**Gall cymorth cyntaf gyfeirio at gymwysterau cymorth cyntaf yn y gwaith neu ei gyffelyb neu ymwybyddiaeth o gymorth cyntaf iechyd meddyliol.

Dosbarthiad cyrls y gwallt

Gellir cyfeirio at ddosbarthiad cyrls y gwallt fel Math 1 – 4.

Protocol

Protocol yw gweithdrefn safonol er mwyn sicrhau arfer gorau a

chydymffurfiad pan yn darparu gwasanaethau h.y. dilyn cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr.

Gwrtharwydd cymharol

Gwrtharwydd cymharol yw cyflwr sy'n gofyn am asesiad o addasrwydd ar gyfer y gwasanaeth a/neu os oes angen addasiadau.

Gwenwyndra

Penderfynir gwenwyndra gan adwaith rhywun i wahanol ddognau  gemegolyn. Gall gwenwyndra neu adweithiau niweidiol ddigwydd o ganlyniad i anghynawsedd gyda chymysgedd anghywir o gemegolion.


Dolenni I NOS Eraill

SKAHDBRBNST1, SKAHDBRBNS1, SKAHDBR1, SKAHD1, SKAHD2
SKAHDBR2, SKAHDBR3, SKAHDBR4, SKAHDBR5,
SKAHDBR6, SKAHDBR7, SKAHDBR8, SKAHDBR9, SKAHDBR10,
SKAHDBR11, SKAHDBR13, SKAHDBR14, SKAHDBR15,
SKAHDBR12,SKAHDB16, SKAHDB19, SKAHDB20, SKAHDB21, SKABR5




Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Maw 2024

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SkillsActive

URN gwreiddiol

ddim yn berthnasol

Galwedigaethau Perthnasol

Trinwyr gwallt a Galwedigaethau Cysylltiedig

Cod SOC

6221

Geiriau Allweddol

Chwyth sychiadau Ceratin, systemau llyfnhau’r gwallt, systemau cryfhau ceratin, triniaethau cyflyru