Datblygu eich strategaeth maeth er mwyn cyflawni rhagoriaeth yn eich chwaraeon
Trosolwg
Mae'r strategaeth hon yn ymwneud â'r maeth gorau a'i bwysigrwydd er mwyn cyflawni rhagoriaeth yn eich chwaraeon. Mae maeth yn effeithio ar iechyd yn ogystal â pherfformiad corfforol, felly mae dealltwriaeth gadarn o faeth yn bwysig ar gyfer eich datblygiad cyffredinol.
Byddwch yn gweithio gyda'ch hyfforddwyr/staff eraill i lunio strategaeth maeth fydd yn integreiddio â phob elfen arall o'ch rhaglen hyfforddiant. Byddwch yn gweithio gyda staff hyfforddi profiadol a hyfedr a/neu staff eraill fel hyfforddwyr personol, maethegwyr, ffisiotherapyddion a meddygon. Fodd bynnag, mae gennych rôl bwysig hefyd er mwyn optimeiddio eich perfformiad yn 'lân' drwy gadw at reolau a gweithdrefnau atal camddefnyddio cyffuriau.
Dyma brif ddeilliannau'r safon hon:
Cyfrannu at strategaeth maeth er mwyn gwella perfformiad
Gweithredu'r strategaeth maeth a'i hadolygu er mwyn gwella eich perfformiad.
Mae'r safon hon ar gyfer athletwyr sydd â'r potensial gwirioneddol i gyflawni rhagoriaeth yn eu chwaraeon ac sydd am berfformio ar y lefel uchaf.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Cyfrannu at strategaeth maeth er mwyn gwella perfformiad
rhoi gwybodaeth am eich gofynion o ran egni a'ch anghenion maeth penodol i hyfforddwyr a/neu staff eraill
rhoi gwybodaeth am eich ffordd o fyw, hoff bethau a chas bethau i hyfforddwyr a/neu staff eraill
cytuno ar strategaeth maeth sy'n briodol i'ch rôl/rolau mewn chwaraeon gan gymryd eich ffordd o fyw, hoff bethau a chas bethau i ystyriaeth ac ychwanegu ati gyda'r hyfforddwyr a/neu staff eraill
Gweithredu'r strategaeth maeth a'i hadolygu er mwyn gwella eich perfformiad
dilyn y strategaeth maeth y cytunir arni, cyn, yn ystod, ac ar ôl hyfforddi a chystadlu
rhoi'r wybodaeth sydd ei hangen ar hyfforddwyr a/neu staff eraill i fonitro eich strategaeth maeth a'i gwerthuso
cydweithio â hyfforddwyr a/neu staff eraill er mwyn paratoi eich strategaeth maeth a'i gwella
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Cyfrannu at strategaeth maeth er mwyn gwella perfformiad
pwysigrwydd maeth i berfformiad athletwr
prif gydrannau strategaeth maeth a sut gall y rhain eich helpu i gyflawni'r canlyniadau gorau posibl yn eich chwaraeon
3 gofynion o ran egni ac anghenion maeth penodol eich rôl/rolau yn eich chwaraeon
effeithiau ffordd o fyw, hoff bethau a chas bethau wrth baratoi strategaeth maeth
pam y dylech sicrhau bod pobl eraill sy'n rhoi prydau bwyd i chi yn deall eich strategaeth maeth a'i chefnogi
pwysigrwydd cadw at eich strategaeth maeth cyn, yn ystod, ac ar ôl cystadlu a hyfforddiant
sut i wneud yn siŵr bod meddyginiaeth yn ddiogel ac nad yw'n cynnwys unrhyw sylweddau sydd wedi'u gwahardd, a pham mae angen gwneud hynny
y peryglon sy'n gysylltiedig â defnyddio ychwanegion o safbwynt atal camddefnyddio cyffuriau
Gweithredu'r strategaeth maeth a'i hadolygu er mwyn gwella eich perfformiad
torri rheolau camddefnyddio cyffuriau ac egwyddor atebolrwydd llym
pwysigrwydd chwaraeon 'glân', cystadlu'n deg ac yn 'lân'
categorïau sylweddau a waherddir a pham mae'r rhain wedi'u gwahardd mewn chwaraeon
y gweithdrefnau ar gyfer profi am gyffuriau, gan gynnwys eich hawliau a'ch cyfrifoldebau
manteision diet cytbwys sy'n rhoi hwb i berfformiad, o'i gymharu â chymryd ychwanegion mathol
y mathau o wybodaeth a allai fod eu hangen ar eich hyfforddwyr a/neu staff eraill i werthuso eich strategaeth maeth
y mathau o welliannau y gellir eu gwneud i'ch strategaeth maeth er mwyn bodloni eich anghenion unigol
Cwmpas/ystod
Strategaeth maeth
grŵp bwyd
paratoad hydradol
maint
amseriad
ychwanegion