Cyfathrebu'n effeithiol â phobl eraill wrth geisio cyflawni rhagoriaeth yn eich chwaraeon

URN: SKAES9
Sectorau Busnes (Suites): Cyflawni Rhagoriaeth mewn Perfformiad Chwaraeon (Gan gynnwys Newid Mehefin 2007)
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 31 Gorff 2019

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â chyfathrebu'n effeithiol ac arferion gweithio gydag amrediad o bobl gan gynnwys hyfforddwyr a staff cynorthwyol eraill, rheolwyr, mentoriaid ac athletwyr eraill, sy'n hanfodol er mwyn cyflawni rhagoriaeth yn eich chwaraeon.

Mae'r safon yn ymwneud hefyd â gallu ymddwyn yn broffesiynol bob amser, gan gynnwys yn ystod digwyddiadau amrywiol fel cyflwyniadau a chyfweliadau lle bydd disgwyl i chi gyflwyno delwedd gadarnhaol o'ch hun, eich sefydliad a'ch chwaraeon.

Mae'r safon hon ar gyfer athletwyr sydd â'r potensial gwirioneddol i gyflawni rhagoriaeth yn eu chwaraeon ac sydd am berfformio ar y lefel uchaf.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. ymgysylltu â phobl eraill ac amrywiaeth o adnoddau er mwyn eich helpu i gyflawni rhagoriaeth yn eich chwaraeon

  2. trafod rolau a chyfrifoldebau ar gyfer eich hun a'r bobl eraill yr ydych yn ymgysylltu â nhw a chytuno arnynt

  3. dilyn gweithdrefnau sefydliadol er mwyn penderfynu sut i ddatrys unrhyw broblemau a allai godi wrth gyflawni eich rôl

  4. myfyrio ar eich delwedd broffesiynol drwy ddefnyddio adborth gan bobl eraill i'ch helpu

  5. cydymffurfio â chôd ymddygiad eich sefydliad

  6. cydymffurfio â chanllawiau digwyddiadau lle bo'n briodol


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y mathau o wybodaeth ac adnoddau fydd eu hangen arnoch i gyflawni eich rôl

  2. eich rolau a'ch cyfrifoldebau fel athletwr

  3. pwysigrwydd perthnasoedd gweithio da a dulliau cyfathrebu effeithiol

  4. rôl asiantau mewn chwaraeon

  5. côd ymddygiad eich sefydliad a'u gweithdrefnau ar gyfer mynd i'r afael â phroblemau a gwrthdaro

  6. sut i fyfyrio ar adborth pobl eraill ac ymateb yn adeiladol

  7. pwysigrwydd rhoi adborth adeiladol i'r bobl yr ydych yn gweithio gyda nhw a sut i wneud hynny

  8. pam mae'n bwysig cyflwyno delwedd gadarnhaol o'ch hun, eich sefydliad a'ch chwaraeon

  9. y mathau o ddigwyddiadau y bydd rhaid i chi fynd iddynt, gan gynnwys:

9.1 eich rôl/rolau a chanllawiau i'w dilyn ar gyfer pob digwyddiad

9.2 pwysigrwydd paratoi eich hun ar gyfer digwyddiadau a sut i wneud hynny

9.3 y mathau o faterion sensitif y gallech eu hwynebu mewn digwyddiadau a sut i ymateb

  1. rôl cysylltiadau cyhoeddus a'r cyfryngau mewn chwaraeon a sut i fanteisio ar gyfleoedd drwy ddefnyddio'r cyfryngau

Cwmpas/ystod

Pobl eraill

  1. staff hyfforddi

  2. staff eraill

  3. athletwyr eraill

  4. swyddogion

  5. gweithwyr y cyfryngau

  6. y cyhoedd

Digwyddiad

  1. cystadleuaeth

  2. ymddangosiadau fel athletwr

  3. cyflwyniadau


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Mai 2024

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SkillsActive

URN gwreiddiol

SKAES9

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt a Galwedigaethau Technegol, Hamdden; teithio a thwristiaeth, Chwaraeon; hamdden ac adloniant, Galwedigaethau Chwaraeon a Ffitrwydd

Cod SOC

3442

Geiriau Allweddol

Cyfathrebu; effeithiol; pobl; cyflawni; rhagoriaeth; chwaraeon