Rheoli eich ffordd o fyw er mwyn cyflawni rhagoriaeth yn eich chwaraeon

URN: SKAES6
Sectorau Busnes (Suites): Cyflawni Rhagoriaeth mewn Perfformiad Chwaraeon (Gan gynnwys Newid Mehefin 2007)
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 31 Gorff 2019

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â phwysigrwydd rheoli ffordd o fyw i athletwyr. Mae cyflawni rhagoriaeth yn eich chwaraeon yn ymwneud â mwy na datblygiad corfforol a sgiliau technegol, tactegol a seicolegol yn unig; mae bod yn broffesiynol ym mhob agwedd ar eich bywyd yn bwysig hefyd. Mae eich llwyddiant yn dibynnu arnoch chi'n gwneud penderfyniadau gwybodus, bod yn ddibynadwy a threulio amser mewn ffordd nad yw'n amharu ar eich gallu i berfformio neu'n dwyn anfri arnoch chi neu eich chwaraeon.

Dyma brif ddeilliannau'r safon hon:

  1. Cynllunio eich ymrwymiadau chwaraeon a'u rheoli

  2. Cynllunio eich amser y tu allan i chwaraeon a'i reoli

Mae'r safon hon ar gyfer athletwyr sydd â'r potensial gwirioneddol i gyflawni rhagoriaeth yn eu chwaraeon ac sydd am berfformio ar y lefel uchaf.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

Cynllunio eich ymrwymiadau chwaraeon a'u rheoli

  1. cydweithio ag eraill er mwyn cynllunio eich ymrwymiadau chwaraeon, cytuno arnynt a'u cofnodi

  2. cynllunio eich amser a'i reoli er mwyn cyflawni eich ymrwymiadau chwaraeon

  3. defnyddio adnoddau er mwyn cyflawni eich ymrwymiadau chwaraeon

  4. hysbysu eraill sydd angen gwybod am eich cynlluniau

  5. addasu eich ymrwymiadau chwaraeon wrth i amgylchiadau newid

Cynllunio eich amser y tu allan i chwaraeon a'i reoli

  1. cynllunio eich bywyd bob dydd er mwyn gwneud y mwyaf o'r amser a'r cyfleoedd sydd ar gael ar eich cyfer

  2. gorffwys ac ymlacio fel y cytunir ar hynny gydag eraill

  3. rheoli dylanwadau cadarnhaol a negyddol pobl eraill a gweithgareddau yn eich bywyd

  4. rheoli amser oddi cartref yn effeithiol

  5. dewis pobl sydd â sgiliau, gwybodaeth a phrofiad perthnasol sy'n gallu rhoi cymorth a chefnogaeth pan fo angen


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Cynllunio eich ymrwymiadau chwaraeon a'u rheoli

  1. pwysigrwydd cynllunio eich ymrwymiadau a'u rheoli

  2. pwysigrwydd bod yn glir ynghylch eich ymrwymiadau a sut i'w blaenoriaethu

  3. dulliau cynllunio a rheoli eich amser

  4. y mathau o bethau sy'n gallu peri i chi wastraffu amser mewn ffordd a allai effeithio ar eich ymrwymiadau gwaith a sut i gael cyn lleied ohonynt â phosibl

  5. y mathau o adnoddau sydd eu hangen arnoch i'ch helpu i gwrdd â'ch ymrwymiadau

  6. pwysigrwydd sicrhau bod eraill yn ymwybodol o'ch ymrwymiadau cyfredol

  7. pam mae'n bwysig bod yn hyblyg wrth gynllunio eich ymrwymiadau a sut i wneud hyn

  8. pwy sy'n gallu eich helpu i gynllunio eich ymrwymiadau

Cynllunio eich amser y tu allan i chwaraeon a'i reoli

  1. pam mae'n bwysig i athletwyr wneud defnydd da o'u hamser

  2. pwysigrwydd gorffwys ac ymlacio i chi fel athletwr

  3. sut i wybod faint o amser gorffwys ac ymlacio sydd ei angen arnoch i gyflawni'r canlyniadau gorau yn eich chwaraeon

  4. gweithgareddau hamdden sy'n gallu helpu neu rwystro eich perfformiad a'ch statws yn eich chwaraeon

  5. gweithgareddau hamdden sy'n gallu eich helpu i ddatblygu'n bersonol

  6. y dylanwadau a'r mathau o berfformiad a allai niweidio eich perfformiad a'ch statws fel athletwr o'r radd flaenaf

  7. effaith y cyfryngau cymdeithasol

  8. pwy sy'n gallu eich helpu i wneud defnydd da o'ch amser a rhoi cymorth gyda materion personol


Cwmpas/ystod

Eraill

  1. hyfforddwyr a/neu staff perthnasol eraill

  2. mentoriaid

  3. athletwyr eraill

  4. ysgol neu goleg

  5. rhieni

Adnoddau

  1. dillad a chyfarpar

  2. gwybodaeth

  3. pobl

  4. cyllid

  5. trefniadau teithio


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Mai 2024

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SkillsActive

URN gwreiddiol

SKASE15

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt a Galwedigaethau Technegol, Hamdden; teithio a thwristiaeth, Chwaraeon; hamdden ac adloniant, Galwedigaethau Chwaraeon a Ffitrwydd

Cod SOC

3442

Geiriau Allweddol

Rheoli; ffordd o fyw; cyflawni; rhagoriaeth; chwaraeon