Gosod, steilio, trin a gorffen y gwallt mewn modd creadigol gan ddefnyddio technegau uwch

URN: SKAHD2
Sectorau Busnes (Suites): Trin gwallt
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 30 Maw 2021

Trosolwg

​Mae'r safon yma yn cydfodoli â, SKAHDBRBNST1 Gweithredu a chynnal arferion gwaith diogel, glanwaith ac effeithiol a SKAHDBRBNS1 Ymgynghori, asesu, cynllunio a pharatoi ar gyfer gwasanaethau Gwallt, Barbro, Harddwch, Ewinedd, Lles a Holistig. Mae'r safon yma'n ymwneud â rhywun proffesiynol o faes trin gwallt sy'n defnyddio amrywiaeth o dechnegau steilio a thrin confensiynol ac anghonfensiynol er mwyn cynhyrchu edrychiadau arloesol, ffasiynol, creadigol ac wedi eu personoleiddio. Bydd gofyn i chi hefyd wneud gwerthusiad ar ôl y driniaeth ac adfyfyrio er mwyn gwelliant parhaus. Bydd rhaid i ddefnyddwyr y safon yma wneud yn siwr bod eu harferion yn adlewyrchu'r wybodaeth, y polisïau, y gweithdrefnau a'r cyfarwyddyd am yr arfer orau. Cynghorir defnyddwyr y safon yma i fod yn ymwybodol o, a chydymffurfio gyda gofynion cymorth cyntaf yn unol â deddfwriaeth a pholisïau a gweithdrefnau cyfundrefnol.

Y prif ddeilliannau yw:

  1. Gosod, steilio, trin a gorffen y gwallt

Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:


1. cynnal ymgynghoriad cryno a chynhwysfawr gyda'r unigolyn
2. cadw at eich cyfrifoldebau am iechyd a diogelwch yn unol â deddfwriaeth, rheoliadau, cyfarwyddebau a chanllawiau 
3. trafod a darganfod amcanion yr unigolyn a’r canlyniadau a ddymunir, er mwyn cael y wybodaeth ar gyfer y cynllun gwasanaeth gosod, steilio creadigol a thrin, i gynnwys:
3.1 hanes triniaethau
3.2 dewisiadau triniaeth amgen 
4. gwneud dadansoddiad o’r gwallt a chroen y pen, i gynnwys:
4.1 dosbarthiad cyrls y gwallt
4.2 nodweddion y gwallt
4.3 stad y gwallt
4.4 cyflwr croen y pen
5. gwneud profion er mwyn penderfynu addasrwydd ar gyfer y gwasanaeth, i gynnwys:
5.1 cofnodi a chadw’r canlyniad yn unol â deddfwriaeth data 
6. edrych ar amrywiaeth o edrychiadau y gellir eu cyflawni gyda’r unigolyn gan ddefnyddio cymhorthion gweledol perthnasol 
7. trafod y technegau steilio a thrin creadigol i’w defnyddio 
8. cadarnhau a chytuno gyda’r unigolyn, ei fod wedi deall y gwasanaeth gosod, steilio creadigol a thrin arfaethedig, i gynnwys:
8.1 gwrth weithredoedd 
8.2 adweithiau niweidiol
9. sicrhau cydsyniad gwybodus yr unigolyn ar gyfer y gwasanaeth gosod, steilio creadigol a thrin 
10. paratoi’r unigolyn a siampwio’r gwallt a chroen y pen yn unol â’r protocol gwasanaeth gosod, steilio creadigol a thrin
11. defnyddio’r technegau gosod a gytunwyd i rannu a throelli’r gwallt gan gadw’r risg o ddifrod i’r gwallt mor isel â phosibl 
Atodiadau dros dro i’r gwallt
12. rhannu’r gwallt yn unol â’r cynllun gwasanaeth gosod, stelio creadigol a thrin, i gynnwys:
12.1 dewis atodiad neu atodiadau dros dro i’r gwallt i ffitio man triniaeth yr unigolyn yn gywir 
 13. cribo a llyfnu’r atodiad dros dro i’r gwallt a’i ddodi a’i sicrhau yn agos i wreiddiau’r gwallt, i gynnwys:
13.1 ymdoddi i mewn i wallt yr unigolyn
13.2 osgoi tyndra gormodol er mwyn rhwystro anghysur a difrod i groen y pen neu’r gwallt
Steilio a thrin mewn modd creadigol
14. paratoi a dewis cynnyrch, offer a chyfarpar steilio gwresol sy’n addas ar gyfer sicrhau’r steil a gytunwyd gyda’r unigolyn, i gynnwys: 14.1 gosod yr offeryn steilio gwresol ar y tymheredd gweithredol a argymhellwyd ar gyfer dosbarthiad a nodweddion y gwallt 
15. rhannu a sicrhau’r gwallt yn unol â’r cynllun gwasanaeth gosod, steilio creadigol a thrin
16. cyflawni technegau steilio creadigol a thrin mewn modd arloesol er mwyn sicrhau’r steil a ddymunir, i gynnwys:
16.1 defnyddio technegau fydd yn cadw’r risg o ddifrod i’r gwallt a chroen y pen mor isel â phosibl 
17. sicrhau’r gwallt fel bod unrhyw binnau, gafaelion neu rwymau wedi eu cuddio oni bai eu bod yn rhan o’r gofynion steil
18. ymgorffori a sicrhau ategiadau, pan gant eu defnyddio, i ategu a gwella’r steil a ddymunir
19. sicrhau bod yr edrychiad sydd wedi ei orffen yn cwrdd â’r siap a fwriedir, y cyfeiriad, y cydbwysedd a’r maint a gytunwyd gyda’r unigolyn 

Gorffen
20. cwblhau’r gwasanaeth yn unol â’r protocol gwasanaeth gosod, steilio’n greadigol a thrin, i gynnwys:
20.1 dodi cynnyrch sydd wedi eu gorffen
21. cadarnhau gyda’r unigolyn ei fod yn fodlon gyda’r canlyniad terfynol 
22. monitro iechyd a lles yr unigolyn drwy gydol y gwasanaeth gosod, steilio creadigol a thrin 
23. gweithredu yn y modd cywir os bydd adwaith niweidiol 
24. cwblhau cofnodion gwasanaeth yr unigolyn a’u cadw yn unol â deddfwriaeth data
25. defnyddio ymarfer adfyfyriol i werthuso’r gwasanaeth a chymryd camau priodol
26. rhoi cyfarwyddiadau a chyngor i’r unigolyn, cyn ac ar ôl y gwasanaeth gwallt
27. cofnodi canlyniad y gwasanaeth gosod, steilio creadigol a thrin neu i gael gwared ohonynt a’r gwerthusiad ohonynt


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:


1. eich swyddogaeth a’ch cyfrifoldebau o ran darparu gwasanaethau gosod, steilio creadigol a thrin a phwysigrwydd gweithio o fewn eich gallu
2. pam ei bod yn rhaid i chi gydymffurfio gydag arfer moesegol a gweithio o fewn gofynion deddfwriaethol, i gynnwys:
2.1 y cyfrifoldebau drosoch chi eich hun a’ch adeiladau o dan reoliadau trwyddedu yr awdurdod lleol
3. pwysigrwydd ymwneud â, a dogfennu datblygiad proffesiynol parhaus, i gynnwys, polisïau gwybodaeth wedi eu diweddaru, gweithdrefnau a chanllawiau ar gyfer arfer gorau
4. yr anatomeg a’r ffisioleg sy’n berthnasol i’r safon yma
5. y gwrtharwyddion cymharol a llwyr sy’n berthnasol i’r gwasanaeth gwallt, i gynnwys:
5.1 y gofynion deddfwriaethol ac yswiriant ar gyfer cael diagnosis meddygol a chyfeirio
6. pwysigrwydd adnabod nodweddion afreolaidd ar y croen a niwed i groen y pen, a’u cyfeirio at weithiwr proffesiynol perthnasol ym maes gofal iechyd 
7. y mathau o dechnegau ar gyfer gosod, steilio creadigol a thrin a’u cyfyngiadau, i gynnwys addasiadau sydd eu hangen, mewn perthynas â’r canlynol:
7.1 dosbarthiad cyrls y gwallt
7.2 nodweddion y gwallt
7.3 stad y gwallt
7.4 cyflwr croen y pen
7.5 hanes triniaethau
8. pwysigrwydd gwneud dadansoddiad o’r gwallt a chroen y pen a sut mae’n effeithio ar y dewis o wasanaethau gosod, steilio creadigol a thrin a’r technegau a ddefnyddir, i gynnwys:
8.1 yr addasiadau sydd eu hangen
9. pwysigrwydd gwneud profion a sut y gall canlyniadau profion effeithio ar y gwasanaeth gosod, steilio creadigol a thrin
10. sut i adnabod gwallt sydd wedi ei orbrosesu, y risgiau cysylltiedig a’r camau sydd angen eu cymryd
11. sut i adnabod trichorrhexis nodosa, y risgiau cysylltiedig a pha gamau i’w cymryd
12. pryd a pham mae angen siampwio’r gwallt a chroen y pen cyn y gwasanaeth gosod, steilio creadigol a thrin,
 13. sut a phryd defnyddir technegau gosod a thrin o fewn gwasanaethau gosod, steilio creadigol a thrin 
14. amseroedd y gwasanaeth yn unol â pholisïau a gweithdrefnau cyfundrefnol
15. y mathau o estyniadau dros dro i’r gwallt a’r risgiau cysylltiedig 
16. sut i adnadod yr arwyddion cyntaf o alopecia hydyniad
17. y mathau o golli gwallt a’u hachosion
18. pam bod angen i rannau o’r gwallt gael eu brwsio yn drylwyr 
19. y dulliau o drin, rheoli a sicrhau gwallt er mwyn cael cyrls a rholiau
20. y mathau o gynnyrch cyn triniaeth, steilio a gorffen sydd ar gael ar gyfer gwasanaethau gosod, steilio creadigol a thrin 
21. effeithiau lleithder ar y gwallt
22. y newidiadau ffisiolegol i strwythtur y gwallt yn ystod y broses osod
23. sut gall triniaethau gwresol gyflymu’r amser prosesu 
24. sut mae gwarchodwyr gwres yn amddiffyn y gwallt, cyn gwasanaethau gwresol 
25. sut i gael gwared o roleri mewn modd diogel fel ag i osgoi difrod i’r gwallt 
26. effeithiau cribo a brwsio am yn ôl ar strwythur y gwallt
27. y mathau o dechnegau steilio confensiynol a thechnegau steilio anghonfensiynol  ac eitemau all gael eu defnyddio pan yn steilio gwallt a’r effeithiau maent yn eu creu 
28. y gweithdrefnau paratoi sydd eu hangen ar gyfer y gwahanol dechnegau steilio a thrin
29. pryd, pam a sut i ddefnyddio’r gwahanol fathau o’r canlynol: 
29.1 cyfarpar ar gyfer sicrhau
29.2 ategiadau
29.3 gwallt wedi’i ychwanegu
30. sut i wirio’r siap, y cyfeiriad, y cydbwysedd a’r maint a gyflawnir
31. pwysigrwydd sicrhau bod y siap, y cyfeiriad, y cydbwysedd a’r maint a ddymunir yn cael ei gyflawni a bod yr edrychiad goffenedig yn gadarn 
32. sut i gadw at y steil a gytunwyd a sicrhau ei fod yn parhau yn hir 
33. pwysigrwydd ymgynghori gyda’r unigolyn drwy gydol y gwasanaeth gosod, steilio creadigol a thrin 
34. yr adweithiau niweidiol a gysylltir â gwasanaeth gosod, steilio creadigol a thrin a sut i ymateb iddynt
35. y cyfrifoldebau iechyd a diogelwch yn unol â deddfwriaeth cyn, yn ystod ac ar ôl y gwasanaeth
36. y gofynion cyfreithiol ar gyfer darparu gwasanaethau i’r gwallt i blant dan oed ac oedolion bregus
37. pam ei bod hi’n bwysig trafod gyda a chanfod gan yr unigolyn ei amcanion, pryderon, disgwyliadau a’r canlyniadau y mae’n eu dymuno a chytuno ar y cynllun gwasanaeth gosod, steilio creadigol a thrin
38. y strwythurau taliadau a’r dewisiadau ar gyfer triniaeth
39. y gofynion deddfwriaethol a digollediad ynglŷn â sicrhau cydsyniad gwybodus ar gyfer y gwasanaeth
40. y rhesymau dros gymryd delweddau gweledol gyda chydsyniad o fan triniaeth yr unigolyn, a'u cadw yn unol â gofynion y gwasanaeth, deddfwriaethol, yswiriant a chyfundrefnol
41. pwysigrwydd cadw at y protocol gwasanaeth gosod, steilio creadigol a thrin
42. pwysigrwydd monitro iechyd a lles yr unigolyn yn ystod ac ar ôl y gwasanaeth
43. canlyniadau disgwyliedig gwasanaethau gosod, steilio creadigol a thrin
44. diben ymarfer adfyfyriol a gwerthuso a’r modd y mae’n darparu gwybodaeth ar gyfer gwasanaethau yn y dyfodol
45. y cyfarwyddiadau a’r cyngor, cyn ac ar ôl y gwasanaeth gosod, steilio creadigol a thrin


Cwmpas/ystod

Dosbarthiad cyrls y gwallt

  1. syth
  2. tonnog
  3. cyrliog
  4. cyrls tynn
  5. cyfuniad


Nodweddion y gwallt

  1. dwysedd y gwallt
  2. gwëad y gwallt
  3. hydwythedd y gwallt
  4. mandylledd y gwallt
  5. patrymau tŵf y gwallt


Stad y gwallt

  1. gwallt sydd heb ei drin yn gemegol
  2. gwallt sydd wedi ei drin yn rhannol â chemegion
  3. sydd wedi ei drin yn gemegol


Profion

  1. hydwythedd
  2. mandylledd


Technegau setilio creadigol a thrin
*
*

  1. Anghonfensiynol
  2. Confensiynol


*

Protocol gwasanaeth gosod, steilio creadigol a thrin

*

  1. amgylchedd waith
  2. iechyd a diogelwch
  3. atal a rheoli haint
  4. cynllun gwasanaeth
  5. cydsyniad gwybodus
  6. cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr
  7. canlyniadau profion
  8. rheoli data
  9. archwilio ac atebolrwydd
  10. cyfarwyddiadau a chyngor
  11. cynaliadwyedd
  12. rheoli gwastraff
  13. wedi'i seilio ar dystiolaeth ac ymarfer adfyfyriol


Cyfarwyddiadau

  1. hawliau cyfreithiol a chyfrifoldebau yr unigolyn a'r ymarferydd
  2. cyfarwyddiadau a gofal cyn ac ar ôl y gwasanaeth
  3. cyfyngiadau a risgiau cysylltiedig
  4. triniaethau yn y dyfodol


Anatomeg a ffisioleg

  1. strwythur a swyddogaeth systemau'r corff a'u cyd-ddibyniaeth ar ei gilydd
  2. strwythur a swyddogaeth y gwallt a thŵf y gwallt
  3. strwythur a swyddogaeth y croen
  4. gwrtharwyddion cymharol a llwyr a phatholegau cysylltiedig


*




Cynnyrch steilio a gorffen*

  1. gwarchodwyr gwres
  2. mousse
  3. hufenau
  4. sera
  5. gel
  6. chwistrell gwallt
  7. olew
  8. pomadau
  9. chwistrell gwella gwëad
  10. golchdrwythau gosod
  11. cwyr


Technegau steilio confensyniol

  1. gosod
  2. llenwi
  3. defnyddio cyfarpar steilio wedi'i gynhesu
  4. tonni â bys/crib
  5. 1, 2, 3, 4 neu fwy o dechnegau plethu edau
  6. ategiadau i'r gwallt
  7. atodiadau dros dro I'r gwallt wedi eu hychwanegu
  8. addurnwaith


Technegau steilio anghonfensiynol
*
*

  1. lapio ac edafu creadigol
  2. y defnydd o ffabrig
  3. rhwydo
  4. gweill bwyta
  5. rik-raks
  6. addurnwaith anghonfensiynol
  7. dulliau arloesol amgen



Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Gwrtharwydd llwyr

Mae gwrtharwydd llwyr yn gyflwr sy'n rhwystro'r gwasanaeth rhag cael ei gyflawni ac a all fod angen cael ei gyfeirio

Adwaith niweidiol

Adwaith niweidiol yw adwaith 'annisgwyl' neu ganlyniad yn dilyn gwasanaeth e.e. llewygu

Gwrth weithred

Gwrthweithred yw adwaith neu ganlyniad 'disgwyliedig' yn dilyn gwasanaeth,

e.e. erythema

Ymarfer wedi ei seilio ar dystiolaeth

Mae ymarfer wedi ei seilio ar dystiolaeth yn seiliedig ar y dystiolaeth orau gyfredol, ddilys a pherthnasol sydd ar gael.

Cymorth Cyntaf

Gall cymorth cyntaf gyfeirio at gymwysterau cymorth cyntaf yn y gwaith neu ei gyffelyb neu ymwybyddiaeth o gymorth cyntaf iechyd meddyliol.

Dosbarthiad cyrls y gwallt

Gellir cyfeirio at ddosbarthiad cyrls y gwallt fel Math 1 – 4

Protocol

Protocol yw gweithdrefn safonol er mwyn sicrhau arfer gorau a chydymffurfiad pan yn darparu gwasanaethau h.y. dilyn cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr.

Gwrtharwydd cymharol

Gwrtharwydd cymharol yw cyflwr sy'n gofyn am asesiad o addasrwydd ar gyfer y gwasanaeth a/neu os oes angen addasiadau


Dolenni I NOS Eraill

​SKAHDBRBNST1, SKAHDBRBNS1, SKAHDBR1, SKAHD1, SKAHDBR2, SKAHDBR3, SKAHDBR4, SKAHDBR5,SKAHDBR6, SKAHDBR7, SKAHDBR8, SKAHDBR9, SKAHDBR10, SKAHDBR11, SKAHDBR12, SKAHDBR13, SKAHDBR14, SKAHDBR15,SKAHDB16, SKAHDB19, SKAHDB20, SKAHDB21, SKABR5, SKAHD2





Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Maw 2024

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SkillsActive

URN gwreiddiol

SKACH8

Galwedigaethau Perthnasol

Trinwyr gwallt a Galwedigaethau Cysylltiedig

Cod SOC

6221

Geiriau Allweddol

gosodiad creadigol, gosodiad steilio, padio, cyfarpar steilio, tonni â bys/crib, plethu, ategiadau i’r gwallt, atodiadau i’r gwallt, addurnwaith SKAHD2 Gosod, steilio, trin a gorffen y gwallt mewn modd creadigol gan ddefnyddio