Hyfforddi a goruchwylio ymarfer yn y gampfa

URN: SKAEF4
Sectorau Busnes (Suites): Ymarfer Corff a Ffitrwydd
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 31 Rhag 2014

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â hyfforddi a goruchwylio ymarfer yn y gampfa ar gyfer oedolion sydd yn ôl pob golwg yn iach; a hynny'n unigolion ac yn grwpiau.


 


 

Prif ganlyniadau'r safon hon yw:


 

  1. paratoi cyfranogwyr ar gyfer ymarfer yn y gampfa
  2. hyfforddi ymarfer yn y gampfa i gyfranogwyr
  3. arsylwi a goruchwylio ar ymarfer yn y gampfa
  4. cloi ac ystyried y sesiwn ymarfer yn y gampfa
  5. gwella'ch arfer proffesiynol a chyfleoedd gyrfaol eich hun

 


 


 

Rhaid ichi gynnwys yr ymarfer craidd a'r wybodaeth am ffitrwydd a dealltwriaeth ddamcaniaethol fel y ceir hy yn y ddogfen Gofynion Gwybodaeth Graidd Ymarfer a Ffitrwydd SkillsActive sy'n berthnasol i rôl y swydd.

Mae hon yn safon ar gyfer hyfforddwyr sy'n cynllunio, yn hyfforddi ac yn adolygu rhaglenni ymarfer yn y gampfa o bob math. Rhaid i hyfforddwyr hefyd ystyried canllawiau gan gyrff cenedlaethol perthnasol a'u profiad blaenorol eu hunain wrth hyfforddi a goruchwylio sesiynau


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

Paratoi cyfranogwyr ar gyfer ymarfer yn y gampfa**


 


 

1.  sicrhau bod yr amgylchedd a'r offer wedi'u paratoi ar gyfer y rhaglen y cytunwyd arni

2.  cynnal y broses sgrinio ar lafar a chasglu unrhyw wybodaeth

newydd yn ymwneud â pharodrwydd y cyfranogwyr ar gyfer ymarfer

3.  cadarnhau neu ddiwygio'r rhaglen y cytunwyd arni ar sail unrhyw wybodaeth

newydd a dderbynnir gan y cyfranogwyr

4.  trafod y rhaglen yr ydych chi wedi cytuno arni gyda'r cyfranogwyr a disgrifio'r galwadau corfforol a thechnegol arnynt

5.  cynghori cyfranogwyr o weithdrefnau brys y cyfleuster


**


 

Hyfforddi ymarfer yn y gampfa i gyfranogwyr


 


 

6.  defnyddio gweithgareddau cynhesu ac oeri sy'n bodloni gweithdrefnau cyfreithiol a sefydliadol

7.  rhoi esboniadau ac arddangosiadau i'r cyfranogwyr

8.  gwirio dealltwriaeth y cyfranogwyr o gyfarwyddiadau a rhoi cyfle iddynt ofyn cwestiynau

9.  monitro dwyster a thechneg yr ymarfer sydd wedi'i ddewis

10.  sicrhau bod y cyfranogwyr yn ddiogel yn ystod yr ymarfer yn y gampfa

11.  rhoi i'r cyfranogwyr y cyfarwyddyd angenrheidiol a strategaethau ysgogiadol i barhau i gynnal y rhaglen heb eich goruchwyliaeth uniongyrchol

12.  cadw at yr amserau arfaethedig ar gyfer yr ymarfer

13.  sicrhau bod gan y cyfranogwyr fanylion ar gyfer gweithgareddau yn y dyfodol


** 


** 

Arsylwi a goruchwylio ar ymarfer yn y gampfa**


 


 

14.  defnyddiwch dechnegau  arsylwadol a fydd yn cynorthwyo gyda monitro diogelwch ac effeithiolrwydd ymarfer yn y gampfa i'r holl gyfranogwyr

15.  annog a chefnogi cyfranogwyr i gymryd cyfrifoldeb dros eu ffitrwydd eu hunain

16.  adolygu perfformiad cyfranogwyr a chynnig dilyniannau ac atchweliadau mewn ymateb i'w hanghenion

17.  rhoi cyfleoedd i gyfranogwyr ofyn cwestiynau

18.  cyfeirio cyfranogwyr at weithwyr proffesiynol pan fydd eu hanghenion y tu hwnt i'ch lefel gymhwysedd


**


** 

Cloi ac ystyried y sesiwn ymarfer yn y gampfa**


 


 

19.  caniatáu amser ar ddiwedd y sesiwn yn unol â lefel profiad y cyfranogwyr**

20.  gorffen y sesiwn gan ddefnyddio gweithgareddau oeri sy'n bodloni anghenion y cyfranogwyr

21.  rhoi cyfle i gyfranogwyr ystyried y sesiwn a rhoi adborth

22.  rhoi crynodeb i gyfranogwyr o'ch adborth ar y sesiwn **

23.  adnabod, o'r adborth a roddir, pa mor dda yr oedd eich arddull hyfforddi yn cyd-fynd ag anghenion y cyfranogwyr

24.  adnabod, o'r adborth a roddir, ffyrdd y gallwch wella arfer yn y dyfodol

25.  cytuno ar gynllun gweithredu yn ymwneud â sesiynau yn y dyfodol gyda chyfranogwyr

26.  adnabod pa mor dda y gwnaethoch chi reoli ymarfer y cyfranogwyr yn ymwneud â'u hiechyd, eu diogelwch a'u lles

27.  gadael yr amgylchedd mewn cyflwr sy'n dderbyniol at eich defnydd chi ac eraill yn y dyfodol

28.  trosglwyddo awgrymiadau ar gyfer gwella iechyd a diogelwch i'r unigolyn perthnasol

Gwella'ch arfer proffesiynol a chyfleoedd gyrfaol eich hun**


 


 

  1.  trafod eich syniadau gyda gweithwyr proffesiynol eraill ac ystyried eu barnau 

30.  croesawu a derbyn adborth gan weithwyr proffesiynol eraill

31.  gwerthuso pa mor dda yr ydych chi wedi gweithio a rhyngweithio gyda gweithwyr proffesiynol eraill

32.  adolygu'ch arfer proffesiynol eich hun yn unol â gweithdrefnau cyfreithiol a sefydliadol

33.  datblygu cynllun gweithredu personol a fydd yn eich helpu chi i wella'ch arfer proffesiynol

34.  cynnal Datblygiad Proffesiynol Parhaus o fewn ymarfer yn y gampfa


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Paratoi cyfranogwyr ar gyfer ymarfer yn y gampfa**


 


 

1.  y cyfarpar sy'n ofynnol ar gyfer y sesiwn y cytunwyd arni a sut i baratoi'r

amgylchedd

2.  pam y dylech chi gwrdd â'r cyfranogwyr yn brydlon a'u croesawu

3.  ffyrdd o gynnal y broses sgrinio ar lafar a chasglu unrhyw wybodaeth newydd yn ymwneud â pharodrwydd cyfranogwyr i ymarfer  

4.  pryd i gadarnhau a diwygio'r rhaglen y cytunwyd arni ar sail unrhyw wybodaeth newydd a dderbynnir

5.  galwadau corfforol a thechnegol y rhaglen y cytunwyd arni

6.  gweithdrefnau brys y cyfleuster

7.  gweithdrefnau cyfreithiol a sefydliadol ar gyfer cyflwyno ymarfer yn y gampfa


**


 

Hyfforddi ymarfer yn y gampfa i gyfranogwyr


 


 

8.  diben a gwerth y gweithgareddau cynhesu ac oeri

9.  gweithgareddau cynhesu ac oeri diogel ac effeithiol ar gyfer ymarfer yn y gampfa

10.  ffyrdd o gynnig esboniadau ac arddangosiadau sy'n ymwneud ag anghenion a lefel profiad y cyfranogwyr

11.  pam y dylech chi wirio dealltwriaeth y cyfranogwyr o'r cyfarwyddiadau a rhoi cyfle iddynt ofyn cwestiynau

12.  dulliau ar gyfer monitro dwyster a thechneg yr ymarferion a ddewiswyd

13.  sut i sicrhau bod cyfranogwyr yn cynnal ymarferion mewn modd diogel ac effeithiol

14.  mathau gwahanol o ddulliau hyfforddi ac addysgu a sut y gellir eu defnyddio i fodloni anghenion gwahanol gyfranogwyr

15.  y math o anogaeth a manylion y mae angen i gyfranogwyr eu gwybod er mwyn caniatáu iddynt barhau i gynnal y rhaglen heb oruchwyliaeth uniongyrchol

16.  pam y dylech chi gadw at amseriadau arfaethedig

17.  gweithgareddau sydd wedi'u cynllunio i'r dyfodol a ble i gael mynediad at wybodaeth


** 


** 


** 


** 

Arsylwi a goruchwylio ar ymarfer yn y gampfa**

18.  technegau arsylwi a fydd yn cynorthwyo gyda monitro diogelwch ac effeithiolrwydd ymarfer yn y gampfa

19.  ffyrdd o annog a chefnogi cyfranogwyr i gymryd cyfrifoldeb dros eu ffitrwydd eu hunain​

20.  ffyrdd o adolygu perfformiad cyfranogwyr a phryd i ddarparu dilyniannau ac atchweliadau addas mewn ymateb i'w hanghenion

21.  pam y dylech chi roi cyfle i gyfranogwyr ofyn cwestiynau

22.  ffyrdd o asesu os oes gan gyfranogwr anghenion y tu hwnt i'ch lefel gymhwysedd a sut i gyfeirio at weithiwr proffesiynol arall


** 


** 

Cloi ac ystyried y sesiwn ymarfer yn y gampfa


 

23.  diben caniatáu digon o amser i gloi'r sesiwn yn ôl lefel profiad y cyfranogwyr 

24.  y dulliau ar gyfer casglu adborth gan gyfranogwyr ac eraill

25.  ffyrdd o roi i'r cyfranogwyr grynodeb o'ch adborth ar y sesiwn

26.  pam y dylech chi roi cyfle i gyfranogwyr adlewyrchu ar y sesiwn a rhoi adborth

27.  sut y gall ystyriaeth ac adborth gan gyfranogwyr ac eraill wella arfer yn y dyfodol

28.  sut i sicrhau bod strategaethau ysgogiadol yn effeithiol gyda'r cyfranogwyr a sut y gellir defnyddio'r rhain i hysbysu ymarfer yn y gampfa yn y dyfodol

29.  ffyrdd o gytuno ar gynllun gweithredu yn ymwneud â sesiynau yn y dyfodol gyda chyfranogwyr

30.  sut i adnabod a rheoli materion iechyd, diogelwch a lles wrth reoli ymarfer yn y gampfa y cyfranogwyr

31.  ffyrdd o adael yr amgylchedd mewn cyflwr derbyniol at eich defnydd chi ac eraill yn y dyfodol


** 


** 

Gwella'ch arfer proffesiynol a'ch cyfleoedd gyrfaol eich hun**


 


 

32.  pryd i drafod eich gwaith gydag eraill ac ystyried eu barnau, gan ystyried eich arfer proffesiynol eich hun

33.  sut i ddadansoddi pa mor dda'r ydych chi'n gweithio a rhyngweithio gydag eraill

34.  pam y dylech chi adolygu'ch arfer proffesiynol yn rheolaidd

35.  dulliau a ffynonellau gwybodaeth i'ch cadw'n gyfredol â datblygiadau o fewn ymarferion yn y gampfa

36.  sut i ddatblygu cynllun gweithredu personol

37.  sut i leoli ac adnabod gweithgareddau Datblygiad Proffesiynol Parhaus ardystiedig a'u cynnwys yn eich cynllun gweithredu personol


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad

Amgylchedd**


** 


** 

  1. gofod
  2. gosodiad
  3. tymheredd
  4. llawr
  5. goleuadau
  6. awyru
  7. offer ar gyfer y sesiwn
  8. dillad a chyfarpar personol


** 


** 

Offer,** i ddatblygu


 


 


 

  1. ffitrwydd cardiofasgwlaidd
  2. ffitrwydd cyhyrol
  3. hyblygrwydd
  4. sgiliau symud


** 


** 

Gwybodaeth**


** 


** 

  1. nod personol
  2. ffordd o fyw
  3. hanes meddygol
  4. hanes gweithgarwch corfforol
  5. dewisiadau gweithgarwch corfforol
  6. agwedd a symbyliad i gymryd rhan
  7. lefel ffitrwydd gyfredol
  8. cyfnod parodrwydd
  9. parodrwydd seicolegol


** 


** 

Cyfranogwyr**


** 


** 

  1. unigolion
  2. grwpiau
  3. gydag anghenion ffitrwydd penodol
  4. gydag anghenion iechyd cyffredinol


** 


** 

Ymarferion,** i ddatblygu


 


 

  1. ffitrwydd cardiofasgwlaidd
  2. ffitrwydd cyhyrol
  3. hyblygrwydd
  4. sgiliau symud
  5. fformatau ymarfer cylch


** 


** 

Gweithdrefnau cyfreithiol a sefydliadol** (i drafod 4 o leiaf)


 

  1. Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith
  2. Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd
  3. Rheoliadau Adrodd ar Anafiadau, Afiechydon a Digwyddiadau Peryglus
  4. Rheoliadau Trydan yn y Gweithle
  5. Rheoliadau Cymorth Cyntaf
  6. polisïau a gweithdrefnau sefydliadau unigol


** 


** 

Strategaethau Ysgogiadol**

  1. cynhenid
  2. anghynhenid
  3. gosod nodau
  4. cymelliadau / gwobrau
  5. newid ymddygiad


** 


** 

Gweithwyr proffesiynol eraill** (i ymdrin ag isafswm o 2)​

  1. ffisiotherapyddion a meddygon
  2. seicolegwyr
  3. ffisiolegwyr
  4. biomecanwyr
  5. arbenigwyr cefnogi ffordd o fyw
  6. rhwydwaith cymorth cymdeithasol cyfranogwyr
  7. meddyg
  8. goruchwyliwr
  9. gweithiwr proffesiynol iechyd/ymarfer corff arbenigol
  10. maethegydd/deietegydd


** 

Cynllun Gweithredu Personol**


** 


** 

  1. ysgrifenedig
  2. ar lafar


** 


** 

Datblygiad Proffesiynol Parhaus**


** 


** 

  1. gweithdai
  2. darllen
  3. cynadleddau
  4. darlithoedd
  5. ar-lein

Gwybodaeth Cwmpas

Amgylchedd**


** 


** 

  1. gofod
  2. gosodiad
  3. tymheredd
  4. llawr
  5. goleuadau
  6. awyriad
  7. offer ar gyfer y sesiwn
  8. dillad ac offer personol


** 


** 

Gwybodaeth**


** 


** 

  1. nod bersonol
  2. ffordd o fyw
  3. hanes meddygol
  4. hanes gweithgarwch corfforol
  5. dewisiadau gweithgarwch corfforol
  6. agwedd a chymhelliant i gymryd rhan
  7. lefel ffitrwydd ar hyn o bryd
  8. cyfnod parodrwydd
  9. parodrwydd seicolegol


** 


** 

Gweithdrefnau cyfreithiol a sefydliadol**


** 


** 

  1. Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith
  2. Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd
  3. Rheoliadau Adrodd ar Anafiadau, Afiechydon a Digwyddiadau Peryglus
  4. Rheoliadau Trydan yn y Gweithle
  5. Rheoliadau Cymorth Cyntaf
  6. polisïau a gweithdrefnau sefydliadol unigol


** 


** 

Dulliau hyfforddi ac addysgu**


** 


** 

  1. newid safleoedd addysgu
  2. gofyn cwestiynau
  3. gwneud addasiadau a dilyniannau
  4. cyfathrebu ar lafar a gweledol
  5. adlewyrchu


** 


** 

Dulliau**


** 


** 

  1. cyfweld
  2. holiadur
  3. sgrinio ar lafar
  4. arsylwi


** 


** 

Strategaethau Ysgogiadol**


** 


** 

  1. cynhenid
  2. anghynhenid
  3. gosod nodau
  4. cymelliadau/gwobrau
  5. newid ymddygiad


** 


** 

Cynllun Gweithredu Personol**


** 


** 

  1. ysgrifenedig
  2. ar lafar


** 


** 

Datblygiad Proffesiynol Parhaus**


** 


** 

  1. gweithdai
  2. darllen
  3. cynadleddau
  4. darlithoedd
  5. ar-lein

Gwerthoedd

Mae'r gwerthoedd canlynol yn sylfaenol i'r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Ymarfer a Ffitrwydd


 


 

Dylai Gweithwyr Ymarfer Proffesiynol:

  1. arddangos a hyrwyddo ffordd gyfrifol o fyw ac ymddwyn, trwy beidio â chefnogi'r defnydd o gyffuriau sy'n gwella perfformiad, ac unrhyw sylwedd anghyfreithlon arall
  2. cynnal cyfrinachedd
  3. delio â chyfranogwyr mewn modd agored a thryloyw; gan barchu anghenion eu cyfranogwyr bob tro
  4. ceisio mabwysiadu'r lefel uchaf o safonau proffesiynol yn holl feysydd eu gwaith a datblygiad eu gyrfa​

Ymddygiadau

Mae'r ymddygiadau canlynol yn sylfaenol i'r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Ymarfer a Ffitrwydd


 


 

Dylai Gweithwyr Ymarfer Proffesiynol:

  1. geisio magu perthnasau iach gyda chyfranogwyr a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill trwy gefnogi, cydgysylltu a rheoli'r broses ffitrwydd/ymarfer corff yn effeithiol, gan gadw'r cyfranogwr wrth wraidd y broses
  2. bod yn ymwybodol o rolau personél cynorthwyol yn y galwedigaethau gofal iechyd a chydnabod pryd y dylid atgyfeirio problemau at yr arbenigwyr hyn
  3. bod yn ymwybodol o gyfrifoldebau ac atebolrwyddau o dan ddeddfwriaeth cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant a chodau ymarfer y diwydiant
  4. anelu at rymuso cyfranogwyr; yn cefnogi eu hawl i wneud dewisiadau, dod o hyd i'w hatebion eu hunain, a'u galluogi i gymryd rhan a datblygu ar eu cyflymder eu hunain ac yn eu ffordd eu hunain
  5. nodi a chydnabod anghenion y cyfranogwyr ar ddechrau'r broses
  6. anelu at wella hyder, hunan-barch a lefelau ffitrwydd cyfranogwyr
  7. myfyrio ar eu harfer eu hunain a thrwy'r amser geisio ffyrdd i wella eu gallu ffitrwydd ac ymarfer, sgiliau a gwybodaeth eu hunain
  8. sefydlu perthynas dda gyda chyfranogwyr
  9. dangos empathi a sensitifrwydd i nodau a chyflwr parodrwydd cyfredol cyfranogwyr
  10. cyflwyno delwedd gadarnhaol o'u hunain a'u sefydliad i gyfranogwyr
  11. datblygu perthynas waith effeithiol gyda chyfranogwyr
  12. diffinio rolau a chyfrifoldebau gweithwyr proffesiynol eraill a allai fod yn gysylltiedig, yn glir
  13. cyfathrebu'n glir gyda chyfranogwyr mewn ffordd sy'n gwneud iddynt deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi
  14. dangos sensitifrwydd ac empathi i'r cyfranogwyr a'r wybodaeth maent yn ei darparu

Sgiliau

Mae'r sgiliau dilynol yn sylfaenol i'r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Ymarfer a Ffitrwydd


 


 

Dylai Gweithwyr Ymarfer Proffesiynol:

  1. baratoi'n systematig ar gyfer yr holl weithgareddau gan sicrhau iechyd, diogelwch a lles eu cyfranogwyr
  2. sicrhau bod gwahaniaethu a chynhwysiant a all alluogi cyfranogwyr ag anghenion penodol ac o alluoedd amrywiol i gymryd rhan mewn sesiynau a rhaglenni. Dylid ystyried anghenion cyfranogwyr ag anabledd a, lle y bo'n bosibl, dylid cwrdd â'u hanghenion
  3. gweithredu rheolau sylfaenol ar gyfer ymddygiad yn ystod y sesiwn
  4. esbonio eu rôl a chyfrifoldebau i gyfranogwyr
  5. nodi unrhyw rwystrau rhag cyfranogi
  6. annog cyfranogwyr i ddod o hyd i ateb i'w rhwystrau
  7. nodi parodrwydd cyfranogwyr i gymryd rhan
  8. nodi a chytuno ar strategaethau i atal rhoi'r gorau neu lithro'n ôl
  9. defnyddio dulliau hyfforddi sy'n cyfateb ag anghenion cyfranogwyr
  10. addasu eu perthynas â chyfranogwyr er mwyn cwrdd â'u hanghenion sy'n newid
  11. gwrando ar a gofyn cwestiynau i gyfranogwyr er mwyn gwirio eu dealltwriaeth
  12. nodi'r wybodaeth mae arnynt angen ei chasglu ynghylch eu cyfranogwyr
  13. casglu gwybodaeth ynghylch eu cyfranogwyr gan ddefnyddio dulliau cymeradwy
  14. cofnodi'r wybodaeth mewn modd a fydd yn helpu i'w dadansoddi
  15. defnyddio technegau cyfathrebu ac ymatebion priodol wrth ddelio ag anghydfod
  16. cydnabod ymddygiad gwahaniaethol a gwybod am y gweithdrefnau i'w dilyn os bydd unrhyw ddigwyddiadau

Geirfa

​Gweithgareddau

Cydrannau sesiwn gweithgarwch corfforol a allai ganolbwyntio ar eich datblygiad ar gryfder, dygnwch, technegau neu ymwybyddiaeth dactegol cyfranogwyr neu strategaethau ar gyfer datrys problemau. Mae sesiynau gweithgarwch corfforol yn cynnwys un neu'n fwy o weithgareddau.

Oeri

Gweithgareddau diogel sy'n caniatáu i gyfranogwyr wella'n feddyliol ac yn gorfforol o weithgareddau a gynhelir mewn sesiwn gweithgarwch corfforol.

Adborth

Y broses o roi a derbyn barnau ar berfformiad. Gallai hyn eich cynnwys chi yn rhoi adborth i gyfranogwyr ar naill eu perfformiad neu gyfraniad at sesiwn gweithgarwch corfforol; neu hyfforddwr mwy profiadol yn rhoi barn ar eich perfformiad wrth gyflwyno sesiwn gweithgarwch corfforol penodol. 

Nodau

Gallant fod yn rhai tymor hir, tymor canolig neu dymor byr.

Arddull hyfforddi

Y ffordd yr ydych chi'n cysylltu â chyfranogwyr yn ystod sesiwn gweithgarwch corfforol; gallai hyn gynnwys defnyddio amryw arddulliau. Er enghraifft: cyfarwyddo cyfranogwyr yn yr hyn y maen nhw'n ei wneud ac wrth eu cefnogi.

Cyfranogwyr

Pobl, fel unigolion, neu mewn grwpiau, a fydd yn cymryd rhan mewn sesiwn gweithgarwch corfforol.

*
*
 

*
*
 

Cynllun gweithredu personol

Cofnod o'r meysydd yr ydych chi eisiau gwella arnynt yn eich sesiynau gweithgarwch corfforol. Y nodau personol yr ydych chi eisiau eu cyflawni, sut yr ydych chi'n bwriadu gwneud hyn ac erbyn pryd.                                                                                                                      

Cynllun

Mae cynllun sesiwn gweithgarwch corfforol yn ddisgrifiad o sesiwn benodol; yn rhan o'r cynllun y bydd ei nodau, amcanion, cynnwys, gweithgareddau, amseriadau a chyfarpar gofynnol. Dylai cynlluniau gael eu cofnodi er mwyn eu rhannu gydag eraill a chyfeirio atynt yn ddiweddarach.

Adolygu

Y broses o ddadansoddi'r sesiynau rydych wedi eu cynllunio a chyflenwi, gan nodi'r hyn a aeth yn dda a'r hyn y gallai fod wedi cael ei wella.

Goruchwyliwr

Yr unigolyn sydd yn rheoli'ch gwaith yn uniongyrchol h.y. rheolwr llinell neu reolwr canolfan ffitrwydd.

Cynhesu

Gweithgareddau diogel sy'n caniatáu i gyfranogwyr baratoi yn feddyliol ac yn gorfforol ar gyfer sesiwn gweithgarwch corfforol.

*
*
 

*
*
 

Lles

Cefnogi lles y cyfranogwr gan gynnwys ymwybyddiaeth ffordd o fyw, maeth a chyffuriau sylfaenol.


Dolenni I NOS Eraill

​Mae'r safon hon yn cysylltu â SKAEF1, SKAEF2 a SKAEF3.


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

29 Ebr 2018

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SkillsActive

URN gwreiddiol

SKAD452

Galwedigaethau Perthnasol

Galwedigaethau proffesiynol a thechnegol cysylltiol

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Hyfforddi; goruchwylio; campfa; ymarfer