Darparu technegau pyrmio uwch

URN: SKAHDBR11
Sectorau Busnes (Suites): Trin gwallt a barbro
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 30 Maw 2021

Trosolwg

​Mae'r safon yma yn cydfodoli â, SKAHDBRBNST1 Gweithredu a chynnal arferion gwaith diogel, glanwaith ac effeithiol a SKAHDBRBNS1 Ymgynghori, asesu, cynllunio a pharatoi ar gyfer gwasanaethau Gwallt, Barbro, Harddwch, Ewinedd, Lles a Holistig. Mae'r safon yma'n ymwneud â rhywun proffesiynol o faes trin gwallt sy'n darparu technegau pyrmio uwch er mwyn creu amrywiaeth o effeithiau pyrmio. Bydd gofyn i chi hefyd wneud gwerthusiad ar ôl y driniaeth ac adfyfyrio er mwyn gwelliant parhaus. Bydd rhaid i ddefnyddwyr y safon yma wneud yn siwr bod eu harferion yn adlewyrchu'r wybodaeth, y polisïau, y gweithdrefnau a'r cyfarwyddyd am yr arfer orau. Cynghorir defnyddwyr y safon yma i fod yn ymwybodol o, a chydymffurfio gyda gofynion cymorth cyntaf yn unol â deddfwriaeth a pholisïau a gweithdrefnau cyfundrefnol.

Y prif ddeilliannau yw:

  1. creu amrywiaeth o effeithiau pyrmio

Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:


1. cynnal ymgynghoriad cryno a chynhwysfawr gyda'r unigolyn
2. cadw at eich cyfrifoldebau am iechyd a diogelwch yn unol â deddfwriaeth, rheoliadau, cyfarwyddebau a chanllawiau
3. trafod a darganfod amcanion yr unigolyn a’r canlyniadau a ddymunir, er mwyn cael y wybodaeth ar gyfer y cynllun gwasanaeth pyrmio, i gynnwys:
3.1 siap anatomegol y pen, yr wyneb a siap y corf
3.2 hanes triniaethau
3.3 dewisiadau triniaeth amgen
4. gwneud dadansoddiad o’r gwallt a chroen y pen, i gynnwys:
4.1 dosbarthiad cyrls y gwallt
4.2 nodweddion y gwallt *
4.3 *stad y gwallt
4.4 cyflwr croen y pen
4.5 canran o wallt gwyn
4.6 hyd y gwallt
4.7 cyfeiriad y cyrl sydd ei angen
4.8 faint o gyrl gellir ei gael
5. gwneud profion er mwyn penderfynu addasrwydd ar gyfer y gwasanaeth pyrmio, i gynnwys:
5.1 penderfynu os oes angen triniaeth cyn pyrmio er mwyn llyfnhau’r mandylledd cyn y gwasanaeth pyrmio
5.2 penderfynu os oes angen ad-drefnydd cemegol er mwyn meddalu gwallt cyrliog iawn ymlawn llaw cyn y gwasanaeth pyrmio
5.3 cofnodi’r canlyniad a’i gadw yn unol â deddfwriaeth data
6. edrych ar amrywiaeth o effeithiau pyrmio y gellir eu cyflawni gyda’r unigolyn gan ddefnyddio cymhorthion gweledol perthnasol, er mwyn darparu gwybodaeth ar gyfer:
6.1 y technegau rhannu a chordeddu 
6.2 y cynnyrch i’w defnyddio
7. cadarnhau a chytuno gyda’r unigolyn, ei fod wedi deall y gwasanaeth pyrmio arfaethedig, i gynnwys:
7.1 gwrth weithredoedd
7.2 adweithiau niweidiol
8. sicrhau cydsyniad gwybodus yr unigolyn ar gyfer y gwasanaeth pyrmio 
9. paratoi’r unigolyn a’r gwallt yn unol â’r protocol gwasanaeth pyrmio *
Triniaeth cyn pyrmio
10. cribo a rhannu’r gwallt er mwyn paratoi ar gyfer a driniaeth cyn pyrmio
11. rhoi’r driniaeth cyn pyrmio ar waith yn unol â’r protocol gwasanaeth pyrmio
Gwasanaeth pyrmio
12. cribo a rhannu’r gwallt yn unol â’r protocol gwasanaeth pyrmio uwch
13. dewis maint y gwialenni pyrmio a phapurau terfyn a’u dodi nhw gan ddefnyddio *technegau rhannu ac ymgordeddu yn unol â’r protocol gwasanaeth pyrmio uwch
14. gwarchod gwallt a chroen pen yr unigolyn yn unol â’r protocol gwasanaeth pyrmio uwch
15. rhoi digon o doddiant pyrmio ar bob gwialen byrmio a monitro’r amser datblygu yn unol â chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr, i gynnwys:
15.1 addasu dulliau o weithio a defnyddio cynnyrch i gwrdd ag anghenion unigolyn sydd â gwallt wedi’i drin yn gemegol
16. gwarchod y gwallt gyda gorchudd a ddefnyddir unwaith yn unol â’r protocol gwasanaeth pyrmio
17. gwneud profion cyrlio rheolaidd er mwyn ailddatgan yr amser datblygiad 
18. tynnu’r toddiant pyrmio allan o’r gwallt yn unol â chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr
20. gwarchod gwallt a chroen pen yr unigolyn yn unol â’r protocol gwasanaeth pyrmio uwch
21. paratoi cynnyrch niwtraleiddio yn unol â chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr
22. trwytho pob gwialen pyrmio â thoddiant niwtraleiddio a monitro amser datblygiad yn unol â chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr 
23. cael gwared o’r gwialenni mewn modd diogel er mwyn osgoi difrod i’r gwallt a chroen y pen 
24. cael gwared o’r toddiant niwtraleiddio o’r gwallt a chroen y pen yn unol â chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr 
26. dodi cyflyrwr gwrth-ocsidiol i’r gwallt a chroen y pen er mwyn adfer y cydbwysedd pH a rhwystro’r toddiant niwtraleiddio rhag cael ei ocsideiddio 
27. cael gwared o ddŵr gormodol o’r gwallt a chroen y pen gan ddefnyddio tywel 
28. dodi triniaeth ar ôl pyrmio er mwyn adfer pH y gwallt 
29. cwblhau’r gwasanaeth yn unol â’r protocol gwasanaeth pyrmio uwch, i gynnwys:
 29.1 defnyddio technegau gorffen creadigol er mwyn cyflawni’r effaith a ddymunir ar y pyrm
29.2 sicrhau bod yr effaith orffenedig ar y pyrm wrth fodd yr unigolyn ac yn gwella delwedd y salon 
30. cadarnhau gyda’r unigolyn ei fod yn fodlon gyda’r canlyniad terfynol 
31. monitro iechyd a lles yr unigolyn drwy gydol y gwasanaeth pyrmio
32. gweithredu yn y modd cywir os bydd adwaith niweidiol
33. cwblhau cofnodion gwasanaeth yr unigolyn a’u cadw yn unol â deddfwriaeth data
34. defnyddio ymarfer adfyfyriol i werthuso’r gwasanaeth a chymryd camau priodol
35. rhoi cyfarwyddiadau a chyngor i’r unigolyn, cyn ac ar ôl y gwasanaeth gwallt
36. cofnodi canlyniad y gwasanaeth pyrmio a’r gwerthusiad ohono 


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:


eich swyddogaeth a’ch cyfrifoldebau o ran darparu gwasanaethau pyrmio a phwysigrwydd gweithio o fewn eich gallu
2. pam ei bod yn rhaid i chi gydymffurfio gydag arfer moesegol a gweithio o fewn gofynion deddfwriaethol, i gynnwys:
2.1 y cyfrifoldebau drosoch chi eich hun a’ch adeiladau o dan reoliadau trwyddedu yr awdurdod lleol
3. pwysigrwydd ymwneud â, a dogfennu datblygiad proffesiynol parhaus, i gynnwys, polisïau gwybodaeth wedi eu diweddaru, gweithdrefnau a chanllawiau ar gyfer arfer gorau 
4. yr anatomeg a’r ffisioleg sy’n berthnasol i’r safon yma
5. y gwrtharwyddion cymharol a llwyr sy’n berthnasol i’r gwasanaeth gwallt, i gynnwys:
5.1 y gofynion deddfwriaethol ac yswiriant ar gyfer cael diagnosis meddygol a chyfeirio
6. niwed i groen y pen, a’u cyfeirio at weithiwr proffesiynol perthnasol ym maes gofal iechyd 
7. y mathau o doddiannau pyrmio a ddefnyddir ar gyfer cyrlio’r gwallt  a’u cryfderau a’r addasiadau sydd eu hangen, mewn perthynas â’r canlynol:
7.1 dosbarthiad cyrls y gwallt
7.2 cyflwr y gwallt
7.3 stad y gwallt
7.4 cyflwr croen y pen
7. gwallt gwrthsafol
7.6 gwallt wedi ei drin yn gemegol
8. cyfansoddiad cemegol a pH cynnyrch pyrmio a niwtraleiddio 
9. yr effeithiau ffisiolegol caiff toddiannau pyrmio a niwtraleiddwyr ar strwythur y gwallt 
10. effeithiau alcalin ac asid at lasgroen y gwallt
11. pwysigrwydd cadw at gyfarwyddiadau’r gwneuthurwr er mwyn rhwystro anghydnawsedd cynnyrch a pheryglon i iechyd
12. sut gall tymheredd y dŵr a ddefnyddir tra’n cael gwared o doddiant pyrmio benderfynu lefel y cyrl a gaiff ei sicrhau
13. pwysigrwydd defnyddio triniaeth cyn pyrmio er mwyn llyfnhau mandylledd y gwallt cyn gwasanaeth pyrmio
 14. pwysigrwydd adfer y cydbwysedd pH ar ôl y prosesau pyrmio a niwtraleiddio
15. pwysigrwydd triniaethau wedi pyrmio i ail gydbwyso gwerth pH y gwallt a’r defnydd ohonynt
16. pam dylid gwneud y pyrmio a’r niwtraleiddio mewn dilyniant arbennig
17. effeithiau niweidiol methu ag adfer gwerth pH y gwallt
18. pwysigrwydd gwneud dadansoddiad o’r gwallt a chroen y pen a sut mae hyn yn effeithio ar y dewis o gynnyrch a thechnegau rhannu ac ymgordeddu i’w defnyddio
19. sut i addasu technegau pyrmio gwallt ar gyfer pob dosbarthiad o’r cyrls
20. sut gall patrymau tŵf y gwallt benderfynu’r technegau rhannu ac ymgordeddu
21. pwysigrwydd gwneud profion a sut gall canlyniadau profion effeithio ar y gwasanaeth pyrmio
22. pam a phryd caiff prawf cyrlio ei wneud
23. sut i adnabod gwallt wedi’i orbrosesu, y risgiau cysylltiedig a’r camau i’w cymryd
24. sut i adnabod trichorrhexis nodosa, y risgiau cysylltiedig a pha gamau i’w cymryd
25. yr offer a’r cyfarpar a ddefnyddir ar gyfer gwasanaethau pyrmio i bob dosbarthiad o gyrls y gwallt, stad o wallt a chyflyrau
26. y mathau o dechnegau rhannu a chordeddu a ddefnyddir i greu effeithiau pyrmio sydd wedi eu personoleiddio a chreadigol
27. pwysigrwydd defnyddio siampŵ gwrth ocsidiol ar y gwallt er mwyn niwtraleiddio’r cynhwysyn gweithgar mewn cynnyrch pyrmio, i gynnwys: 
27.1 effeithiau ffisiolegol niwtraleiddiad ar strwythur y gwallt
28. y risgiau sy’n gysylltiedig â phyrmio a niwtraleiddio’r gwallt 
29. pwysigrwydd gwarchod croen a chroen pen yr unigolyn rhag cynnyrch pyrmio a niwtraleiddio
30. pwysigrwydd cadw at gyfarwyddiadau’r gwneuthurwr ar gyfer defnydd diogel ac amseroedd datblygu ar gyfer cynnyrch pyrmio a niwtraleiddio, i gynnwys:
30.1 pwysigrwydd egluro’r teimlad ar groen y pen 
31. pam y dylech gribo a rhannu’r gwallt cyn y pyrmio 
32. sut i gyflawni gwasanaeth pyrmio, i gynnwys:
32.1 sut i ddodi cynnyrch pyrmio i’r gwallt mewn modd diogel er mwyn osgoi gwneud y gwallt a chroen y pen yn agored i gemegau 
33. yr amseroedd gwasanaeth yn unol â pholisïau a gweithdrefnau cyfundrefnol
34. y rhesymau pam y gall bod angen i chi fynd i’r afael â phroblemau all godi yn aml pan yn pyrmio gwallt, i gynnwys:
34.1 ffyrdd y gellir eu cywiro
35. pwysigrwydd ymgynghori gyda’r unigolyn drwy gydol y broses byrmio
36. yr adweithiau niweidiol a gysylltir â gwasanaeth pyrmio a sut i ymateb iddynt
37. y cyfrifoldebau iechyd a diogelwch yn unol â deddfwriaeth cyn, yn ystod ac ar ôl y gwasanaeth
38. y gofynion cyfreithiol ar gyfer darparu gwasanaethau i’r gwallt i blant dan oed ac oedolion bregus
39. pam ei bod hi’n bwysig trafod gyda a sefydlu amcanion yr unigolyn, ei bryderon, ei disgwyliadau a’r canlyniadau y mae’n eu dymuno a chytuno ar y cynllun gwasanaeth pyrmio
40. y strwythurau taliadau a’r dewisiadau ar gyfer gwasanaeth
41. y gofynion deddfwriaethol a digollediad ynglŷn â sicrhau cydsyniad gwybodus ar gyfer y gwasanaeth
42. y rhesymau dros gymryd delweddau gweledol gyda chydsyniad o fan triniaeth yr unigolyn, a'u cadw yn unol â gofynion y gwasanaeth, deddfwriaethol, yswiriant a chyfundrefnol 
43. pwysigrwydd cadw at y protocol gwasanaeth pyrmio uwch 
44. pwysigrwydd monitro iechyd a lles yr unigolyn yn ystod ac ar ôl y gwasanaeth
45. canlyniadau disgwyliedig gwasanaethau pyrmio
46. diben ymarfer adfyfyriol a gwerthuso a’r modd y mae’n darparu gwybodaeth ar gyfer gwasanaethau yn y dyfodol
47. pwysigrwydd cofnodi canlyniad a gwasanaeth pyrmio a’r gwerthusiad ohono
48. y cyfarwyddiadau a’r cyngor, cyn ac ar ôl y gwasanaeth pyrmio 


Cwmpas/ystod

Dosbarthiad cyrls y gwallt

1. syth
2. tonnog
3. cyrliog
4. cyrls tynn
5. cyfuniad

Nodweddion y gwallt

1. dwysedd y gwallt
2. gwëad y gwallt
3. hydwythedd y gwallt
4. mandylledd y gwallt
5. patrymau tŵf y gwallt

Stad y gwallt

1. gwallt sydd heb ei drin yn gemegol
2. gwallt sydd wedi ei drin yn rhannol â chemegion
3. gwallt sydd wedi ei drin yn gemegol

Profion

1. hydwythedd
2. mandylledd
3. anghydnawsedd
4. prawf gyrl cyn pyrm
5. prawf cyrl
6. prawf croen

Effeithiau pyrmio

1. wedi eu codi o’r gwraidd
2. tonnog
3. troellog
4. cyrl wedi’i wëadu

Cynnyrch

1. hufen rhwystro
2. triniaeth cyn pyrmio
3. ad-drefnydd cemegol
4. toddiant pyrmio
5. toddiant niwtraleiddio
6. triniaeth ar ôl pyrmio

Protocol gwasanaeth pyrmio uwch

1. amgylchedd waith
2. iechyd a diogelwch
3. atal a rheoli haint
4. cynllun gwasanaeth
5. cydsyniad gwybodus
6. cyfarwyddiadau’r gwneuthurwr
7. canlyniadau profion
8. rheoli data
9. archwilio ac atebolrwydd
10. cyfarwyddiadau a chyngor
11. cynaliadwyedd
12. rheoli gwastraff
13. ymarfer wedi’i seilio ar dystiolaeth
14. ymarfer adfyfyriol

Technegau rhannu a chordeddu

1. ardyfol
2. troell
3. gwëad
4. gwraidd
5. esgil 
6. cordeddiad dwbl

Cyfarwyddiadau

1. hawliau cyfreithiol a chyfrifoldebau yr unigolyn a’r ymarferydd
2. cyfarwyddiadau a gofal cyn ac ar ôl y driniaeth
3. cyfyngiadau a risgiau cysylltiedig
4. triniaethau yn y dyfodol

*

Anatomeg a ffisioleg

1. strwythur a swyddogaeth systemau’r corff a’u cyd- ddibyniaeth ar ei gilydd
2. strwythur a swyddogaeth y gwallt a thŵf y gwallt
3. strwythur a swyddogaeth y croen
4. gwrtharwyddion cymharol a llwyr a phatholegau cysylltiedig

Patrymau tŵf y gwallt*

1. llyfiad buwch
2. troell
3. coron ddwbl
4. pigyn gweddw
5. cynffon hwyaden


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Gwrtharwydd llwyr

Mae gwrtharwydd llwyr yn gyflwr sy'n rhwystro'r gwasanaeth rhag cael ei gyflawni ac a all fod angen cael ei gyfeirio

Adwaith niweidol

**Adwaith niweidiol yw adwaith 'annisgwyl' neu ganlyniad yn dilyn

gwasanaeth e.e. llewygu

Anatomeg a ffisioleg

Y ffordd mae'r systemau sgerbydol, cyhyrol, cylchredol, lymffatig, resbiradol, ysgarthol, arogleuol*,* **ymylol, treuliol, endocrinaidd a nerfol yn rhyngweithio gyda'i gilydd a sut mae nhw'n effeithio ar yr unigolyn, y gwasanaeth a'r canlyniadau

Gwrth weithred

Gwrthweithred yw adwaith neu ganlyniad 'disgwyliedig' yn dilyn gwasanaeth,

e.e. erythema

Ymarfer wedi ei seilio ar dystiolaeth

Mae ymarfer wedi ei seilio ar dystiolaeth yn seiliedig ar y dystiolaeth

orau gyfredol, ddilys a pherthnasol sydd ar gael.

Cymorth Cyntaf

Gall cymorth cyntaf gyfeirio at gymwysterau cymorth cyntaf yn y gwaith neu ei gyffelyb neu ymwybyddiaeth o gymorth cyntaf iechyd meddyliol

Dosbarthiad cyrls y gwallt

Gellir cyfeirio at ddosbarthiad cyrls y gwallt fel Math 1 – 4.

Protocol

Protocol yw gweithdrefn safonol er mwyn sicrhau arfer gorau a

chydymffurfiad pan yn darparu gwasanaethau h.y. dilyn cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr.

Gwrtharwydd cymharol

Gwrtharwydd cymharol yw cyflwr sy'n gofyn am asesiad o addasrwydd ar gyfer y gwasanaeth a/neu os oes angen addasiadau.


Dolenni I NOS Eraill

SKAHDBRBNST1, SKAHDBRBNS1, SKAHDBR1, SKAHD1, SKAHD2 SKAHDBR2, SKAHDBR3, SKAHDBR4, SKAHDBR5,
SKAHDBR6, SKAHDBR7, SKAHDBR8, SKAHDBR9, SKAHDBR10, SKAHDBR12, SKAHDBR13, SKAHDBR14, SKAHDBR15,
SKAHDB16, SKAHDB19, SKAHDB20, SKAHDB21, SKABR5




Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Maw 2024

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SkillsActive

URN gwreiddiol

SKACH13

Galwedigaethau Perthnasol

Trinwyr gwallt a Galwedigaethau Cysylltiedig

Cod SOC

6221

Geiriau Allweddol

pyrmio, cyrlio’r gwallt, gwialenni, cyrl, pyrmio creadigol